Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > Profiad y Defnyddiwr


Profiad y Defnyddiwr

Rhagair

Un prif ddyletswydd yn unig sydd gan Ofcom o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, sef hybu buddiannau dinasyddion mewn perthynas â materion cyfathrebu; a hybu buddiannau defnyddwyr mewn marchnadoedd perthnasol, lle bo’n briodol drwy hyrwyddo cystadleuaeth. O ganlyniad, nod Ofcom yn y pen draw ym mhopeth a wna yw sicrhau gwell profiadau i ddefnyddwyr a dinasyddion.

Ers y cychwyn cyntaf, bu Ofcom yn gweithio i greu fframwaith cystadleuol cynaliadwy ar gyfer rheoleiddio. Mae cynaladwyedd a sicrwydd rheoleiddio yn arbennig o arwyddocaol mewn marchnadoedd cyfathrebu, gan eu bod yn dibynnu’n helaeth ar ddatblygu a chymhwyso technolegau newydd ac mae hyn yn ei dro’n dibynnu ar allu’r DU i ddenu cyfalaf buddsoddi. Mae marchnadoedd cystadleuol effeithiol yn sicrhau bod cymhelliant gan ddarparwyr i ddarparu gwasanaethau da i gwsmeriaid am bris isel ac i arloesi wrth ddarparu’r gwasanaeth fel bod cynhyrchion newydd yn anelu at fodloni anghenion defnyddwyr.

Ceisiwn sicrhau hefyd y gall cwsmeriaid ymgysylltu â’r farchnad, drwy allu gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch darparwr a gwasanaeth a thrwy gael prosesau sy’n eu galluogi i newid cyflenwr yn hawdd pan fyddant yn dewis gwneud hynny.
Rydym eisiau sicrhau hefyd y gall defnyddwyr gymharu prisiau a defnyddio gwasanaethau’n ffyddiog, y cânt eu hamddiffyn rhag twyll ac arferion annheg, ac y gallant gwyno a cheisio iawndal pan aiff pethau o chwith.

Yn olaf, mae gennym rôl wrth geisio sicrhau bod gwasanaethau cyfathrebu penodol yn cael eu darparu mewn modd teg. Gweithiwn i sicrhau bod y gwasanaethau hynny o bwysigrwydd cymdeithasol yn cael eu darparu mewn ffordd sy’n rhoi budd i’n holl ddinasyddion o’r gwasanaethau rydym yn eu gwerthfawrogi fwyaf a bod buddiannau penodol pob rhan o’r gymdeithas, gan gynnwys defnyddwyr anabl, gwledig ac incwm isel, yn cael eu cydnabod a’u trafod.

Yr Adroddiadau

O ystyried y genhadaeth hon, mae angen i ni sicrhau bod gennym fecanweithiau i werthuso profiad defnyddwyr a dinasyddion mewn perthynas â thelathrebu, darlledu digidol a’r rhyngrwyd. Dyna ddiben y ddogfen hon – ein hadroddiad blynyddol am brofiad y defnyddiwr. Mewn cyfrol ar wahân a gyhoeddir heddiw, rydym yn rhestru canlyniadau llawn ymarfer ymchwil mawr a gynhaliwyd i fesur sut hwyl y mae defnyddwyr yn ei chael gyda’r gwasanaethau hyn. Os oes data ar gael inni, rydym yn olrhain canlyniadau’r ymchwil dros amser ac yn ceisio eu meincnodi yn erbyn sectorau eraill a gwledydd eraill. Nid ydym yn ymdrin â materion cynnwys teledu neu radio yma gan fod y rhain yn destun adroddiadau ar wahân gan Ofcom.

Mae’r gyfrol hon - Gwerthusiad Polisi - yn archwilio’r data ac yn ei ddefnyddio i asesu effaith rheoleiddio a’r blaenoriaethau rydym wedi’u gosod i’n hunain. Rydym eisiau deall, lle bo’n bosibl, a yw ein blaenoriaethau cyfredol yn cael y canlyniadau dymunol. Os canfyddwn nad yw profiadau’r defnyddiwr mor gadarnhaol ag yr hoffem, neu os credwn y gallai camau pellach gan Ofcom arwain at welliant, rydym eisiau sicrhau bod blaenoriaethau Ofcom yn cael eu pennu’n briodol.

I’r un graddau, os canfyddwn nad yw ymagwedd reoleiddio benodol yn cael yr effaith yr hoffem, byddwn yn ail-werthuso ein hymagwedd. Yn yr un modd, os bydd ddata yn datgelu pryderon newydd mawr, byddwn yn ei ddefnyddio i ailasesu’n blaenoriaethau i weld a allem wella’r profiad i ddefnyddwyr drwy symud adnoddau tuag at faterion newydd.

Yn fyr, rydym eisiau sicrhau bod ein hadnoddau’n cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n peri’r gwelliant mwyaf i brofiadau dinasyddion a defnyddwyr yn y DU - a bod ein camau yn rhai cywir i helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Drwy gynnal asesiadau rheolaidd o dystiolaeth ymchwil, gallwn newid ffocws a blaenoriaethu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn dadl wybodus ynghylch ble y dylem ganolbwyntio’n hymdrechion yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Yn fwy cyffredinol, byddwn yn ceisio ystyried yn fwy trwyadl effaith ein gwaith polisi a datblygiadau yn y farchnad ar bob grŵp cwsmeriaid yn benodol y rheiny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, pobl hŷn, plant, cwsmeriaid anabl, y rheiny o leiafrifoedd ethnig a chwsmeriaid ar incymau isel.

Y Canfyddiadau

Mae adroddiad eleni yn dangos inni fod ein hymagwedd at gystadleuaeth a rheoleiddio yn cynnig buddiannau sylweddol i ddefnyddwyr o ran prisiau’n gostwng, mwy o foddhad a gwell amrywiaeth ac argaeledd ehangach o wasanaethau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynyddu’n hymdrechion ar faterion amddiffyn a grymuso defnyddwyr - yn benodol o ran newid cyflenwr a cham-werthu. Mae’r data’n cadarnhau bod y rhain yn faterion pwysig. Mae cynnydd wedi’i wneud a byddwn yn atgyfnerthu’n hymdrechion i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed ac i gryfhau diwydiant cydymffurfio yn y diwydiant. Byddwn yn cryfhau’n hymdrechion i sicrhau y cymerwn gamau gorfodi effeithiol a chyflym yn erbyn y rheiny sy’n diystyru rheoliadau.

Mae’r adroddiad hefyd yn dechrau dangos bod cydgyfeirio yn cael ei wireddu. Yn gynyddol, gall defnyddwyr gael gwasanaethau o ystod o lwyfannau amgen – er enghraifft teledu a’r rhyngrwyd dros ffonau symudol; galwadau llais, teledu a radio dros fand eang. Mae ystod pob gwasanaeth hefyd yn cynyddu: mwy o ddewis o gyflymderau band eang, mwy o sianeli teledu a gorsafoedd radio. Gall defnyddwyr ddewis bwndeli o wasanaethau ar yr un llwyfan, neu gael gwasanaethau ar amrywiaeth o lwyfannau. Er enghraifft, gellir cyflenwi teledu, radio, y rhyngrwyd a galwadau llais oll drwy gysylltiad band eang neu eu darparu ar wahân.

Mae’r rhain yn ddatblygiadau cadarnhaol - sy’n rhoi cyfleoedd i ostwng prisiau, pecynnau mwy pwrpasol, un pwynt cyswllt ac un bil ar gyfer gwahanol wasanaethau. Ond maent hefyd yn golygu bod rhaid i ddefnyddwyr wneud synnwyr o gymhlethdod a dewis cynyddol ac efallai y byddant yn profi mathau newydd o annifyrrwch neu niwed, fel y posibilrwydd o fwy o anhawster wrth newid darparwyr.

Cafwyd cynnydd amlwg mewn cydgyfeirio a bwndelu yn ystod 2006 ac megis dechrau gweld eu heffaith lawn y mae’r ymchwil hon. Disgwyliwn i’r tueddiadau hyn gyflymu a chael effaith gliriach a sylweddol ar brofiad defnyddwyr yn y blynyddoedd nesaf. Mae angen inni sicrhau bod ein hymagwedd reoleiddio yn mynd i’r afael â’r newidiadau hyn.

Bydd archwilio materion ynghylch graddfa argaeledd gwasanaethau ledled y DU a’r nifer sy’n dechrau defnyddio ac yn defnyddio gwasanaethau o bob grŵp cwsmeriaid yn flaenoriaeth arall inni yn benodol wrth i dechnoleg newid ac wrth i wasanaethau gydgyfeirio. Mae angen i ni adolygu rheolau ‘gwasanaeth cyffredinol’ i sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol wrth i’r gymdeithas a’r marchnadoedd newid ac ystyried a oes angen dulliau newydd i gyflwyno canlyniadau cymdeithasol.

Bydd y rhain yn feysydd heriol i Ofcom lle na fydd ein dyletswyddau statudol yn benodol efallai nac ymyrraeth reoleiddio uniongyrchol yn briodol ond a allai fod yn allweddol i gyflwyno buddiannau dinasyddion mewn gwasanaethau cyfathrebu. Byddwn yn ceisio nodi rhwystrau rhag darparu a dechrau defnyddio, asesu eu harwyddocâd ac ystyried a allwn neu a ddylem gymryd camau, naill ai’n uniongyrchol neu drwy rôl hwyluso, i’w chwalu neu eu goresgyn.

Eich Barn

Dyma’r tro cyntaf inni gynnal gwerthusiad o’r math hwn ac, o ganlyniad, rydym yn dal i ddatblygu’r mesurau a ddefnyddiwn. Bwriadwn ailadrodd yr ymarfer hwn bob blwyddyn, ac rydym yn awyddus i barhau i ddatblygu’n rhestr o fesuriadau i ganiatáu gwerthusiad polisi trwyadl o waith Ofcom i hybu buddiannau defnyddwyr a dinasyddion. Er enghraifft, mewn adroddiadau yn y dyfodol, bwriadwn gynnwys cymariaethau pris ac argaeledd rhyngwladol a mwy o ddata am ddefnydd defnyddwyr ar wasanaethau darlledu.

Rydym eisiau barn rhanddeiliaid am ein hadroddiad, y mesurau a ddefnyddiwn a’r dadansoddiad polisi. Rydym eisiau parhau â’n deialog am ein blaenoriaethau a’r camau sy’n fwyaf tebygol o gyflawni’r canlyniadau rydym yn chwilio amdanynt. Yn adran 5 o’r papur hwn awgrymwn ffyrdd y gall rhanddeiliaid gyfrannu at y broses hon.

David Currie Cadeirydd
Ed Richards Prif Weithredwr



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools