Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Gwybodaeth i ddefnyddwyr > 


Y Farchnad Gyfathrebiadau 2006 - Trosolwg

Cyflwyniad

Dyma’r trydydd adroddiad mewn cyfres o adroddiadau blynyddol y Farchnad Gyfathrebiadau, y cyhoeddwyd y diweddaraf ohonynt ym mis Awst 2005. Mae’r rhifyn hwn yn ymdrin â datblygiadau ar draws y sectorau cyfathrebiadau electronig a’r cyfryngau yn y DU ar gyfer blwyddyn galendr 2005 gyda dadansoddiad ychwanegol ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mehefin 2006 lle bo hynny ar gael.

Mae’r Farchnad Gyfathrebiadau yn cefnogi nod Ofcom i ddarparu’r ymchwil orau yn y dosbarth y mae gan randdeiliaid fynediad rheolaidd ati. Mae’n anelu at roi darlun cynhwysfawr o’r sectorau radio, telathrebiadau a theledu, gyda chrynodeb o’r datblygiadau diweddar a’r data diweddaraf sydd ar gael ar:

Mae’r rhifyn hwn yn dilyn blwyddyn lle mae defnyddwyr wedi dechrau teimlo effaith gwasanaethau cyfathrebiadau ‘cydgyfeiriedig’. Ar lefel dyfais, gall galwadau ffôn bellach gael eu gwneud dros y rhyngrwyd tra bod modd cael mynediad at y rhyngrwyd trwy ddefnyddio setiau llaw symudol; yn yr un modd gellir mwynhau rhaglenni teledu a radio bellach dros fand eang a ffonau symudol ill dau. Yn ogystal, ar lefel gweithredwr, mae’r gwahaniaeth rhwng ‘darlledwr’, ‘gweithredwr symudol’, a darparwr ‘llinell sefydlog’ neu ‘fandeang’ yn pylu - ym mhob achos mae yna enghreifftiau o chwaraewyr y diwydiant yn ‘bwndelu’ gwasanaethau gyda’i gilydd mewn ffyrdd arloesol, mewn ymgais i ddenu a chadw cwsmeriaid.

Tra bod yr adroddiad hwn yn cynnwys adrannau ar wahân ar gyfer y sectorau radio, telathrebiadau a theledu, gellir dod o hyd i ddisgrifiadau o wasanaethau cydgyfeiriedig mewn mwy nag un adran - er enghraifft mae’r treialon diweddar o radio a theledu i ffonau symudol yn cael eu cynnwys ymhob un o’r tri. Ym mhob achos, ceisiwn edrych ar wasanaethau felly o safbwynt gwahanol. Mewn adroddiadau yn y dyfodol, wrth i wasanaethau gyfuno ymhellach, byddwn yn anelu at gyflwyno’n dadansoddiad mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r ffordd y cânt eu cynnig a’u defnyddio yn fwy agos.

Mae Ofcom yn croesawu sylwadau ar gynnwys ac arddull yr adroddiad i’r Farchnad Gyfathrebiadau i helpu llywio cyhoeddiadau’r dyfodol. Dylid anfon awgrymiadau ac ymholiadau at: market.intelligence@ofcom.org.uk.

Nid yw’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn cynrychioli unrhyw gynnig neu gasgliad gan Ofcom mewn perthynas â’r diffiniad o farchnadoedd ar hyn o bryd neu yn y dyfodol a/neu asesu ceisiadau am drwyddedau neu rym sylweddol y farchnad neu sefyllfa gryfaf at ddibenion Deddf Cyfathrebiadau 2003, Deddf Cystadleuaeth 1998 neu unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall. Ymdrechwn i sicrhau mai’r data yn yr adroddiad hwn yw’r data mwyaf cywir sydd ar gael ar hyn o bryd.



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools