Cipolwg ar y sector cyfathrebiadau


Ffeithiau ac ystadegau ar y sector cyfathrebu, o gyhoeddiadau ymchwil Ofcom.

Mae'r wybodaeth hon yn gywir o'r 3 Awst 2023.

Defnydd o'r rhyngrwyd

Treuliodd oedolion yn y DU ar gyfartaledd

4

awr ar-lein bob dydd ym Medi 2021.

Ond yn frawychus roedd

6%

yn credu popeth roedden nhw'n gweld ar-lein - dyna tua un ymhob ugain o ddefnyddwyr y rhyngrwyd.

67%

o ddefnyddwyr rhyngrwyd y DU sy'n 13+ oed yn teimlo bod manteision bod ar-lein yn drech na'r risgiau...

ond yn y pedair wythnos diwethaf,

62%

o ddefnyddwyr wedi dod ar draws o leiaf un niwed posibl ar-lein.

Er eu bod yn defnyddio mwy o'r cyfryngau cymdeithasol, dim ond

42%

o fenywod sy'n teimlo'n ddigon rhydd i rannu barn a chael 'llais' ar-lein (o gymharu â 48% o ddynion).

81%

o ddefnyddwyr y rhyngrwyd sy'n oeodolion eisiau gweld cwmnïau technoleg yn cymryd cyfrifoldeb am fonitro cynnwys ar eu gwefannau a'u apiau.

Am ragor o wybodaeth am yr ystadegau hyn, darllenwch ein hadroddiad Ein Gwlad Ar-lein 2022. a'n hadroddiadau ymchwil ymwybyddiaeth plant ac oedolion o'r cyfryngau

Teledu, radio a chyfryngau eraill

5.2m

o gartrefi yn tanysgrifio i'r tri cwmni ffrydio mwyaf: Netflix, Amazon Prime Fideo a Disney +

Pobl 16-24 oed ond yn gwylio

53

o funudau o deledu a ddarlledir ar gyfartaledd bob dydd

... tra bod y rhai 65 oed a hŷn yn treulio bron

6

awr y dydd yn mwynhau teledu traddodiadol

Gwariodd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus

£2.6Bn

ar raglenni newydd a wnaed gan y DU yn 2021- y mwyaf a wariwyd ers 2017

Ar gyfartaledd, roedd oedolion ifanc yn gwario

57

munud y dydd ar TikTok ym Mawrth 2022

Mae gwrando ar radio byw ar set radio yn cyfrannu at

55%

o'r cyfanswm amser gwrando -i lawr o 71% bum mlynedd yn ôl

Am ragor o wybodaeth am yr ystadegau hyn, darllenwch ein hadroddiad Cyfryngau'r Genedl Cymru 2022.

Gwasanaethau band eang a symudol

Gall mwy na

14m

o aelwydydd yn y DU fanteisio ar fand eang ffeibr llawn cyflymach erbyn hyn

Ni all

68,000

o gartrefi a busnesau gael band eang 'digonol' o hyd (cyflymder lawrlwytho o 10 Mbit/e a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbit/e)

Gall

82%

o safleoedd yn y DU gael signal 5G awyr agored erbyn hyn

Am ragor o wybodaeth am yr ystadegau hyn, darllenwch ein hadroddiad Cysylltu'r Gwledydd 2022

Gwasanaethau'r Post

Danfonwyd

4bn

o barseli yn y DU yn 2021

Mae

64%

o gwsmeriaid cael problemau gyda derbyn pethau trwy'r post dros y 3 mis diwethaf

Mae cwsmeriaid anabl bron

50%

yn fwy tebygol o brofi problemau sylweddol gyda derbyn parseli

Am ragor o wybodaeth am yr ystadegau hyn, darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol ar y farchnad bost

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?