Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Codau a pholisïau > 


Gweithdrefnau Amlinellol ar gyfer Ymdrin â Chwynion Tegwch a Phreifatrwydd

Dyddiad Cyhoeddi 16 Mai 2006

Cyflwyniad

Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn pennu gofyniad ar Ofcom i ystyried, a, lle bo’n briodol, dyfarnu ar gwynion tegwch a phreifatrwydd. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r gweithdrefnau y bydd Ofcom yn eu dilyn fel arfer wrth ymdrin â chwynion tegwch a phreifatrwydd ynghylch rhaglenni (mae “rhaglen” yn cynnwys hysbyseb, teletestun ac unrhyw eitem a gynhwysir mewn gwasanaethau teledu a radio). Mae canllawiau ar wahân ar gael ar gyfer ymdrin â chwynion safonau. Paratowyd y gweithdrefnau amlinellol hyn yng ngolau Deddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (sy’n cyfeirio at yr hawl i gael treial teg) ac maent yn weithredol o 1 Mehefin 2006.

Gwneud cwynion

Oherwydd eu cymhlethdod, bydd Ofcom fel arfer yn ystyried cwynion tegwch a phreifatrwydd sy’n ysgrifenedig yn unig, ac ar ffurflen cwynion tegwch a phreifatrwydd Ofcom. (I gael ffurflen gwyno trwoch at wefan Ofcom yn www.ofcom.org.ukneu cysylltwch ag Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, London SE1 9HA, Rhif Ffôn. 020 7981 3000 ). Bydd angen manylion yr achwynydd a’r gŵyn (gan gynnwys amser; sianel; rhaglen; natur y gŵyn etc). Mae’n bwysig iawn bod yr achwynydd yn rhoi gymaint o’r manylion hyn â phosibl – yn benodol, teitl y rhaglen ac ar ba sianel/gorsaf y cafodd ei darlledu – er mwyn gallu nodi’r rhaglen yn gywir a chael recordiad ohoni cyn gynted â phosibl gan y darlledwr.

O’u derbyn, bydd pob cwyn yn cael ei chofnodi a rhoddir rhif cyfeirnod i’r achwynydd.

Dylai’r gŵyn gael ei gwneud fel arfer gan y “person yr effeithir arno ” gan y rhaglen (gweler y blwch testun isod). At ddibenion y gweithdrefnau amlinellol hyn, mae “person” yn golygu unigolyn, cymdeithas neu gorff corfforaethol. Fodd bynnag, gall y gŵyn gael ei gwneud gan rywun arall ar ran y person yr effeithir arno , cyhyd â bod ganddo/ganddi awdurdod i wneud hynny gan y person yr effeithir arno . Mewn amgylchiadau eithriadol, gall aelod o deulu’r person yr effeithir arno neu rywun â chysylltiadau agos â’r person hwnnw, wneud cwyn heb fod wedi cael awdurdod y person yr effeithir arno . Byddai hyn yn cael ei ganiatáu pe na bai’r person yr effeithir arno yn gallu rhoi’r awdurdod hwnnw, er enghraifft, gan ei fod/bod o dan 16 oed.

Y Person yr Effeithir Arno

Y “person yr effeithir arno ” yw person:

a) a oedd yn gyfranogwr yn y rhaglen a gall fod wedi bod yn destun y driniaeth annheg honedig; neu

b) p’un a oedd yn gyfranogwr neu beidio, yr oedd ganddo ddiddordeb digon uniongyrchol yng nghynnwys y driniaeth annheg honedig honno; a/neu,

c) a oedd yn berson y gellid fod wedi torri ar ei breifatrwydd mewn rhaglen neu wrth wneud rhaglen.

Gall Ofcom wrthod mynd ymlaen â chwyn tegwch a/neu breifatrwydd os yr ymddengys nad yw’r gŵyn wedi’i gwneud o fewn cyfnod rhesymol ar ôl darlledu’r rhaglen. Cynghorir achwynwyr felly i gyflwyno cwynion cyn gynted â phosib ar ôl y darllediad mwyaf diweddar o’r rhaglen. Dylai hyn fod nid hwyrach na 32 diwrnod calendr ar ôl darlledu rhaglenni radio, 50 diwrnod calendr ar ôl darlledu rhaglenni ar loeren a chebl, ac 80 diwrnod calendr ar ôl darlledu rhaglenni teledu daearol. Y rheswm am hyn yw mai am gyfnod cyfyngedig yn unig y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ddarlledwyr gadw recordiadau o’u hallgynnyrch. Mae’r cyfnodau hyn yn gwahaniaethu gan ddibynnu ar p’un ai teledu (daearol neu arall) neu radio yw’r gwasanaeth sy’n destun cwyn.

Fodd bynnag, os yw achwynydd yn penderfynu, yn y lle cyntaf, i ganlyn y mater gyda’r darlledwr, yna bydd Ofcom yn disgwyl i’r darlledwr gadw’r recordiadau perthnasol ac unrhyw ddeunydd cysylltiedig. Pan fydd y darlledwr wedi hysbysu’r achwynydd am ganlyniad terfynol ei gŵyn, disgwylir i’r darlledwr gadw’r recordiadau am y cyfnodau a bennir yn Nhroednodyn 1 isod. Mae’r cyfnodau hyn yn rhedeg o’r dyddiad y gall y darlledwr ddisgwyl yn rhesymol i’r achwynydd fod wedi derbyn cyfathrebiad terfynol y darlledwr. Disgwylir y bydd achwynydd sydd wedyn yn dymuno mynd â’r mater i Ofcom yn cyflwyno’i gŵyn cyn gynted â phosib ar ôl y cyfathrebiad terfynol gan y darlledwr.

Asesu cwyn

O dderbyn cwyn, bydd Ofcom fel arfer yn anfon copi o’r gŵyn ymlaen at y darlledwr ac yn gofyn iddo ddarparu recordiad o’r rhaglen dan sylw cyn pen pum niwrnod gwaith. Bydd Ofcom yn penderfynu wedyn pa un a all fynd ymlaen â’r gŵyn ai peidio (h.y. pa un ai i ystyried y gŵyn). Gelwir y penderfyniad hwn yn Benderfyniad Ystyried (gweler y blwch testun isod) a chaiff ei wneud fel arfer gan yr Arweinydd Achos a fydd fel arfer yn brif bwynt cyswllt yr achwynydd gydol y broses gwyno) . Darperir copi o Benderfyniad Ystyried Ofcom i’r achwynydd a’r darlledwr.

Penderfyniad Ystyried

Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi nifer o feini prawf y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gall Ofcom ystyried cwyn tegwch a phreifatrwydd. Nodir y meini prawf isod:

• rhaid i’r achwynydd fod y “person yr effeithir arno ” (gweler y blwch testun uchod) neu rywun ag awdurdod priodol i weithredu ar ran “y person yr effeithir arno ”;

• rhaid i’r mater(ion) sy’n destun cwyn beidio â bod yn destun achos cyfreithiol yn y DU neu gael ei ddatrys yn fwy priodol gan achos cyfreithiol yn y DU;

• rhaid i’r gŵyn beidio â bod yn un ddisylwedd; a,

• rhaid iddi beidio â bod yn amhriodol i ystyried neu fynd ymlaen i ystyried y gŵyn am unrhyw reswm arall.

Mae’r Penderfyniad Ystyried yn nodi pennau’r gŵyn y bydd Ofcom yn mynd ymlaen i ddyfarnu arnynt. Mae pennau’r gŵyn yn sail y dyfarniad terfynol yn ogystal.

Ni fydd pob cwyn a dderbynnir yn dod o fewn cylch gwaith tegwch a phreifatrwydd Ofcom. Os yw’r gŵyn yn disgyn y tu allan i’r cylch gwaith hwnnw, yna hysbysir yr achwynydd a’r darlledwr, a rhoddir copi iddynt o Benderfyniad Ystyried Ofcom a fydd yn esbonio pam na fydd y gŵyn yn cael ei dwyn ymlaen i’w hystyried (gweler hefyd “Adolygu Penderfyniad Gweithredol” isod).

Fodd bynnag, os yw’r gŵyn yn codi materion eraill sydd o fewn cylch gwaith Ofcom, bydd y gŵyn yn cael ei throsglwyddo i aelod priodol o’r Weithrediaeth i ymchwilio iddi. (Os yw’n fater safonau, bydd y Canllawiau ar gyfer Ymdrin â Chwynion ac Achosion Safonau yn gymwys; cyfeiriwch at wefan Ofcom i gael rhagor o wybodaeth).

Lle bo’n briodol (er enghraifft, lle mae’r gŵyn yn fwy cymhleth), gall y Weithrediaeth benderfynu peidio â gwneud y Penderfyniad Ystyried ei hun, ond yn hytrach cyfeirio’r gŵyn i’r Pwyllgor Tegwch i wneud y penderfyniad hwnnw. Y Pwyllgor Tegwch yw corff uchaf Ofcom sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer cwynion tegwch a phreifatrwydd (gweler “Pwyllgor Tegwch” isod).

Cwynion sy’n cael eu hystyried

Pan fydd cwyn yn cael ei hystyried, mae’r ystyriaeth o’r gŵyn yn dod o dan awdurdodaeth Ofcom. Mae’n hanfodol i unplygrwydd prosesau Ofcom a’i allu i feirniadu’n deg bod y partïon dan sylw, yr achwynydd a’r darlledwr, yn cadw at holl reolau a gweithdrefnau cyhoeddedig Ofcom. Mae’r rheolau a’r gweithdrefnau hyn yn pennu gofyniad, er enghraifft, y dylai partïon i gŵyn drin pob gohebiaeth, dogfennau a deunydd arall yn ymwneud â’r gŵyn yn gyfrinachol (gweler y blwch testun isod).

Cyfrinachedd

Mae cyfrinachedd yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni swyddogaethau Ofcom yn briodol mewn perthynas â dyfarniadau tegwch a phreifatrwydd, ac i alluogi’r partïon i baratoi eu hachosion yn llawn ac yn ddidwyll.

Gall partïon ddatgelu’n gyhoeddus fel arfer y ffaith bod cwyn wedi’i gwneud, neu fod cwyn yn cael ei herio, a nodi’n fras beth yw’r gŵyn. Hefyd, gall partïon ddefnyddio unrhyw wybodaeth, sydd, er ei bod yn berthnasol i’r achos, eisoes yn wybodaeth gyhoeddus ac ar gael o ffynhonnell arall, at ddiben nad yw’n ymwneud â’r achos.

Fodd bynnag, mae’r ddau barti yn ddarostyngedig i’r gofyniad cyfrinachedd mewn perthynas â phob deunydd arall a gyflwynir a’r cyfathrebiadau/gohebiaeth mewn perthynas â’r gŵyn honno. At hynny, pan fydd cwyn wedi’i hystyried, ni ddylai’r un o’r ddau barti gymryd unrhyw gamau a allai – yn fwriadol ai peidio – beryglu, neu risgio peryglu, dyfarniad teg o’r mater gan Ofcom, neu sydd fel arall, ym marn Ofcom, yn gyfystyr â chamddefnyddio proses.

Gall methiant gan achwynwyr i gadw at reolau a gweithdrefnau cyhoeddedig Ofcom arwain at Ofcom yn atal ei ystyriaeth o’r gŵyn. Gall methiant gan ddarlledwyr i gadw at y rheolau a’r gweithdrefnau hyn arwain at Ofcom yn cymryd camau priodol yn erbyn y darlledwr.

Os yw’r gŵyn yn cael ei ‘hystyried’, anfonir copi o’r Penderfyniad Ystyried at y darlledwr, ynghyd â’r gŵyn ac unrhyw ddogfennaeth ategol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gŵyn.

Gofynnir i’r darlledwr i ddarparu, cyn pen 20 diwrnod gwaith fel arfer, naill ai gynnig ar gyfer ‘datrysiad priodol’ (gweler y blwch testun isod) neu ddatganiad mewn ymateb i’r gŵyn.

Lle mae darlledwr yn darparu cynnig ar gyfer ‘datrysiad priodol’, rhoddir 10 diwrnod gwaith i’r achwynydd fel arfer i gadarnhau a yw’n derbyn y cynnig neu beidio.

Caniateir estyniad i’r terfyn amser ar gyfer unrhyw ymateb mewn amgylchiadau priodol yn unig. Rhaid gwneud ceisiadau am estyniad felly yn ysgrifenedig cyn gynted â phosib, gan roi rhesymau am y cais. Bydd Ofcom yn hysbysu’r darlledwr a’r achwynydd am unrhyw estyniad i’r terfyn amser.

Datrysiad Priodol

Yn y cam hwn, gellir datrys y gŵyn heb yr angen am ddyfarniad gan Ofcom cyhyd â bod yr achwynydd yn barod i ystyried cynnig di-oed ar gyfer gwneud iawn a bod y darlledwr o’r farn ei bod yn briodol i gynnig rhwymedi neu fesur gwneud iawn. Gall enghreifftiau o fesur gwneud iawn felly gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, olygu rhaglen ar gyfer darllediadau yn y dyfodol, ymrwymiad i beidio ag ail-ddangos y rhaglen neu ymddiheuriad neu gywiriad yn ysgrifenedig a/neu yn cael ei ddarlledu.

Ni fydd Ofcom yn mynd ymlaen â’r gŵyn os yw’r mesur gwneud iawn a gynigir yn cael ei dderbyn gan yr achwynydd.

Bydd Ofcom yn bwrw ymlaen i ystyried y gŵyn os nad yw’r mesur gwneud iawn sy’n cael ei gynnig yn cael ei dderbyn gan yr achwynydd. Yn yr amgylchiadau hyn, gofynnir i’r darlledwr ddarparu datganiad mewn ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith yn unol â’r gofynion a nodir ym mharagraff 1.15.

Fel arfer bydd Ofcom yn cyhoeddi manylion byr unrhyw gwynion sy’n cael eu datrys ym mwletin darlledu Ofcom ar ei wefan.

O dderbyn datganiad y darlledwr, bydd Ofcom yn mynd ymlaen fel a ganlyn:

darparu copi o ddatganiad y darlledwr i’r achwynydd; ac

ystyried pa un a yw’n ofynnol cael ail rownd o ddatganiadau a/neu wybodaeth bellach.

Os ystyrir bod ail rownd o ddatganiadau yn briodol bydd Ofcom:

yn rhoi 10 diwrnod gwaith i’r achwynydd fel arfer i gynnig sylwadau;

yn anfon copi o ail ddatganiad yr achwynydd at y darlledwr a ddisgwylir fel arfer i ymateb iddo cyn pen 10 diwrnod gwaith; ac

yn ystyried pa un a yw’n ofynnol cael mwy o wybodaeth gan y naill barti, a rhoi 10 diwrnod gwaith fel arfer i’r wybodaeth honno gael ei darparu.

Rhaid i unrhyw geisiadau am estyniad amser fod yn unol â pharagraff 1.16 uchod.

Ar ôl y cam hwn, bydd Ofcom yn caniatáu cyflwyniadau ysgrifenedig pellach yn unig mewn amgylchiadau lle mae’n barnu bod hyn yn ofynnol yn eithriadol er mwyn dyfarnu’n deg ar y mater.

Ni chaiff deunydd newydd ei dderbyn fel arfer. Bydd deunydd newydd sy’n cael ei dderbyn yn cael ei ystyried yn unig os yw:

yn berthnasol i’r gŵyn; ac

yn arwyddocaol o ran hyrwyddo dealltwriaeth Ofcom o’r gŵyn; ac

na ellid fod wedi’i gyflwyno’n rhesymol yn gynharach.

Ofcom fydd yn penderfynu ynghylch pa un a fydd deunydd felly’n cael ei dderbyn. Os oes deunydd newydd yn cael ei dderbyn bydd yn cael ei ddarparu i’r parti arall a fydd wedyn yn cael cyfle i gynnig sylwadau arno .

Bydd yr achwynydd a’r darlledwr yn gweld yr holl ddeunydd perthnasol sy’n cael ei ddarparu gan y parti arall, ac y mae’r parti hwnnw’n ceisio dibynnu arno, mewn perthynas â’r materion dan sylw ac y bydd y Grŵp Tegwch Gweithredol neu’r Pwyllgor Tegwch yn ei ystyried, neu’n cael ei weld, wrth lunio’i ddyfarniad.

Y Grŵp Tegwch Gweithredol

Ar ôl i’r holl dystiolaeth gael ei chyflwyno, bydd Ofcom yn ystyried pa un a ddylai’r achos gael ei benderfynu gan y Grŵp Tegwch Gweithredol neu’r Pwyllgor Tegwch. Bydd yr achos yn cael ei benderfynu gan y Grŵp Tegwch Gweithredol os yw Ofcom o’r farn, er enghraifft, nad yw’n codi materion cymhleth (gweler y blwch testun isod i gael gwybodaeth am y Grŵp Tegwch Gweithredol). Bydd y Grŵp Tegwch Gweithredol yn gwneud Penderfyniad Dros Dro (h.y. cynnal, peidio â chynnal, cynnal yn rhannol), a bydd yn rhoi rhesymau am y penderfyniad hwnnw, i’r ddau barti.

Bydd gan y ddau barti 10 diwrnod gwaith wedyn i gynnig sylwadau ar anghywirdebau ffeithiol neu gamgymeriadau argraffyddol yn y Penderfyniad Dros Dro neu i gyflwyno sail ar gyfer adolygiad o’r Penderfyniad Dros Dro.

Os nad yw’r naill barti na’r llall, cyn pen 10 diwrnod gwaith o hysbysiad Ofcom i’r partïon am y Penderfyniad Dros Dro, yn gofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw (gweler yr adran ar “Adolygu Penderfyniad Gweithredol” isod), caiff y Dyfarniad ei gwblhau a’i anfon at y ddau barti.

Mae Bwrdd Ofcom wedi dirprwyo awdurdod i’r Grŵp Tegwch Gweithredol mewn perthynas â chwynion tegwch a phreifatrwydd.

Mae cylch gwaith y Grŵp Tegwch Gweithredol yn cynnwys:

a) ystyried a dyfarnu ar gwynion tegwch a phreifatrwydd y cyfeirir ato; a,

b) chymeradwyo geiriad y penderfyniadau dros dro a’r dyfarniad terfynol o gwynion y mae wedi dyfarnu arnynt.

Mae gan y Grŵp dri aelod fel arfer, bob un ohonynt yn cael eu tynnu o’r Weithrediaeth, ac mae’n cynnwys fel arfer dau aelod o’r Weithrediaeth a’r Arweinydd Achos sydd â chyfrifoldeb am reoli’r achos. Gall ymgynghorydd cyfreithiol, ac, fel sy’n briodol, unrhyw weithwyr eraill yn Ofcom, fynychu’r Grŵp.

Adolygu Penderfyniad Gweithredol

Os yw’r achwynydd neu’r darlledwr yn anfodlon â phenderfyniad sy’n cael ei wneud gan yr Arweinydd Achos neu’r Grŵp Tegwch Gweithredol (Penderfyniad Ystyried neu Benderfyniad Dros Dro yn y drefn honno) yna gallant wneud cais am adolygiad cyn pen 10 diwrnod gwaith. Rhaid i unrhyw geisiadau am estyniad amser fod yn unol â pharagraff 1.16 uchod. Bydd adolygiad yn cael ei ganiatáu yn unig fel arfer os yw’r parti anfodlon yn cynnig achos dadleuadwy bod y penderfyniad yn ddiffygiol, er enghraifft, ar unrhyw un o’r seiliau canlynol:

bod camgymeriad ffeithiol materol berthnasol wedi’i wneud wrth ddod i’r penderfyniad;

bod y penderfyniad yn anghyfreithlon (mae Ofcom wedi gweithredu y tu allan i’w bwerau neu fel arall wedi cymhwyso’r gyfraith yn anghywir, gan gynnwys Deddf Hawliau Dynol 1998);

mae’r penderfyniad yn cynnwys ymresymiad annigonol (mae’r rhesymau a roddir am y penderfyniad yn annigonol);

mae pwys gormodol neu annigonol wedi’i roi i ddarn neu ddarnau o dystiolaeth;

roedd methiant materol perthnasol i ddilyn gweithdrefnau amlinellol cyhoeddedig neu nid yw Ofcom fel arall wedi cynnal proses deg;

mae’r penderfyniad yn afresymol neu’n wrthnysig (ni allai unrhyw berson rhesymol fod wedi dod i’r penderfyniad).

Bydd y penderfyniad i ganiatáu adolygiad neu beidio yn cael ei wneud gan aelod uwch o’r Weithrediaeth nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol, a chaiff ei wneud fel arfer trwy gyfeirio’n unig at y sail dros adolygiad sy’n cael ei chynnig gan y person sydd wedi gwneud cais amdano. Gellir gofyn am gyngor gan gyfreithiwr Ofcom nad yw wedi’i benodi’n ymgynghorydd cyfreithiol ar yr achos yn flaenorol. Bydd rhesymau dros y penderfyniad yn cael eu rhoi i’r ddau barti.

Bydd unrhyw adolygiad a ganiateir yn cael ei gynnal gan y Pwyllgor Tegwch (gweler yr adran ar y Pwyllgor Tegwch isod). Fel arfer bydd y Pwyllgor Tegwch yn ail-ystyried yn unig yr elfennau hynny o’r penderfyniad dan adolygiad, ar y sail sy’n cael ei chynnig gan y parti a wnaeth gais am adolygiad. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau eithriadol lle bydd elfennau eraill o’r penderfyniad yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Tegwch i’w hadolygu. Mae penderfyniad y Pwyllgor Tegwch ar unrhyw Benderfyniad Ystyried neu ddyfarniad, a gyfeirir ato i’w adolygu, yn derfynol.

Os nad oes adolygiad o Benderfyniad Dros Dro yn cael ei ganiatáu, mae’r dyfarniad yn cael ei derfynu a chaiff ei anfon at y ddau barti.

Y Pwyllgor Tegwch

Bydd y Pwyllgor Tegwch yn ystyried achosion a gyfeirir ato gan y Weithrediaeth i wneud penderfyniad yn eu cylch, er enghraifft, am eu bod yn gymhleth (gweler y blwch testun isod i gael gwybodaeth am y Pwyllgor Tegwch).

Mae Bwrdd Ofcom wedi dirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Tegwch mewn perthynas â chwynion tegwch a phreifatrwydd.

Mae cylch gwaith y Pwyllgor Tegwch yn cynnwys:

a) penderfynu ynghylch pa un ai ystyried neu fwrw ymlaen ag ystyriaeth cwynion tegwch a phreifatrwydd lle mae penderfyniadau felly wedi’u cyfeirio ato gan yr Arweinydd Achos;

b) ystyried a dyfarnu ar g ŵ ynion tegwch a phreifatrwydd a gyfeirir ato gan yr Arweinydd Achos neu’r Grŵp Tegwch Gweithredol (er enghraifft, oherwydd eu cymhlethdod); ac,

c) adolygu Penderfyniad Ystyried neu Benderfyniad Dros Dro a wneir gan yr Arweinydd Achos neu’r Grŵp Tegwch Gweithredol lle mae’r naill neu’r llall neu’r ddau barti wedi paratoi achos i’r penderfyniad hwnnw gael ei adolygu (gweler yr adran ar “Adolygu Penderfyniad Gweithredol” uchod).

Mae’r Pwyllgor Tegwch yn cynnwys lleiafswm o dri aelod, bob un ohonynt wedi’u tynnu o’r Bwrdd Cynnwys. Caiff y Pwyllgor ei fynychu gan ymgynghorydd cyfreithiol, ac, fel sy’n briodol, unrhyw weithwyr eraill yn Ofcom. I gael mwy o wybodaeth am rôl y Pwyllgor Tegwch, cyfeiriwch at wefan Ofcom.

Bydd y Pwyllgor Tegwch yn gwneud penderfyniad, yn seiliedig ar gyflwyniadau’r ddau barti, mewn Cyfarfod Penderfynu.

Mewn rhai amgylchiadau gall Ofcom benderfynu cynnal gwrandawiad (gweler y blwch testun ar Wrandawiadau isod) cyn dod i benderfyniad, os yw Ofcom o’r farn y bydd gwrandawiad yn hyrwyddo’i ddealltwriaeth o’r achos. Er enghraifft, lle mae achos o wrthdaro buddiannau, neu ddiffyg eglurder yn y cyflwyniadau ysgrifenedig, sy’n debygol o gael eu datrys gan wrandawiad. Yn y gwrandawiad, bydd y partïon yn cael eu gwahodd i wneud sylwadau llafar. Fel arfer rhoddir rhybudd o bymtheg diwrnod gwaith i’r partïon am ddyddiad y gwrandawiad. Gall gwrandawiadau gael eu cynnal yn yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr, fel bo’n briodol.

Gwrandawiadau

Caiff gwrandawiadau eu cynnal yn breifat. Bydd cynrychiolydd o Ofcom yn gwneud nodiadau, ond ni fydd y gwrandawiadau’n cael eu recordio fel arfer. Gall bob un o’r partïon ddod ag unrhyw berson arall i’w gwrandawiad (fel arfer hyd at uchafswm o dri o bobl eraill). Dylid rhoi eu henwau, eu cysylltiad â’r achos a disgrifiad o’r rôl y bwriadant ei chwarae yn y gwrandawiad, i Ofcom o leiaf bum niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad. Rhaid hysbysu Ofcom hefyd os yw unrhyw berson sydd i fynychu gwrandawiad o dan 16 oed.

Y Cadeirydd fydd i benderfynu ynghylch y weithdrefn yn y gwrandawiad, ond fel arfer bydd fel a ganlyn:

• mae’r Cadeirydd yn esbonio’r gweithrediadau;

• mae’r achwynydd yn rhoi crynodeb byr o’i achos (hyd at 10 munud fel arfer);

• mae’r darlledwr yn rhoi crynodeb byr o’i achos (hyd at 10 munud fel arfer);

• gall y Pwyllgor Tegwch ofyn cwestiynau i’r darlledwr a/neu'r achwynydd;

• ar ddisgresiwn y Cadeirydd, gall y partïon ofyn cwestiynau i’w gilydd, ond drwy’r Cadeirydd yn unig;

• mae’r darlledwr wedyn yn gwneud datganiad terfynol byr (hyd at 5 munud fel arfer); ac,

• mae’r achwynydd wedyn yn diweddu gyda datganiad terfynol byr (hyd at 5 munud fel arfer).

Nid yw deunydd newydd yn cael ei dderbyn fel arfer yn y gwrandawiad. Bydd deunydd newydd sy’n cael ei dderbyn yn cael ei ystyried yn unig os:

ystyrir ei fod yn berthnasol i’r gŵyn; ac

os yw’n arwyddocaol o ran hyrwyddo dealltwriaeth Ofcom o’r gŵyn; ac

na ellid fod wedi’i gyflwyno’n rhesymol yn gynharach.

Y Cadeirydd fydd yn penderfynu ynghylch pa un a fydd deunydd felly’n cael ei dderbyn yn y gwrandawiad. Os oes deunydd newydd yn cael ei dderbyn bydd yn cael ei ddarparu i’r parti arall a fydd wedyn yn cael cyfle i gynnig sylwadau arno .

Yn y Cyfarfod Penderfynu neu’n dilyn y gwrandawiad, bydd y Pwyllgor Tegwch yn penderfynu os yw’r gŵyn yn cael ei chynnal, yn cael ei chynnal yn rhannol neu ddim yn cael ei chynnal.

Bydd Penderfyniad Dros Dro'r Pwyllgor Tegwch (neu’r Penderfyniad Ystyried) yn cael ei anfon at y ddau barti. Caniateir 10 diwrnod gwaith i gynnig sylwadau. Gall y naill barti neu’r llall godi anghywirdebau ffeithiol neu gamgymeriadau argraffyddol i’w hystyried gan y Pwyllgor. Hefyd, gall y naill barti neu’r llall dynnu i sylw’r Pwyllgor Tegwch bod y penderfyniad yn teilyngu ail-ystyriaeth yn eu barn hwy, er enghraifft, ar unrhyw rai o’r seiliau canlynol:

bod camgymeriad ffeithiol materol berthnasol wedi’i wneud wrth ddod i’r penderfyniad;

bod y penderfyniad yn anghyfreithlon (mae Ofcom wedi gweithredu y tu allan i’w bwerau neu fel arall wedi cymhwyso’r gyfraith yn anghywir, gan gynnwys Deddf Hawliau Dynol 1998);

mae’r penderfyniad yn cynnwys ymresymiad annigonol (mae’r rhesymau a roddir am y penderfyniad yn annigonol);

mae pwys gormodol neu annigonol wedi’i roi i ddarn neu ddarnau o dystiolaeth;

roedd methiant materol perthnasol i ddilyn gweithdrefnau amlinellol cyhoeddedig neu nid yw Ofcom fel arall wedi cynnal proses deg;

mae’r penderfyniad yn afresymol neu’n wrthnysig (ni allai unrhyw berson rhesymol fod wedi dod i’r penderfyniad).

Os teimla Ofcom bod pwynt wedi’i wneud sy’n faterol berthnasol i sylwedd y penderfyniad, yna bydd copi o unrhyw sylwadau felly yn cael ei roi i’r parti arall a fydd wedyn yn cael 10 diwrnod gwaith i gynnig sylwadau. Bydd y sylwadau hynny’n cael eu copïo i’r parti arall er gwybodaeth. Rhaid i unrhyw geisiadau am estyniad amser fod yn unol â pharagraff 1.16 uchod.

Bydd y Pwyllgor Tegwch yn ystyried pob gosodiad a sylw materol perthnasol cyn iddo derfynu’r dyfarniad (neu’r Penderfyniad Ystyried). Bydd dyfarniad terfynol (neu Benderfyniad Ystyried) y Pwyllgor Tegwch yn cael ei anfon at y ddau barti wedyn.

Dyfarniadau’n gyffredinol

(Y Pwyllgor Tegwch a’r Grŵp Tegwch Gweithredol)

Fel arfer bydd Ofcom yn cyhoeddi copi o’i ddyfarniad ar bob cwyn ym mwletin darlledu Ofcom ar ei wefan.

Os yw cwyn yn cael ei chynnal neu’i chynnal yn rhannol, yna gall Ofcom gyfarwyddo’r darlledwr hefyd i ddarlledu crynodeb o’i ddyfarniad. Rhoddir y cyfle i’r ddau barti gynnig sylwadau ar y crynodeb o’r dyfarniad.

Bydd Ofcom yn rhoi cyfarwyddyd felly fel arfer lle bu achos o dorri adrannau tegwch a/neu breifatrwydd Cod Darlledu Ofcom sydd wedi arwain at fuddiannau cyfreithlon yr achwynydd yn cael eu niweidio’n ddifrifol, ac mae’n ofynnol cael rhwymedi yn ychwanegol at gyhoeddiad ym mwletin darlledu Ofcom. Bydd unrhyw benderfyniad i gyfarwyddo yn adlewyrchu dyletswyddau Ofcom i fod yn gymesur, yn gyson ac wedi’i dargedu’n unig at achosion y teilyngir gweithredu arnynt, ym marn Ofcom.

Sancsiynau

Os cred Ofcom y gall dyfarniad tegwch a phreifatrwydd yn erbyn darlledwr gyfiawnhau ystyried sancsiwn statudol yn erbyn y darlledwr, (yn unol â meini prawf cyhoeddedig Ofcom ar gyfer ystyried sancsiynau), yna caiff yr achos ei gyfeirio yn ôl at Arweinydd Achos. Bydd y Weithdrefn Amlinellol ar gyfer Sancsiynau Statudol mewn Achosion Cynnwys yn gymwys wedyn (cyfeiriwch at wefan Ofcom i gael mwy o wybodaeth).

Lle mae’r gweithdrefnau amlinellol yn cyfeirio at “Arweinydd Achos/yr Arweinydd Achos” golyga Swyddog Gweithredol Rhaglen yn cael ei gyflogi yn adran Cynnwys a Safonau Ofcom sydd wedi’i neilltuo i achos penodol

Rhaid i recordiadau o raglenni radio gael eu cadw gan ddarlledwyr am 42 diwrnod ar ôl y darllediad. Rhaid i recordiadau o raglenni teledu gael eu cadw am 60 diwrnod ac eithrio yn achos BBC1, BBC 2, ITV1, Channel 4, Five ac S4C lle mae’n rhaid cadw recordiadau am 90 diwrnod.

Dylai darlledwyr fod yn ymwybodol bod gofyniad arnynt i sicrhau bod swyddogaethau Ofcom mewn perthynas â chwynion tegwch a phreifatrwydd yn cael eu dwyn i sylw’r cyhoedd. (Mae’r rhain yn cynnwys swyddogaethau sy’n galluogi achwynwyr i ofyn i Ofcom ystyried cwynion lle maent yn anfodlon ag ystyriaeth y darlledwr o’r gŵyn).

Mae adroddiad blynyddol Ofcom (sydd i’w weld ar wefan Ofcom) yn cynnwys dangosyddion perfformiad allweddol sy’n rhoi amserau cyfartalog arfer gorau ar gyfer cwblhau cwyn tegwch a/neu breifatrwydd.

Lle mae’r gweithdrefnau amlinellol yn cyfeirio at “y Weithrediaeth” mae’n golygu unrhyw aelod/au perthnasol o staff sy’n cael eu cyflogi yn adran Cynnwys a Safonau Ofcom.

Yn ychwanegol at y diwrnodau gwaith a roddir ar gyfer ymatebion, bydd dau ddiwrnod gwaith arall yn cael eu hychwanegu at yr holl derfynau amser y cyfeirir atynt yn y gweithdrefnau hyn ar gyfer eu derbyn drwy’r post.

Nid yw hyn yn gymwys i Benderfyniadau Ystyried.

Nid yw hyn yn gymwys i achosion sy’n cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Tegwch i’w hadolygu, gan fod y penderfyniadau hyn yn derfynol.

O dan adran 119 Deddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003) gall Ofcom rhoi cyfarwyddyd i ddarlledwr i gyhoeddi crynodeb o’i ddyfarniad mewn cyhoeddiad priodol yn ogystal.



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools