- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > Newyddion Newydd, Newyddion y Dyfodol
Newyddion Newydd, Newyddion y Dyfodol
Crynodeb Gweithredol
Cyflwyniad
1.1 Mae’r ffordd y mae newyddion yn cael ei wneud a’i ddefnyddio yn newid ar gyflymdra heb ei debyg o’r blaen. Un o achosion arwyddocaol y newid hwn yw’r newid i’r digidol, er bod hyn yn digwydd ochr yn ochr â datblygiadau technolegol a masnachol eraill sydd yn effeithio ar bob ffurf o gyfryngau newyddion.
1.2 Dros y 50 mlynedd diwethaf mae traddodiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus y DU wedi sicrhau darpariaeth newyddion o ansawdd uchel ar y BBC ac ar sianeli teledu annibynnol. Bu’n amcan polisi clir y llywodraeth a rheoleiddwyr darlledu i gynnal a chefnogi lluosogrwydd wrth gyflenwi newyddion DGC o ansawdd. Mewn cyfnod o ffynonellau teledu prin, roedd tybiaeth y byddai’r lluosogrwydd syml hwn yn osgoi persbectif un dimensiwn o newyddion ac annog amrywiaeth ac ehangder apêl.
1.3 Nawr, wrth i ddarlledu analog ildio i oes ddigidol lawn, gyda llawer mwy o ffynonellau newyddion, mae cyfleoedd newydd sylweddol - ond hefyd rhai sialensiau sylfaenol i fodelau a thybiaethau traddodiadol. Yn ei hanfod, bydd yn anos yn y dyfodol wedi’r newid i’r digidol i osod rhwymedigaethau DGC ar ddarlledwyr masnachol - os nad yw o fudd iddynt hwythau hefyd i ddarparu rhaglenni o’r fath.
1.4 Awgryma’r adroddiad hwn y bydd hi’n debygol y bydd y prif sianeli eisiau parhau gyda newyddion cenedlaethol DU a rhyngwladol ar ôl y newid i’r digidol, gyda neu heb rwymedigaeth reoleiddiol. Mewn sefyllfa o ddarpariaeth wirfoddol fodd bynnag gall fod sail o hyd dros ymyrraeth yn nhermau ansawdd ac adnoddau.
1.5 Mae amgylchiadau economaidd yn ei gwneud yn llawer llai tebygol i ddarlledwyr fod eisiau darlledu newyddion DU a rhyngwladol ar unrhyw beth tebyg i’w lefel gyfredol, yn absenoldeb ymyrraeth reoleiddiol effeithiol.
1.6 Mae’r sialensiau sydd yn wynebu newyddion yn y gwledydd a’r rhanbarthau felly yn un o themâu canolog yr astudiaeth gyfredol. Themâu allweddol eraill yw:
- natur a diben lluosogrwydd mewn newyddion DU a rhyngwladol;
- gofynion am ddidueddrwydd yn y dyfodol mewn newyddion teledu;
- a materion o ymddieithrio ymysg rhai sectorau o’r gymdeithas.
1.7 Codwyd y cwestiwn o ymddieithrio yn yr astudiaethau blaenorol o newyddion ac fe’u cysylltwyd gyda phryderon am ymwahanu oddi wrth y broses ddemocrataidd ehangach. Mae rhai arwyddion yn yr astudiaeth gyfredol bod y lefel o ymddieithrio ymysg yr ifanc wedi cynyddu mewn gwirionedd dros y bum mlynedd ddiwethaf.
1.8 Yn fwy cadarnhaol, ni fu swm ac amrywiaeth newyddion sydd ar gael i ddefnyddwyr y DU erioed mor fawr. Ochr yn ochr â newyddion ar y pum prif sianel DGC mae dwy sianel newyddion 24 awr gartref; amrediad o sianeli rhyngwladol ac arbenigol yn darparu newyddion; nifer gynyddol o ffynonellau rhyngrwyd; a miloedd o bapurau newyddion a gorsafoedd radio.
1.9 Mae’n drawiadol fodd bynnag mai’r sianeli teledu DGC traddodiadol sydd yn parhau yn brif ffynhonnell newyddion i’r rhan fwyaf o bobl. Mewn gwirionedd, mae’r ffynonellau traddodiadol eraill (papurau newydd a radio) wedi gostwng mewn pwysigrwydd i bobl, tra bod y gwerth y mae gwylwyr yn ei roi i newyddion teledu mwy neu lai'r un fath.
1.10 Yn y dyfodol bydd hyd yn oed rhagor o gyfleoedd ar gyfer newyddion clywedol – yn cynnwys drwy’r rhyngrwyd, gyda’i allu bron yn ddiddiwedd ar gyfer gwybodaeth, dadansoddi a barn. Er bod pwysigrwydd y rhyngrwyd yn tyfu – er ei fod o sylfaen bach iawn – ymddengys mai ffynhonnell atodol o newyddion ydyw i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr (er nod y cyfan), yn hytrach na’u prif ffynhonnell – mae’n amlwg y gall hyn newid dros amser.
1.11 Mae argaeledd amrediad mor enfawr o ffynonellau traddodiadol a newydd o newyddion nas gwelwyd ei debyg erioed o’r blaen yn agor posibiliadau ar gyfer clywed gwir amrywiaeth barn – er, hyd yn hyn, nid yw’r potensial wedi’i ddefnyddio yn llawn o bell ffordd. Yn y dyfodol gall yr amgylchedd newydd hon arddangos cyfyngiadau yn y syniad traddodiadol o luosogrwydd ar newyddion teledu DGC, a seiliwyd yn wreiddiol o gwmpas deuopoli syml BBC/ITV.
1.12 Efallai na fydd y ffocws a sefydlwyd yn hanesyddol – yn seiliedig yn unig ar luosogrwydd syml cyflenwad – o anghenraid yn cyflwyno digon o luosogrwydd na chwaith arbenigrwydd ac amrywiaeth llais ar gyfer gofynion cyfnod newydd.
1.13 Efallai y caiff pwysigrwydd ‘gwerth’ traddodiadol arall mewn newyddion teledu – didueddrwydd – ei gwestiynu hefyd yn y dyfodol, y tu hwnt i sianeli DGC. Ar hyn o bryd mae rheolau didueddrwydd yn berthynol i bob newyddion teledu trwyddedig y DU ac mae cefnogaeth gyhoeddus gyffredinol i’r syniad.
1.14 Ond canlyniad anfwriadol hyn yw y gall rheolau ar ddidueddrwydd fygu mynegiant barn nad yw’n rhan o’r brif ffrwd sefydledig, fel barn yr ifanc; lleiafrifoedd ethnig; ac eraill. Mae’n codi oherwydd y gall darlledwyr newyddion deimlo dan bwysau i gynnig agwedd ‘dwy ochr i’r ddadl’ draddodiadol, gan eithrio lleisiau mwy amrywiol. Felly mae’r mater o ddidueddrwydd yn gysylltiedig â’r cwestiwn ehangach o ymddieithrio.
1.15 Gall didueddrwydd, o’i ddefnyddio ar draws y bwrdd, gael ei ystyried yn llestair posibl i gyflenwad newyddion gwirioneddol amrywiol a bydd, beth bynnag, yn gynyddol fwy anodd ei orfodi. Efallai y gellir canolbwyntio’r gofyniad ar y prif sianeli DGC yn y dyfodol ar ôl y newid i’r digidol, gan annog mwy o amrywiaeth llais mewn mannau eraill felly.
1.16 Mae’n bosibl hefyd y bydd defnydd cyffredinol o reolau didueddrwydd yn dod yn llai priodol yn y dyfodol wrth iddi ddod yn bosibl cael gafael ar fwy a mwy o ffynonellau cynnwys newyddion clywedol - rhai wedi eu rheoleiddio ar gyfer didueddrwydd a rhai heb - ochr yn ochr â’i gilydd.
1.17 I rai defnyddwyr, mae’r rhyngrwyd eisoes yn dod yn ffynhonnell ychwanegol bwysig o newyddion; ac mae cyfleoedd hefyd i gael gafael ar sianeli teledu sydd ar gael yn gymharol ddiweddar, yn amrywio o Fox News i Al Jazeera. I’r bobl hyn, gall amrywiaeth cyflenwad fod yn allwedd bwysig i ymgysylltiad. Ond i nifer fawr o bobl ifanc - targed anodd bob amser i ddarlledwyr newyddion - mae tystiolaeth gref i awgrymu eu bod yn teimlo nad yw newyddion o unrhyw fath, o deledu neu o fan arall, yn berthnasol iawn iddynt.
1.18 Mae’r doreth o ffynonellau newyddion nad oedd ar gael o’r blaen dros y ddegawd ddiwethaf yn cuddio tueddiad paradocsaidd mewn newyddiaduriaeth fyd-eang. Gellir bellach cyfnewid delweddau a gwybodaeth yn hawdd rhwng casglwyr newyddion gan droi straeon newyddion yn nwyddau rhyngwladol. Does dim amheuaeth nad oes barn wahanol luosog ar gael ‘allan yno’ - er bod llawer yn anodd ei darganfod - ond, yn gyffredinol, yn aml mae marchnadoedd newyddion o bob math yn dweud yr un straeon, o’r un persbectif gan ddefnyddio llawer o’r un deunydd.
1.19 Mae twf ychydig o asiantaethau newyddion fideo rhyngwladol sydd yn dominyddu - yn cyflenwi cynnwys i farchnadoedd ledled y byd - yn dangos ymhellach y tueddiad hwn tuag at hollbresenoldeb. Mae ystyriaethau masnachol yn debygol o gynyddu temtasiynau ar ddarlledwyr i ddibynnu ar ddeunydd ‘wedi’i brynu’i mewn’ o’r fath, gyda rhyw fath o newyddiaduriaeth wreiddiol fanwl o fewn newyddion yn dioddef o bosibl (mae hyn yn wahanol i raglennu materion cyfoes penodedig ar sianeli DGC sydd wedi’i gyflenwi’n dda ar hyn o bryd)
1.20 Mae’r holl faterion hyn gyda’i gilydd yn codi cwestiynau pwysig ar gyfer dyfodol newyddion teledu; blaenoriaethau polisi; a’r ymateb rheoleiddiol priodol. Ymysg y cwestiynau allweddol a drafodir yn yr adroddiad hwn y mae:
- A oes modd cynnal lluosogrwydd gwasanaethau DGC ac ydy hynny yn dal yn bwysig?
- A oes modd cynnal newyddion ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU y tu allan i’r BBC?
- A oes modd mynd i’r afael â materion ymddieithrio?
- Ydy didueddrwydd mewn newyddion teledu mor sicr neu mor bwysig ag a fu?
1.21 Croesewir barn rhanddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb ar ddadansoddiad Ofcom o’r holl faterion a godir yn yr adroddiad hwn ac fe’u hanogir fel rhan o’r ystyriaeth ehangach o newyddion teledu DGC yn dilyn y newid i’r digidol.
Y rhagolygon ar gyfer lluosogrwydd mewn darpariaeth newyddion rhwydwaith
1.22 Mae’r teledu yn parhau yn brif gyfrwng dewis newyddion o bell ffordd i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr, ond bu dirywiad graddol mewn cynulleidfaoedd ar gyfer bwletinau ar y prif sianeli dros y ddegawd ddiwethaf. Mae sectorau eraill o’r diwydiant newyddion wedi gweld dirywiad mwy sylweddol.
1.23 Mae’r dirywiad pum mlynedd mewn cylchrediad papurau newydd - yn enwedig y papurau tabloid - yn llawer mwy nag unrhyw ddirywiad mewn gwylio newyddion teledu. Mae refeniw papurau newydd yn syrthio er gwaethaf y ffaith bod cost papur yn codi uwchben chwyddiant - heb gyfrif y twf mewn papurau newydd am ddim mewn nifer o ganolfannau dinasoedd . Hefyd, er nad yw ffigurau cynulleidfaoedd ar gyfer newyddion radio yn gyffredinol wedi newid fawr, mae tystiolaeth bellach o ddirywiad bychan mewn gwrando ymysg cynulleidfaoedd iau a oedd eisoes ar lefel isel
Mewn teledu, bydd y newid i’r digidol yn dwyn i ben y compact lle y mae sianeli DGC annibynnol yn cyflwyno rhwymedigaethau rhaglenni yn gyfnewid am fynediad breintiedig i’r sbectrwm analog. Golyga hyn na ellir cymryd darpariaeth newyddion teledu yn ganiataol ar unrhyw sianel DGC masnachol ar ôl y newid i’r digidol gan nad yw refeniw a gynhyrchir gan hysbysebu o gwmpas rhaglenni newyddion fel pe baent yn talu am gostau cynhyrchu 1.1 . Ond mae ystyriaethau economaidd eraill yn effeithio ar gynhyrchu rhaglennu newyddion.
1.2 1.2 Ar ôl y newid i’r digidol efallai mai dim ond ar y BBC ac mae’n debyg ar Channel 4 y bydd y mecanwaith statudol i orfodi cynnwys newyddion ar deledu yn gweithio, trwy gylch gwaith y sianel. Fel arall, gall darlledwyr farnu nad ydynt yn dymuno parhau i amserlennu newyddion - oni bai eu bod yn rhwymedig i wneud hynny trwy rwymedigaethau DGC sydd yn weddill. Gall eu penderfyniad ddibynnu ar ffactorau na ellir eu rhagweld - fel perchnogaeth a strategaeth sianel.
1.3 Ond, ymddengys bod rhesymau da dros feddwl y bydd rhai sianeli DGC masnachol yn parhau i gyflwyno rhai gwasanaethau newyddion cenedlaethol a rhyngwladol DU, hyd yn oed heb rwymedigaeth bendant.
1.4 Mae rhaglenni newyddion yn denu ffigurau gwylio parchus ac yn darparu pwyntiau angor ar gyfer gwylio nosweithiol nad yw rhaglenni eraill yn ei wneud. Mae costau cynhyrchu yn llai nag ar gyfer llawer o raglenni eraill (fel drama gomisiynu neu adloniant) ac eto ystyrir bod newyddion yn cyflwyno statws a hygrededd i’r sianeli sydd yn ei gario gan eu gosod ar wahân i orsafoedd digidol ‘adloniant cyffredinol’. Mae newyddion hefyd yn elfen ‘byw’ pwysig mewn amserlen sydd yn gynyddol yn cael ei symud o ran amser.
1.5 Ar hyn o bryd, mae darpariaeth newyddion teledu yn y DU wedi’i ddominyddu gan dri ‘chwaraewr’ mawr - BBC, ITN a Sky News. Yn y dyfodol gall fod yn bosibl i gystadleuwr (neu gystadleuwyr) eraill ymddangos a herio’r triopoli sefydledig - heb ddefnyddio unrhyw beth tebyg i’r un adnoddau ond, hyd yn hyn cynulleidfaoedd bach iawn y mae ffynonellau teledu eraill wedi’u denu.
1.6 Mae datblygiad y rhyngrwyd; casglu newyddion rhatach; ac ehangu asiantaethau newyddion fideo oll yn cynnig potensial i ddarparwyr newyddion newydd gynnig gwasanaethau ar lai o gost na’r prif ddarlledwyr cyfredol. Ar yr un pryd, gall cystadleuaeth fasnachol gynyddol gael oblygiadau negyddol ar gyfer darparu newyddiaduriaeth ddrud, fanwl ar raglenni newyddion, ar sianeli y tu hwnt i’r BBC.
1.24 Ar hyn o bryd mae defnyddwyr eisiau, ac maent yn disgwyl gweld newyddion teledu ar arddull DGC wedi’i gyllido’n dda ac o ansawdd uchel ar yr holl brif sianeli: dywed tua 81% ei bod yn bwysig gwybod beth yw’r newyddion a materion cyfoes; mae tri chwarter o’r boblogaeth yn meddwl bod darpariaeth newyddion ar y sianeli DGC yn bwysig a dywed bron i hanner y defnyddwyr bod newyddion yn eu helpu i deimlo’n rhan o’r broses ddemocrataidd
1.25 Mae 80% yn cytuno ei bod yn bwysig bod sianeli daearol wedi’u rhwymo i ddarparu newyddion rheolaidd; dywed mwyafrif na ddylai’r BBC (61%) nag ITV1(56%) na Channel 4 (52%) dorri’i lawr ar newyddion. Mae gwerth cyhoeddus neilltuol mewn newyddion ITV i nifer o bobl sydd yn gwylio newyddion ar y sianel honno’n unig ac ar ddim sianel arall; mae BBC One yn debyg yn hyn o beth. Ar y llaw arall, roedd 25% o wylwyr yn meddwl bod gormod o newyddion ar y prif sianeli DGC.
1.26 Mae dadansoddiad cynnwys yn datgelu bod llawer mwy o debygrwydd na gwahaniaethau yn agendau newyddion teledu prif ffrwd (er bod newyddion Channel 4 yn fwy gwahanol i’r lleill). Yn gyffredinol nid yw’n beth cyffredin i wahanol sianeli DU arwain ar wahanol straeon – ac mae hyd yn oed yn brinnach o sianel arwain ar stori nad yw ar y sianeli eraill hefyd. Yn aml mae rhaglenni ar wahanol sianeli yn amrywio mwy mewn arddull nag mewn sylwedd.
1.27 Efallai nad yw’r dehongliad traddodiadol o ‘luosogrwydd’ – yn seiliedig ar nifer cyfyngedig o sianeli teledu – ar hyn o bryd yn cyflwyno amrediad gwirioneddol amrywiol o farn.
1.28 Ond mae’r un dadansoddiad cynnwys yn herio awgrymiadau bod yr agenda newyddion wedi’i ‘ddiraddio’ ar y prif sianeli. Mewn gwirionedd, mae’r agenda yn parhau yn bennaf yn ‘newyddion caled’ ar yr holl sianeli DGC gyda straeon cartref a thramor yn cael eu trafod yn fanwl bob dydd, gyda gohebwyr ar leoliad ac yn aml ‘yn fyw’. Efallai bod canfyddiadau cyhoeddus bod agendau yn ysgafnach yn gysylltiedig ag arddull yn hytrach na deunydd pwnc gwirioneddol.
1.29 Mae darlledwyr eu hunain yn ystyried y syniad o ‘luosogrwydd’ mewn termau llawer ehangach nag o’r blaen – h.y. dim yn unig ynglŷn â gorsafoedd teledu eraill. Eisoes, mae’r pes ddigidol sydd yn datblygu wedi gweld toreth enfawr yn nifer ac amrediad y cyflenwyr newyddion, gyda lleisiau a phersbectifau newydd ar gael fel nas gwelwyd erioed o’r blaen – er bod teledu DGC prif ffrwd yn parhau yn brif ffynhonnell newyddion i’r rhan fwyaf o bobl.
Mae defnyddwyr newyddion gweithredol yn enwedig yn defnyddio mwy a mwy o adnoddau rhyngrwyd i ddarganfod pethau sydd o ddiddordeb iddynt, er eu bod yn tueddu i’w defnyddio yn ychwanegol at ffynonellau traddodiadol o newyddion – yn enwedig teledu – yn hytrach nag yn eu lle 1.1 . Efallai y gellid nodweddu’r tueddiad fel ‘cymysgarwch newyddion’ h.y. teledu yw’r berthynas graidd i’r defnyddwyr newyddion hyn; ond yn gynyddol maent yn cael eu temtio i chwarae gyda ffynonellau eraill hefyd.
1.2 Y defnyddwyr mwyaf o’r rhyngrwyd yn benodol ar gyfer newyddion yw dynion rhwng 35 a 49 oed, yn adlewyrchu mwy o ddefnydd o’r rhyngrwyd yn gyffredinol gan ddynion - er, fel gyda’r boblogaeth yn gyffredinol, ychydig sydd yn ei ddefnyddio yn lle teledu. Yr ifanc (16-24 oed) yw’r defnyddwyr cyffredinol mwyaf o’r rhyngrwyd ac mewn gwirionedd dônt i gysylltiad (yn aml yn anfwriadol) gyda bron cymaint o newyddion â’r grŵp hŷn, trwy dudalennau cartref darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd etc.
1.3 Gellid edrych ar y cyswllt hwn gyda newyddion fel datblygiad cadarnhaol gan mai hwn yw’r grŵp lleiaf tebygol o chwilio am newyddion o ffynonellau traddodiadol -er bod pobl ifanc yn weithredol yn edrych ar newyddion am gyfnod llawer byrrach. I bob grŵp defnyddir newyddion rhyngrwyd ar gyfer testun a lluniau yn llawer mwy nag ar gyfer delweddau symudol neu ryngweithgaredd.
1.4 Gall datblygiadau yn y dyfodol wneud ‘teledu’ ar y we yn fwy o fewn cyrraedd. Yn sicr mae’r we yn cynnig y potensial ar gyfer amrywiaeth bron yn ddiddiwedd mewn newyddion, trafodaeth a dadl. Mae ‘newyddiaduriaeth y dinesydd’ a chyfnewidfeydd rhyngweithiol eraill hefyd yn cyflwyno posibiliadau diddorol, ond nid yw dewisiadau gwirioneddol wedi’u cyllido’n dda bob amser yn hawdd i’w darganfod. Mae awgrymiadau nad yw nifer o ffynonellau ‘newydd’ honedig o newyddion yn newydd o gwbl mewn gwirionedd, ond yn hytrach maent yn cynnig dulliau lluosog o gael gafael ar gynnwys sydd eisoes ar gael mewn mannau eraill.
1.5 Mae cadw gorolwg ar esblygiad llwyddiannus modelau rhyngrwyd yn her fasnachol i gyflenwyr newyddion traddodiadol oherwydd ei fod yn tanseilio eu modelau busnes sefydledig. Er hynny, y safleoedd newyddion mwyaf poblogaidd yw’r rhai sy’n cael eu rhedeg gan gyrff cyfryngau sefydledig, yn enwedig safleoedd teledu - ac mae’r rhanddeiliaid hyn yn anfodlon caniatáu i rai newydd feddiannu eu tiriogaeth, er gwaethaf ansicrwydd economaidd.
Casgliadau ac ystyriaethau polisi ar gyfer trafodaeth
- Mae’r rhagolygon ar gyfer newyddion cenedlaethol/rhyngwladol ar y prif sianeli yn ymddangos yn gadarnhaol ar hyn o bryd - heb yr angen am ffurfiau newydd o ymyrraeth reoleiddiol - er na ellir cymryd cyllido parhaus ar gyfer gwasanaethau o ansawdd uchel yn ganiataol yn y tymor hir.
- Bydd yn briodol i newyddion barhau yn elfen ganolog o gylch gwaith cyhoeddus Channel 4 ar gyfer y dyfodol. Dylai hyn warantu o leiaf un gwasanaeth arall tymor hir o’r traddodiad DGC sy’n bodoli ar hyn o bryd, yn ychwanegol at y BBC.
- Gall newyddion hefyd fod yn flaenoriaeth ar gyfer y lifrau rheoleiddiol cyfyngedig eraill sydd yn weddill ar ITV a Five - yn enwedig os oes amheuon am gynaliadwyaeth hir dymor. O ran ITV gallai newyddion i’r gwledydd a’r rhanbarthau fod yn flaenoriaeth reoleiddiol uchaf (gweler isod).
- Heb ofyniad rheoleiddiol parhaus am ‘ansawdd uchel’ (fel y’i diffinnir ar hyn o bryd yn y Ddeddf Cyfathrebiadau) gall fod pwysau masnachol na ellir eu hosgoi am newyddiaduriaeth ratach, lai gwreiddiol - er hyd yn hyn, mae cyrff newyddion masnachol yn parhau i gael eu parchu yn fawr ac maent yn parhau i ennill gwobrau diwydiant pwysig.
- Mae potensial ar gyfer cyflwyno ehangder a dyfnder gwirioneddol mewn newyddion mewn ffyrdd newydd trwy gyfrwng band eang a ffynonellau cyfryngau newydd eraill, er efallai na fydd hwn yn cael ei adnabod fel ‘teledu’. Efallai y bydd gan y cysyniad o gyhoeddwr gwasanaeth cyhoeddus (CGC) ran yn hyn.
Newyddion ar gyfer y gwledydd, rhanbarthau a lleoliadau
1.6 Yn wahanol i newyddion rhwydwaith, mae sialensau mwy arwyddocaol yn wynebu darpariaeth teledu o raglenni ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU, mewn unrhyw fan arall ar wahân i’r BBC. Mae Ofcom wedi ymrwymo i gadw trwyddedai ITV i rwymedigaethau newyddion gwledydd a rhanbarthau tan 2014 o leiaf. Ond mae ffurfiau newydd o ymyrraeth reoleiddiol yn debygol o fod yn angenrheidiol i sicrhau ei bresenoldeb hir dymor oherwydd costau anghymesur cynhyrchu rhaglenni ar yr un pryd ym mhob rhanbarth o’r rhwydwaith.
1.7 Oherwydd hynny, rhaid ystyried a yw’r model cyfredol o ddarpariaeth ddeuol BBC/ITV yn darparu’r dewis gorau ar gyfer y dyfodol hir dymor. Fe all ystyriaethau gwahanol fod yn gymwys i wledydd Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon o’i gymharu â’r rhanbarthau yn Lloegr oherwydd eu sefydliadau gwleidyddol gwahanol - er y byddai’n gamgymeriad trin ‘y gwledydd’ fel un endid; mae gan bob un ohonynt wahanol nodweddion. Ond nid yw’r pwysau economaidd ddim llai yn y gwledydd nag y maent yn y rhanbarthau.
1.8 Ond gan roi economeg i un ochr, mae’r astudiaeth gyfredol yn dangos y gwerth uchel a roddir i newyddion o ‘lle dwi’n byw’. Mae ffyddlondeb sylweddol i newyddion BBC ac ITV fel y’i cynhyrchir ar hyn o bryd ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU (er bod hyn yn amrywio, yn enwedig yn Lloegr). Mae cyfartaledd cyfran cynulleidfa’r BBC o 28% yn gwneud bwletinau gwledydd a rhanbarthau’r Gorfforaeth y rhaglenni newyddion sy’n cael eu gwylio fwyaf ar deledu. Mae cyfartaledd cyfran gwylio ITV ar gyfer ei newyddion gwledydd/rhanbarthau yn 20%.
1.9 Mae gwahanol ystyriaethau gwleidyddol a diwylliannol yng ngwledydd y DU nad ydynt bob amser yn cael eu hadlewyrchu mewn rhaglenni newyddion DU cyfan. Mae sefydliadau datganoledig yn golygu mai ychydig o berthnasedd os o gwbl sydd gan straeon o San Steffan yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
1.10 Awgryma ymchwil bod newyddion a gwleidyddiaeth ‘lleol’ yn llawer mwy tebygol o fod o ddiddordeb yn yr Alban a Gogledd Iwerddon nag yng Nghymru a Lloegr. Hefyd mae 77% o bobl o Ogledd Iwerddon; 66% o’r Alban a 54% o Gymru yn mynegi diddordeb personol mewn digwyddiadau cyfredol yn eu gwledydd. Y ffigur ar gyfartaledd yn Lloegr yw 47% (er bod yr amrediad rhwng 36% ar gyfer Llundain ‘a'r Gogledd Orllewin a 60% ar gyfer y De Ddwyrain).
1.11 Dywed tua 45% o’r holl ddefnyddwyr eu bod yn cael newyddion am ddigwyddiadau cyfredol yn eu rhanbarth/gwlad o’r teledu, yn ail i bapurau newydd. Mae 46% yn cael newyddion lleol o bapurau newydd a 22% o radio (mae’r ddau ffigur hwn yn uwch nag ar gyfer newyddion cenedlaethol y DU).
1.12 Dywed 29% o bobl sydd yn cael newyddion ar gyfer y gwledydd/rhanbarthau/lleoliadau eu bod eisiau gweld rhagor o newyddion o’r fath ar deledu o’i gymharu â dim ond 3% sydd yn dweud eu bod eisiau llai. Ymddengys bod defnyddwyr yn y gwledydd yn gwerthfawrogi lluosogrwydd yn y gwasanaethau hyn - hyd yn oed pan nodir y gall y rhwydwaith ehangach yn dangos adloniant neu ddrama yn lle hynny.
1.30 I ddarlledwyr masnachol fodd bynnag newyddion ar gyfer y gwledydd a’r rhanbarthau yw’r mwyaf heriol i’w gyllido. Mae’r gost i ITV o gynhyrchu rhaglennu ar yr un pryd i 15 rhanbarth (neu 27 yn cynnwys yr isranbarthau) yn uchel iawn o’i gymharu â’r refeniw hysbysebu isel - er wrth gwrs nid oedd darpariaeth rhaglenni DGC penodol erioed wedi’i ddisgwyl i fod yn broffidiol ar ei ben ei hun.
1.31 Er nad oes unrhyw ffurf o newyddion teledu yn y DU ar hyn o bryd yn talu’i ffordd mae’r economeg yn hynod o lwm i newyddion gwledydd/rhanbarthau a bydd angen ymyrraeth reoleiddiol os yw ei bresenoldeb hir dymor yn cael ei ystyried yn bwysig ar DGC masnachol.
1.32 Y tu hwnt i’r newid i’r digidol bydd gwerth gweddilliol o hyd i ddarlledwyr o ran dal trwydded DGC a gellir disgwyl rhai ymrwymiadau rheoleiddiol yn dâl am hynny. Mae’r manteision yn cynnwys sbectrwm digidol gwarantedig; amlygrwydd ‘priodol’ ar EPGs ac yn y pen draw, statws ‘rhaid cario’ ar bob platfform. Ond awgryma’r dadansoddiad economaidd na fyddai gwerth manteision DGC yn talu am y gost i ITV o ymrwymiad i newyddion yn y gwledydd a’r rhanbarthau ar ôl i’r rhwymedigaethau cyfredol ddirwyn i ben yn 2014.
1.33 Fel y nodwyd mewn adroddiad Ofcom a gyhoeddwyd yn 2006 gall modelau teledu lleol – efallai ar fand eang ac yn gysylltiedig â phapurau newydd lleol – ddarparu ffynhonnell arall o newyddion heb fod yn genedlaethol mewn rhai ardaloedd ond gall fod materion ynglŷn ag ansawdd ac ynglŷn â’r gallu i ymestyn y model hwn y tu hwnt i ardaloedd trefol. Efallai y bydd gan gynigion ar gyfer Cyhoeddwr Gwasanaeth Cyhoeddus rhywfaint o berthnasedd yma.
1.34 Gall fod cwmpas hefyd ar gyfer cyflwyno Teledu Lleol o’r fath trwy gebl, lloeren neu DTT, fel y cydnabyddir yng nghanfyddiadau Adolygiad Difidend Digidol Ofcom. Mae modelau lleol o’r fath yn ffynnu mewn rhai marchnadoedd tramor a gall ddod yn fwy dichonadwy mewn amodau DU mewn marchnad ddigidol. Efallai na fydd angen i luosogrwydd ddibynnu ar fodelau ‘rhanbarthol’ yr un fath ar BBC ac ITV.
Casgliadau ac ystyriaethau polisi ar gyfer trafodaeth
- Er bod Ofcom wedi ymrwymo i gynnal rhwymedigaethau ITV i newyddion gwledydd/rhanbarthol am gyfnod y trwyddedau cyfredol, bydd angen agweddau creadigol os deuir i’r casgliad bod angen rhaglennu o’r fath i ddarparu lluosogrwydd ar lefel y gwledydd/rhanbarthau yn ogystal a gar lefel lleol a DU gyfan. Croesewir barn rhanddeiliaid ac eraill.
- Mae rhai cwestiynau eraill yn codi: ydy hi’n bwysig cynnal deuopoli cyfredol BBC/ITV ar raddfa rhanbarthol Seisnig neu – o dderbyn y pwysau masnachol – a ellir sicrhau graddfa mwy priodol o luosogrwydd/amrywiaeth trwy deledu rhanbarthol y BBC ochr yn ochr â theledu lleol (ar y BBC ac mewn mannau eraill), papurau newydd, radio a gwasanaethau eraill? A allai fod rôl yma i CGC?
Ymrwymiad ac ymddieithrio
1.35 Mae dadansoddiad o’r ffigurau gwylio yn awgrymu bod y swm o newyddion teledu sy’n cael ei wylio ar y prif sianeli DGC wedi dirywio’n gyson – ond dim yn ddramatig – dros y 10 mlynedd ddiwethaf, gyda’r dirywiad mawr ar ITV yn unig.
1.36 Ond mae tystiolaeth bod rhai adrannau o’r ifanc a phobl o rai lleiafrifoedd ethnig yn ymddieithrio oddi wrth unrhyw ffynonellau newyddion prif ffrwd.
1.37 Er bod y diffyg ymgysylltiad hwn wedi bod yn amlwg mewn astudiaethau blaenorol – ac wedi codi cwestiynau am ymddieithrio o’r holl broses ddemocrataidd – mae tueddiad amlwg parhaus. Mae’r nifer o bobl ifanc 16 – 24 oed sydd yn dweud eu bod yn dilyn newyddion yn unig pan fo rhywbeth pwysig yn digwydd wedi codi o 33 i 50% yn y pum mlynedd diwethaf – er bod peth tystiolaeth bod pobl yn cymryd mwy o ddiddordeb mewn newyddion wrth iddynt heneiddio.
1.38 Mewn grwpiau ffocws roedd rhai pobl ifanc yn dweud eu bod yn pellhau eu hunain yn fwriadol oddi wrth bron pob digwyddiad cyfoes, gwleidyddiaeth a materion byd, er bod y rhai rhwng 16 ac 19 oed wedi ymddieithrio yn llawer mwy na’r rhai yn eu 20au cynnar. Mae’r swm o deledu y mae rhai rhwng 16-24 oed yn ei wylio nawr yn sefyll ar gyfartaledd o dan 40 awr yr wythnos – neu tua 45 munud yr wythnos, o’i gymharu â thua 90 awr y flwyddyn i’r boblogaeth yn gyffredinol.
1.39 Mae’r farn ‘ nid yw llawer o’r newyddion ar y teledu yn berthnasol i mi’ wedi cynyddu yn arbennig (44% i 64%). Dywed llawer o’r bobl ifanc nad ydynt yn teimlo unrhyw angen i wybod beth sydd ar y newyddion oherwydd bod ganddynt flaenoriaethau pwysicach – er bod nifer wedi dweud eu bod yn disgwyl bod â mwy o ddiddordeb wrth iddynt heneiddio
1.40 Mae’r cynulleidfaoedd ifanc a lleiafrifoedd ethnig yn canfod rhagfarn a gor-ddweud yn yr hyn a ddywedir wrthynt.
1.41 Mae’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn talu sylw neilltuol i sut y mae eu hil, diwylliant neu ffydd yn cael ei bortreadu os ydynt yn gwylio’r prif fwletinau newyddion. Maent yn mynegi sinigiaeth am ffynonellau prif ffrwd, tra bod ganddynt fwy o ddiddordeb yn gyffredinol mewn digwyddiadau’r byd nag sydd gan bobl ifanc gwyn. Roedd Asiaid ifanc yn fwy tebygol o droi at y rhyngrwyd am newyddion (28%) tra bod ymatebwyr du yn llai tebygol o ddefnyddio’r platfform hwn (19%).
1.42 Cafwyd barn gryf iawn ar gyfryngau’r DU ymysg lleiafrifoedd o ymchwil Ansoddol. Roedd y rhain yn cynnwys mynegiant o ddadrithiad a diffyg ymddiriedaeth yn deillio o’r canfyddiad nad oedd materion yn berthynol i’w diwylliant, hil neu ffydd yn cael eu trin yn deg. Roedd materion gwahanol yn effeithio ar grwpiau gwahanol: roedd gwylwyr du yn ofni bod y cyfryngau yn eu cysylltu’n negyddol â throsedd; roedd Mwslemiaid yn ofni bod y cyfryngau yn eu cysylltu ag eithafwyr.
1.43 Nid yr ifanc yn unig a lleiafrifoedd ethnig sy’n cael eu effeithio gan ymddieithrio. Cytunodd 55% o’r holl bobl a holwyd nad oedd llawer o’r newyddion ar y teledu yn berthnasol iddynt – i fyny o 34% yn 2002. Roedd mwy o bobl yn 2006 na 2002 yn cytuno eu bod yn dilyn y newyddion yn unig pam oedd rhywbeth pwysig neu ddiddorol yn digwydd (26 i 32%).
1.44 Gellid dosbarthu 22% o’r boblogaeth yn gyffredinol fel ‘rhai yn amsugno newyddion’ h.y. maent yn ei hystyried yn bwysig i wybod beth yw’r newyddion a’r materion cyfoes diweddaraf – ond mae hyn yn amrywio o 29% o grwpiau cymdeithasol economaidd AB i 19% o rai DE.
1.45 Er bod newyddion yn gwneud i 43% o’r boblogaeth deimlo’n rhan o’r broses ddemocrataidd, mae bron cymaint (37%) yn hawlio bod newyddion teledu yn gwneud iddynt ddiflasu gyda gwleidyddiaeth. Ond gall y farn hon fod wedi’i dylanwadu gan yr amgylchedd wleidyddol gyfredol (canol tymor; degfed blwyddyn yr un llywodraeth, canfyddiad o debygolrwydd rhwng y prif bleidiau ayb).
1.46 Nid oes yr un ateb amlwg i faterion ymddieithrio ymysg y bobl ifanc hynny sydd â dim diddordeb. Er na fu’r grŵp hwn erioed yn ddefnyddiwr newyddion mawr, bellach mae cymaint mwy o sianeli i’w gwylio nad oes newyddion arnynt o gwbl. Mae gweithgareddau eraill hefyd i fynd â’u bryd, gan wneud osgoi newyddion yn haws nag o’r blaen.
1.47 Mae ymddieithrio ymysg rhai pobl o leiafrifoedd ethnig o natur gwahanol i ymddieithrio pobl ifanc. Mae gan lawer ddiddordeb mewn newyddion ac mewn materion gwleidyddol ond nid ydynt yn teimlo’n un â’r cyfryngau prif ffrwd.
1.48 I rai yn y ddau grŵp sydd wedi ymddieithrio, mae ffurfiau newydd o gyfnewid gwybodaeth fel pe bai’n apelio. Bu twf ‘blogio’ a fideo wedi’i bostio eich hun ar y rhyngrwyd wedi bod yn enfawr. Awgryma ffigurau bod cynnydd ar ei ganfed wedi bod mewn blogiau we dros y tair blynedd ddiwethaf – er bod y twf yn dod o sylfaen isel iawn.
1.49 Mae’n rhy gynnar asesu pa mor werthfawr y mae’r adnawdd newydd hwn yn debygol o fod o ran lledaenu newyddion, ond mae arwyddion y gall fod yn dueddiad newydd. Fel gyda pob ffurf o gyfryngau newydd, gall fod yn anodd weithiau i wahaniaethu rhwng y gwerthfawr a’r dibwys. Ond gallai un effaith esgor ar gulhau agendau newyddion personol – er enghraifft, gall defnyddwyr ganolbwyntio ar faterion sengl sydd o ddiddordeb neilltuol iddynt.
Casgliadau ac ystyriaethau polisi ar gyfer trafodaeth
- Mae materion ynglŷn ag ymddieithrio gwleidyddol yn mynd yn llawer ehangach na darlledu. Er enghraifft mae gan seneddau a chynulliadau eu gwaith eu hunain i’w wneud o ran lledaenu gwybodaeth a chynnwys y cyhoedd mewn deialog.
- Ni does dulliau hawdd nac amlwg o fynd i’r afael â materion ymddieithrio o fewn strwythurau rheoleiddio teledu cyfredol – ond mae’n bwysig mewn democratiaeth fodern fod gan ddinasyddion gyfle i gymryd rhan.
- Mae ymddieithrio yn digwydd ar ffurfiau gwahanol i’r ifanc ac i rai lleiafrifoedd ethnig. Gellid ei nodweddu fel diffyg diddordeb ymysg yr ifanc a dadrithiad ymysg rhai lleiafrifoedd ethnig.
- Mae gan ddarlledwyr eu hunain anogaethau i ymgysylltu gyda’r grwpiau hyn – ystyriaethau masnachol yn eu mysg. Bydd methu ymgysylltu gyda chymunedau ethnig yn annog y defnydd o ffynonellau eraill o newyddion a gwybodaeth ymhellach, fel y rhyngrwyd a sianeli tramor.
- Mae Ofcom yn croesawu cyfraniadau a syniadau gan ran ddeiliaid ac eraill am sut y dylid mynd i’r afael â’r cwestiwn hwn a symud pethau ymlaen.
Ymddiriedaeth a didueddrwydd
1.50 Mae’r materion hynny o ymgysylltu/ymddieithrio gyda newyddion teledu yn gysylltiedig gyda materion ymddiriedaeth a didueddrwydd. Ar hyn o bryd mae gofyniad cyfreithiol bod holl newyddion teledu a radio trwyddedig y DU yn ddyledus ddiduedd a byddai’n golygu newid prif ddeddfwriaeth i newid hyn. Hyd yn hyn ychydig o sôn sydd am newid o’r fath.
1.51 Ond mae’n bosibl y gall gofynion cyffredinol am ddidueddrwydd dyledus lesteirio mynegiant o farn gwirioneddol amrywiol ac y gallai ymagwedd llai llym – yn y dyfodol – annog mwy o ymgysylltiad ymysg y rhai nad ydynt ar hyn o bryd wedi’u hysbrydoli gan ffynonellau prif ffrwd.
1.52 Mae rheolau ar ddidueddrwydd yn effeithio’r modd y caiff straeon eu hadrodd a gall ddylanwadu rhywfaint ar ddetholiad straeon yn y lle cyntaf (er mai dim ond y cynnwys ei hun y mae rheoliadau yn delio ag ef). Gallai hyn fod wedi meithrin diwylliant canol y ffordd mewn newyddion prif ffrwd. Gall barn nad yw’n ffitio’n hawdd o fewn dadl ddwy ochrog gonfensiynol ymdrechu i gael ei chlywed gan esgor ar drafodaeth o gwmpas ffwlcrwm canfyddedig cul.
1.53 Nid yw’r ‘achos a’r effaith’ hwn yn fwriadol ac nid oes rheswm go iawn pam na ellir clywed lleisiau amrywiol eang o fewn y rheolau cyfredol am ddidueddrwydd ‘dyledus’. Ond mewn bwletinau sydd wedi’u cyfyngu gan amser y demtasiwn yw canolbwyntio ar safbwyntiau sefydledig.
1.54 Nid yw newyddion clywedol a ddarperir trwy’r rhyngrwyd wedi’i reoleiddio yn yr un ffordd â theledu; ac – ac eithrio teletestun cyhoeddus – nid yw gwasanaethau testun rhyngwladol (yn cynnwys papurau newydd a’r rhyngrwyd) erioed wedi bod â gofyniad statudol i fod naill ai’n ddiduedd nac yn gywir (er bod côd y Comisiwn Cwynion y Wasg yn gyfrifol am yr olaf ar gyfer y wasg a gwefannau cysylltiedig)
1.55 Yn y dyfodol gall rôl teledu unionlin gael ei leihau a bydd gwefannau yn enwedig yn gallu cynnig cynnwys newyddion fideo yn gynyddol o wahanol gefndiroedd rheoleiddiol gwahanol. Mewn amgylchedd o’r fath bydd ffynonellau diduedd o newyddion yn sicr yn dod yn llai amlwg ym meddyliau cynulleidfaoedd nag ar hyn o bryd.
1.56 Hefyd mae’n debygol y bydd modd cael gafael ar newyddion wedi’i reoleiddio a heb ei reoleiddio trwy’r un ddyfais. Efallai y bydd yn anos cymhwyso rheolau didueddrwydd traddodiadol mewn amgylchedd o’r fath lle mae defnyddwyr yn llai ymwybodol o ffynhonnell graidd y newyddion y maent yn ei wylio. Wrth ei ystyried ochr yn ochr ag argaeledd nifer cynyddol o ffynonellau teledu gwahanol – yn cynnwys o dramor – efallai y daw materion ymddiriedaeth a hygrededd yn bwysicach na didueddrwydd dyledus.
1.57 Mae gwylwyr yn dweud eu bod yn parhau i fod eisiau i newyddion teledu fod yn ddiduedd – er bod ymchwil yn dangos eu bod yn llai argyhoeddedig o’i ddidueddrwydd gwirioneddol nag o’r blaen. Mewn gwirionedd mae gan bobl lai o ffydd mewn hygrededd unrhyw ffynhonnell newyddion – er bod y lefelau ymddiriedaeth mwyaf fel pe bai mewn teledu. Ystyrir y prif sianelau DGC fel y rhai sydd â mwy o hygrededd na darlledwyr masnachol eraill ac mae ymddiriedaeth yn y BBC yn fwy nag mewn unrhyw ffynhonnell arall.
1.58 Hyd yn oed y tu hwnt i sianeli DGC mae disgwyliad cyhoeddus amlwg o ddidueddrwydd mewn teledu – er bod dadleuon dros lacio’r gofyniad ar gyfer didueddrwydd dyledus ar sianeli ymylol ac arbenigol yn debygol o dyfu yn y dyfodol. Efallai nas gwelir didueddrwydd fel diben ynddo’i hun bellach, ond fel rhan o ffocws ehangach ar ganlyniad, yn seiliedig ar ymddiriedaeth mewn ffynhonnell neilltuol o newyddion.
Casgliadau ac ystyriaethau polisi posibl ar gyfer trafodaeth
- Gan gymryd i ystyriaeth llawn y materion yn ymwneud ag ymddiriedaeth a disgwyliad gwylwyr, nid oes unrhyw reswm dros lacio rheolau didueddrwydd ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
- Ond mae’n amserol agor trafodaeth ar gyfer y dyfodol ynglŷn ag a fyddai llacio y defnydd cyffredinol o reolau didueddrwydd ar gyfer teledu yn annog newyddion teledu mwy amrywiol – ac o bosibl, yn ymgysylltu mwy – yn yr oes ddigidol.
- Efallai y daw gofynion didueddrwydd ar gyfer holl wasanaethau teledu trwyddedig yn llai ymarferol mewn amgylchedd ddigidol lle mae gwasanaethau wedi ac heb eu rheoleiddio yn bodoli ochr yn ochr ar yr un platfform – o leiaf y tu hwnt i sianeli DGC. Gellid rhagweld y bydd gwylwyr sydd yn gosod lefel uchel o bwysigrwydd ar ddidueddrwydd yn dynesu at sianeli y gannet ymddiried ynddynt.
Mae rhestr o gwestiynau a materion y mae Ofcom yn gwahodd ymatebion arnynt wedi’u cynnwys yn Adran 6 o’r adroddiad hwn.
Back to top