- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Codau a pholisïau > Cynllun Cydraddoldeb Anabledd
Cynllun Cydraddoldeb Anabledd
Rhagair gan y Cadeirydd
Nid yw ein ffyrdd o gyfathrebu â’n gilydd, yn unigol ac fel cymdeithas, erioed wedi bod yn fwy amrywiol. Mae technolegau cyfathrebu newydd yn parhau i ddod i’r amlwg, gan ddarparu mwy o ddewis a mwy o gyfle i ddefnyddwyr gael mynediad i adloniant a gwybodaeth ac i ryngweithio â’i gilydd. Ond nid yw cyfranogiad llawn yn cael ei roi i bawb; mae angen i ddarparwyr gwasanaeth a gweithgynhyrchwyr ystyried anghenion pobl anabl.
Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, mae gan Ofcom nifer o ddyletswyddau i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad teg i gyfathrebiadau electronig. Mae’r rhain yn cynnwys gosod a monitro targedau ar gyfer gwasanaethau mynediad teledu (is-deitlo, disgrifio clywedol ac arwyddo) ac annog argaeledd cyfarpar sy’n hawdd ei ddefnyddio. Mewn telegyfathrebiadau, rheoleiddiwn y gwasanaeth cyfnewid testun, sy’n galluogi pobl Fyddar a phobl sy’n clywed i gyfathrebu â’i gilydd. Hefyd, rydym yn gweithio â darparwyr telegyfathrebiadau i sicrhau bod gwasanaethau a thechnoleg telegyfathrebiadau newydd a phresennol yn hygyrch i bobl anabl.
Mae Pwyllgor Ymgynghorol Ofcom ar gyfer Bobl Hŷn ac Anabl yn rhoi cyngor i brif Fwrdd Ofcom i sicrhau bod polisïau ac arferion Ofcom yn ystyried barnau sy’n cael eu mynegi gan ddefnyddwyr hŷn a defnyddwyr anabl. Hefyd mae aelod anabl ar Banel Defnyddwyr annibynnol Ofcom ac mae Cadeirydd ein Panel Cronfa Radio Cymunedol yn anabl hefyd.
O’n rhan ni, mae Ofcom yn ymroddedig i adeiladu gweithlu cynhwysol ac amrywiol wrth recriwtio’r doniau gorau sydd ar gael. Hefyd, rydym yn ymroddedig i hyrwyddo cyfle cyfartal a pherthynas dda rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, ac nid ydym yn goddef gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail anabledd ac aflonyddu. Rhoddir gwerth ar amrywiaeth ymhlith ein gweithwyr.
Prif nod ein Cynllun Cydraddoldeb Anabledd yw sicrhau nad yw cydraddoldeb anabledd yn ddibynnol ar ymrwymiad nifer o unigolion ond yn hytrach ei fod yn rhan integredig lawn o’n busnes arferol o ddydd i ddydd. Fe’i seilir ar egwyddorion arfer gorau ac mae wedi’i lunio gan gynnwys pobl anabl o bob man ar draws y DU.
David Currie
Cadeirydd, Ofcom
Back to top