- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > Cynllun Cydraddoldeb Rhyw
Cynllun Cydraddoldeb Rhyw
Mae’r Swyddfa Gyfathrebiadau, Ofcom, yn gyfrifol am reoleiddio ar draws yr amrediad o gyfathrebiadau electronig, yn cynnwys teledu, radio, telegyfathrebiadau a defnydd sbectrwm. Mae gennym ddyletswyddau statudol yn deillio o Ddeddf Gyfathrebiadau 2003, yn ogystal ag o ddeddfwriaeth a rheoliadau eraill y DU ac UE.
Mae’r dyletswyddau statudol hynny yn cynnwys rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006 sydd â’r diben o hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da rhwng menywod a dynion. Fel cyflogwr, mae Ofcom yn ymrwymedig hefyd i adeiladu a chynnal amgylchedd lle na chaiff wahaniaethu ac aflonyddu ei ddioddef a lle mae amrywiaeth ymysg cydweithwyr yn cael ei werthfawrogi.
Mae’r ymrwymiadau hyn yn ganolog i waith Ofcom. Rhaid i ni geisio sicrhau eu bod yn cael eu hintegreiddio i’r modd y mae Ofcom yn gweithio, yn ein gweithle ein hunain ac wrth gyflawni ein dyletswyddau fel y rheoleiddiwr statudol.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Rhyw ddrafft hwn - a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer ymgynghori cyhoeddus - wedi’i lunio yn unol â gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb. Nod Ofcom yw cymhwyso ei bolisïau, yn unol ag ysbryd a llythyren y gyfraith, i amddiffyn menywod a dynion yn erbyn gwahaniaethu ar sail ryw a sicrhau cydraddoldeb rhyw ymysg cydweithwyr Ofcom a’r sector yn gyffredinol.
David Currie
Cadeirydd
Back to top