- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Gwybodaeth i ddefnyddwyr >
Ail Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Teledu Gwasanaeth Cyhoeddus
1.1 Mae’r papur hwn yn nodi cylch gorchwyl ar gyfer ail adolygiad Ofcom o Ddarlledu Teledu Gwasanaeth Cyhoeddus (DGC).
Gorolwg o’r Prosiect
1.2 Yn unol â Deddf Cyfathrebiadau 2003 byddwn yn cynnal ein hail Adolygiad o Ddarlledu Teledu Gwasanaeth Cyhoeddus rhwng Medi 2007 ac yn gynnar yn 2009. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom gynnal adolygiad o’r fath unwaith bob pum mlynedd o leiaf. Mae’n ofynnol arnom adrodd ar y graddau y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cyflawni dibenion darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus a gwneud argymhellion gyda golwg ar gynnal a chryfhau ansawdd DGC yn y dyfodol.
1.3 Amcanion penodol yr Adolygiad hwn fydd:
- Gwerthuso pa mor effeithiol y mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn diwallu dibenion a nodweddion DGC, yn enwedig yng ngoleuni newidiadau yn y modd y mae cynnwys teledu yn cael ei ddarparu a’i ddefnyddio;
- Asesu’r achos dros ymyrraeth barhaus yng nghyflwyniad cynnwys teledu i sicrhau dibenion gwasanaeth cyhoeddus;
- Ystyried a ydy, a sut y mae dyfodiad dulliau newydd o gyflwyno cynnwys i ddefnyddwyr a dinasyddion yn mynd i greu cyfleoedd ar gyfer cyrraedd amcanion darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ogystal â chreu sialensiau newydd; ac
- Asesu dewisiadau yn y dyfodol ar gyfer cyllido, cyflwyno a rheoleiddio darlledu gwasanaeth cyhoeddus, yng ngoleuni’r sialensiau a’r cyfleoedd, a’r ansicrwydd ynglŷn â chynaladwyedd y modelau cyllido presennol.
Cefndir
1.4 Cynhaliom ein hadolygiad DGC cyntaf o 2003 i 2005. Cyhoeddwyd y trydydd cam a’r cam terfynol ar 8 Chwefror 2005. Cyhoeddwyd datganiad terfynol ar raglennu i’r Gwledydd a’r Rhanbarthau ym mis Mehefin 2005.
1.5 Daeth yr Adolygiad DGC cyntaf i’r casgliad:
- Roedd galw o hyd ymysg defnyddwyr a dinasyddion am DGC er y gall y ffyrdd y maent yn cael gafael ar, ac yn defnyddio cynnwys DGC newid;
- Ni fyddai’r farchnad yn diwallu holl ddibenion DGC hyd yn oed mewn amgylchedd hollol ddigidol;
- Ni fyddai’r model DGC masnachol presennol yn gynaliadwy ym myd aml-sianel gyfan;
- Dylai’r BBC barhau yn gonglfaen DGC ond ni ddylai fod yr unig ddarparydd;
- Roedd yn debygol y byddai angen am:
- Rolau newydd i ITV1 a Five; Rydym wedi dynodi’r blaenoriaethau fel parhad o gomisiynu a darlledu rhaglennu DU gwreiddiol ac (ar gyfer ITV1) parhau i ddangos newyddion cenedlaethol a rhyngwladol, materion cyfoes a newyddion rhanbarthol.
- Modelau cyllido newydd, yn enwedig i Channel 4 gan fydd ei model presennol yn debygol ddod o dan bwysau cynyddol; ac
- Ymyrraeth newydd i fynd i’r afael â diffygion yn y model DGC linellol presennol a gwasanaethu dibenion cyhoeddus mewn cyfryngau ar-lein a rhyngweithiol (trwy o bosibl gyfrwng cyhoeddwr gwasanaeth cyhoeddus ‘CGC’).
1.6 Dangosodd dadansoddiad yr Adolygiad DGC gyntaf y byddai’r modelau cyllido masnachol ar gyfer y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn anghynaladwy wedi’r newid i’r digidol. Byddai’r goblygiadau i’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei ariannu’n fasnachol yn dod yn gynyddol anghynaladwy, oherwydd byddai’r costau o gwrdd â hwy yn fwy na’r gwerth a’r buddiannau i ddarlledwyr o fynediad i sbectrwm analog prin. Dangosodd ein dadansoddiad na fyddwn, tu hwnt i’r newid i’r digidol yn gallu sicrhau darpariaeth oblygiadau’r darlledwyr masnachol ar yr un lefel ag o’r blaen.
1.7 Roedd y canfyddiadau yma’n cael ei gefnogi gan ein hadolygiad ariannol o Channel 4 yn 2006 - 2007. Roedd yr adolygiad yma yn dod i’r casgliad bydd Channel 4 yn debygol o wynebu pwysau ariannol cynyddol yn y tymor canolog a all gyfyngu ar ei allu i ddarparu ei gorchwyl wasanaeth cyhoeddus.
Back to top