Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > Adolygiad


Adolygiad o Wasanaethau Mynediad i Deledu

Adran 1

Crynodeb

Cefndir

1.1 Ym mis Mawrth 2006, gwahoddodd Ofcom sylwadau ar ei adolygiad o’r Cod Ar Wasanaethau Mynediad i Deledu a chynigiodd Ganllawiau newydd ar wasanaethau mynediad (is-deitlo, iaith arwyddion a disgrifiad sain) ar gyfer pobl â nam ar eu clyw a/neu ar eu golwg i ddisodli’r rhai a etifeddwyd gan y Comisiwn Teledu Annibynnol [(-1-)]. Caewyd yr ymgynghoriad ar 8 Mehefin 2006.

Prif gasgliadau

1.2 Cyhoeddwyd ymatebion nad ydynt yn gyfrinachol ar ein gwefan [(-2-)] , ac fe’u crynhoir yn adran 2. Rydym wedi cymryd yr holl ymatebion i ystyriaeth wrth ffurfio’n casgliadau, a nodir yn fanwl yn adran 2.

1.3 Yn gryno, o ran y Cod ar Wasanaethau Mynediad i Deledu, casglodd Ofcom y canlynol:

  1. mae’r dull presennol ar gyfer dewis pa sianelau a ddylai ddarparu gwasanaethau mynediad i’r teledu yn parhau’n briodol, ac y dylid cadw trothwy cyfran y gynulleidfa o 0.05% ar gyfer pennu pa sianelau a ddylai ddarparu is-deitlo a disgrifiad sain, er gwaetha’r ffaith y byddai hyn yn golygu na fyddai’n ofynnol i unrhyw sianelau sydd wedi’u hanelu at leiafrifoedd ethnig ddarparu gwasanaethau mynediad [(-3-)]. Dylid cadw’r terfyn presennol ar wariant o 1% o drosiant perthnasol;
  2. dylid diwygio’r Cod i wneud yn glir bod refeniw’r sianelau sy’n rhannu mwyafrif y berchnogaeth yn cael eu hystyried gyda’i gilydd os oes angen wrth asesu a yw targedau yn fforddiadwy, ac os felly, pa lefel o ddarpariaeth gwasanaeth mynediad ddylai fod yn berthnasol; a
  3. dylai adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer darparu iaith arwyddion ar y teledu, i weld a oes ffyrdd gwell o fodloni anghenion pobl sy’n defnyddio iaith arwyddion. Mae Ofcom wedi cynnal trafodaethau gyda sefydliadau anabledd a darlledwyr, ac mae disgwyl iddo ymgynghori ar unrhyw drefniadau gwahanol a allai gael eu cynnig tua diwedd y flwyddyn.

1.4 Casglodd Ofcom hefyd y byddai’n rhy gynnar i wneud unrhyw argymhellion i’r Llywodraeth am newidiadau i’r cwota statudol am ddisgrifiad sain, hyd nes i ymwybyddiaeth gael ei wella a lefel y defnydd ymhlith buddiolwyr posibl ddod yn gliriach. Disgwyliwn edrych ar y sefyllfa eto tua diwedd 2007.

1.5 Yn ogystal, ceisiodd Ofcom safbwyntiau ar Ganllawiau cyfunol drafft ar sut y dylid darparu is-deitlo, iaith arwyddion a disgrifiad sain. Nodir fersiwn derfynol y Canllawiau yn Atodiad 2 y ddogfen hon, a bydd yn ffurfio Atodiad 2 i’r Cod ar Wasanaethau Mynediad i Deledu.

1.6 Casglodd Ofcom, mewn perthynas ag iaith arwyddion, y dylai delwedd yr arwyddwr ddefnyddio arwynebedd o nid yn llai nag un rhan o chwech o’r llun, a dylai rhaglenni gydag iaith arwyddion hefyd gael eu his-deitlo.

1.7 Mewn perthynas ag is-deitlo, casglodd Ofcom y dylid cadw’r gofyniad presennol ar gyfer lliwiau gwahanol i ddynodi siaradwyr gwahanol. Bydd yr arweiniad yn darparu ar gyfer mwyafswm cyflymder ar gyfer rhaglenni a recordiwyd ymlaen llaw yn yr ystod rhwng 160 -180 gair y funud, ond ar sail ymarferoldeb ni fydd yn nodi cyfyngiad ar gyfer rhaglenni byw. Mae’r arweiniad yn gofyn i ddarlledwyr ystyried anghenion y cynulleidfaoedd targed ar gyfer rhaglenni plant wrth bennu cyflymder a chynnwys is-deitlo. Dylai is-deitlau ar wasanaethau daearol digidol diffiniad safonol fod nid yn llai nag 20 llinell teledu ar gyfer priflythyren ‘V’, i gynnwys yn unig y llinellau hynny ar dop ac ar waelod pob llythyren sy’n cynnwys picseli sydd o leiaf 50% yn oliwiedig.

Ffurfiau dogfennau

1.8 Rhoddwyd copi o’r ddogfen hon ar ffurf sy’n addas i ddarllenwyr sgrin ar wefan Ofcom. Gall Ofcom hefyd ddarparu dogfennau i unigolion ar ffurfiau gwahanol (e.e. Braille, tâp sain neu brint mawr) ar gais. Gallwn hefyd ddarparu cyfieithiadau o ddogfennau i ieithoedd eraill. I ofyn am fersiynau ansafonol o ddogfennau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Ofcom yn contact@ofcom.org.uk , trwy ffonio 0845 456 3000 neu 020 7981 3040, neu drwy’r ffôn testun ar 0845 456 3003. Sylwer y bydd yr amser y mae ei angen i gynhyrchu dogfen ar ffurf wahanol yn dibynnu ar hyd y ddogfen.

Troedyn:

1.- Adolygiad o Wasanaethau Mynediad i Deledu ( http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/accessservs/)

2.-Ymatebion i’r Adolygiad Gwasanaethau Mynediad Teledu ( http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/accessservs/responses/)

3.-Mae darparu iaith arwyddion yn cael ei adolygu ar wahân.


Back to top Back to top

Related Items