- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Advice for consumers > Media Literacy > Publications > Ofcom's Media Literacy Publications >
Archwiliad Llythrennedd y Cyfryngau
Crynodeb Gweithredol
Mae hyrwyddo llythrennedd y cyfryngau yn gyfrifoldeb newydd a bennwyd i Ofcom yn deillio o Adran 11 Deddf Cyfathrebiadau 2003.
Diffiniad Ofcom o lythrennedd y cyfryngau, a ddatblygwyd ar ôl ymgynghori’n ffurfiol â rhanddeiliaid, yw’r ‘gallu i gael mynediad i gyfathrebiadau, eu deall a’u creu mewn amrywiaeth o gyd-destunau’. Mae llythrennedd y cyfryngau yn rhoi’r hyder a’r wybodaeth i bobl gael y gorau allan o’r llu o lwyfannau cyfryngau sy’n bodoli erbyn hyn.
Mae Ofcom wedi cynnal archwiliad o lythrennedd y cyfryngau ar draws y DG, ac ym mis Mawrth 2006 cyhoeddodd ei adroddiad cyntaf, sy’n rhoi manylion canfyddiadau’r archwiliad ar draws holl oedolion y DG. Mae’r adroddiad hwnnw, Archwiliad Ofcomar Lythrennedd y Cyfryngau: adroddiad ar lythrennedd y cyfryngau ymhlith oedolion, ar gael yn www.ofcom.org.uk/advice/media_literacy.
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau ar draws y gwledydd a rhanbarthau Lloegr. Ei ddiben yw rhoi ystod o wybodaeth i randdeiliaid am lefelau llythrennedd y cyfryngau ledled y DG. Dylid ei ddarllen law yn llaw ag Y Farchnad Gyfathrebiadau: Gwledydd a Rhanbarthau, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, sy’n archwilio argaeledd, niferoedd sy’n prynu ac yn defnyddio gwasanaethau cyfathrebiadau ar hyd a lled y DG.
Mae ein harchwiliad yn rhoi golwg fanwl ar arferion cyfryngau a barnau pobl sy’n byw yng ngwledydd gwahanol y DG, ac fe’i ategir â chanfyddiadau arwyddol ar gyfer rhanbarthau Lloegr.
Mae amrywiaeth o ymatebion gwahanol ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau mewn perthynas ag agweddau gwahanol ar lythrennedd y cyfryngau. Wedi dweud hynny, mae amrywiaeth o esboniadau demograffig posibl hefyd i lawer o’r gwahaniaethau hyn, fel y nodir yn y Cyflwyniad. Nid diben yr archwiliad hwn yw rhoi esboniadau achlysurol union o ymatebion penodol pob gwlad, ond yn hytrach i nodi beth yw’r ymatebion hyn fel meincnod cymharol.
Mae’r archwiliad fel cyfanrwydd yn edrych ar y modd y mae oedolion a phlant y DG yn cael mynediad i gyfathrebiadau, yn eu deall ac yn eu creu, ac mae ffocws penodol Ofcom ar gyfathrebiadau electronig. Yn y cyd-destun hwn, mae ein diffiniad llythrennedd y cyfryngau o fynediad yn llawer ehangach nag argaeledd neu niferoeddsy’n defnyddio’rllwyfannau. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar ddiddordeb, ymwybyddiaeth, defnydd a chymhwysedd mewn perthynas â phob llwyfan. Mae deall yn ymwneud â’r modd y mae cynnwys (fel rhaglenni teledu a radio, gwefannau rhyngrwyd, neu wasanaethau ffonau symudol, fideo a thestun) yn cael ei greu, ei ariannu a’i reoleiddio. Mae materion argaeledd a niferoedd yn cael sylw cynhwysfawr yn Y Farchnad Gyfathrebiadau: Gwledydd a Rhanbarthau.
Mae rhai elfennau o’r archwiliad hwn – fel agweddau tuag at y ddarpariaeth newyddion, neu wybodaeth am reoleiddio cynnwys – yn gymwys i deledu a radio analog traddodiadol yn ogystal â’u llwyfannau digidol mwy newydd. Ond gan mwyaf, mae’r archwiliad hwn yn canolbwyntio ar y pedwar prif lwyfan cyfryngau digidol – nid teledu digidol a radio digidol yn unig, ond y rhyngrwyd a ffonau symudol hefyd – gan mai’r rhain yw’r rhai lle mae’r dargyfeiredd mwyaf rhwng grwpiau gwahanol o fewn y DG o ran deall, niferoedd a defnydd.
Ein prif ganfyddiadau yw:
Ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau
- Mae ymatebwyr yn yr Alban yn gwylio mwy o deledu na gwledydd eraill y DG (24.3 awr), a’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon sy’n gwylio’r lleiaf (19.3 awr). Mae’r rheiny sy’n adrodd eu hunain am eu horiau yn gwrando ar y radio yn weddol gyson ar draws y DG ac eithrio Gogledd Iwerddon, lle mae gwrando yn y gweithle/lle addysg yn isel iawn o gymharu â gwledydd eraill. Ar draws y DG, cyfartaledd nifer yr oriau yr wythnos y mae defnyddwyr y rhyngrwyd ar-lein yw 9.9 awr. Pobl yn Llundain sy’n defnyddio’r rhyngrwyd amlaf (13.5 awr). Mae perchenogion ffonau symudol yng Ngogledd Iwerddon yn anfon mwy o destunau na’r cyfartaledd ar gyfer y DG (38 a 28 yn y drefn honno), ac mae’r rheiny yn Llundain yn gwneud mwy o alwadau o ffonau symudol (28 o gymharu ag 20).
- Mae defnyddwyr yn yr Alban yn adrodd am lefelau uwch o hyder ynghylch defnyddio teledu digidol na’r rheiny yn y DG yn gyffredinol. Mae’r rheiny yng Nghymru’n fwy hyderus ynghylch defnyddio’r rhyngrwyd, ac mae’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon yn fwy hyderus yn defnyddio ffonau symudol.
- Mae gwybodaeth am y mathau amrywiol o reolaeth cynnwys yn amrywio ar draws gwledydd. Mae ymwybyddiaeth o’r trothwy gwylio’r teledu yn is yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyder mewn blocio firysau cyfrifiaduron neu sbam e-bost ar ei fwyaf yn yr Alban. Mae ymwybyddiaeth o systemau gwirio oed ar ffonau symudol yn uwch yng Ngogledd Iwerddon.
- Pobl yn Lloegr sydd â’r lefelau uchaf o wybodaeth am ariannu a rheoleiddio’r diwydiant, ac mae’r rheiny yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ymhlith yr isaf. Mae pobl yn Ne Orllewin Lloegr yn llai tebygol hefyd o wybod am y mathau amrywiol o reoleiddio ac ariannu.
- Mae lefelau cyffredinol pryder ynghylch pob un o’r pedwar llwyfan yn is yn yr Alban nag ar gyfer y DG gyfan. Mae pryderon ynghylch ffonau symudol ar eu huchaf yn Lloegr. Mae ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon yn llai tebygol hefyd o ddweud eu bod yn pryderu ynghylch y rhyngrwyd. Mae ymatebwyr yn Llundain yn fwy tebygol o bryderu ynghylch radio a’r rhyngrwyd.
- Mae pobl yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn fwy tebygol o ddefnyddio papurau newydd i gael y newyddion diweddaraf o gymharu â’r DG gyfan. Mae’r radio yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio gan y rheiny yng Ngogledd Iwerddon, ac yn llai tebygol gan y rheiny yng Nghymru. Mae’r radio yn cael ei ddefnyddio’n fwy cyffredin yn Llundain yn ogystal.
- Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn llai tebygol o ymddiried mewn newyddion teledu na chyfartaledd y DG, ac maent yn fwy tebygol o ymddiried mewn papurau newydd na chyfartaledd y DG. Mae pobl yn y De Orllewin yn fwy tebygol o ddrwgdybio newyddion teledu. Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn fwy tebygol o ymddiried mewn gorsafoedd radio masnachol lleol a rhanbarthol na mannau eraill. Mae pobl yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn llai tebygol o ymddiried yng ngwefan y BBC nag oedolion y DG yn gyffredinol. Mae lefelau ymddiriedaeth ar gyfer papurau wythnosol lleol neu ranbarthol yn llawer uwch yng Ngogledd Iwerddon na mannau eraill. Mae’r rheiny yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn llai tebygol o ymddiried yn y ‘papurau newydd trymion’.
- Mae pobl yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn llai tebygol o ddweud eu bod wedi dysgu am fathau amrywiol o gyfryngau (16% o gymharu â 22% ar gyfer y DG gyfan). Mae’r archwaeth i ddysgu ar ei isaf yng Nghymru a’r Alban, ac ar ei uchaf yn Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Rhanbarthau Lloegr
- Mae’r niferoedd sy’n defnyddio llwyfannau a dyfeisiadau ar eu huchaf yn Llundain ac yn y De Ddwyrain. Mae diddordeb mewn nodweddion digidol y pedwar llwyfan ar ei uchaf yn Llundain, y De Ddwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Wedi dweud hynny, mae pobl yn y De Ddwyrain yn llai hyderus ynghylch gallu cyflawni tasgau amrywiol ar deledu digidol a’r rhyngrwyd na chyfartaledd y DG.
- Mae pobl yn Llundain a’r De Ddwyrain yn gwylio llai o deledu nag mewn mannau eraill. Mae gwybodaeth am ariannu a rheoleiddio teledu yn is yn y De Orllewin, ac yn uwch yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Y rheiny yn Nwyrain Canolbarth Lloegr sy’n defnyddio gwasanaethau teledu rhyngweithiol fwyaf.
- Ymddengys bod pobl yn y De Orllewin a Dwyrain Lloegr yn gwrando ar fwy o radio nag mewn mannau eraill yn y DG. Mae gwybodaeth am ariannu a rheoleiddio radio yn uwch yn y De Ddwyrain ac yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ac yn is yn y De Orllewin. Mae pobl yn Llundain yn pryderu mwy na mannau eraill yn y DG ynghylch yr hyn sy’n cael ei ddarlledu ar y radio. Mae pobl yn y De Ddwyrain yn fwy tebygol o ryngweithio â radio.
- Defnyddwyr y rhyngrwyd yn Llundain sy’n ei ddefnyddio fwyaf yn wythnosol, ac maent yn defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy na mannau eraill y DG i gael mynediad i newyddion a gwe-logiau. Mae pobl yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, Llundain a’r De Ddwyrain yn dangos ymwybyddiaeth uwch o’r modd y mae peiriannau chwilio a gwefan y BBC yn cael eu hariannu, a hyder wrth ddefnyddio rheolaethau cynnwys. Mae pryderon yn uwch yn y De Ddwyrain.
- Mae defnyddwyr ffonau symudol yn Llundain yn fwy tebygol na gweddill y DG ac eithrio Gogledd Iwerddon, o fod wedi cael eu ffonau symudol ar gyfer anfon negeseuon testun, i gadw mewn cysylltiad, ac ar gyfer gwaith. Mae pobl yn Llundain a Dwyrain Canolbarth Lloegr yn gwneud defnydd ehangach o’u ffonau symudol na chyfartaledd y DG. Y rheiny yn Llundain yn hytrach na mannau eraill yn y DG sy’n gwneud y nifer fwyaf o alwadau yr wythnos. Mae defnyddwyr ffonau symudol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr yn fwy tebygol o wneud fwy o alwadau. Mae’r rheiny yn Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn fwy tebygol o bryderu ynghylch materion fforddiadwyedd mewn perthynas â ffonau symudol na rhannau eraill o’r DG, ac eithrio Gogledd Iwerddon.
- Mae pobl yn Llundain yn fwy tebygol o ddefnyddio tair neu fwy o ffynonellau newyddion, a’r rheiny yn y De Orllewin sy’n lleiaf tebygol, o gymharu â’r DG gyfan. Mae pobl yn y De Orllewin yn fwy tebygol o ddrwgdybio ffynonellau newyddion teledu yn gyffredinol.
Yr Alban
- Mae’r niferoedd sy’n adrodd eu hunain eu bod yn defnyddio ffonau symudol, teledu digidol, a mynediad i wasanaethau radio digidol yr un fath â’r cyfartaledd ar gyfer y DG. Mae treiddiad y rhyngrwyd yn is. Mae llai o ddiddordeb ymhlith pobl yn yr Alban mewn nodweddion ffonau symudol a’r rhyngrwyd na chyfartaledd y DG.
- Mae pobl yn yr Alban yn gwylio mwy o deledu nag yng ngwledydd eraill y DG, maent yn fwy tebygol o ryngweithio â’r teledu, ac mae ganddynt lefelau uwch o hyder ynghylch defnyddio nodweddion teledu amrywiol.
- Mae pobl yn yr Alban yn gwrando ar y radio am gyfnodau tebyg bob wythnos â chyfartaledd y DG. Maent yn llai ymwybodol braidd o’r modd y mae radio’n cael ei reoleiddio. Mae lefelau pryder ynghylch yr hyn sydd ar y radio yn arbennig o isel.
- Mae oriau wythnosol o ddefnyddio’r rhyngrwyd yr un fath â chyfartaledd y DG, er bod gwybodaeth am reolaethau rhyngrwyd a hyder ynghylch cyflawni tasgau ar y rhyngrwyd ychydig yn uwch. Mae ymwybyddiaeth ynghylch y modd y mae peiriannau chwilio a gwefan y BBC yn cael eu hariannu yr un fath â chyfartaledd y DG. Mae defnyddwyr y rhyngrwyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn lawrlwytho cerddoriaeth, fideos neu feddalwedd yn wythnosol na rhannau eraill y DG.
- Mae defnyddwyr ffonau symudol yn yr Alban yn llai tebygol o ddweud eu bod wedi cael eu ffôn symudol ar gyfer anfon negeseuon testun, er eu bod yn gwneud tua’r un nifer o alwadau ffôn a thestunau â’r cyfartaledd ar gyfer y DG.
- Mae pobl yn yr Alban yn ymddiried llai yn y papurau newyddion ‘trymion’ na’r gwledydd eraill, ac eithrio Gogledd Iwerddon.
- Mae pobl yn yr Alban yn fwy tebygol na chyfartaledd y DG i gytuno y dylai gwylwyr teledu a gwrandawyr radio gael eu hamddiffyn rhag cynnwys amhriodol neu annymunol (er gwaetha’r ffaith bod y rheiny yn yr Alban yn llai tebygol o fynegi pryderon ynghylch y materion hyn). O ran archwaeth a phrofiad ar gyfer dysgu mwy am y cyfryngau, mae’n yn llai tebygol braidd naill ai o fod â diddordeb neu o fod â phrofiad na chyfartaledd y DG.
Cymru
- Mae’r niferoedd sy’n adrodd eu hunain eu bod yn defnyddio ffonau symudol a’r rhyngrwyd yng Nghymru yn is nag ar gyfer cyfartaledd y DG; mae’r niferoedd sy’n adrodd eu hunain eu bod yn cael mynediad i wasanaethau radio digidol ar lefelau tebyg; ac mae’r niferoedd sy’n gwylio teledu digidol gryn dipyn yn uwch. Mae’r defnydd o bob un o’r pedwar llwyfan yr un fath yn fras â chyfartaledd y DG, fodd bynnag, ymddengys bod llai o ddiddordeb ymhlith pobl Cymru na chyfartaledd y DG yn nodweddion digidol radio digidol, y rhyngrwyd a ffonau symudol.
- Mae pobl yng Nghymru yn fwy tebygol na chyfartaledd y DG o ddweud eu bod wedi cael teledu digidol am ansawdd y llun. Mae lefelau rhyngweithgarwch â’r teledu yn is na’r cyfartaledd. Mae gwybodaeth am reoleiddio a rheolaethau teledu yr un fath â’r cyfartaledd.
- Mae pobl yng Nghymru yn llai ymwybodol o faterion ariannu a rheoleiddio radio na chyfartaledd y DG. Mae lefelau pryder cyffredinol yn isel, yn unol â chyfartaledd y DG.
- Mae defnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru gryn dipyn yn hapusach i roi manylion personol ar-lein na’r gwledydd eraill. Er bod hyder wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer tasgau amrywiol a anogir yn uwch nag ar gyfer y gwledydd eraill, mae ymwybyddiaeth is o’r modd y mae peiriannau chwilio a gwefan y BBC yn cael eu hariannu.
- Mae perchenogion ffonau symudol yng Nghymru yn fwy tebygol na chyfartaledd y DG o ddweud eu bod wedi cael eu ffôn symudol at ddefnydd argyfwng ac ar gyfer anfon negeseuon testun. Gwnânt ddefnydd tebyg o’u ffonau symudol â chyfartaledd y DG, ond maent yn llai tebygol o wybod am wirio oed. Mae pryderon cyffredinol ynghylch ffonau symudol yn is na chyfartaledd y DG.
- Mae pobl yng Nghymru yn defnyddio llai o ffynonellau newyddion na’r gwledydd eraill. At ei gilydd, maent yn fwy tebygol na chyfartaledd y DG o ddrwgdybio papurau newydd. Maent yn fwy tebygol o ymddiried yn BBC News 24, ac ymddengys eu bod yn fwy tebygol o ymddiried yn sianelau newyddion 24 awr eraill y DG.
Gogledd Iwerddon
- Mae’r niferoedd sy’n defnyddio’r pedwar prif lwyfan, ac ystod o ddyfeisiadau cyfryngau eraill, yn is yng Ngogledd Iwerddon nag ar draws y DG. Wedi dweud hynny, mae diddordeb yn nodweddion digidol y llwyfannau ar lefelau cyfartalog ac eithrio radio digidol, sy’n is. Mae ehangder defnydd o’r rhyngrwyd a ffonau symudol yn uwch na chyfartaledd y DG. Mae maint y defnydd yn isel ar gyfer teledu a radio, ond yn uwch ar gyfer y rhyngrwyd ac anfon negeseuon testun ar ffôn symudol.
- Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn fwy tebygol na chyfartaledd y DG o gael teledu digidol oherwydd sianelau penodol, ansawdd y llun, ac oherwydd bod angen set deledu newydd arnynt neu eu bod yn ymwybodol o’r newid i ddigidol. Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn gwylio llai o deledu nag ar draws y DG, ac eithrio Llundain a’r De Ddwyrain. Mae ymwybyddiaeth is yn eu plith o’r dulliau o ariannu a rheoleiddio teledu.
- Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn llai tebygol o ddweud eu bod yn gwrando ar y radio yn y lle maent yn gweithio neu’n cael eu haddysg. Maent yn llai ymwybodol o reoleiddio radio, er bod ganddynt lefelau uwch na’r cyfartaledd o wybodaeth am y modd y mae radio’r BBC yn cael ei ariannu.
- Mae defnyddwyr y rhyngrwyd yng Ngogledd Iwerddon yn defnyddio’r rhyngrwyd am yr un faint o amser yr wythnos yn fras â chyfartaledd y DG, ond gwnânt ddefnydd ehangach ohono. Mae lefelau is o ymwybyddiaeth yn eu plith o’r modd y mae peiriannau chwilio a gwefan y BBC yn cael eu hariannu.
- Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi cael eu ffonau symudol ar gyfer anfon negeseuon testun, cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ac ar gyfer gwaith, nag mewn rhannau eraill o’r DG ac eithrio Llundain. Y nhw sy’n anfon y nifer fwyaf o negeseuon testun, a gwnânt ddefnydd ehangach o’u ffôn symudol. Mae ganddynt lefelau uwch o ymwybyddiaeth o reolaethau gwirio oed. Maent yn fwy tebygol o bryderu ynghylch materion fforddiadwyedd yn ymwneud â ffonau symudol na rhannau eraill o’r DG ac eithrio Gorllewin Canolbarth Lloegr a Llundain.
- Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn defnyddio nifer fwy o ffynonellau newyddion nag mewn rhannau eraill o’r DG. Maent yn fwy tebygol na chyfartaledd y DG o ymddiried yn y wasg ar lefel gyffredinol, ac maent yn fwy tebygol na chyfartaledd y DG o ddrwgdybio newyddion teledu. Yn benodol, maent yn fwy tebygol o ymddiried mewn newyddion radio lleol/rhanbarthol, ac yn llai tebygol o ymddiried mewn mathau eraill o newyddion radio. Maent yn fwy tebygol o ymddiried yn y wasg leol wythnosol, ac yn llai tebygol o ymddiried yn y ‘papurau newydd trymion’.
- Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon yn fwy tebygol o dreulio’r cyfan neu bron y cyfan o’u hamser hamdden yn y cartref o gymharu â rhannau eraill o’r DG. Maent yn fwy tebygol na chyfartaledd y DG o ddweud eu bod yn darllen papurau newydd / cylchgronau yn gyson neu’n gwrando ar y radio. Maent yn llai tebygol o gytuno y dylai cynnwys ar draws pob un o’r pedwar llwyfan fod yn rhydd i fod yn fynegiannol a chreadigol o gymharu â’r DG gyfan. Maent yn llai tebygol hefyd na chyfartaledd y DG o fod wedi dysgu am y cyfryngau trwy ddosbarthiadau a hyfforddiant.
-
Archwiliad Llythrennedd y Cyfryngau
[pdf]
Fersiwn Print Llawn
Back to top