- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau >
Sianeli teledu y mae’n ofynnol iddynt ddarparu gwasanaethau mynediad teledu yn 2007
18 Gorffennaf 2006
Yn ôl Deddf Cyfathrebiadau 2003 mae’n ofynnol i Ofnom gyhoeddi côd yn nodi rhwymedigaethau sianeli teledu wedi’u trwyddedu yn y DU i ddarparu gwasanaethau mynediad teledu. Yn dilyn ymgynghori cyhoeddodd Ofnom y Côd ym mis Gorffennaf 20041 ynghyd â datganiad esboniadol yn nodi pa sianelau fyddai’n gorfod darparu gwasanaethau o’r fath yn y flwyddyn ganlynol. Gellir cael copi o’r fersiwn gyfredol o’r Côd, yn ymgorffori’r newidiadau a wnaethpwyd ers cyhoeddi’r Côd i ddechrau yn http://www.ofcom.org.uk/tv/ifi/codes/ctas/ctas.pdf.
Mae’r Côd hefyd yn darparu ar gyfer adolygiad canol blwyddyn o gyfran y gynulleidfa a refeniw sianeli teledu wedi’u trwyddedu yn y DU yn seiliedig ar ddata ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Dibenion yr adolygiad yw sefydlu a ddylai sianeli, yn y flwyddyn galendr nesaf
- ddarparu gwasanaethau mynediad teledu;
- diwallu Lefel wahanol o ddarpariaeth; neu
- cael eu heithrio o’r gofyniad i ddarparu gwasanaethau mynediad teledu
O ganlyniad i’r adolygiad hwn bydd yn ofynnol i 91 sianel ddarparu gwasanaethau mynediad teledu yn 2006, o’i gymharu â 76 yn ystod 2006. Mae’r sianeli sydd yn gorfod darparu gwasanaethau mynediad am y tro cyntaf yn cynnwys ABC1, Toonami, Boomerang, Nick Junior, Nick Toons, National Geographic,Magic, Kiss, Kerrang a Smash Hits. Bydd yn ofynnol i nifer o sianeli oedd yn gorfod darparu gwasanaethau mynediad cyn hyn ar Lefelau Dau neu Dri yn gorfod darparu gwasanaethau mynediad ar lefel uwch yn cynnwys y rhai a weithredir gan Discovery a Flextech. Ni fydd yn ofynnol i rai sianeli ddarparu gwasanaethau mynediad o ddiwedd 2005, yn cynnwys Disney Toon a Sky Box Office. Ceir crynodeb o’r adolygiad hwn yn y tabl sydd ynghlwm â’r datganiad hwn.
Mae copi o’r ddogfen hon mewn ffurf sydd yn addas ar gyfer ei ddefnyddio gan ddarllenwyr sgrin wedi’i osod ar wefan Ofcom. Gall Ofcom hefyd ddarparu dogfennau i unigolion ar ffurfiau eraill (e.e. Braille, tâp sain neu brint bras) yn ôl y gofyn. Gallwn hefyd ddarparu cyfieithiadau o ddogfennau i ieithoedd ar wahân i Saesneg. I ofyn am fersiynau nad ydynt yn safonol o’r dogfennau cysylltwch os gwelwch yn dda â Chanolfan Gyswllt Ofcom yn contact@ofcom.org.uk, ar y ffôn ar 0845 456 neu 020 7981 3554, neu trwy ffôn testun ar 0845 456 3003. Noder os gwelwch yn dda y bydd yr amser angenrheidiol i gynhyrchu dogfen ar ffurf arall yn dibynnu ar hyd y ddogfen
1 Côd ar Wasanaethau Mynediad Teledu: Datganiad Ofcom 26 Gorffennaf 2004
http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/tvaccessservices/statement2/statement.pdf
- Mynediad i Deledu [pdf]
Back to top