- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Gwybodaeth i ddefnyddwyr > Ymgeisyddion Gogledd Ddwyrain Cymru
Ymgeisyddion Gogledd Ddwyrain Cymru
Mae Ofcom wedi derbyn dau gais am y drwydded amlblecs radio digidol lleol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru a Gorllewin Swydd Gaer
Yr ymgeiswyr yw:
MuxCo Northeast Wales and West Cheshire Limited
96a Curtain Road, Llundain EC2A 3AA
Cyswllt: Gregory Watson, Ffôn: 07917 413700, E-bost: gregory@muxco.com
Cyfranddalwyr MuxCo Northeast Wales and West Cheshire yw:
Dee 106.3 Limited 25%
UTV Radio (GB) Limited 25%
Town & Country Broadcasting Limited 25%
MuxCo Limited 25%
Mae MuxCo Northeast Wales and West Cheshire Limited yn bwriadu darparu saith gwasanaeth rhaglen sain ddigidol leol, yn ychwanegol at BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, fel â ganlyn:
Disgrifiad o’r fformat |
Enw’r gwasanaeth |
Darparydd |
|---|---|---|
| Cyfoes | Marcher Sound | GCap Media plc |
| Aur | Classic Gold Marcher | GCap Media plc |
| Cyfoes | Dee 106.3 | Dee 106.3 Limited |
| Cerddoriaeth, siart a dawns newydd | 107.6 Juice FM | UTV Radio (GB) Limited |
| Hawdd | Easy Radio | Easy Radio Limited |
| Gwasanaeth llawn | Wales Live | Town & Country Broadcasting Ltd. |
| Amrywiaeth o pop a roc | Jack FM | Absolute Radio International Limited |
Mae MuxCo Northeast Wales and West Cheshire Limited yn bwriadu cychwyn ei wasanaeth gyda chwe gwasanaeth rhaglen sain ddigidol leol erbyn Awst 2008 gan ddefnyddio rhwydwaith o dri trosglwyddydd y mae’n amcangyfrif a fydd yn darparu darpariaeth ‘awyr agored’ i 96.1% o’r boblogaeth oedolion (15+ oed) o’r ardal sydd wedi’i thrwyddedu. Bydd un gwasanaeth rhaglen sain ddigidol leol pellach yn cael ei lansio o fewn naw mis o gychwyn y gwasanaeth amlblecs radio lleol.
Now Digital (North Wales, Wirral & Cheshire) Limited
GCap Media plc, 30 Leicester Square, Llundain WC2H 7LA
Cyswllt: Maha Jamil, Ffôn: 020 7054 8128, E-bost: maha.jamil@gcapmedia.com
Mae Now Digital (North Wales, Wirral & Cheshire) Limited yn is-gwmni sydd yn gyfan gwbl yn eiddo i GCap Media plc.
Mae Now Digital (North Wales, Wirral & Cheshire) Limited yn bwriadu darparu naw gwasanaeth rhaglen sain ddigidol leol, yn ychwanegol at BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, fel â ganlyn:
Disgrifiad o’r fformat |
Enw’r gwasanaeth |
Darparydd |
|---|---|---|
| Cyfoes Oedolion | Marcher Sound | GCap Media plc |
| Cyfoes Oedolion | Wirral's Buzz 97.1 | GCap Media plc |
| Gwasanaeth Lleol Llawn | Dee 106.3 | Dee 106.3 Limited |
| Roc, dawns a siart i ieuenctid | 107.6 Juice FM | UTV Radio (GB) Limited |
| Clasuron Poblogaidd | Classic Gold Marcher | GCap Media plc |
| Roc Modern | Xfm | GCap Media plc |
| Cyfoes Oedolion Gwasanaeth Llawn | Sunshine | Laser Broadcasting Limited |
| Crefyddol | UCB UK | UCB Limited |
| Traffig a Theithio lleol | Traffic Radio | Highways Agency |
Mae Now Digital Limited yn bwriadu cychwyn ei wasanaeth gyda’r naw gwasanaeth rhaglen sain ddigidol leol erbyn Medi 2008, gan ddefnyddio rhwydwaith o ddau drosglwyddydd y mae’n amcangyfrif a fydd yn darparu darpariaeth ‘awyr agored’ i 91.8% o’r boblogaeth oedolion (15+) o’r ardal sydd wedi’i thrwyddedu.
Bydd yr amlblecs radio lleol hwn yn cynnwys gallu wedi’i gadw ar gyfer darlledu BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru ar ffurf ddigidol.
Cyhoeddir y ceisiadau llawn ar gyfer y trwyddedau hyn ar wefan Ofcom cyn hir. Mae Ofcom yn gofyn am farn ar y ceisiadau hyn erbyn 17 Awst 2007. Gellir naill ai e-bostio unrhyw gynrychioliadau ysgrifenedig ar y ceisiadau i commercialradio@ofcom.org.uk neu eu postio at Neil Stock, Pennaeth Radio, Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, Llundain SE1 9HA. Nodwch yr ohebiaeth os gwelwch yn dda gyda 'Trwydded Gogledd Ddwyrain Cymru a Gorllewin Swydd Gaer'.
Newid i’r cais ar gyfer trwydded amlblecs radio lleol i Ogledd Orllewin Cymru a Gorllewin Swydd Gaer
Hysbysodd Now Digital (North Wales, Wirral & Cheshire) Ltd Ofcom, ar 7 Awst 2007, ei fod yn dymuno tynnu o’i gais y fformat ‘crefyddol’ arfaethedig o’r rhestr o wasanaethau. Roedd UCB UK, y darparydd arfaethedig ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi cynghori Now Digital nad oedd angen gofod bellach ar drwydded amlblecs lleol Gogledd Ddwyrain Cymru a Gorllewin Swydd Gaer
Mae Now Digital wedi methu â chael gafael ar ddarparydd arall ar gyfer ei fformat gwasanaeth crefyddol arfaethedig cyn y penderfyniad i ddyfarnu’r drwydded. O ganlyniad mae Now Digital yn cynnig darparu gwasanaeth rhaglen sain heb ei enwi yn ychwanegol at y gwasanaethau eraill a gynigir yn ei gais gwreiddiol. Mae Now Digital hefyd yn cynnig y bydd y gwasanaeth hwn heb ei enwi yn lansio o fewn blwyddyn o lansio’r gwasanaeth amlblecs, ac fe’i darlledir 24 awr y dydd ac ar raddfa bit dim is na’r hyn y cynigiwyd darlledu’r gwasanaeth crefyddol arno yn wreiddiol (64kb). Nid oes unrhyw newidiadau eraill i’r cais wedi’u cynnig.
Yng ngoleuni’r ffaith nad yw Now Digital wedi gallu cael gafael ar ddarparydd arall ar gyfer ei fformat crefyddol arfaethedig, mae Ofcom wedi derbyn newid Now Digital i’w gais. Mae Ofcom yn gofyn am farn ar y newid hwn erbyn Dydd Llun 3 Medi 2007. Gellir e-bostio unrhyw gynrychioliadau ysgrifenedig ar y ceisiadau i commercialradio@ofcom.org.uk neu eu postio i Neil Stock, Pennaeth Radio, Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, Llundain SE1 9HA. Nodwch yr ohebiaeth os gwelwch yn dda yn ‘Trwydded Gogledd Orllewin Cymru a Gorllewin Swydd Gaer'.
Back to top