- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Gwybodaeth i ddefnyddwyr >
Gwahoddiad ar gyfer ceisiadau am drwyddedau radio cymunedol
Mae Ofcom, yn unol ag adran 104(1) o Ddeddf Darlledu 1990 (fel y’i diwygiwyd gan Y Ddeddf Gyfathrebiadau 2003 ac fel y’i newidiwyd gan Orchymyn Radio Cymunedol 2004), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer trwyddedau i ddarparu gwasanaethau radio cymunedol mewn lleoliadau o fewn de orllewin Lloegr (a ddiffinnir fel siroedd Cernyw, Dyfnaint, Gwlad yr Haf, Dorset, Wiltshire, Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd, yn cynnwys ardaloedd Awdurdodau Unedig Plymouth, Torbay, Poole, Bournemouth, Gogledd Gwlad yr Haf, Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf, Dinas Bryste, De Swydd Gaerloyw a Swindon) a de/canolbarth Cymru (a ddiffinnir fel pob rhan o Gymru i’r de o linell a dynnwyd rhwng lle y mae Ceredigion yn ffinio gyda Gwynedd a lle mae Powys, Swydd Amwythig a Swydd Henffordd yn cyfarfod). Dangosir y rhan hwn o’r Deyrnas Unedig fel Ardal 1 ar y map yn Atodiad 4 i’r hysbysiad hwn. Cynigir y trwyddedau hyn am ddarparu gwasanaethau ar naill ai donystod FM (VHF) neu donystod AM (canolig) am uchafswm cyfnod o bum mlynedd o ddechrau darlledu.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi’u cwblhau bydd 5.00pm ar ddydd Mawrth 7 Tachwedd 2006. Bydd ffi o £600 yn daladwy am bob cais a gyflwynir. Ni chaiff y ffi hon ei ad-dalu o dan unrhyw amgylchiadau.
- Ffurflen gais trwydded radio cymunedol [pdf]
-
Gwahoddiad ar gyfer ceisiadau am drwyddedau radio cymunedol
[pdf]
Atodiad 2 wedi’i diweddaru 26 Hydref 2006
Back to top