Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > Adroddiad Blynyddol DGC


Adroddiad Blynyddol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus Ofcom

22 Mawrth 2007

I’w rhyddhau ar unwaith

22 Mawrth 2007

Ofcom yn lansio adroddiad blynynddol darlledu gwasanaeth cyhoeddus

Heddiw cyhoeddodd Ofcom ei Adroddiad Blynyddol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, sy’n asesu apêl ac effeithiolrwydd darlledu gwasanaeth cyhoeddus (DGC) yn y DU.

Mae’r Adroddiad yn darparu tystiolaeth annibynnol fel cyd-destun ar gyfer datganiadau polisi rhaglenni darlledwyr ac adolygiadau hunan asesu darlledwyr, a gyhoeddir heddiw hefyd.

Yn ôl Adran 264 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 mae’n ofynnol i Ofcom asesu’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus dynodedig, gyda’i gilydd, o ran eu cyflwyniad o ddibenion gwasanaeth cyhoeddus a nodir yn y Ddeddf. Y darlledwyr DGC dynodedig yw’r BBC, ITV1, GMTV, Channel 4, Five, S4C a Teletestun.

Yn ei adolygiad o’r farchnad darlledu GC yn 2004, sefydlodd Ofcom ddiffiniad newydd o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn seiliedig ar nifer o ddibenion a nodweddion craidd, yn gysylltiedig â dibenion DGC y Ddeddf Cyfathrebiadau.

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn darparu tystiolaeth o’r hyn a ddangoswyd gan y darlledwyr ar y sgrin ers 2002; sut y mae gwylio wedi newid dros y cyfnod hwn; a barn am y raglenni gyfredol. Mae hefyd yn adrodd am ganlyniadau blwyddyn gyntaf Olrheiniwr DGC Ofcom, sydd yn gofyn i tua 7,500 o wylwyr i ba raddau y maent yn credu y mae darlledwyr wedi cyflawni dibenion a nodweddion DGC.

Ymhlith y pwyntiau allweddol:

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos fod:

Mae’r Adroddiad Blynyddol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ar gael yn www.ofcom.org.uk ynghyd â’r cysylltiadau i datganiadau polisi rhaglenni ac adolygiadau hunan asesu pob darlledwr.

Diwedd



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools