- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Advice for consumers > Media Literacy > Publications > Ofcom's Media Literacy Publications > Media Literacy Audit > Crynodeb Gweithredol
Crynodeb Gweithredol
Mae hyrwyddo llythrennedd y cyfryngau yn gyfrifoldeb newydd a bennwyd i Ofcom yn sgil Adran 11 Deddf Cyfathrebiadau 2003.
Diffiniad Ofcom o lythrennedd y cyfryngau, a ddatblygwyd ar ôl ymgynghori’n ffurfiol â rhan-ddeiliaid, yw’r ‘gallu i gael mynediad i gyfathrebiadau, eu deall a’u creu mewn amrywiaeth o gyd-destunau’. Mae llythrennedd y cyfryngau yn rhoi’r hyder a’r wybodaeth i bobl gael y gorau o’r llu o lwyfannau y cyfryngau sy’n bodoli erbyn hyn.
Er mwyn cael darlun cychwynnol o lefelau llythrennedd y cyfryngau ar draws y DG, comisiynwyd archwiliad gan Ofcom o’r modd y mae oedolion a phlant y DG yn cael mynediad i gyfathrebiadau, yn eu deall a’u creu, gyda ffocws penodol gan Ofcom ar gyfathrebiadau electronig. Yn y cyd-destun hwn, mae ein diffiniad ni o fynediad yn ehangach o lawer nag argaeledd neu niferoedd sy’n dewis llwyfannau. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar ddiddordeb, ymwybyddiaeth, defnydd a chymhwysedd mewn perthynas â phob llwyfan. Mae dealltwriaeth yn ymwneud â’r modd y mae cynnwys (fel rhaglenni teledu a radio, gwefannau’r rhyngrwyd, neu wasanaethau ffonau symudol, fideo a thestun) yn cael ei greu, ei ariannu a’i reoleiddio.
Mae rhai o elfennau’r archwiliad hwn - fel agweddau tuag at ddarparu newyddion, neu wybodaeth am reoleiddio cynnwys – yn berthnasol i deledu a radio analog traddodiadol yn ogystal â’u llwyfannau cyfatebol digidol mwy newydd. Ond yn bennaf, mae’r archwiliad hwn yn canolbwyntio ar y pedwar prif lwyfan cyfryngau digidol – nid teledu digidol a radio digidol yn unig, ond y rhyngrwyd a ffonau symudol yn ogystal – gan mai’r rhain yw’r rhai lle mae’r dargyfeirio mwyaf rhwng grwpiau gwahanol yn y DG o ran dealltwriaeth, niferoedd a defnydd.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar oedolion; bydd adroddiad ar lythrennedd y cyfryngau ymhlith plant yn cael ei gyhoeddi hefyd yng ngwanwyn 2006. Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau manwl ar lythrennedd y cyfryngau ymhlith grwpiau ethnig lleiafrifol, pobl hŷn a phobl anabl, a’r rheiny yn y Gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.
Yn gryno, mae ein canfyddiadau fel a ganlyn:
- Teledu yw’r llwyfan mwyaf cyfarwydd, a phoblogaidd o’r cyfryngau o hyd i’r rhan fwyaf o bobl, ac mae ganddynt lefelau uchel o wybodaeth am y trothwy (ni ellir dangos rhai mathau o gynnwys rhaglenni, sy’n anaddas i blant, cyn hynny), a’r modd y caiff sianelau eu hariannu. Er bod teledu yn parhau i gael ei ddefnyddio am ei swyddogaethau ‘traddodiadol’ yn bennaf, mae rhyw 30% o’r rheiny sydd â theledu digidol yn dweud eu bod wedi rhyngweithio ag ef.
- Er bod nifer y bobl yn ein harolwg sydd â mynediad i wasanaethau radio digidol yn uchel ar 77%, nid yw un o bob tri oedolyn yn ymwybodol y gallant wrando ar wasanaethau radio digidol naill ai drwy eu teledu digidol neu’u gwasanaeth rhyngrwyd. Dywed 27% o holl oedolion y DG eu bod yn gwrando ar radio digidol, ac o’r rhain, mae dros ddwy ran o dair (68%) yn dweud eu bod bellach yn gwrando ar fwy o orsafoedd radio o ganlyniad i hynny.
- Un prif reswm dros bobl yn troi at y rhyngrwyd yw cael mynediad i wybodaeth, ond mae llawer o resymau eraill. Mae bron i dri chwarter defnyddwyr y rhyngrwyd yn defnyddio’r e-bost bob wythnos o leiaf. Mae’r lefelau pryder ynghylch cynnwys y rhyngrwyd yn uwch nag ar gyfer llwyfannau eraill, ac mae pryderon ynghylch cofnodi manylion personol yn gyffredin. Mae’r diddordeb a’r cymhwysedd ymhlith defnyddwyr y rhyngrwyd ar gyfer tasgau amrywiol yn uchel yn gyffredinol, er bod diffyg hyder ymhlith bron i draean ynghylch blocio spam e-bost neu firysau cyfrifiadur.
- Mae ffonau symudol yn dechnoleg cyfryngau sy’n hollbresennol ymhlith y grŵp oed 16-24. Mae pobl iau wedi croesawu swyddogaethau uwch ffonau symudol, er eu bod yn parhau’n arfau cyfathrebu’n bennaf ymhlith defnyddwyr hŷn. Fodd bynnag, mae defnyddio’r ffôn symudol fel ‘dyfais cofio’ i edrych yn ôl ar negeseuon testun a lluniau sydd wedi’u storio yn arfer cyffredin ymhlith pob grŵp oed.
- Mae oed yn ffactor arwyddocaol mewn llythrennedd y cyfryngau. Mae lefelau arwyddocaol is o lythrennedd y cyfryngau ymhlith y rhai dros 65 oed na grwpiau oed eraill. Mae ymchwil yn dangos bod y defnydd is ymhlith bobl hŷn i’w briodoli’n rhannol i ddiffyg angen canfyddedig am wasanaethau digidol newydd.
- Mae’r niferoedd sy’n dewis ac yn defnyddio llwyfannau digidol ymhlith grwpiau ethnig lleiafrifol yn uwch na chyfartaledd y DG, yn rhannol oherwydd bod grwpiau ethnig lleiafrifol yn iau yn y DG na’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, mae lefelau is o lythrennedd y cyfryngau ymhlith y rhai dros 45 oed o grwpiau ethnig lleiafrifol o gymharu ag oedolion y DG fel cyfanrwydd. Mae’r lefelau ymddiriedaeth yn y newyddion, a gwybodaeth am fecanweithiau ariannu a rheoleiddio, yn is yn gyffredinol. Mae lefelau pryder cyffredinol ar draws y llwyfannau digidol yn uwch ymhlith grwpiau ethnig lleiafrifol na chyfartaledd y DG ac eithrio ar gyfer y rhyngrwyd.
- Mae lefelau pryder ynghylch rhaglenni a mathau eraill o gynnwys yn amrywio ar draws llwyfannau, ac ychydig o bryder sydd ynghylch cynnwys ffonau symudol. Mae lefelau gallu a dealltwriaeth hunangofnodedig mewn perthynas â rheolyddion cynnwys yn dangos, ar gyfer y rhyngrwyd, nad yw lleiafrif sylweddol yn hyderus ynghylch blocio firysau neu sgamiau e-bost. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol eto o reolyddion cynnwys ar ffonau symudol.
- Nid ymddengys bod lefelau pryder yn gysylltiedig â defnyddio neu ddewis y llwyfannau cyfrwng gwahanol, ond maent yn annibynnol ar y ffactorau hyn.
- Dywed llawer o bobl, yn enwedig yr henoed, ei bod yn well ganddynt ddysgu medrau cyfryngau oddi wrth deulu a ffrindiau, a’u bod yn gwneud hynny ar eu pennau’u hunain yn hytrach nag mewn grwpiau ffurfiol. Dysgu sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yw’r maes diddordeb uchaf i lawer o bobl. Dywed traean o bobl bod ganddynt ddiddordeb i ddysgu mwy am lwyfannau a gwasanaethau digidol.
Back to top