- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Consultations > Consultation Documents > Food Advertising to Children > Yr hanes hyd yn hyn
Hysbysebu bwyd a diod i blant ar y teledu
Ymgynghoriad ar gyfyngiadau newydd posibl
Cyhoeddwyd 28 Mawrth 2006
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion 30 Mehefin 2006
Yr hanes hyd yn hyn
Dros y blynyddoedd diwethaf bu pryder cynyddol oherwydd fod mwy a mwy o blant dros eu pwysau. Mae sawl rheswm dros y cynnydd hwn, ac mae rhai ohonynt yn gysylltiedig. Mae newidiadau mewn ffordd o fyw, diet a’r modd y caiff cynnyrch eu gwerthu i ni oll wedi chwarae eu rhan yn hyn.
Gyda rhagor o blant yn mynd yn dewach, yn 2004 gofynnodd y Llywodraeth i ni ddarganfod a oedd hysbysebu yn cael effaith ar blant. Gofynnwyd i ni hefyd benderfynu a ddylem dynhau ein rheolau ar hysbysebu bwyd a diodydd medal i’n plant.
Roedd ein hadroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, yn adeiladu ar gryn dipyn o ymchwil oedd eisoes wedi’i wneud i’r maes hwn. Darganfuwyd fod plant yn cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan hysbysebion (er enghraifft trwy brynu rhywbeth oherwydd eu bod wedi gweld yr hysbyseb) ond dim ond i raddau bach. Ond darganfuwyd fod gan hysbysebion effaith anuniongyrchol mwy, ar yr hyn yr oedd plant yn ei hoffi, beth yr oeddent yn ei fwyta a’i yfed a sut yr oeddent yn ymddwyn. Ar ôl ystyried y dystiolaeth penderfynwyd nad oedd gadael pethau fel ag yr oeddent yn ddigon da. Roedd achos dros dynhau’r rheolau.
Ers hynny mae’r sefyllfa wedi bod yn newid. Yn 2005 syrthiodd y nifer o hysbysebion bwyd, diod a bwytai wedi eu hanelu at blant o 13%. Hefyd, penderfynodd nifer o gynhyrchwyr bwyd a diodydd medal beidio â hysbysebu ar deledu yn ystod rhaglenni plant.
Mae gwarchodwr y diwydiant hysbysebu teledu ei hun – Pwyllgor Darlledu Ymarfer Hysbysebu (BCAP) – hefyd wedi creu amrediad o reolau tynnach ar sut y dylid hysbysebu bwyd i blant. Rydym wedi croesawu’r cyfraniad hwn gan y bydd yn ran pwysig o syniadau newydd posibl y byddwn yn holi pobl amdanynt. Er hynny, mae’r cwestiwn yn parhau ynglŷn ag a ddylid cael hyd yn oed llai o hysbysebu bwyd a diodydd i blant? Credwn fod achos dros leihau’r nifer o hysbysebion. Ond mater arall yw penderfynu ar y lefel ‘cywir’. Efallai mai dyna pam na fu unrhyw gynigion y mae gorsafoedd teledu, hysbysebwyr, archfarchnadoedd, bwytai bwydydd cyflym a chynhyrchwyr yn teimlo y gallant eu cefnogi.
O ganlyniad i hynny, gofynnwn am eich barn ar dri dull posibl o weld gostyngiad yn y nifer o hysbysebion bwyd i blant. Mae pob un yn ceisio taro cydbwysedd rhwng gweithredu sydd yn gweithio, heb niweidio amrediad ac ansawdd rhaglenni plant y mae hysbysebion yn helpu i dalu amdanynt, neu’r gweithgarwch hanfodol o wneud bwyd a’i werthu.
Mae manteision ac anfanteision i bob un o’r tri dewis ac ar y cam hwn nid ydym yn ffafrio’r un ar draul y gweddill.
A dweud y gwir, os gallwch feddwl am well syniad – neu efallai gyfuniad o ystyriaethau a welwch yma – byddai gennym ddiddordeb mawr mewn clywed amdanynt. Credwn fod hysbysebu yn chwarae rhan fechan mewn mater llawer mwy sydd yn cynnwys rhieni, ysgolion, ymarfer a nifer o bethau eraill. Ond, y mae’n rhywbeth y gallwn weithio arno er mwyn gwella.
Ein swyddogaeth
Yn Ofcom, ni yw’r rheoleiddiwr annibynnol y gwasanaethau teledu, radio, telegyfathrebiadau a chyfathrebiadau diwifr yn y DG. Rhan o’n gwaith yw gosod safonau ar gyfer hysbysebu ar y teledu. Rhaid i ddarlledwyr wneud yn siŵr fod yr hysbysebion ar eu gorsafoedd yn cadw at ein rheolau ni. Ers yn hwyr yn 2004 mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) wedi bod yn gofalu am gwynion ac yn datblygu polisïau ar gyfer hysbysebu ar y teledu. Ond, ni sydd â gofal cyffredinol dros safonau’r hysbysebion a welwch ar eich teledu. Ein gwaith ni yw:
- gofalu am ein buddiannau fel dinasyddion a defnyddwyr;
- amddiffyn pobl dan 18 oed;
- sicrhau fod dewis o ddarlledwyr ar gael;
- gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn gallu mwynhau teledu o ansawdd uchel sydd at ddant amrywiol bobl ac o ddiddordeb i amrywiol bobl;
- gweld fod pob hysbysebwr yn cael eu trin yr un fath; a
- gwneud ein gwaith fel rheoleiddiwr mewn modd agored, tra’n ymyrryd cyn lleied â phosibl.
Hysbysebu bwyd a phlant – ychydig o gefndir
Mae’r llywodraeth eisiau tynhau’r rheolau ar y modd y caiff rhai cynnyrch eu hyrwyddo a’u gwerthu i blant. Mae rhai bwydydd a diodydd sydd yn uchel mewn braster, halen neu siwgr (ac a enwir yn y llyfryn hwn yn fwydydd UBHS). Maent eisiau edrych ar bopeth o hysbysebu i beiriannau bwyd a gweld dewisiadau iachach yn cael eu hyrwyddo.
Mae hyn yn ganlyniad i bryderon ymysg pobl gyffredin a chyrff swyddogol fod nifer o blant yn mynd yn dewach ac yn llai iach oherwydd diet gwael. Maent yn bwyta gormod o fwydydd UBHS a dim digon o fwydydd ffres, ffrwythau a llysiau. Mae’r Adran Iechyd (AI) a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn meddwl y dylid cael rheolau tynnach i reoli sut y caiff cynnyrch UBHS eu gwerthu i blant. Oherwydd hynny, mae’r Llywodraeth wedi gofyn i ni ystyried sut y gellid gwneud hyn.
Mae’n amlwg nad ydym yn arbenigwyr mewn bwyd a maeth ac felly mae’r ASB wedi creu a phrofi system sgorio ar ein cyfer sydd yn mesur y maeth mewn bwyd. Dywed cyfanswm sgôr bwyd neilltuol wrthym a yw’r cynnyrch hwnnw yn syrthio i’r categori UBHS. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol os ydym eisiau clustnodi bwydydd sydd yn rhan o’r broblem, heb ymyrryd mewn hysbysebu bwydydd iachach.
Ymchwil a dadansoddi
Fel rheoleiddiwr annibynnol, cyn i ni allu dweud bod unrhyw gyfyngiadau yn deg, rhaid i ni sicrhau fod cysylltiad rhwng hysbysebu cynnyrch UBHS ar y teledu ac arferion bwyta gwael.
Os yw cyfyngiadau i’w cyfiawnhau, ar ba ffurf y dylent fod? Ac a ddylent fod yn gymwys i’r holl hysbysebion bwyd a diod i blant, neu dim ond hysbysebion am fwydydd a diodydd UBHS?
Dyna pam, yn 2004, y lansiwyd prosiect ymchwil mawr i ddwyn ynghyd y canfyddiadau o ymchwil academaidd blaenorol, arolygon bwyd cenedlaethol, cwestiynau am ffordd o fyw a ffeithiau a ffigurau gan gwmnïau bwyd a darlledwyr. Cynhaliwyd ymchwil hefyd i arferion ac agweddau pobl. O’r astudiaeth hon, penderfynwyd fod gan hysbysebu ar y teledu effaith bychan uniongyrchol ar yr hyn y mae plant yn ei hoffi, ei fwyta a’i ddewis.
Mae’n debygol fod effeithiau anuniongyrchol hefyd, er enghraifft, plant yn trafod brandiau gyda’u ffrindiau ysgol. Ond nid oedd digon o dystiolaeth i ddweud pa mor fawr y mae hysbysebion teledu yn effeithio ar bwysau plant, wrth ei gymharu â ffactorau eraill fel :
- ymarfer;
- tueddiadau mewn arferion bwyta’r teulu;
- grwpiau polisi ysgol, a
- labelu bwyd a ffyrdd eraill o hyrwyddo bwyd.
Ystyriwyd hefyd beth oedd barn rhieni. Darganfuwyd, tra eu bod yn cytuno mai eu cyfrifoldeb hwy yw diet eu plant, roeddent hefyd yn credu y byddai rheolau tynnach ar hysbysebu yn gymorth i annog plant i fwyta’n iachach. Ers hynny, rydym wedi cynnal rhagor o ymchwil i:
- diweddaru ein hamcangyfrif cyntaf o faint y farchnad fwyd, faint mae pobl yn ei wario a pha mor bwysig yw hysbysebu;
- diweddaru ein gwybodaeth o sut y mae plant yn gwylio teledu;
- astudio hysbysebu bwyd a diod i blant ar y teledu; ac
- edrych ar yr ymchwil academaidd diweddaraf ar sut y mae hysbysebion teledu yn effeithio ar iechyd a diet plant.
Mae’r rhain ac astudiaethau diweddarach yn cadarnhau ein barn ar y cychwyn. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos fod hysbysebion teledu yn effeithio ar yr hyn y mae plant yn hoffi ei fwyta. Mae’n amlwg hefyd, er bod hysbysebion i blant yn syrthio pob blwyddyn, y teledu yw’r prif gyfrwng i gyflwyno bwyd a diod gerbron y cynulleidfaoedd ehangaf.
Pam y dylem gymryd rhan
Sylweddolwn y gallai’r diwydiant bwyd a’r darlledwyr gyflwyno rhai rheolau eu hunain i wneud hysbysebion bwyd yn llai pwerus. Mewn gwirionedd mae gwneuthurwyr wedi gwneud hynny trwy benderfynu peidio â hysbysebu i blant iau.
Ond ni chredwn fod ‘hunan reoleiddio’, lle mae diwydiant yn cadw golwg arno’i hun, yn ddigon. Hyd yn hyn, mae’r diwydiant bwyd wedi ei chael yn anodd cytuno ar y ffordd ymlaen ac efallai y bydd angen gweithredu cadarn i wneud gwir wahaniaeth. Gan gymryd popeth gyda’i gilydd – canfyddiadau ymchwil, ein dyletswyddau fel rheoleiddiwr, a’r farn gyffredinol y bydd cymdeithas yn elwa – credwn y dylem nawr dynhau’r rheolau ar hysbysebu rhai bwydydd i blant.
Ond rhaid mesur beth yn union sydd ei angen. Rhaid i ni:
- gydbwyso’r manteision i fywydau pobl gyda rhan fechan hysbysebu yn y darlun llawer mwy a meddwl am y busnes a gaiff ei golli i ddarlledwyr pe byddem yn cyfyngu ar hysbysebu;
- cymryd rhan a defnyddio ein pwerau dim ond os oes gwir angen gwneud hynny;
- gwrando ar astudiaethau sydd yn dweud fod gwahaniaeth rhwng plant sydd mewn mwy o berygl (rhai dan 8 oed) a phlant 11 a 12 oed sydd yn llawer doethach ynglŷn â hysbysebion; a bod yn ymwybodol mai rhan o becyn o gamau fyddai cyfyngiadau gyda’r Llywodraeth yn gweithredu ar fathau eraill o hysbysebu a hyrwyddo.
Yr hyn y bwriadwn ei wneud
Trwy greu’r cyfyngiadau ychwanegol hyn, ein nodau fyddai:
- sicrhau fod plant iau yn gweld llawer llai o hysbysebu bwydydd UBHS
- amddiffyn plant yn fwy, a’u rhieni, trwy fod yn llymach ynglŷn â’r hyn y gall hysbysebion ei ddweud;
- gostwng y perygl fod plant a rhieni yn camddeall yr honiadau a welant mewn hysbysebion;
- osgoi colli gormod o fusnes ymysg darlledwyr;
- osgoi rheolau llym nad oes eu hangen yn ystod rhaglenni oedolion; a
- rhoi’r rheolau newydd ar waith a rhoi amser iddynt weithio cyn i’r Llywodraeth adolygu’r sefyllfa yn gynnar yn 2007.
‘Proffilio Maeth’
Yn yr ymgynghoriad hwn gofynnwn a ddylem ddefnyddio system sydd yn nodi cynnyrch sydd yn uchel mewn braster, halen neu siwgr (UBHS) yn dibynnu ar faint o fraster, halen neu siwgr sydd ynddynt. Os felly mae angen i ni benderfynu ai system yr Asiantaeth Safonau Bwyd (‘proffilio maeth’) yw’r gorau ar gyfer yr hyn yr ydym ei angen neu a oes gwell ffyrdd o wneud hyn. ‘Maetholion’ yw rhannau unigol bwyd fel braster, siwgr, halen, calsiwm, fitaminau, protein ac yn y blaen. Rydym yn ymwybodol fod rhai yn cefnogi system yr ASB ond bod iddi hefyd ei beirniaid. Dyma grynodeb o ddadleuon y ddwy ochr.
‘Proffilio maeth’ o blaid
Mae eraill o blaid y system oherwydd:
- ei ddiben yw rhoi canllaw yn unig i’r rheoleiddiwr ar fwydydd braster uchel neu isel, halen neu siwgr (ni fydd pobl gyffredin yn ei weld);
- mae angen enwi cynnyrch UBHS – neu gallai rheolau newydd llymach effeithio ar gynnyrch iach hefyd;
- hebddo byddai’n anos hysbysebu cynnyrch iachach i oedolion yn ogystal ag i blant;
- nid oes dewis gwirioneddol arall i’r system ‘ar gyfer pob 100g’ (fe’i defnyddir yn helaeth hefyd mewn gwledydd eraill); ac
- mae wedi ei greu a’i brofi gan arbenigwyr, ac mae’n seiliedig ar wyddoniaeth
‘Proffilio maeth’ – yn erbyn
Mae cynhyrchwyr bwyd wedi beirniadu’r system. Maent yn dweud:
- mae’r holl syniad yn anghywir oherwydd ychydig o fwydydd sydd yn eich niweidio os ydych yn bwyta’n gymedrol (a hyd yn oed wedyn, byddent wedi’u labelu yn ‘afiach’);
- nid yw’n seiliedig ar wyddoniaeth ond yn hytrach ar yr hyn a welir fel ‘iach’ ac ‘afiach’;
- byddai’n arwain pobl i fwyta diet anghytbwys;
- mae’n anghywir mesur maetholion ‘ar gyfer pob 100g’ yn hytrach na ‘mewn dogn’; a
- byddai’n golygu na fyddem yn trin rhai hysbysebwyr yn gyfartal.
Dewisiadau polisi
Gan gofio ein dyletswyddau a chan ystyried yr holl ddadleuon uchod, rydym wedi edrych ar nifer o atebion posibl. Rydym yn cychwyn gyda dau ar bob pen o’r raddfa.
Gadael i’r diwydiant bwyd gadw golwg arno’i hun?
Yn y trafodaethau cynnar a gynhaliwyd cyn yr ymgynghoriad hwn, clywsom:
- bod newidiadau mawr eisoes wedi’u gwneud mewn hysbysebu bwyd gyda nifer o gynhyrchwyr yn gweithredu ar eu pennau eu hunain i leihau’r effaith ar blant;
- bod gwybodaeth maeth ar labeli bwyd wedi gwella; a
- bod hysbysebu bwyd eisoes dan reolaeth dda ac wedi’i gryfhau gan reolau’r diwydiant ei hun.
Am y rhesymau hyn, mae rhai yn dadlau nad oes angen na rheswm dros gyfyngu ar hysbysebion bwyd i blant. Yn sicr mae’n wir fod pethau wedi newid ar y teledu ers i’r Llywodraeth alw am weithredu. Mae prif gynhyrchwyr bwyd a diod a bwytai wedi cael cyfran lai o amser hysbysebu yn y blynyddoedd diweddar, yn gyffredinol ac yn ystod rhaglenni plant.
Ond, mae’r swm y mae cynhyrchwyr wedi’i wario mewn gwirionedd wedi cynyddu yn 2004 a 2005. Hyd yn oed pe bai eu gwario yn gostwng eto, gallai gymryd amser hir cyn i gynnyrch UBHS gael llai o effaith ar blant. Rydym hefyd wedi sylwi fod y rheolau hysbysebu yn dal i ganiatáu i hysbysebwyr ddefnyddio nifer o wahanol dechnegau i wneud eu hysbysebion yn ddeniadol i blant.
Un o’n hegwyddorion yw peidio ag ymyrryd os nad yw’n amlwg fod angen i ni wneud hynny. Gallai ymddangos, o ystyried yr ebyrth y mae’r diwydiant bwyd eisoes wedi’u gwneud, y dylem adael iddo gadw golwg arno’i hun. Ond, gallai hefyd fod yn wir fod y diwydiant wedi bod yn ymddwyn ar ei orau tra bod sôn am ragor o reoleiddio. Ond a fyddai pethau’n aros felly pe bai bygythiad cyfyngiadau yn diflannu?
Nid ydym yn argyhoeddedig o hynny. Ac o ganlyniad, nid yw gadael i’r diwydiant reoleiddio ei hun yn ymddangos i ni yn bolisi da ar gyfer y dyfodol.
Atal hysbysebu UBHS cyn 9pm?
Ar yr olwg gyntaf mae’r syniad yn ymddangos yn syml. Y cyfan sydd rhaid i ni ei ddweud yw gwrthod unrhyw hysbysebu cynnyrch UBHS hyd nes y bydd y plant iau wedi mynd i’r gwely.
Byddai hynny ar unwaith yn torri’r math hwn o hysbysebu ar blant rhwng 4 a 15 oed o 82%. Byddai’n cyflawni un o’n prif nodau. Mae’r ASB hefyd yn amcangyfrif, o ran arian, y gallai’r manteision iechyd fod unrhyw le rhwng £50 miliwn a £990 miliwn.
Ond, yn ein barn ni, nid yw’r dewis hwn cystal ag y mae’n ymddangos. Byddai’n amddiffyn plant iau ond byddai hefyd yn ei gwneud yn anodd i oedolion weld yr hysbysebu UBHS sydd wedi’i anelu atynt hwy. Gallai’r prif sianeli hefyd golli hyd at £240 miliwn y flwyddyn. Credwn fod y gosb hon yn llawer rhy uchel, yn enwedig pan fo rhieni wedi dweud wrthym yn ein hymchwil nad ydynt o blaid atal llwyr. Am y rhesymau hyn nid ydym yn cefnogi ‘trobwynt 9pm’ ar gyfer y math hwn o hysbysebu.
Pedwar dewis ar gyfer ymgynghori
Mae’n amlwg fod hwn yn fater cymhleth ac nid oes yr un o’r prif grwpiau yn rhannu llawer o dir cyffredin. Ac felly rydym wedi creu tri llwybr posibl ymlaen yr hoffem i chi eu hystyried a rhoi eich barn arnynt.
Ar yr un pryd, rydym yn gadael y drws yn agored i bedwerydd ateb posibl – gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y broblem gymhleth hon. Os yw’r syniad fel pe bai’n ennyn cefnogaeth fras y darlledwyr, hysbysebwyr, cynhyrchwyr ac archfarchnadoedd – ac os yw’n diwallu’n nodau – byddem yn hapus i ymestyn ein hymgynghoriad i dderbyn adborth ar y dewis hwn hefyd.
Mae’r tri phecyn yr ydym nawr yn eu cynnig yn rhannu dau thema:
- dim hysbysebu cynnyrch UBHS mewn rhaglenni wedi eu hanelu at blant cyn oedran ysgol (iau na phump oed); ac
- amrediad o reolau ynglŷn â’r hyn y gall hysbysebion bwyd a diod eu dangos neu eu dweud a stopio rhai technegau gwerthu i rai grwpiau oedran yn gyfan gwbl.
BCAP, y bobl darlledu a hysbysebu sydd yng ngofal y codau safonau, sydd wedi llunio’r rheolau hyn. Yn gryno, dywed y rheolau:
- ni ddylai’r hysbysebion annog bwyta gwael na ffordd o fyw afiach i blant;
- ni ddylent gynghori na gofyn i blant brynu unrhyw beth nac i boenydio eu rhieni;
- ni ddylid rhoi cynigion hyrwyddo (yn cynnwys pethau y gellir eu casglu na phethau am ddim) mewn hysbysebion bwyd a diod i blant dan 10 oed;
- ni ddylid annog plant i fwyta nac yfed cynnyrch dim ond i gael rhodd neu gynnig;
- ni ddylid defnyddio sêr na chymeriadau o ffilmiau mewn hysbysebion bwyd a diod wedi’u hanelu yn uniongyrchol at blant dan 10 oed;
- rhaid i hawliadau iechyd am rannau cynnyrch (er enghraifft, ‘llawn ffibr’) fod yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gadarn ac ni ddylai awgrymu fod yr holl gynnyrch yn iach onid oes tystiolaeth i gefnogi’r farn honno;
- ni ellir canolbwyntio unrhyw hawliadau maeth nac iechyd ar blant cyn oedran ysgol; ac
- ni ddylai hysbysebion ganmol nac annog bwyta neu yfed gormod.
Tair ffordd ymlaen posibl
Pecyn 1
Cyfyngiadau amser ar rai cynnyrch bwyd a diod
Nodweddion y pecyn cyfyngiadau hwn yw:
- dim hysbysebion cynnyrch UBHS i’w dangos ar raglenni wedi’u gwneud yn benodol i blant (yn cynnwys rhaglenni cyn oedran ysgol);
- dim hysbysebion cynnyrch UBHS i’w dangos mewn unrhyw raglen sydd yn apelio yn gryf i blant hyd at naw oed, waeth pryd y caiff ei dangos;
- dim nawdd gan gynnyrch UBHS i raglenni sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau uchod; a
- dilyn rheolau’r gwarchodwr BCAP ar gyfer holl hysbysebion a nawdd bwyd a diod.
Effeithiau tebygol pecyn 1 fyddai:
- byddai plant (4-15 oed) yn gweld tua 50% yn llai o hysbysebion bwyd a diod UBHS;
- byddai darlledwyr daearol (mewn geiriau eraill y prif ddarlledwyr – ITV, Channel 4 a 5) yn colli tua 0.5% o gyfanswm eu hincwm;
- byddai sianeli plant yn colli llawer mwy – rhwng tua 4% a 21% o’u hincwm, yn dibynnu ar y sianel;
- ar y cyfan byddai darlledwyr yn colli tua £28 miliwn y flwyddyn mewn incwm; a
- manteision iechyd i blant. O ran arian, gan ddefnyddio ffigurau’r ASB amcangyfrifwn y gallai hyn fod rhwng £63 miliwn a £303 miliwn.
Pe byddem yn dewis y pecyn hwn byddai’r darlledwyr yn gyffredinol yn colli tua 1% o’u hincwm. Ond gallai’r effaith fod yn fwy difrifol i sianeli plant a gallai’r rhai lleiaf ddiflannu. Felly argymhellwn y dylid cyflwyno’r cyfyngiadau’n raddol dros gyfnod o dair blynedd i sianeli plant.
Pecyn 2
Cyfyngiadau amser ar holl gynnyrch bwyd a diod
- Byddai’r nodweddion ar y pecyn hwn yr un fath ag ar gyfer Pecyn 1 – ac eithrio y byddai cyfyngiadau ar bob math o fwyd a diod. Yr unig achos arbennig fyddai hysbysebu bwyta’n iach a gefnogir gan y Llywodraeth.
Credwn y byddai Pecyn 2 yn golygu:
- byddai plant (rhwng 4-15 oed) yn gweld tua 50% yn llai o hysbysebu bwyd a diod;
- byddai darlledwyr daearol yn colli tua 0.5% i 0.8% o gyfanswm eu hincwm;
- byddai sianeli plant yn colli rhwng 4% a 21% o gyfanswm eu hincwm (yn dibynnu ar y sianel);
- byddai darlledwyr yn gyffredinol yn colli tua £31 miliwn y flwyddyn mewn incwm; ac
- fel Pecyn 1, byddai’r manteision iechyd rhwng £63 miliwn a £303 miliwn y flwyddyn o ran arian.
Felly gyda’r pecyn hwn, byddai’r darlledwyr yn colli ychydig rhagor o arian. Unwaith eto, gallai gael effaith ddifrifol ar sianeli plant ac felly pe byddem yn dewis pecyn 2, byddem hefyd yn awgrymu cyflwyno’r rheolau hyn yn raddol dros gyfnod o dair blynedd.
Pecyn 3
Torri nifer yr hysbysebion ar yr holl fwydydd a diodydd
Dangosir prif nodweddion y pecyn hwn isod.
- Dim hysbysebu bwyd na diod i’w ddangos o gwbl ar raglenni i blant cyn oedran ysgol.
- Cyfyngiad ar nifer yr hysbysebion pan fo plant yn fwyaf tebygol o fod yn gwylio. Gallai hyn gynnwys:
- Cyfyngiad o 30 eiliad yr awr (6am – 9am a 3pm – 6pm yn ystod yr wythnos a 6am – 1pm ar benwythnosau);
- Cyfyngiad o 60 eiliad yr awr yn ystod amser gwylio teulu (6pm – 8pm) a phrynhawniau dros y Sul (1pm – 8pm); a
- Cyfyngiad o 30 eiliad yr awr trwy’r dydd i sianeli plant (ac eithrio sianeli cyn oedran ysgol lle na fyddai hysbysebu bwyd a diod o gwbl).
- Caiff rheolau BCAP eu cymhwyso i holl hysbysebu a nawdd bwyd a diod.
Credwn y byddai pecyn 3 yn golygu:
- ychydig dan hanner yr hysbysebu bwyd a diod a welant nawr y byddai plant yn ei weld;
- byddai incwm darlledwyr daearol yn gostwng o tua 3%;
- byddai gan y pecyn hwn lai o effaith ar sianeli plant na’r ddau arall. Ond byddai eu hincwm yn dal i ostwng rhwng 2% a 12%;
- yn gyffredinol byddai darlledwyr yn colli tua £90 miliwn y flwyddyn; a
- byddai’r manteision iechyd i blant yn debyg i becynnau 1 a 2.
Yn y pecyn hwn rydym wedi dylunio’r cyfyngiadau ar hysbysebu i fod yn weithredol pan fo plant yn fwyaf tebygol o fod yn gwylio. Mae hyn yn cyrraedd brig rhwng 6pm ac 8pm pan fo hyd at 2 miliwn o blant yn gwylio teledu.
Casgliad
Credwn fod y tri phecyn hwn yn cynnig ymagwedd teg a chytbwys tuag at ddiwallu ein nod. Nid ydym yn argymell un yn neilltuol ac yn hytrach hoffem eich barn ar sut y credwch y gallem eu gwella. Rydym hefyd yn gwahodd pobl â diddordeb i gyfrannu eu pecyn eu hunain a fyddai’n Becyn 4. Byddai angen i hwnnw fynd i’r afael â’r mater o blant yn cael eu perswadio gan yr hyn a welant mewn hysbysebion bwyd a diod ond gan barhau i ennyn cefnogaeth cynhyrchwyr bwyd, archfarchnadoedd, sianeli a darlledwyr.
Daw’r ymgynghori i ben ar ddydd Mawrth 6 Mehefin 2006. Yna byddwn yn cyhoeddi datganiad yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn dweud beth yw’r rheolau newydd a phryd y byddant yn dod i rym..
Sut i ymateb
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y materion a godwyd yn y llyfryn hwn e-bostiwch eich sylwadau atom yn foodadvertising@ofcom.org.uk.
Os yn bosibl atodwch eich ymateb i’ch e-bost fel dogfen Microsoft Word. Atodwch hefyd y ddalen ymateb y gallwch ei dadlwytho ar wahân o’r adran ‘ymgynghori’ ar ein gwefan.
Gallwch hefyd bostio neu ffacsio eich ymateb, wedi’i nodi ‘Ymgynghori – hysbysebu bwyd’ at:
Ian Blair
Ofcom, 5th Floor
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA.
Ffacs 020 7783 3806
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 5pm dydd Mawrth 30 Mehefin 2006.
Er mwyn symleiddio’r broses ni fyddwn fel rheol yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich ymateb.
Credwn ei bod yn bwysig fod pwy bynnag sydd â diddordeb yn ein hymgynghoriad yn gallu gweld y farn a dderbyniwn. Felly, byddwn yn rhoi’r holl ymatebion ar ein gwefan pan fo’r cyfnod ymgynghori wedi dirwyn i ben. Byddwn yn trin eich ymateb yn gyfrinachol os gofynnwch i ni wneud hynny.
Ar ôl y cyfnod ymgynghori byddwn yn cyhoeddi datganiad. Caiff hyn ei wneud yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Unrhyw sylwadau cyffredinol?
Croesawn hefyd unrhyw sylwadau sydd gennych am y modd yr ydym wedi trefnu’r broses ymgynghori hon. Cysylltwch os gwelwch yn dda â:
Vicki Nash
Ofcom (Scotland)
Sutherland House
149 St Vincent Street
Glasgow
G2 5NW.
Ffôn: 0141 229 7401
Ffacs: 0141 229 7433
E-bost: vicki.nash@ofcom.org.uk
Back to top