- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > Y Farchnad Gyfathrebiadau
Datganiad ar oblygiadau polisi sy'n codi o'r Farchnad Gyfathrebiadau: Cenhedloedd a Rhanbarthau
Rhagair
Cefndir
1.1 Mae Ofcom yn cynnal ymchwil barhaus i’r marchnadoedd mae’n eu rheoleiddio. Ym mis Ebrill 2006, cyhoeddodd Ofcom gyfres o adroddiadau ymchwil ar y Farchnad Gyfathrebu i Genhedloedd a Rhanbarthau’r DU (‘yr Adroddiadau Ymchwil’).
1.2 Mae’r Adroddiadau Ymchwil yn archwilio argaeledd, y nifer sy’n cofrestru ar gyfer y rhyngrwyd ac yn ei defnyddio, telegyfathrebu a gwasanaethau darlledu. Maent yn cymharu canfyddiadau ledled Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a naw Rhanbarth Lloegr ymysg defnyddwyr a busnesau bach a chanolig (BBCh).
1.3 Gwnaed yr ymchwil i ymdrin ag adborth gan randdeiliaid y dylai gwaith Ofcom gymryd i ystyriaeth y gwahaniaethau rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU. Mae’r prosiect yn gyson â dyletswyddau Ofcom o dan Ddeddf Gyfathrebiadau 2003 i sicrhau argaeledd ystod eang o wasanaethau cyfathrebu electronig ledled y DU, gan roi ystyriaeth i rannau gwahanol y DU ac ardaloedd gwledig a threfol.
1.4 Casglwyd y rhan fwyaf o’r data yn yr Adroddiad Ymchwil o’r ymchwil a wnaed yn ystod ail hanner 2005, gan gynnwys arolwg olrhain preswyl Ofcom, Archwiliad Llythrennedd y Cyfryngau a data gweithredwyr ar gyfer ffonau symudol, llinell danysgrifio Ddigidol (LlDDd) a chyrhaeddiad cebl.
1.5 Mae’r datganiad hwn yn nodi’r materion polisi a godwyd gan yr ymchwil, a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r canfyddiadau hynny a gyhoeddwyd ym mis Ebrill. Gellir dod o hyd i’r Adroddiadau Ymchwil ar wefan Ofcom ar: http://www.ofcom.org.uk/research/cm/nations/.
Diben y datganiad hwn
1.6 Nod y datganiad hwn yw nodi’r materion polisi a godwyd gan yr ymchwil, lle mae gan Ofcom rôl i’w chwarae o ran ymdrin â’r materion polisi a godwyd a’r goblygiadau i waith presennol Ofcom a’i waith cynlluniedig. Nodwn hefyd rôl a mentrau perthnasol diwydiant a rhanddeiliaid eraill a’r llywodraeth wrth ymdrin â’r materion polisi a godwyd.
1.7 Cynhaliodd Ofcom gyfres o seminarau yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau gyda’r llywodraeth, sefydliadau defnyddwyr a rhanddeiliaid o fyd diwydiant fel fforwm i drafod canfyddiadau’r ymchwil. Trafodwyd yr ymchwil hefyd â Phanel Defnyddwyr Ofcom a phwyllgorau ymgynghorol cenedlaethol Ofcom. Mae’r datganiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y gweithdai a’r trafodaethau hynny ac rydym yn asesu goblygiadau’r ymchwil i waith presennol a gwaith cynlluniedig Ofcom, gan gymryd materion a godir i ystyriaeth. Gellir dod o hyd i grynodeb o’r adborth o’r gweithdai rhanddeiliaid yn Atodiad 1.
Sut i ddefnyddio’r datganiad hwn
1.8 Mae canfyddiadau’r ymchwil yn dangos na ellir esbonio gwahaniaethau mewn argaeledd, nifer sy’n derbyn a nifer sy’n defnyddio gwasanaethau cyfathrebu gan ddefnyddio un newidyn yn unig, ond maent yn ganlyniad i gyfuniad o sawl ffactor gwahanol, gan gynnwys: proffil economaidd-gymdeithasol unigolion; p’un a ydynt yn byw mewn ardal drefol neu wledig; eu hoedran; eu hagweddau at dechnoleg gyfathrebu a’r rhan o’r wlad y maent yn byw ynddi.
1.9 Mae llawer o ganfyddiadau allweddol yr ymchwil yn adlewyrchu pwysigrwydd ffactorau gyffredinol daearyddol ac economaidd-gymdeithasol, yn enwedig o ran argaeledd a nifer sy’n derbyn gwasanaethau. Er bod gan y rhain effaith wahanol yn ôl cenedl a rhanbarth oherwydd nodweddion economaidd-gymdeithasol a daearyddol gwahanol y cenhedloedd a’r rhanbarthau hynny, maent yn gymwys ledled y DU.
1.10 Gan adlewyrchu’r canfyddiadau hyn, mae Adrannau 3 a 4 o’r datganiad hwn yn trafod y materion polisi a nodwyd gan yr ymchwil sy’n ystyriaethau i’r DU gyfan.
1.11 Fodd bynnag, mae’r ymchwil hefyd yn datgelu nifer o ardaloedd lle na ellir esbonio gwahaniaethau mewn argaeledd, nifer sy’n derbyn a nifer sy’n defnyddio gwasanaethau cyfathrebu gan ffactorau gyffredinol daearyddol ac economaidd-gymdeithasol yn unig, a lle mae nodweddion cenedlaethol a rhanbarthol yn bwysig.
1.12 Mae Adrannau 5 – 8 yn pennu’n fanylach y materion polisi fel y maent yn gymwys i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau. Nid yw’r adrannau hyn yn ceisio ailadrodd dadansoddiad o’r materion polisi sy’n gymwys ledled y DU, ond maent yn nodi’r materion polisi fel y maen nhw’n gymwys i genedl neu ranbarth, adborth rhanddeiliaid ar y materion polisi hynny ac unrhyw faterion sy’n benodol i genhedloedd neu ranbarthau unigol nad ydynt wedi’u nodi mewn dadansoddiad y DU-gyfan.
Camau nesaf
1.13 Mae Ofcom o’r farn bod Adroddiadau Ymchwil yn adnodd gwerthfawr i Ofcom, llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a lleol a rhanddeiliaid eraill, i helpu i deilwra eu hymagwedd at wahaniaethau cenedlaethol a rhanbarthol o ran argaeledd, nifer sy’n derbyn a nifer sy’n defnyddio gwasanaethau cyfathrebu.
1.14 Bwriad Ofcom yw ailadrodd ei ymchwil ar y cenhedloedd a’r rhanbarthau yn 2007 ac yn rheolaidd wedi hyn. Byddwn hefyd yn parhau i ymwneud â llywodraeth genedlaethol a rhanbarthol ar faterion a godwyd sydd y tu allan i gylch gwaith Ofcom ond a allai haeddu ystyriaeth bellach.
1.15 Byddwn yn datblygu llawer o agweddau ar y materion polisi a godir yn y datganiad hwn mewn prosiect newydd ar Gynhwysiad Digidol, a fydd yn archwilio pwysigrwydd gwasanaethau cyfathrebu i gynhwysiad cymdeithasol ac economaidd, y rhwystrau i dderbyn y mae llawer o gwsmeriaid yn eu dioddef, a sut y gellir ymdrin â’r rhain.
-
Datganiad ar oblygiadau polisi sy’n codi o’r Farchnad Gyfathrebiadau: Cenhedloedd a Rhanbarthau
[pdf]
12 Hydref 2006
Back to top