Access key 0 - Accessibility
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Consultations > Consultation Documents > Television access services > Crynodeb


Crynodeb

Cefndir

1.1 Mae gwasanaethau mynediad i deledu (is-deitlau, arwyddion a disgrifiadau sain) yn helpu pobl â namau ar eu clyw a/neu olwg i ddeall a mwynhau’r teledu. Mae is-deitlau ar gyfer gwylwyr sydd â nam ar eu clyw yn cynnwys dangos deialog ac effeithiau sain ar ffurf testun ar waelod y sgrin deledu; caiff defnyddwyr ddewis eu troi ymlaen neu i ffwrdd. Mae disgrifiadau sain yn cynnwys trac sain ar wahân lle mae adroddwr yn defnyddio bylchau yn y trac sain gwreiddiol i ddisgrifio’r hyn sy’n digwydd er budd pobl â namau ar eu golwg; fel is-deitlo, gellir ei droi ymlaen neu i ffwrdd. Mae rhaglenni teledu ag arwyddion yn cynnwys delwedd arwyddwr yn trosi deialog ac effeithiau sain i iaith arwyddion er budd y rheiny sy’n ei defnyddio i gyfathrebu.

1.2 Ar 29 Rhagfyr 2003, daeth y rhan honno o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 a oedd yn delio â’r ddarpariaeth is-deitlau, arwyddion a disgrifiadau sain (gwasanaethau mynediad i deledu) ar y teledu i rym. Dywed y Ddeddf fod rhaid i Ofcom gyhoeddi cod, a’i adolygu o dro i dro, yn nodi’r modd y dylai gwasanaethau teledu cymwys hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad teledu ymhlith pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, neu bobl ddall neu rannol ddall, neu bobl a chanddynt nam ar ddau synnwyr (byddar-dall). Mae’r Ddeddf yn rhagnodi cwotâu ar gyfer is-deitlau (80%), arwyddion (5%) a disgrifiadau sain (10%) ar raglenni i’w cyrraedd erbyn degfed pen-blwydd y dyddiad perthnasol ar gyfer pob sianel, yn ogystal â chwota is-deitlo i’w gyrraedd erbyn y pumed pen-blwydd (60%). Hefyd, mae’r Cod i nodi’r mathau o raglenni sydd i’w heithrio o rwymedigaethau gwasanaethau mynediad (a all gynnwys yr holl raglenni a gynhwysir mewn sianel). Cafodd y rhwymedigaethau manwl eu nodi yng Nghod Ofcom ar Wasanaeth Mynediad i Deledu , a gyhoeddwyd gennym ym mis Gorffennaf 2004.

1.3 Bryd hynny, esboniwyd gennym y byddem yn adolygu’r Cod cyn pen dwy flynedd er mwyn ystyried ymchwil i faint o bobl oedd yn elwa o wasanaethau mynediad i deledu, faint yn fwy a allai elwa, a pham nad oeddent yn eu defnyddio. Hefyd, roeddem eisiau gweld a fyddai newidiadau yn briodol yng ngolau profiad. Dywedom hefyd y byddem yn cymryd y cyfle i edrych eto ar yr arweiniad i ddarparwyr gwasanaethau mynediad am y modd i is-deitlo, arwyddo a rhoi disgrifiadau sain i raglenni teledu.

Ymchwil a dadansoddi

1.4 Dechreuodd Ofcom gynllunio’r ymchwil yn gynnar yn 2004. Cyn comisiynu ymchwil bellach, siaradom â sefydliadau’n cynrychioli buddiannau pobl a chanddynt nam er eu synhwyrau, â darlledwyr ac â darparwyr gwasanaethau mynediad am y math o gwestiynau y dylem anelu i’w hateb. Er nad oedd yn ymarferol o fewn fframwaith yr ymchwil i ddelio â’r holl gwestiynau a gafodd eu codi, roedd y trafodaethau hyn yn ddefnyddiol iawn i gwblhau’r brîff ymchwil. Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau hynny a gymerodd ran.

1.5 Ein hamcanion, a sefydlwyd ar ôl trafodaethau â grwpiau anabledd, darlledwyr a darparwyr gwasanaethau mynediad, oedd sefydlu faint o bobl a fyddai’n elwa o’r gwasanaethau mynediad gwahanol, i fesur defnyddio a rhwystrau i ddefnyddio, ac i ddeall anghenion a hoffterau defnyddwyr a defnyddwyr potensial.

1.6 Y cam cyntaf oedd comisiynu adolygiad o lenyddiaeth bresennol i sefydlu pa ymchwil berthnasol oedd wedi’i gwneud yn y blynyddoedd diweddar, er mwyn i ni allu archwilio’r graddau yr oedd yn ofynnol gwneud ymchwil wreiddiol bellach. Canfu’r adolygiad, er y gwnaethpwyd cryn dipyn o ymchwil ym maes namau ar y clyw a’r golwg, roedd yn ddealladwy yn fylchog mewn perthynas â’i harwyddocâd i wasanaethau mynediad i deledu, a bod nifer o feysydd lle’r oedd yn ofynnol gwneud ymchwil bellach er mwyn bodloni amcanion Ofcom. Gellir gweld yr adroddiad llawn ar wefan Ofcom , ac mae crynodeb o’r prif ganfyddiadau yn cael ei roi yn adran 2.

1.7 Yng ngolau’r adolygiad llenyddiaeth, comisiynodd Ofcom ymchwil annibynnol ychwanegol. Roedd dwy elfen i’r ymchwil. Roedd y gyntaf yn cynnwys ymchwil feintiol i niferoedd y bobl ar draws y DU a chanddynt namau ar y synhwyrau, eu hymwybyddiaeth o wasanaethau mynediad i deledu, a’r graddau yr oeddent yn eu defnyddio. Roedd yr ail yn cynnwys astudiaethau achos ansoddol â phobl a chanddynt namau ar y synhwyrau, er mwyn cael dealltwriaeth well o’u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau mynediad, ac i daflu goleuni ar baham nad oedd rhai ohonynt yn defnyddio gwasanaethau felly.

1.8 Mae’r canlyniadau o’r ymchwil ansoddol yn arwyddol yn hytrach na’n gynrychioliadol, gan yr oedd ymatebwyr wedi’u pwysoli’n bwrpasol tuag at y rheiny a chanddynt namau mwy sylweddol ar y synhwyrau er mwyn deall eu profiadau’n well. At hynny, er i’r canlyniadau o’r ymchwil hon daflu llawer iawn o oleuni defnyddiol ar y potensial ar gyfer gwasanaethau mynediad i deledu, nid yw’n fwriad i’r canlyniadau fod ag arwyddocâd ehangach. Er enghraifft, roedd y mesur o faint o bobl oedd â namau perthnasol ar y synhwyrau wedi’i ganolbwyntio’n bennaf ar y graddau yr oedd namau’n effeithio ar allu pobl i wylio’r teledu heb wneud addasiadau neu’n dibynnu ar wasanaethau mynediad i deledu. Roedd pwyslais tebyg yn yr ymchwil ansoddol. Yn unol â hynny, dylid darllen y canlyniadau yng nghyd-destun y ddarpariaeth gwasanaethau mynediad i deledu, yn hytrach na’n ehangach na hynny.

1.9 Ar sail yr ymchwil feintiol, daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad bod rhan fwyaf y bobl yn ymwybodol o is-deitlau, a bod rhyw 7.5 miliwn o bobl wedi’u defnyddio i wylio’r teledu, ac nad oedd gan ryw 6 miliwn o’r rheiny unrhyw nam ar eu clyw. O’r oddeutu 4 miliwn o bobl a chanddynt namau ar eu clyw, roedd namau ysgafn gan ryw dri chwarter ar eu clyw, ac roedd llawer ohonynt yn syml wedi troi sain y teledu i fyny er mwyn clywed yn well. Roedd rhyw 1.4 miliwn wedi defnyddio is-deitlau. Roedd canlyniadau o’r astudiaethau achos ansoddol yn awgrymu mai’r farn oedd bod is-deitlau’n effeithiol iawn yn gyffredinol o ran gwneud rhaglenni’n ddealladwy, er bod rhywfaint o bryder bod is-deitlo byw yn benodol yn rhy gyflym, ac yn dioddef yn sgil oedi ac anghywirdebau.

1.10 Canfu’r ymchwilwyr bod rhyw 1 filiwn o bobl a honnodd eu bod wedi defnyddio disgrifiadau sain, ac o’r rheiny roedd gan ryw 220,000 namau ar eu golwg. Fodd bynnag, fel yr esbonia adran 3, mae rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â’r ffigurau hyn yn sgil camddealltwriaeth amlwg rhai ymatebwyr o ran beth oedd disgrifiadau sain. Dim ond rhyw 30% o bobl â namau ar eu golwg oedd yn ymwybodol o ddisgrifiadau sain. O’r 2.7 miliwn o bobl â namau ar eu golwg, namau ysgafn ar eu golwg oedd gan ryw dri chwarter, ac roeddent yn mabwysiadu technegau fel symud yn agosach at y teledu neu’n addasu’r golau. Canfu canlyniadau o’r astudiaethau achos bod y rheiny a oedd wedi defnyddio disgrifiadau sain yn ystyried ei fod yn ddull defnyddiol iawn iddynt allu deall rhaglenni’n well, a bod cyfran sylweddol o ymatebwyr nad oeddent wedi defnyddio disgrifiadau sain yn awyddus i roi cynnig arni.

1.11 Roedd ymchwil i niferoedd y bobl a oedd wedi defnyddio arwyddion i wylio’r teledu yn dioddef o gamddealltwriaeth hefyd; roedd yn amlwg o’u sylwadau bod llawer o ymatebwyr yn meddwl bod gwylio rhaglenni ag arwyddion yn gyfystyr â defnyddio arwyddion i wylio’r teledu, er nad oedd llawer yn deall digon o’r iaith arwyddion i’w defnyddio. Honnodd rhyw filiwn o bobl eu bod wedi defnyddio arwyddion i wylio’r teledu, ond o’r rhain, dim ond rhyw 66,000 oedd â dealltwriaeth resymol o iaith arwyddion. Yn fwy arwyddocaol, mynegodd dwy ran o dair o bobl â nam ar eu clyw yn yr astudiaethau achos â’r sgiliau arwyddo cryfaf ei bod yn well ganddynt is-deitlau nag arwyddion. Mae’n anodd bod yn siŵr ynghylch faint o bobl mewn gwirionedd sy’n dibynnu ar arwyddion i wylio’r teledu, ond mae posibilrwydd pendant bod y nifer gryn dipyn yn is na’r rheiny sy’n deall iaith arwyddion yn ddigon da i’w defnyddio.

1.12 Llwyddodd yr ymchwil i gasglu llawer iawn o ddata defnyddiol a diddorol, a rhoddir crynodeb o’r prif ganfyddiadau yn adran 2; rhoddir mwy o fanylion yn yr adroddiad ar wefan Ofcom . Efallai mai’r canfyddiad pwysicaf yw bod y teledu, yn gyffredinol, cyn bwysiced i bobl â namau ar eu synhwyrau ag i’r rheiny hebddynt. Yn wir, mae pobl â namau ar eu clyw a /neu eu golwg yn gwylio tipyn mwy o deledu na’r gwyliwr cyffredin. Mae gwasanaethau mynediad yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ddefnyddwyr, ac maent yn helpu gwylwyr â namau ar eu synhwyrau i barhau i ddeall a mwynhau amrywiaeth eang o raglenni teledu.

Y sefyllfa bresennol

1.13 Ers cyhoeddi’r Cod, bu newid cam yn nifer y sianelau sy’n darparu gwasanaethau mynediad i deledu. Roedd yn ofynnol i 70 o sianelau ddarparu gwasanaethau mynediad yn 2005, a chododd y nifer yr oedd yn ofynnol iddynt wneud hynny i 76 ar gyfer 2006, er bod dwy o’r sianelau hyn wedi cau ar ddiwedd 2005. Rhagorodd pob un o’r sianelau (yn sylweddol mewn llawer o achosion) ar eu rhwymedigaethau i ddarparu’r naill neu’r llall o’r gwasanaethau mynediad, a bodlonodd mwyafrif mawr eu rhwymedigaethau’n llawn. Dewisodd llawer o sianelau i ddarparu lefel uwch o wasanaethau mynediad na hynny a oedd yn ofynnol o dan y Cod (yn enwedig is-deitlau), ac mae Ofcom yn croesawu hyn. Rydym wedi cael addewidion gan ddarlledwyr a fethodd targedau ar gyfer disgrifiadau sain ac arwyddion, y byddant yn unioni’r diffyg eleni, ar ben eu targedau ar gyfer 2006.

1.14 Mae Ofcom yn falch o nodi bod yr holl sianelau sydd dan reolaeth y Cod bellach yn darparu is-deitlau ac arwyddion ar yr holl lwyfannau digidol daearol, cebl a lloeren, bod disgrifiadau sain ar gael ar ymron pob fersiwn lloeren o’r sianelau hyn (a byddant ar gael ar y gweddill yn ystod 2006), a bod disgrifiadau sain yn cael eu galluogi ar wasanaethau cebl yn ogystal, diolch i waith gan ntl a Telewest mewn cydweithrediad â darlledwyr.

1.15 Cyn i’r Cod ddod i rym, nid oedd yr holl ganllawiau rhaglenni electronig (EPGs) yn darparu gwybodaeth am ba un a oedd is-deitlau, arwyddion a disgrifiadau sain ar raglen, ac roedd y rheiny a oedd yn gwneud hynny yn defnyddio ffyrdd gwahanol i ddisgrifio’r gwasanaethau mynediad. Ar ôl ymgynghori â phartïon â diddordeb, diwygiodd Ofcom y Cod ar Wasanaethau Mynediad i Deledu a’r Cod EPG i’w gwneud yn ofynnol bod EPGs yn darparu gwybodaeth gywir gan ddefnyddio acronymau safonol. Rydym yn falch bod pob un o’r prif gylchgronau rhestru rhaglenni teledu wedi cytuno i ddefnyddio’r un acronymau, a bod rhan fwyaf y papurau newydd cenedlaethol, a llawer o bapurau rhanbarthol wedi dilyn.

1.16 Mae’n ofynnol i ddarparwyr EPG wneud datganiad blynyddol am y camau y maent wedi’u cymryd ac wrthi’n cymryd i wella rhwyddineb defnyddio i wylwyr a chanddynt namau ar y golwg a / neu glyw. Mae gwelliannau sylweddol sydd wedi’u gwneud dros y ddwy flynedd diwethaf yn cynnwys y gallu i amlygu rhaglenni ag isdeitlau neu ddisgrifiadau sain yn EPG Sky, tra bod nodweddion ‘Help’ newydd yn ei gwneud hi’n haws troi isdeitlau a disgrifiadau sain ymlaen neu i ffwrdd yn ystod rhaglenni. Ail-ddyluniwyd EPG ntl i wella rhwyddineb defnyddio ar gyfer gwylwyr â nam ar y golwg, ac i’w gwneud hi’n haws i isdeitlau digidol gael eu troi ymlaen ac i ffwrdd.

1.17 Gall llawer o bobl ifanc byddar neu drwm eu clyw fwynhau cerddoriaeth o ganlyniad i weddill clyw neu drwy synhwyro’r rhythmau sylfaenol, ond gellid gwella’u gwerthfawrogiad yn fawr gan y gallu i weld geiriau’r caneuon. Am rai blynyddoedd, mae materion hawlfraint wedi atal is-deitlo’r rhan fwyaf o raglenni cerddoriaeth. Mae Ofcom wedi gweithio gyda Chymdeithas y Cyhoeddwyr Cerddoriaeth (MPA) a sianelau cerddoriaeth i ganfod ffordd o oresgyn yr anawsterau hyn, ac mae’n falch bod yr MPA a’i aelodau wedi cytuno i ddyfeisio trwydded a fydd yn caniatáu sianelau cerddoriaeth i is-deitlo fideos cerddoriaeth wedi’u hawlfreinio gan ei aelodau. Mae Ofcom yn edrych ymlaen at lawer mwy o is-deitlau ar raglenni cerddoriaeth yn cael eu darparu na fu’n bosibl hyd yma.

1.18 Er gwaetha’r cynnydd sylweddol yn nifer y sianelau ag is-deitlau, mae nifer y cwynion am broblemau is-deitlo yn parhau’n gymharol fach. Mae rhai o’r problemau hyn yn deillio o’r ffaith bod darlledu digidol yn parhau’n dechnoleg gymharol newydd – wrth i’r dechnoleg aeddfedu, mae problemau felly’n debygol o leihau. Serch hynny, gall unrhyw broblemau sy’n ymyrryd ar fwynhad a dealltwriaeth o raglen deledu beri rhwystredigaeth. Fel yr esbonia adran 3 yn fanylach, mae Ofcom wedi gweithio’n agos â darlledwyr ac eraill i nodi a datrys unrhyw broblemau systematig, a bydd yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos.

Adolygu’r Cod

1.19 Yn y datganiad a gyhoeddwyd gennym ym mis Gorffennaf 2004 , fe wnaethom ymrwymo i adolygu nifer o agweddau ar y Cod cyn pen 18-24 mis i’w gyhoeddi. Yn benodol, dywedom y byddem yn edrych ar y mecanwaith ar gyfer dewis sianelau i ddarparu gwasanaethau mynediad, a’r costau i ddarlledwyr o ddarparu gwasanaethau mynediad o gofio’r cynnydd sylweddol mewn rhwymedigaethau y bydd llawer yn eu hwynebu o 2007.

1.20 Ar ôl adolygu’r defnydd o gyfran y gynulleidfa fel y sylfaen gyffredinol ar gyfer dewis y sianelau a fyddai’n cynnig y budd mwyaf i gynulleidfaoedd, mae Ofcom yn parhau o’r farn ei fod yn ddull priodol. Mae adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau mynediad yn awgrymu nad oes dargyfeiredd mawr o ran dewisiadau gwylio rhwng pobl â namau ar eu clyw a / neu olwg a’r rheiny hebddynt. Beth bynnag, mae llawer o bobl felly’n rhannu cartrefi â gwylwyr nad oes namau ganddynt. Hefyd, mae cyfran y gynulleidfa yn meddu ar rinweddau tryloywder, defnyddio gwybodaeth sydd eisoes wedi’i chasglu a chynnwys mecanwaith i adlewyrchu patrymau gwylio newidiol.

1.21 Yn erbyn cefndir targedau’r Cod sy’n gofyn am gynnydd sylweddol mewn is-deitlo (o 10% i 35%) o ddechrau 2007, gofynnom i ddarlledwyr ddarparu gwybodaeth am y costau a gafwyd wrth ddarparu gwasanaethau mynediad i deledu. Mae’n amlwg o’u hymatebion y bu gostyngiad sylweddol ym mhris is-deitlo, a gostyngiadau llai ym mhris y gwasanaethau arwyddo a disgrifiadau sain. Gan ddefnyddio cyfartaledd pris a gafwyd o ddatganiadau niferoedd darlledwyr a modelu effaith y cwotâu a fydd yn gymwys o 2007 ymlaen, daethom i’r casgliad mai’r effaith net fydd y bydd rhan fwyaf y darlledwyr yn gallu cynnal y gost o fodloni’r targedau hyn o fewn y terfyn 1% ar drosiant perthnasol. Gan ystyried hyn, daethom i’r casgliad hefyd nad oedd yn angenrheidiol codi’r trothwy cynulleidfa o 0.05%, ac na fyddai’n briodol i’w ostwng, gan mai ychydig o fudd fyddai i wylwyr o wneud hynny, ac y byddai’n feichus i ddarlledwyr.

1.22 Yng ngolau tystiolaeth sy’n dangos efallai nad yw’r ymagwedd gyfredol tuag at arwyddo ar y teledu yn bodloni anghenion defnyddwyr iaith arwyddion, a’i fod yn rhoi costau ar ddarlledwyr llai nad ydynt yn arwain at unrhyw fuddion sylweddol, mae Ofcom o’r farn bod angen trafod ymhellach â defnyddwyr iaith arwyddion a darlledwyr ynghylch a yw’n ddoeth parhau â’r trefniadau presennol, neu a oes dewisiadau eraill a allai fodloni’u hanghenion yn well. Ar yr un pryd, byddai angen i Ofcom feddwl yn ofalus sut orau i gydbwyso’r gofynion statudol i sicrhau bod darlledwyr yn bodloni gofynion iaith arwyddion â’i rwymedigaeth i ystyried nifer y personau sy’n debygol o gael budd o gymorth felly, a graddau’r budd tebygol iddynt. I’r perwyl hwn, bydd Ofcom yn ymgynghori â sefydliadau anabledd sy’n cynrychioli buddiannau pobl â nam ar eu clyw a’r rheiny â namau ar ddau synnwyr, yn ogystal â darlledwyr, i nodi ac archwilio opsiynau posibl. Nid yw’r un o’r rhain yn debygol o fod heb fanteision ac anfanteision, ac mae angen datgan y rhain yn drylwyr cyn bod unrhyw ddewisiadau eraill i’r trefniadau presennol yn cael eu cynnig. Yng ngolau’r trafodaethau hyn ac adborth gan bartïon â diddordeb, byddai Ofcom yn disgwyl cynnal ymgynghoriad pellach ar ddewisiadau eraill cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

1.23 Nid ydym wedi adolygu’r targedau interim a nodir yn y Cod; cafodd y rhain eu sefydlu ar ôl dadlau cyhoeddus helaeth, gan gynnwys arwyddion clir mai disgwyliad y Senedd oedd y dylai targedau interim gael eu gosod, gan godi’n raddol tuag at y targedau statudol. Nid yw’r darlledwyr na sefydliadau anabledd wedi awgrymu y dylid edrych arnynt eto fel rhan o’r adolygiad presennol.

1.24 Rydym wedi cymryd cyfle’r adolygiad hefyd i gynnig ychydig o newidiadau i’r Cod, sydd ar y cyfan yn newidiadau cymharol fân. Yng ngolau trafodaethau â darlledwyr, un newid a gynigiwn yw esbonio’n glir y dylid ystyried sianelau, at ddibenion y Cod, fel rhai mewn perchenogaeth gyffredin ag un neu fwy o sianelau eraill os yw pob sianel yn is-gwmni (o fewn ystyr Deddf Cwmnïau 1985) i gwmni daliannol cyffredin neu os ydynt yn rhannu rhiant gwmni ar unrhyw bwynt yn y gadwyn berchenogaeth sydd â diddordeb mwyafrifol ym mhob un. Rhoddir mwy o fanylion am hyn, a newidiadau arfaethedig eraill, yn adran 4.

Adolygu safonau

1.25 Pan gyhoeddodd Ofcom y cod, dywedom y byddem yn yr adolygiad cyntaf yn edrych eto ar yr arweiniad ar safonau ar gyfer gwasanaethau mynediad am nad ydyw wedi cael ei adolygu am nifer o flynyddoedd. Wrth adolygu’r canllawiau, siaradom â phobl a chanddynt namau ar eu clyw a / neu olwg, yn ogystal â sefydliadau yn cynrychioli buddiannau pobl fyddar, a darparwyr gwasanaethau mynediad. Hefyd, fe wnaethom ystyried adborth gan ddefnyddwyr am raglenni â gwasanaethau mynediad dros y 18 mis diwethaf.

1.26 Mae’r safonau a ymgorfforir yn yr arweiniad gwreiddiol yn cael eu gwerthfawrogi’n amlwg gan ddefnyddwyr – roedd adborth yn awgrymu bod llawer yn weld y safonau fel gwarant o ansawdd. Yn unol â hynny, rydym wedi cadw hanfod y safonau hyn yn yr arweiniad drafft. Fodd bynnag, roedd cytundeb cyffredinol bod y canllawiau gwreiddiol ar gyfer disgrifiadau sain ac is-deitlo yn fanwl iawn, ac yn debyg i lawlyfrau hyfforddi ar gyfer yr hyn a oedd yn wasanaethau cymharol newydd ar y pryd. Rydym wedi cymryd y cyfle felly i symleiddio’r arweiniad drafft, tra’n darparu cysylltiadau at fwy o ddeunydd cyfeirio manwl.

1.27 Y prif newidiadau gwirioneddol sy’n cael eu cynnig yw cadarnhau meintiau ffont cyfredol ar gyfer is-deitlau fel sy’n briodol, er gwaetha’r ffaith eu bod yn llai nag y byddai’r arweiniad cyfredol yn awgrymu, a’r cynnig i alluogi is-deitlo cyflymach ar gyfer rhaglenni wedi’u recordio ymlaen llaw; cynigiwn hefyd hepgor terfynau ar gyflymder is-deitlo byw, ar sail ymarferoldeb. Hefyd, gofynnwn am farnau ar ba un a ddylai llun yr arwyddwr, ar raglenni teledu ag arwyddion, lenwi cyfran fwy o’r sgrin nag sy’n cael ei awgrymu ar hyn o bryd.

Yr ymgynghoriad

1.28 Byddem yn croesawu barnau ar bob agwedd ar y Cod a’r Arweiniad cyn bod yr ymgynghoriad yn cau ar 8 Mehefin 2006. Mae mwy o fanylion am y modd i ymateb yn cael eu rhoi yn Atodiad 1, ac mae egwyddorion ymgynghori Ofcom yn cael eu nodi yn Atodiad 2. Mae’r cwestiynau penodol yr ydym yn holi am farnau yn eu cylch wedi’u nodi yn y ddogfen ymgynghori, a’u hailadrodd yn Atodiad 4.

1.29 Mae copi o’r ddogfen hon ar fformat sy’n addas i’w ddefnyddio gan ddarllenwyr sgrin wedi’i roi ar wefan Ofcom. Gall Ofcom ddarparu dogfennau i unigolion mewn fformatau gwahanol hefyd (e.e. Braille, tâp sain neu brint mawr) ar gais. Fe allwn hefyd ddarparu cyfieithiadau o ddogfennau i ieithoedd heblaw am Saesneg neu Gymraeg. I wneud cais am fersiynau ansafonol o ddogfennau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Ofcom yn contact@ofcom.org.uk, dros y ffôn ar 0845 456 3000 neu 020 7981 3040, neu ar ffôn testun ar 0845 456 3003. Sylwer y bydd yr amser a fydd ei angen i gynhyrchu dogfen mewn fformat gwahanol yn dibynnu ar hyd y ddogfen.


Back to top Back to top