Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Consultations > Consultation Documents > Universal Service Obligation > Statement > Gwaredu ciosgau ffôn cyhoeddus


Gwaredu ciosgau ffôn cyhoeddus

Canllaw i’r rheolau

Mae llawer o bobl yn dibynnu ar 67,000 o giosgau ffôn cyhoeddus y DG (a elwir yn ‘gabanau galwadau’ neu’n ‘gabanau ffôn’).

I rai pobl, sydd heb unrhyw fath o ffôn eu hunain, mae ciosgau ffôn yn werth y byd. I eraill, maen nhw’n ddefnyddiol os nad yw ffonau symudol yn gweithio. Mae’r rhan fwyaf o giosgau ffôn – rhyw 64,500 – yn eiddo i BT.

Dengys ein hymchwil fod mwy na 33% o oedolion yn defnyddio ciosgau ffôn o bryd i’w gilydd, tra bo 7% yn eu defnyddio’n rheolaidd. Maent yn fwyaf poblogaidd gyda:

Maent yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd lle nad yw ffonau symudol yn gweithio, ac mewn unrhyw gymuned lle mae pobl dan anfantais.

Er hynny, nid yw pobl yn defnyddio ciosgau ffôn fel yr arferant. Hanerodd yr arian a gafodd BT o giosgau ffôn bron rhwng 2000 a 2006. Mewn gwirionedd, dywed BT fod 6 o bob 10 o’u ciosgau ffôn yn colli arian iddynt. Dyma pam y mae wedi lansio rhaglen i leihau nifer y ciosgau ffôn.

Fodd bynnag, yn wahanol i fusnes arferol, ni all BT roi’r gorau i wasanaethau am resymau sy’n gysylltiedig ag arian yn unig. Mae ganddynt ddyletswydd, sef y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol, i ddarparu nifer resymol o giosgau ffôn sy’n gweithio lle mae’r angen mwyaf amdanynt.

Yn 2005, cynhaliodd Ofcom astudiaeth o giosgau ffôn. Roeddem eisiau taro’r cydbwysedd cywir rhwng nifer y ciosgau ffôn y mae gwir eu hangen ar y cyhoedd, a dymuniad BT i waredu ciosgau ffôn sy’n colli arian iddynt. Mae’r llyfryn hwn yn esbonio’r rheolau y mae’n rhaid i BT eu dilyn os ydynt eisiau gwaredu’r unig giosg ffôn mewn ardal leol, a’r rôl bwysig sydd gan awdurdodau lleol yn y broses honno. (Yn ardal Hull, mae’r un rheolau’n berthnasol i Kingston Communications, sy’n berchen ar y ciosgau ffôn yno.)

Mae’r llyfryn hwn yn rhoi crynodeb syml o’r rheolau hynny i chi. Os oes angen i chi wybod y manylion pellach, neu eisiau gofyn am giosg newydd yn eich ardal chi, trowch at ddiwedd y llyfryn hwn.



Back to top Back to top

 Accessibility tools