- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Gwybodaeth i ddefnyddwyr >
Amddiffyn ar-lein- Arolwg o ddefnyddwyr, y diwydiant a systemau a mecanweithiau reoleiddio
21 Mehefin 2001
Rhagair
Dros y degawd diwethaf, mae’r rhyngrwyd wedi tyfu yn rhan ganolog o fywyd diwylliannol ac economaidd llawer o bobl ledled y byd. Mae’n llwyfan pwerus ar gyfer dosbarthu gwasanaethau i’w cynulleidfaoedd bwriadedig, gan bontio’r byd, a chysylltu cynulleidfa fyd-eang â set o gynnwys a gwasanaethau yn cael eu darparu’n fyd-eang, ac â’i gilydd. Golyga hyblygrwydd y rhyngrwyd y bu’n beiriant ar gyfer arloesed, gan alluogi datblygu busnesau newydd a modelau busnes newydd, cynnwys newydd a gwasanaethau cyfathrebiadau newydd; a golyga ei natur agored ei fod wedi caniatáu i weithredwyr ar bob graddfa, o gwmnïau amlwladol i unigolion, i greu a chynnig cynnwys a gwasanaethau yn ogystal ag elwa arnynt. Ochr yn ochr â chyrhaeddiad byd-eang, natur agored a hyblygrwydd, mae llawer o sylwedyddion yn priodoli llwyddiant a phwysigrwydd y rhyngrwyd i raddfa gyfyngedig rheoleiddio gwasanaethau’r rhyngrwyd.
Mae rheoleiddio gwasanaethau’r rhyngrwyd yn destun dadlau rhyngwladol sylweddol. Mae defnyddwyr yn disgwyl cael eu hamddiffyn rhag twyll neu ffurfiau eraill ar niwed; ac maent yn disgwyl i’w plant gael eu hamddiffyn rhag cynnwys amhriodol. Hyd yn hyn, mae’r amddiffyniad hwn wedi cael ei ddarparu i raddau helaeth drwy fframwaith o reoleiddio statudol domestig a rhyngwladol sydd wedi bod yn esblygu am ddegawdau. Fodd bynnag, mae cyrhaeddiad byd-eang a natur agored y rhyngrwyd yn peri rhai problemau gwybyddus, na ellir mynd i’r afael â hwy trwy drosi pwerau a strwythurau presennol. Mae’r problemau hyn yn cynnwys argaeledd pornograffi ym mhobman ac argaeledd cynyddol delweddaeth anghyfreithlon (e.e. pornograffi treisiol, cam-drin plant), a mynediad haws i gynhyrchion a gwasanaethau sydd fel arall dan reolaeth lem, fel gamblo neu gyffuriau presgripsiwn.
Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, mae gan Ofcom arolygiaeth o’r marchnadoedd cyfanwerthu ac adwerthu ar gyfer cysylltedd y rhyngrwyd. Mae gennym ddyletswydd statudol yn ogystal i hyrwyddo llythrennedd y cyfryngau, rôl i annog cynulleidfaoedd i gysylltu â’r rhyngrwyd ac i’w helpu i ddeall sut i reoli’r risgiau y cânt eu hamlygu iddynt pan fyddant ar-lein. Mae gennym ddiddordeb clir felly i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed pan ddefnyddiant y rhyngrwyd. Ymhellach, cynigiodd drafft presennol Cyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled yr UE estyniad o fframwaith rheoleiddio tebyg i ddarlledu i gynnwys AV yn cael ei gyflwyno mewn ffyrdd eraill - a gall felly ofyn bod rheoleiddio cynnwys statudol yn cael ei gymhwyso i amrywiaeth eang o wasanaethau rhyngrwyd.
Adroddiad ymchwil yw’r ddogfen hon i gyfrannu at y ddadl ynghylch y ffyrdd mwyaf priodol o fynd i’r afael â heriau amddiffyn defnyddwyr, fel y rheiny a nodir uchod. Mae’n arolwg eang o brif faterion amddiffyn defnyddwyr y rhyngrwyd a’r ymagweddau cenedlaethol a rhyngwladol a fabwysiedir i fynd i’r afael â’r materion hynny ar draws y byd. Nid yw’n cynnwys argymhellion polisi, er y cynigiwn sylwadau ar lwyddiant amrywiol rhai o’r mentrau a fabwysiedir.
Gallwn ddysgu rhai gwersi cyffredinol o’r arolwg hefyd. Nid oes amheuaeth y bydd angen i ddefnyddwyr ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb pan gysylltant â gwasanaethau’r rhyngrwyd. Yn ail, bydd yr ystod eang o wasanaethau rhyngrwyd - o e-fasnach i VoD i e-bost - yn gofyn am set o atebion rheoleiddio eang a hyblyg. Nid oes yr un ateb i’r problemau sy’n cael eu creu yn sgil y rhyngrwyd. Fodd bynnag, mae llawer o ffactorau eisoes sy’n cyfrannu at amddiffyn defnyddwyr ar-lein, o gymhwyso’r gyfraith gyffredinol, i fentrau gan chwaraewyr unigol y rhyngrwyd a chyrff cyfunol y diwydiant fel yr Internet Watch Foundation.
Gobeithiwn y bydd y rheiny sydd â diddordeb ar draws y diwydiant, y llywodraeth a defnyddwyr yn ymateb i gyhoeddi’r adroddiad hwn gyda thrafodaeth barhaus ac agored ynghylch yr heriau sy’n cael eu creu yn sgil y rhyngrwyd. Wrth fynd i’r afael â hwy, bydd angen gydbwyso amddiffyn sicrwydd a diogelwch defnyddwyr â chadw potensial y rhyngrwyd fel llwyfan ar gyfer arloesed.
David Currie
Stephen Carter
Back to top