Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > 


Dyfodol Radio

Mae Ofcom wedi cyhoeddi ddogfen drafod ar ddyfodol rheoleiddio a thrwyddedu yn y sector radio.

Mae hyn yn cynrychioli’r cam cyntaf yng ngwaith Ofcom i fynd i’r afael â nifer o sialensiau technolegol, rheoleiddiol a refeniw sydd yn wynebu’r diwydiant radio. Mae’r ddogfen drafod yn nodi meysydd lle y gellid efallai ystyried newidiadau yn y dyfodol ac yn gofyn am farn rhanddeiliaid ar yr asesiad hwn.

Mae’r materion dan asesiad yn cynnwys:

• cystadleuaeth gan dechnolegau eraill fel podgastio yn cyflwyno her gynyddol i’r diwydiant radio er gwaethaf diddordeb parhaol gwrandawyr mewn cynnwys lleol a gyflwynir dros yr awyr;

• hysbysebion radio yn arafu wrth i hysbysebwyr droi at hysbysebu ar y rhyngrwyd ac

• radio digidol yn cymryd canran cynyddol o wrando radio gan gynyddu’r pwysau ar orsafoedd lleol.

Mae Ofcom wedi nodi meysydd penodol lle y gall fod angen ystyried newidiadau. Mae’r rhain yn cynnwys:

• a oes angen rhwymedigaethau rheoleiddiol cyfredol o hyd, fel Fformat radio – sydd yn nodi yn fanwl y math o raglennu a faint o ddeunydd lleol y bydd yn ymrwymo i’w ddarlledu – er mwyn sicrhau bod gwrandawyr yn elwa oddi wrth amrediad eang o wasanaethau;

• y ffordd orau o sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf yn y defnydd o sbectrwm cyn dechrau ar y broses ail drwyddedu ar gyfer trwyddedau radio masnachol analog. Dros amser gallai agwedd mwy hyblyg arwain at ryddhau sbectrwm analog (FM ac AM) ar gyfer defnyddiau eraill, yn cynnwys darlledu digidol;

• y potensial i ddisodli trwyddedau cyfredol AM wrth iddynt ddirwyn i ben gyda gwasanaethau DRM (Digital Radio Mondiale) sydd yn defnyddio sbectrwm Tonfedd Ganolig i ddarlledu’n ddigidol;

a oes angen cymryd camau i sicrhau darpariaeth barhaus gwasanaethau radio lleol ar amlblecsau DAB lleol wrth i wrando analog ddirywio; ac

• a ddylid ystyried unrhyw newidiadau i’r rheolau perchnogaeth ar gyfer radio lleol gwasanaethau analog a digidol, amlblethiadau radio a thraws gyfryngau lleol?

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 14 Rhagfyr 2006. Yn amodol i ymatebion, bydd Ofcom yn datblygu cynigion manwl i’w nodi mewn ymgynghoriad y flwyddyn nesaf.



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools