Access key 0 - Accessibility
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Consultations > Consultation Documents > Draft Annual Plan 2006/07 > Draft Annual Plan 2006/7 > Full Print Versions > Cynllun Blynyddol Drafft 2006/7


Cynllun Blynyddol Drafft 2006/7

Rhagair

Yn ystod 2005 fe wnaethon ni gwblhau ein hadolygiadau strategol o sbectrwm, telegyfathrebiadau a darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Hefyd, cyflwynwyd masnachu sbectrwm gennym, buom yn gweithio i alluogi newid i deledu digidol, cyhoeddwyd cod darlledu newydd a dargedir yn fwy gennym, gwnaethom gynigion i ddarparu mwy o sbectrwm ar gyfer radio digidol a hyrwyddo mwy o gystadleuaeth mewn band eang, drwy ostwng prisiau cyfanwerthu’n benodol.

Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu’r ystod eang o gyfrifoldebau sydd gan Ofcom. Yn ein rôl fel rheoleiddiwr ar gyfer y sector cyfathrebiadau mae gennym lawer o ddyletswyddau, yn amrywio o amddiffyn gwylwyr a gwrandawyr rhag deunydd annymunol i sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r sbectrwm radio. Mae gennym hefyd rôl bwysig i orfodi cyfraith y defnyddiwr, yn amddiffyn defnyddwyr rhag cam-werthu a mathau eraill o ymddygiad niweidiol. Ac yn ein rôl fel awdurdod cystadleuaeth, gwnawn i farchnadoedd weithio’n well drwy fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gystadleuol a’i atal.

Yn ganolog i’n gwaith i gyd y mae’r angen i fodloni anghenion amrywiol pobl ledled y DG. Mae pobl yn mynnu dewis a gwerth am arian. Mynnant safon hefyd. Felly, rhan allweddol o’n gwaith yw sicrhau safonau uchel, i ddinasyddion a defnyddwyr.

Mewn llawer o ffyrdd mae’r sector cyfathrebiadau’n datblygu’n gadarnhaol. Rydym yn gweld argaeledd a defnydd ehangach o wasanaethau presennol, a datblygiad gwasanaethau newydd. Mae’r dewis o sianeli teledu a gorsafoedd radio yn tyfu. Ac mae cystadleuaeth gynyddol a phrisiau is. Ond mae natur ddynamig a mwyfwy gydgyfeiriol y sector yn golygu bod rhaid i ni ragweld yr hyn sydd i ddod. Am y rheswm hwn, thema drosfwaol ein cynllun arfaethedig ar gyfer 2006/7 yw “Meithrin cystadleuaeth ac arloesedd ymhellach”. Mae hyn yn adlewyrchu’r angen i ymateb i nifer o faterion pwysig ar draws yr ystod llawn o’n cyfrifoldebau.

Bydd yr adolygiad o Siarter y BBC yn dwysáu’r ddadl ynghylch y modd y dylai darlledu gwasanaeth cyhoeddus gael ei gynnal a’i gryfhau wrth i ni symud at y newid i deledu digidol. Bydd goblygiadau yn y trefniant y deuir iddo ar gyfer yr holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Hefyd, mae’r cwestiwn ynghylch y defnydd yn y dyfodol o’r sbectrwm a ryddheir gan y newid wrth i ni geisio hyrwyddo’r difidend digidol i’r eithaf.

Mae ffyrdd newydd o ddosbarthu cynnwys yn creu cyfleoedd ar gyfer arloesedd, ac yn y broses caiff y model presennol o reoleiddio cynnwys ei herio. Yn gyfochrog â hynny, mae offer yn datblygu i alluogi pobl i reoleiddio cynnwys drostynt eu hunain. Datblygiad pwysig arall yw rhoi ar waith fesul cam y rhwydweithiau telegyfathrebiadau newydd, gyda’r rhagolwg o gael gwasanaethau band eang cyflymach. Ond ar yr un pryd, mae defnyddwyr yn wynebu ffurfiau mwy cymhleth o dwyllo potensial mewn marchnadoedd cyfathrebiadau (fel deialwyr twyllodrus y rhyngrwyd) ac mae rhwystredigaeth nad yw rhai gwasanaethau newydd ar gael ym mhobman yn y DU.

I’r rhanddeiliaid sy’n ariannu Ofcom, mae gwerth am arian yn bwysig hefyd. Yn 2003/4 sefydlwyd Ofcom gennym, gan greu sefydliad â nifer sylweddol yn llai o bobl na’r rheoleiddwyr blaenorol a chostau gweithredu is. Yn 2004/5, ein blwyddyn gyntaf yn gweithredu, roedd y gyllideb 5 y cant yn llai mewn termau real na chyllidebau cyfunol ein rhagflaenwyr (ar sail tebyg am debyg). Yn 2005/6 cafodd ein cyllideb ei lleihau o 8 y cant arall mewn termau real. Yn ein tair blynedd gyntaf felly rydym wedi gwneud gostyngiadau sylweddol yn ein costau.

Byddwn yn parhau i arbed costau dros y ddwy flynedd nesaf. Yn 2006/7 bydd ein cyllideb 5 y cant yn llai eto mewn termau real, a disgwyliwn ostyngiad pellach yn 2007/8. Erbyn diwedd y cyfnod hwn byddwn wedi ad-dalu’r benthyciad a wnaed i sefydlu Ofcom a byddwn wedi gwella’n heffeithlonrwydd drwy fuddsoddi mewn newidiadau i’n systemau gweithredu. Erbyn hynny byddwn wedi hen ymsefydlu a, thrwy gyflawni lefel dderbyniol o effeithlonrwydd gweithredol, rydym yn debygol o fod â gofynion ariannu mwy sefydlog.

Wrth ddatblygu ein cynllun arfaethedig ar gyfer 2006/7, proses sydd wedi cynnwys trafodaeth gyda chyrff cynghori a rhanddeiliaid Ofcom, rydym wedi nodi naw blaenoriaeth:

  1. Rhyddhau sbectrwm: arwerthu a rhyddfrydoli sbectrwm - rhyddhau a rhyddfrydoli sbectrwm, hwyluso masnachu a hybu ymwybyddiaeth am y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan ymagwedd a reolir yn fwy gan y farchnad at reoli sbectrwm.
  2. Rhoi’r Adolygiad Strategol o Delegyfathrebiadau ar Waith - hyrwyddo cystadleuaeth ac arloesedd mewn gwasanaethau band eang a llais drwy sicrhau y rhoir Ymrwymiadau BT Group plc ar waith yn effeithiol.
  3. Parhau i ddadreoleiddio – parhau i archwilio cyfleoedd i leihau a thargedu rheoleiddio’n well, gan ystyried y syniadau rheoleiddio diweddaraf, fel argymhellion Adolygiad Hampton.
  4. Trefnu’r genhedlaeth nesaf – deall sut y mae rhwydweithiau a gwasanaethau telegyfathrebiadau’r genhedlaeth nesaf yn datblygu ac ystyried y goblygiadau i reoleiddio, yn y rhwydwaith craidd ac yn y rhwydwaith mynediad, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer band eang cyflymach.
  5. Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (PSB): datblygiadau yn y dyfodol – parhau â gwaith i gyfuno dewis defnyddwyr mewn byd digidol â buddion i ddinasyddion yn sgil darlledu gwasanaeth cyhoeddus parhaus â mwy o ffocws. Bydd y gwaith yn cynnwys adolygiad ariannol o Channel 4, datblygu ein cynnig ar gyfer Cyhoeddwr Gwasanaeth Cyhoeddus a chyfrannu at yr Adolygiad o Siarter y BBC yn y mannau hynny sy’n gor-gyffwrdd â chyfrifoldebau Ofcom. Hefyd, byddwn yn cwblhau’n gwaith ar deledu lleol ac yn ystyried sut y mae newyddion yn debygol o gael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio yn y dyfodol.
  6. Cyflwyno cynnwys – deall sut mae dulliau newydd o gyflwyno cynnwys y rhyngrwyd a’r cyfryngau yn creu cyfleoedd ar gyfer arloesedd, ac archwilio’r buddion potensial i ddinasyddion a defnyddwyr. Hefyd, byddwn yn ystyried y goblygiadau i reoleiddio ac yn sicrhau y bydd plant yn cael eu hamddiffyn yn briodol.
  7. Amddiffyn y defnyddiwr – cymryd camau gorfodi i amddiffyn defnyddwyr a dinasyddion, trafod cwynion yn effeithiol a hyrwyddo llythrennedd y cyfryngau.
  8. Argaeledd a mynediad – nodi meysydd lle mae methiannau’r farchnad yn golygu bod angen ymyrraeth i roi mynediad i bobl i wasanaethau, fel band eang a theledu digidol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei lywio gan archwiliad Ofcom o’r Gwledydd a’r Rhanbarthau sy’n mynd rhagddo.
  9. Cysylltu’n rhyngwladol – ceisio dylanwadu’r ffordd y mae polisi rheoleiddio yn datblygu, yn benodol y gyfarwyddeb UE newydd am deledu a chynnwys clyweled arall, y fframwaith UE diwygiedig ar gyfer cyfathrebiadau electronig a thrafodaethau rhyngwladol am sbectrwm, gan gynnwys Cynhadledd Radio Rhanbarthol 2006.

Edrychwn ymlaen at gael eich barnau am y cynllun drafft, ac am y blaenoriaethau arfaethedig yn benodol. Mae’r ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener 10 Chwefror 2006 ac yna caiff fersiwn derfynol y cynllun ei chyhoeddi ar ddechrau mis Ebrill 2006. Yn y cyfamser, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol er mwyn rhoi cyfle i drafod a dadlau. Mae manylion y dyddiadau a’r lleoliadau ar gael ar ein gwefan: http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/annual_plan2006/annual_plan200607/invite

David Currie, Cadeirydd

Stephen A Carter, Prif Weithredwr



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools