- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Gwybodaeth i ddefnyddwyr >
Amserlen arfaethedig ar gyfer hysbysebu trwyddedau radio masnachol lleol analog newydd
Nodiadau:
- Mae’r holl drwyddedau isod yn cael eu cynnig dros dro ar gyfer defnydd amledd neu amleddau ar donystod FM (VHF).
- Mae unrhyw amleddau a nodir yn parhau’n amodol i gydlynu, a gall fod angen cyfyngiadau yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiadau a nodir isod.
- Rhaid i ymgeiswyr nodi, er mewn rhai achosion bod Ofcom yn ceisio clirio amleddau ar rai safleoedd darlledu, nid yw wedi ei gadarnhau a oes unrhyw gyfyngiadau ymarferol neu oblygiadau cost o ran defnyddio’r safleoedd hyn. Mater i’r ymgeiswyr eu hunain, os ydynt yn dymuno defnyddio’r safleoedd a enwir, yw trafod yr agweddau hyn gyda’r gweithredwyr safle perthnasol.
- Dylai ymgeiswyr nodi hefyd y gallant gynnig safleoedd ar wahân i’r rhai a enwir isod.
- Mae ffiniau technegol yr holl wasanaethau sydd yn bodoli ar gael ar wefan Ofcom yn : http://www.ofcom.org.uk/radio/ifi/rbl/engineering/
Medi 2006 - Diweddariad
Mae Ofcom yn ystyried hysbysebu hyd at ddwy drwydded radio masnachol FM newydd yn 2007 ar gyfer y rhan fwyaf o Ogledd a Chanolbarth Cymru flwyddyn nesaf, os fydd cytundeb rhyngwladol ar y defnydd o amleddau priodol.
Mae Ofcom felly yn croesawu barnau ar a ddylai fod un neu ddwy drwydded newydd ar gyfer y rhan fwyaf o Ogledd a Chanolbarth Cymru. Dylai darpar ymgeisyddion sydd a diddordeb cychwynnol (na fydd yn ymrwymo) gysylltu naill ai drwy e-bost at commercialradio@ofcom.org.uk neu Neil Stock, Pennaeth Cynllunio & Thrwyddedu Radio, Ofcom, Tŷ Riverside, 2a Heol Bont Southwark, Llundain SE1 9HA.
Tu hwnt i hyn, does dim bwriad gan Ofcom i hysbysebu am drwyddedau radio masnachol FM eraill am y tro.
| Dyddiad hysbysiad trwydded | Ardaloedd trwydded |
|---|---|
Rhestr Dermau
Cynnig Trosglwyddo
Lleoliad daearyddol arfaethedig ar gyfer trosglwyddydd gyda manylion am uchder ei erial, pŵer, polareiddio ac unrhyw nodweddion cyfeiriadol
Mwyafswm Pŵer Pelydriad Effeithiol
Mae erialau darlledu yn gwthio eu hynni allan yn hytrach nag i fyny. Nid yw’r pŵer y maent yn ei daflu allan yn aml yr un fath â’r pŵer y mae’r blwch darlledu yn ei anfon atynt hwy. Mae ‘Effeithiol’ yn gyfrwng i beirianwyr feintioli beth yn union sydd yn cael ei daflu allan, ac os yw’n erial cyfeiriadol yna mae’n cyflawni ei ‘Fwyafswm’ pelydriad i’r cyfeiriad hwnnw.
Polareiddio
Mae signalau radio yn dirgrynu naill ai yn fertigol, llorweddol neu weithiau’r ddau, yn dibynnu ar y modd y mae’r erial ddarlledu wedi ei gosod. Os yw wedi gosod yn fertigol (‘polareiddio’) yna mae rhaid gosod yr erial derbyn yn fertigol i gael y signal cryfaf; yn yr un modd yn y polareiddio llorwedd. Os defnyddir y ddau bolareiddio (polareiddio cymysg) yna gall yr erial derbyn fod naill ai’n fertigol, llorweddol neu ar ogwydd er mwyn cael signal. Mae’r rhan fwyaf o orsafoedd radio yn defnyddio erialau sydd naill yn fertigol neu y mae eu cydran fertigol o leiaf mor bwerus â’r un llorweddol.
Cryfder mae defnyddiadwy
Lefel y signal sydd ei angen fel bod y derbynnydd yn goresgyn unrhyw ymyrraeth gydag ardal gwasanaeth yr orsaf ac yn darparu sain o ansawdd da.
Ymyrraeth
Y diraddio a achosir gan un gwasanaeth i’r llall oherwydd eu bod yn defnyddio amleddau tebyg neu ochr yn ochr.
Ffiniau cliriad
Y set o fanylion a ddefnyddir i geisio cael cytundeb ar y defnydd o safle(oedd) darlledu ar gyfer gwasanaeth. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am leoliad, uchder erial, amledd etc. Caiff y manylion hyn eu dosbarthu i ddefnyddwyr eraill y sbectrwm radio o fewn y DU a thramor fel eu bod yn gallu asesu a allai’r cynnig effeithio ar y gwasanaethau y maent hwy yn eu gweithredu.
Back to top