Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > Rhifo


Rhifo - Gwarchod dyfodol rhifau

Yn cynnwys Hysbysiad o newidiadau i Amod Gyffredinol 17 a’r Cynllun Rhifo Teleffon Cenedlaethol

Crynodeb

Diben y ddogfen hon

1.1 Mae’r ddogfen hon yn nodi penderfyniadau strategol Ofcom ynghylch sut y bydd rhifau ffôn yn cael eu rheoli dros y pump i ddeng mlynedd nesaf. Mae’n dilyn proses ymgynghori rhwng mis Chwefror a mis Mai eleni, lle cawsom dros 220 o ymatebion(-1-). Yn y ddogfen hon, disgrifiwn ein fframwaith strategol cyffredinol a rhai camau penodol rydym yn eu cymryd nawr.

1.2 Mae rhifau ffôn yn adnodd cenedlaethol hollbwysig, i ddefnyddwyr, i fusnesau ac wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Rhaid iddynt gael eu rheoli’n effeithiol fel eu bod nhw ar gael pan fo’u hangen, nad oes rhaid iddynt gael eu newid, ac sy’n golygu rhywbeth i’r sawl sy’n eu ffonio. Cyfrifoldeb Ofcom yw hyn. Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut mae Ofcom yn bwriadu cyflawni’r amcanion hynny yn y dyfodol trwy reoli rhifau ffôn, i roi’r fantais fwyaf i ddefnyddwyr.

1.3 Mae’n bwysig pwysleisio nad bwriad Ofcom yw newid y rhifau ffôn daearyddol a ddefnyddir yn draddodiadol gan y rhan fwyaf o gartrefi a busnesau. Ni chredwn fod angen hyn, yn bennaf oherwydd newidiadau rydym yn eu gwneud i sut rydym yn rheoli dyraniad a defnydd rhifau ffôn.

1.4 Rydym wedi penderfynu symleiddio’r rhifau annaearyddol sy’n dechrau gyda ‘08’ a ’09’ ar hyn o bryd a ddefnyddir gan rai busnesau a gwasanaethau cyhoeddus. Dylai hyn wneud defnyddwyr yn fwy hyderus wrth ddefnyddio rhifau felly. Rydym hefyd yn rhoi mwy o ddewis o rifau i wasanaethau cyhoeddus a chwmnïau preifat, gan eu galluogi i adlewyrchu parodrwydd a gallu eu cwsmeriaid i ffonio rhifau gwahanol. Rydym wedi ceisio cyfyngu unrhyw ymyrraeth a achosir gan y newidiadau hyn.

1.5 Mae’r cynllun tymor hir ar gyfer gosod rhifau ffôn rydym yn ei ddisgrifio yn y ddogfen hon yn seiliedig ar set o egwyddorion strategol y byddwn yn rhoi ystyriaeth iddynt ar gyfer pob penderfyniad polisi rhifo. Nod yr egwyddorion hyn yw sicrhau bod ein penderfyniadau rhifo bob amser yn ystyried buddiannau defnyddwyr a busnesau. Yn gyffredinol, nid yw defnyddwyr yn poeni ynghylch yr agweddau mwy technegol ar y polisi rhifo, ond maent yn poeni ynghylch parhad eu rhif eu hunain ac maen nhw am allu deialu rhifau eraill yn hyderus.

1.6 Mae Ofcom wedi archwilio pryderon presennol am rifau ffôn - am eu hargaeledd, eu tryloywder i ddefnyddwyr, a’r potensial i gam-drin defnyddwyr sy’n gysylltiedig â rhai ystodau o rifau. Byddwn yn cymryd camau amrywiol, o fewn ein fframwaith strategaeth newydd, i ymdrin â’r pryderon hynny ac felly bod o fantais i ddefnyddwyr:

1.7 Gyda’i gilydd, mae’r penderfyniadau hyn yn gweithredu’r egwyddorion strategol a ddatblygwyd gennym. Bydd rhai cynigion yn cael eu cyflwyno’n raddol, i leihau’r costau o dan sylw i ddarparwyr ac, yn y pen draw, i ddefnyddwyr. Ond ymhen amser, dylai’r mesurau hyn gyda’i gilydd lunio cynllun ar gyfer rhifau ffôn y DU sy’n rhoi ystyron clir a pharhaus i rifau ar gyfer defnyddwyr, sy’n cynyddu ffydd mewn rhai ystodau o rifau, ac sy’n sicrhau bod digon o rifau ar gael ar gyfer gwasanaethau presennol a gwasanaethau’r dyfodol.

1.8 O ganlyniad i’r penderfyniadau hyn, bydd y Cynllun Gosod Rhifau Ffôn Cenedlaethol (‘y Cynllun Rhifo’) yn edrych fel Ffigur 1.1 erbyn diwedd 2006. Rydym eisoes wedi cael rhywfaint o adborth ar yr eiconau a’r disgrifiadau y gallem eu defnyddio gan grwpiau ffocws defnyddwyr yn ystod y cyfnod ymgynghori a byddwn yn ystyried ymhellach yn y misoedd nesaf sut a phryd i roi gwybod i ddefnyddwyr am y newidiadau hyn a sut i ddefnyddio’r delweddau hyn orau i godi ymwybyddiaeth defnyddwyr.

Ffigur 1.1 Y Cynllun Gosod Rhifau Ffôn Cenedlaethol newydd

Rhifau sy’n dechrau gyda:   Diben:
Codau ardal   Codau ardal
Rhifau ledled y DU   Rhifau ledled y DU
w defnyddio yn y dyfodol   I’w defnyddio yn y dyfodol
Wedi’u cadw ar gyfer rhifau personol   Wedi’u cadw ar gyfer rhifau personol
Ffonau symudol   Ffonau symudol
Rhadffôn   Rhadffôn
Gwasanaethau cyfraddau busnes   Gwasanaethau cyfraddau busnes
Gwasanaethau cyfraddau premiwm   Gwasanaethau cyfraddau premiwm

Egwyddorion gosod rhifau

1.9 Cyflwynwn yn y ddogfen hon egwyddorion y byddwn yn eu hystyried yn gyson wrth edrych ar faterion polisi gosod rhifau. Bwriad yr egwyddorion hyn yw hyrwyddo buddiannau dinasyddion a defnyddwyr trwy sicrhau:

1.10 Mae’r ymagwedd hon yn cydnabod bod buddiannau’r defnyddiwr, yn gyffredinol, yn cael eu gwasanaethau orau trwy hyrwyddo cystadlu effeithiol. Mae’r ffordd y caiff rhifau ffôn eu darparu yn bwysig i’r ffordd y mae darparwyr gwasanaethau yn gallu cystadlu. Fodd bynnag, mae ein hymagwedd yn cydnabod hefyd fuddiannau uniongyrchol defnyddwyr o ran cam-drin rhifau, a’r buddiant ehangach o safbwynt dinasyddion sy’n gysylltiedig â pharhad ac argaeledd rhai rhifau.

Y cefndir i’r adolygiad hwn

1.11 Ysgogwyd yr adolygiad hwn gan bryderon presennol am osod rhifau ac angen i ystyried newidiadau mawr o bosibl yn y dyfodol. Ddeuddeng mlynedd ar ôl i reolaeth gosod rhifau gael ei throsglwyddo o BT i’r rheoleiddiwr, roeddem am fynd i’r afael â’r pryderon presennol, ac i wneud hynny fel rhan o fframwaith strategol a fydd hefyd yn gwneud synnwyr yn y dyfodol wrth i dechnoleg ac ymddygiad defnyddwyr esblygu.

1.12 Rhaid i Ofcom sicrhau bod digon o rifau’n parhau i fod ar gael i ddefnyddwyr fel y gallant elwa ar y gwasanaethau y mae rhifau’n eu cefnogi. Rhaid i ni sicrhau hefyd ffydd barhaus yn yr ystyr a ddarperir gan rifau, fel y gall defnyddwyr eu defnyddio nhw gyda hyder. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r amcanion hyn wedi’u bygwth:

1.13 Ar yr un pryd, disgwylir i’r rôl a’r defnydd o rifau newid yn ddramatig dros y blynyddoedd nesaf. O bwys arbennig y mae ymddangosiad Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (‘VoIP’) fel technoleg aeddfed. Mae hyn yn newid yn sylfaenol y ffordd y mae galwadau’n cael eu llwybro gan rwydweithiau ffôn, ac felly’n newid yn sylfaenol rôl rhifau ffôn. Mae amrywiaeth o ddarparwyr cyfathrebiadau newydd yn defnyddio technoleg VoIP i fynd i mewn i’r farchnad ar gyfer galwadau llais, tra bod y darparwyr cyfathrebiadau hynny sydd eisoes yn weithgar yn y farchnad yn buddsoddi mewn Rhwydweithiau Cenhedlaeth Nesaf (‘NGN’) sy’n seiliedig ar ‘Protocol Rhyngrwyd’ (‘IP’). Gydag amser, disgwylir i’r datblygiadau hyn leihau’r pwysau ar allu gosod rhifau, cefnogi gwasanaethau newydd a chyffrous a galluogi mwy o ddewis i ddefnyddwyr, ond gallant hefyd gyflwyno ffurfiau newydd o gam-drin ac ecsbloetio.

Penderfyniadau polisi

1.14 Mae’r adolygiad hwn yn tynnu ar sail dystiolaeth sylweddol a ddatblygwyd gan Ofcom, sy’n cynnwys ymchwil helaeth i’r farchnad i mewn i agweddau defnyddwyr at rifau a’u defnydd ohonynt, dadansoddiad manwl o’r galw presennol ac amcanestyniad o’r galw am rifau, a dadansoddiad technegol, economaidd a chyfreithiol. Rydym wedi adeiladu ar hyn gyda chymorth dros 220 o ymatebion ymgynghori a chyfraniadau eraill gan randdeiliaid a chyrff ymgynghorol. Mae’r paragraffau canlynol yn crynhoi ein prif benderfyniadau, a drafodir yn fanylach trwy gydol y ddogfen hon.

Byddwn yn defnyddio profion diogelu defnyddwyr i wrthod dyraniadau rhifau i ddarparwyr sy’n cam-drin defnyddwyr yn gyson a/neu yn ddifrifol

1.15 Byddwn yn ceisio codi ffydd mewn rhifau yn y DU gyfan trwy bennu un neu fwy o brofion diogelu defnyddwyr sy’n ein galluogi i wrthod dyraniadau rhifau i ddarparwyr sy’n cam-drin defnyddwyr yn gyson a/neu yn ddifrifol. Cefnogwyd y cynnig hwn yn gryf gan bob math o randdeiliaid yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, mewn perthynas â phrawf wrth ddyrannu rhifau a phrawf ar gyfer tynnu rhifau’n ôl.

1.16 Rhannodd llawer o randdeiliaid safbwynt Ofcom bod angen mwy o waith i sicrhau bod manylion profion o’r fath yn gywir er mwyn iddynt fod mor effeithiol â phosibl ac yn osgoi bylchau. Wrth reswm, byddai angen i unrhyw brofion y mae Ofcom yn eu defnyddio fod yn ymarferol, ac felly ein bwriad yw ymgynghori’n fanwl yn y maes hwn yn hwyrach yn 2006, yn dilyn gwaith helaeth gyda rhanddeiliaid. Mae angen i ni osgoi canlyniadau anfwriadol ar gyfer cystadlu hefyd a rhoi systemau ar waith i sicrhau bod penderfyniadau o dan y profion yn glir, yn gyson ac yn briodol.

1.17 Enghraifft o brawf posibl, y cyfeiriwyd ato yn yr ymgynghoriad, yw y byddai Ofcom yn gwrthod dyrannu rhifau yn y dyfodol mewn achosion lle mae darparwr wedi torri safonau penodol amddiffyn defnyddwyr fwy nag unwaith yn y flwyddyn flaenorol.

Byddwn yn cymryd camau nawr i osgoi newidiadau i rifau daearyddol defnyddwyr yn y dyfodol

1.18 Cydnabyddir rhifau daearyddol ar raddfa eang ac mae defnyddwyr yn ymddiried ynddynt, y mae’r mwyafrif ohonynt yn parhau i roi gwerth uchel ar y gallu i gadw’u rhifau daearyddol. Ond mae galw uchel am rifau daearyddol yn sgil nifer gynyddol o ddarparwyr cyfathrebiadau. Nid yw’r rhifau sydd wedi’u dyrannu yn cael eu defnyddio’n dda oherwydd bod cyfanswm cronfa’r rhifau wedi’i ledaenu ar draws sawl ardal ddaearyddol.

1.19 Rydym yn cymryd camau nawr fel y gallwn osgoi newidiadau i rifau wrth barhau i sicrhau bod rhifau ar gael i gefnogi cystadleuaeth. Byddwn yn gwneud hyn yn bennaf trwy ddyrannu rhifau daearyddol i ddarparwyr mewn blociau llai o faint (1,000 yn hytrach na 10,000 o rifau) mewn unrhyw ardal ddaearyddol lle y byddai’r rhifau presennol fel arall yn dirwyn i ben cyn pen pum mlynedd. Mae hyn dipyn yn dynnach nag y bu ‘mesurau cadwraeth’ o’r fath yn y gorffennol.

1.20 Bydd mesurau cadwraeth tynnach yn gwella’r defnydd ar y rhifau hyn, ac yn lleihau’n sylweddol y risg o newidiadau i rifau. Byddai gwelliant cymedrol mewn cyfraddau defnyddio, o’r cyfartaledd presennol o 15 y cant o’r rhifau sydd ar gael i ryw 30 y cant, yn lleihau nifer yr ardaloedd daearyddol sydd ar hyn o bryd mewn perygl o brinder rhifau o 34 i sero.

1.21 Gallwn fabwysiadu’r dull hwn oherwydd dim ond am y pum mlynedd nesaf y dylai fod yn ofynnol, nes defnyddio technoleg VoIP yn gyffredinol, a dylai NGN yn benodol, alluogi’r rhifau dyranedig i gael eu defnyddio’n well. Dylai’r newidiadau technolegol hyn ei gwneud yn haws dyrannu rhifau ffôn mewn pa faint bloc bynnag sydd fwyaf effeithlon o safbwynt rheoli rhifau.

1.22 Yn ogystal, mae Ofcom wedi ystyried cynlluniau wrth gefn i sicrhau bod rhifau ychwanegol ar gael os caiff rhifau eu dihysbyddu mewn nifer fach o ardaloedd penodol. Gallai hyn ddigwydd am resymau na ellir eu rhagweld fel datblygiad tai newydd sylweddol o fewn ardal ddaearyddol gyfyngedig. Ein barn ni yw mai’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddarparu rhifau ychwanegol mewn ffordd dargedig, i leihau ymyrraeth i ddefnyddwyr, yw defnyddio ‘codau troshaen’. Ail godau ardal yw’r rhain i ymestyn dros ardal ddaearyddol sydd wedi rhedeg allan o rifau. Ni fyddai’n rhaid i unrhyw un newid eu cod neu eu rhif ffôn presennol o ganlyniad i weithredu cod troshaen yn eu hardal.

1.23 Mae ein rhagamcaniadau o alw am rifau daearyddol yn y dyfodol yn awgrymu efallai (cyn i’r galw anrhagweledig newid) y gallai fod angen codau troshaen ar chwe ardal erbyn diwedd 2012, gyda sefyllfa achos gwaethaf o 11 ardal erbyn hynny. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio osgoi’r sefyllfaoedd hyn, yn rhannol trwy archwiliadau targedig o’r darparwyr hynny sydd eisoes yn meddu ar rifau yn yr ardaloedd hyn. Hwyrach y bydd angen codau troshaen ar ardaloedd eraill gyda thwf anrhagweladwy o uchel yn y galw sylfaenol hefyd, sydd efallai’n gysylltiedig â datblygiadau tai newydd mawr. Gan fod yna gyfanswm o dros 600 o ardaloedd cod, nid yw nifer ddisgwyliedig gyfyngedig yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn gwarantu’r newid cyffredinol i rifau presennol neu ymddygiad deialu sy’n ofynnol dan ddewisiadau wrth gefn eraill.

1.24 Hyd yn oed os bydd newid technolegol yn araf, codau troshaen yw’r dull cyffredinol gorau mewn unrhyw ardaloedd lle nad yw mesurau cadwraeth yn ddigonol. Roedd ymatebwyr i’r ymgynghoriad bron yn unfrydol o blaid ymagwedd gyffredinol Ofcom ar y mater hwn. Y tu hwnt i’r ymagwedd gyffredinol honno, byddwn hefyd yn cymryd camau penodol - fel brwydro i adhawlio rhifau segur - er mwyn ceisio osgoi codau troshaen yn yr ardaloedd hynny sydd fwyaf tebygol o’u hangen nhw.

Rydym yn dyrannu rhifau 03 newydd, fel dewis rhatach i ddefnyddwyr ffonio’r gwasanaethau cyhoeddus a’r busnesau hynny sydd am gael presenoldeb cenedlaethol

1.25 Diben gwreiddiol y rhifau annaearyddol hynny sy’n dechrau gyda 08 a 09 oedd fel man cyswllt unigol ar gyfer y busnesau a’r gwasanaethau cyhoeddus hynny sydd â phresenoldeb a hunaniaeth genedlaethol. Mae’r rhifau hyn hefyd yn caniatáu i fusnesau a chyrff sector cyhoeddus sy’n trefnu bod gwasanaethau ar gael i’r cyhoedd godi ffioedd trwy ddefnyddio mecanwaith micro-daliad a adnabyddir fel ‘cyfran refeniw’, lle maent yn cymryd cyfran o’r ffioedd a delir gan y galwr; defnyddir y gallu hwn ar raddfa eang.

1.26 Fodd bynnag, mae gan ddefnyddwyr ymwybyddiaeth wael o lefel derfynol ffioedd galwadau am y rhifau hyn a natur y gyfran refeniw. Yn ogystal, mae nifer o achosion o ‘dwyll’ wedi dod i’r amlwg sy’n ymelwa ar y gyfran refeniw. Y canlyniad fu i ddefnyddwyr golli ffydd yn sylweddol yn yr ystodau hyn.

1.27 Mae Ofcom eisoes wedi cymryd rhai camau i adfer y ffydd hon fel rhan o’i Adolygiad Gwasanaethau Trosi Rhif (‘Adolygiad NTS’). Ym mis Ebrill eleni, gwnaed penderfyniadau a fydd yn cynyddu tryloywder y ffioedd am rifau 08 presennol a graddfa amddiffyn defnyddwyr a ddarperir mewn perthynas â nhw.

1.28 Yn ogystal â materion hyder defnyddwyr, mae disgwyl i’r rhan fwyaf o’r ystodau 08 a ddefnyddir ar hyn o bryd redeg allan yn y blynyddoedd nesaf, oherwydd twf cryf yn y galw sylfaenol. Mae digon o rifau 08 eraill ar gael ar gyfer y gwasanaethau hyn, ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod y rhifau hynny ar gael mewn ffordd sydd o fantais i ddefnyddwyr trwy wella prisiau a thryloywder y gwasanaeth.

1.29 Felly, rydym yn creu math newydd o rif – sy’n dechrau gyda 03 – i’r sefydliadau hynny y mae angen presenoldeb cenedlaethol arnynt, ond nad ydynt yn dymuno codi ffi ychwanegol ar ddefnyddwyr am gysylltu â nhw. Yn benodol, disgwyliwn i hyn fod yn ystod y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo ei bod yn briodol i’w defnyddio yn hytrach na rhifau 08 y codir ffi amdanynt. Disgwyliwn i ddefnyddwyr ymddiried yn yr ystod newydd fel rhif sy’n cynnwys gwasanaethau ac ystodau prisiau a ddeellir yn glir. Byddwn yn cymryd sawl cam i adeiladau ar yr ymddiriedaeth hon:

Rydym yn symleiddio strwythur yr ystodau rhifau 08 a 09

1.30 Bydd gwasanaethau sy’n gofyn am ficro-daliadau bach yn aros ar yr ystod 08, gan gael dyraniadau rhifau newydd fel sy’n ofynnol yn ôl y galw. Ond mae creu’r ystod 03 newydd yn rhoi’r cyfle i ni symleiddio disgrifiad cyhoeddus o rifau 08 dros amser.

1.31 Ein hymagwedd strategol at yr ystod 08 yw y bydd gwasanaethau’n cael eu disgrifio ar y lefel ‘dau ddigid’. Mae hyn yn awgrymu tri chategori o rifau 08 yn unig:

1.32 Mae yna rai rhifau yn yr ystod 08 hon a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau lle mae’r cyswllt hanesyddol rhwng ffioedd galwadau a chyfraddau daearyddol – 0845 ar gyfer ‘cyfradd leol’ a 0870 ar gyfer ‘cyfradd genedlaethol’ – wedi torri i lawr. Yn ddiweddar, casglodd Adolygiad NTS Ofcom(-2-) y byddai’r gost o orfodi darparwyr i symud o’r rhifau hyn yn anghymesur o uchel, ac yn hytrach penderfynwyd y dylai atgyweirio ac ymestyn y cyswllt rhwng galwadau 0870 a galwadau cenedlaethol i rifau daearyddol er mwyn iddo fod yn gymwys i’r holl ddarparwyr cyfathrebiadau. Byddwn hefyd yn adolygu cyn pen dwy flynedd a ddylem wneud yr un peth ar gyfer rhifau 0845. Dyma sefyllfa Ofcom o hyd. Fodd bynnag, disgwyliad Ofcom yw bod modd darparu ar gyfer twf mewn gwasanaethau felly yn y dyfodol ar yr ystod 03 newydd, ac felly ni ddylai fod angen ystodau rhifau newydd sy’n gysylltiedig â chyfraddau daearyddol yn 08. Wrth i’r ystod 03 newydd ddod yn gyfarwydd i ddefnyddwyr a hwythau’n ymddiried ynddi, hwyrach bod y defnyddwyr hynny sy’n defnyddio rhifau 0845 a 0870 ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaethau (yn enwedig y rheiny sy’n dymuno cael manteision llwybro galwadau yn hytrach na’r cyfleuster rhannu refeniw) yn penderfynu symud i 03.

1.33 Nid yw’r strategaeth hon yn golygu y bydd hyd y rhifau’n newid, ond bydd dyrannu a diffinio rhifau yn y ffordd hon yn cynnig neges lawer symlach i ddarparwyr cyfathrebiadau ei chyfleu ac i’w cwsmeriaid ei deall:

1.34 Rydym yn gadael rhifau gwasanaethau Rhadffôn 0800 presennol (a rhifau ffôn di-dâl 0808) fel y maen nhw. Dyma un math o rif 08 a gydnabyddir yn gymharol dda ac y mae gan ddefnyddwyr ffydd ynddo. Defnyddir yr un rhif yn gyffredinol ar gyfer gwasanaethau Rhadffôn yn rhyngwladol, sydd efallai’n cyfrannu at ymwybyddiaeth uwch ymhlith defnyddwyr. Ac nid oes perygl i’r rhifau hyn yn cael eu dihysbyddu ar hyn o bryd.

1.35 Byddwn hefyd yn symleiddio’r disgrifiad cyhoeddus o wasanaethau 09, er bod angen gwneud mwy o waith ar y manylion. Ar y cyfan, amrywiodd ymatebwyr i’r ymgynghori ar sut i roi hunaniaeth glir i’r ystodau 09 gwahanol. Roedd yn well gan rai cysylltu’r ail ddigid â phrisiau uwch, fel rydym yn ei wneud ar gyfer rhifau 08. Roedd yn well gan rai cysylltu rhai mathau o wasanaethau (e.e. ‘codi arian i elusennau’) ag ystodau 09 ar wahân. Fodd bynnag, roedd llawer yn cytuno y dylai gwasanaethau adloniant rhywiol (‘SES’) gael eu hunaniaeth eu hunain, gan ddefnyddio rhifau uchel 09. Mae Ofcom wedi ymgynghori ar wahân ar sut i sicrhau argaeledd rhifau parhaus ar gyfer SES, a bydd yn cyhoeddi ei gasgliadau’n fuan. Bwriadwn ymgynghori’n fanwl yn nes ymlaen eleni ar y gwasanaethau a’r prisiau y gellir eu darparu ar hyd gweddill ystod 09.

1.36 Dylai ein penderfyniadau ar yr ystodau 03, 08 a 09 arwain at strwythuro’r gwasanaethau fel yn Ffigur 1.2 yn y tymor hir. Gallai’r lefelau prisiau penodol ar gyfer yr ystodau 08 a 09 newid wrth i Ofcom symud yn eu blaenau ei gynlluniau i roi ar waith lefelau prisiau’r Cynllun Gosod Rhifau i alwadau a wneir o bob llinell (gweler paragraffau 1.45-1.47).

1.37 Trwy bennu’r cynllun strategol ar gyfer gwasanaethau 08 a’r ystod 03 newydd yn y datganiad hwn, mae gan ddarparwyr gwasanaethau y wybodaeth angenrheidiol erbyn hyn i benderfynu sut i ymateb i’r newidiadau sydd ar ddod i rifau 08 fel y’u pennwyd gan Adolygiad NTS ym mis Ebrill 2006. Gall darparwyr gwasanaethau bellach fod yn glir ynghylch pa ddewis dylent ei gymryd ymhen 18 mis o’r datganiad hwn, fel sy’n ofynnol gan benderfyniadau’r Adolygiad NTS. Pan gaiff y newidiadau a osodir yn Adolygiad NTS eu gweithredu ym mis Ionawr 2008, gallai darparwyr gwasanaethau benderfynu:

Ffigur 1.2 Strwythur ystodau 03, 08 a 09 yn y dyfodol

Ystod rhif   Pris/Gwasanaeth
03   Galwadau ar yr un gyfradd â galwadau i rifau daearyddol, ni chaniateir rhannu refeniw
080   Rhadffôn
084   Galwadau o hyd at 5 ceiniog y funud, caniateir rhannu refeniw
087   Galwadau o hyd at 10 ceiniog y funud, caniateir rhannu refeniw
090-097   Prisiau a/neu wasanaethau ar wahân posibl ar gyfer pob band o 090, 091, 092 etc (Ofcom i ymgynghori ar y manylion)
098   Gwasanaethau Adloniant Rhywiol

1.38 Mae Ofcom yn cydnabod y bydd y strwythurau newydd ar gyfer 08 a 09 yn gadael gwasanaethau presennol yn eu lle ar rai rhifau tri digid sy’n anghyson â’r ymagwedd dymor hir hon. Rydym wedi penderfynu yn erbyn symud gorfodol gwasanaethau 08 ar hyn o bryd, gan y byddai hynny’n codi nifer o ystyriaethau cymhleth o ran costau symud, y mae Adolygiad NTS eisoes wedi ymdrin â nhw. Ond mae’r mesurau a gymerwn wedi’u dylunio i greu brand cryf a chadarnhaol ar gyfer y rhifau newydd sydd ar gael, gan ddisgwyl y bydd hyn yn annog symud gwirfoddol dros gyfnod i’r strwythur newydd. Os bydd hyn yn llwyddiannus, yna gallai fod yn briodol dychwelyd i’r mater o orfodi gwasanaethau etifeddol sy’n weddill i symud fel nad yw ystyr tymor hwy y Cynllun Gosod Rhifau yn cael ei gyfyngu gan leiafrif o wasanaethau anghyson. Byddai’r sbardun ar gyfer ailwerthusiad felly yn lefel o symud gwirfoddol a fyddai’n gostwng yn faterol y costau gweddilliol sy’n gysylltiedig â symud gorfodol. Bydd Ofcom yn ystyried a oes angen gorfodi symud gwasanaethau 09 pan fydd yn ymgynghori’n fanwl ar brisiau 09 a disgrifiadau gwasanaethau i’r dyfodol yn nes ymlaen eleni.

Rydym yn cynyddu amddiffyn defnyddwyr ar gyfer rhifau personol 070 a byddwn yn cadarnhau 07 fel ystod rhif symudol yn unig

1.39 Darperir Gwasanaethau Gosod Rhifau Personol ar un rhan benodol o’r ystod 07 (070). Mae gan Ofcom nifer o bryderon am y gwasanaethau hyn. Ymwybyddiaeth gyfyngedig iawn sydd gan ddefnyddwyr o ‘Rifau Personol’ fel cysyniad, ac mae gwasanaethau gosod rhifau personol cyfreithlon wedi cael effaith gymharol fach ar y farchnad. Ar yr un pryd, cafwyd cyfres o achosion lle mae darparwyr wedi ymelwa ar yr ymwybyddiaeth wael o’r ystod hon, a’r diffyg nenfydau prisiau galwadau, i gynnal gweithgareddau twyll. Mae hyn er gwaethaf ymdrechion blaenorol i adfer ffydd mewn rhifau personol, trwy ddisodli gallu darparwyr 070 i ddefnyddio rhannu refeniw.

1.40 Yn y tymor byr, mae Ofcom felly’n cyflwyno nenfwd prisiau ar alwadau i rifau personol. Os bydd galwad yn costio mwy na’r nenfwd hwn, bydd rhaid i gwsmeriaid gael cyhoeddiad di-dâl cyn galwad am y ffi sydd ynghlwm. Bydd y nenfwd prisiau’n berthnasol ni waeth a yw’r galwadau yn cael eu gwneud o linell BT, o unrhyw linell sefydlog arall, ffôn symudol neu ffôn talu. Mae Ofcom yn cynnal ymgynghoriad pellach byr ar ddau ddewis ar gyfer y nenfwd hwn: 20c safonol (y funud neu fesul galwad) i bob cwsmer, neu’r uchafswm y byddai’r cwsmer penodol yn ei dalu am alwad llais i rif ffôn symudol 07. Dylai’r trefniadau nenfwd prisiau gael eu gweithredu ddechrau 2007.

1.41 Fel mesur tymor hir, mae Ofcom wedi penderfynu dod â’r ystod rhifau personol 070 i ben. Bydd hyn yn dirwyn i ben y cyfle am ddryswch â rhifau symudol 07, sy’n creu potensial i’w cam-drin. Nid yw’n amlwg ar hyn o bryd bod lefel sylweddol o alw am wasanaethau gosod rhifau personol gwirioneddol, felly erbyn diwedd 2007 bydd Ofcom yn adolygu eu defnydd i benderfynu p’un ai i agor ystod rhifau 06 ar gyfer y gwasanaethau hyn. Os caiff 06 ei agor, yna byddai disgwyl i’r gwasanaethau 070 presennol gael eu trosglwyddo erbyn diwedd Gorffennaf 2009, a byddwn yn rhoi’r gorau i ddyrannu rhifau personol 070 newydd ar ôl 2007. Fel rhan o’r adolygiad hwn, bydd Ofcom yn ceisio cysylltu â phob darparwr y dyrannwyd rhifau personol 070 iddynt.

1.42 Mae defnyddwyr yn cysylltu’r ystod 07 yn bennaf â gwasanaethau symudol, ac mae hyn yn cynnig rhywfaint o dryloywder o ran prisiau, gan wneud yn glir pryd fydd defnyddwyr yn talu premiwm am wasanaeth symudol. Bydd tynnu rhifau personol i ffwrdd o 070 yn ein galluogi i atgyfnerthu’r gydnabyddiaeth hon, trwy ddynodi’n ffurfiol ystod 07 ar gyfer gwasanaethau symudol. Mae’r galw am wasanaethau symudol yn parhau i fod yn gryf, felly bydd is-ystodau 07 sef 071-075 yn cael eu dynodi ar gyfer gwasanaethau symudol i alluogi twf parhaus yn y gystadleuaeth ac amrywiaeth y gwasanaethau. Byddwn yn dyrannu rhifau symudol mewn symiau llai o faint lle bo hynny’n briodol i helpu i sicrhau bod digon o rifau ar gael i gleientiaid newydd a darparwyr presennol.

Rydym hefyd yn cadw’r ystod 06 ar gyfer dyraniadau gosod rhifau unigol i’r dyfodol

1.43 Fel y nodir uchod, mae’n bosibl y bydd Ofcom yn symud gwasanaethau ‘dilyn fi’ 070 presennol – sef rhifau personol – i’r ystod rhif 06. Byddai disgwyl i’r gwasanaethau hyn sy’n symud ac unrhyw wasanaethau gosod rhifau personol 06 newydd ufuddhau i’r un nenfwd prisiau â rhifau 070.

1.44 Yn ogystal, rydym wedi penderfynu cadw’r ystod 06 ar gyfer y tymor hwy i alluogi dyrannu ‘rhifau unigol’. Byddai’r rhain yn wahanol i rifau personol am y byddant yn cael eu dyrannu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol. Caiff rhifau personol, o’u cymharu, eu dyrannu i ddarparwyr cyfathrebiadau. Mae angen datrys nifer o faterion ymarferol cyn y gallwn wneud hyn.

Byddwn yn codi tryloywder defnyddwyr trwy ddatblygu disgrifiadau prisiau sy’n rhoi gwybodaeth am gostau galwadau ni waeth pa fath o linell y gwneir galwad ohoni.

1.45 Rhan o’r broblem tryloywder ar gyfer nifer o wasanaethau yw nad yw’r lefelau prisiau a bennir yn y Cynllun Gosod Rhifau ond yn berthnasol i alwadau a wneir o linellau BT. Mae Ofcom yn credu’n gadarn mai holl ddiben y Cynllun Gosod Rhifau yw darparu tryloywder ynghylch y gwasanaethau a’r prisiau sydd ynghlwm wrth wneud galwad, fel y gall defnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus. Caiff gallu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus ei gyfaddawdu’n ddifrifol pan fydd tryloywder prisiau ond yn berthnasol i alwadau a wneir o un darparwr.

1.46 Mae Ofcom felly’n bwriadu datblygu disgrifiadau ar gyfer y gwasanaethau amrywiol ledled y Cynllun Gosod Rhifau a fydd yn berthnasol i alwadau o bob llinell. Mae hyn eisoes wedi dechrau yn y datganiad hwn trwy sefydlu cyswllt rhwng galwadau i rifau 03 a chyfraddau galwadau daearyddol sy’n berthnasol i alwadau o bob llinell, a thrwy’r nenfwd prisiau cyffredin rydym yn ymgynghori yn ei gylch ar gyfer galwadau i wasanaethau gosod rhifau personol 070. Bydd yr ymagwedd hon yn cael ei hestyn i ystodau rhifau eraill, gan gynnwys gwasanaethau 08 a 09 lle mae hyn wedi bod yn bryder mwy cyffredin.

1.47 Nid yw cymhwyso disgrifiadau prisiau yn y ffordd hon yn dibynnu ar ddarparwr yn cael Grym Marchnad Sylweddol wrth gyflwyno gwasanaeth penodol. Yn hytrach, mae’n ymwneud â rhoi eglurder i ddefnyddwyr trwy rwymedigaethau cyffredinol ar bob darparwr perthnasol. Mae Ofcom yn cydnabod bod ystyriaethau cymhleth ynghlwm wrth ddatblygu disgrifiadau Cynllun Gosod Rhifau a fydd yn ymdrin â galwadau o bob llinell, gan gynnwys ffonau symudol, o gofio bod costau a ffioedd cychwynnol galwadau yn amrywio rhwng rhwydweithiau. Byddwn yn dadansoddi’r rhain ymhellach yn ail hanner 2006.

Byddwn yn rheoli rhifau’n fwy effeithiol trwy osod mecanweithiau sy’n seiliedig ar y farchnad yn lle rheolau a phrosesau gweinyddol, lle bo’n briodol

1.48 Ar hyn o bryd, mae Ofcom yn rheoli gosod rhifau trwy ddefnyddio rheolau a phrosesau cymhleth a ddylunnir, er enghraifft, i sicrhau bod darparwyr yn defnyddio rhifau’n effeithlon. Ar lefel strategol, rydym wedi casglu y gallai rhyw ddefnydd ar fecanweithiau o fath marchnad fod yn fwy effeithiol, ac yn bendant yn llai ymwthiol.

1.49 Cydnabyddwn fod angen asesu mesurau fel codi tâl ar ddarparwyr cyfathrebiadau (nid defnyddwyr) am ddyrannu rhifau yn nhermau a ydynt yn ychwanegu gwerth at ddatrys problem ac a ydynt yn ffordd effeithlon o wneud hynny. Gwnaeth llawer o ymatebwyr i’r ymgynghoriad y pwynt hwn. Gallai codi tâl am rifau fod yn ddefnyddiol wrth gynnig cymhellion i ddefnyddio’r rhifau a ddyrennir i ddarparwyr yn effeithlon, ond mae angen asesu hyn ymhellach. Mae angen i ni sicrhau hefyd bod amodau cyfreithiol priodol yn cael eu bodloni ar gyfer unrhyw ffioedd rhifau, er enghraifft na wahaniaethir yn erbyn mathau penodol o ddarparwr. Yn ogystal, mae’n werth nodi y byddai unrhyw ffioedd yn cael eu gosod ar lefel na fyddai’n cynyddu’n sylweddol y costau mae defnyddwyr yn eu hwynebu.

1.50 Mae Ofcom wedi dechrau prosiect ar wahân i asesu’r materion cymhleth sydd ymhlyg â chodi tâl am rifau. Petai ffioedd yn cael eu cyflwyno, ni fyddai hyn yn digwydd cyn 2007. Mae Ofcom yn ymwybodol, trwy gyfarwyddo cyflwyno ffi felly o bosibl, gallai darparwyr wneud cais am rifau nad oes arnynt eu hangen eto er mwyn osgoi ffioedd yn y dyfodol. Dymuna Ofcom wneud yn glir na fydd ymddygiad felly’n cael ei wobrwyo. Er enghraifft, mae unrhyw ffi a gyflwynir yn debygol o gynnwys ffi flynyddol a fyddai’n cael ei chymhwyso i bob rhif a ddyrennir.

Y camau nesaf

1.51 Mae nifer o benderfyniadau Ofcom yn y ddogfen hon yn gofyn i ni wneud newidiadau i’r Cynllun Gosod Rhifau a’r ffurflenni cais am rif sy’n cyd-fynd ag ef. Y penderfyniadau hyn yw agor yr ystod 03, dynodi mwy o rifau 07 i fod ar gael ar gyfer gwasanaethau symudol, cymhwyso nenfwd prisiau 070 a chyflwyno diffiniadau newydd o ardaloedd cadwraeth ar gyfer codau ardal ddaearyddol.

1.52 Ymdrinnir â’r mesurau ymgynghori hyn yn Atodiadau 2 i 8 o’r ddogfen hon. Ein bwriad fydd dod â’r prosesau ymgynghori hynny i ben yn gyflym, os yn bosibl erbyn dechrau mis Hydref 2006, pan fydd y fframwaith newydd ar gyfer cadwraeth rhifau daearyddol ar waith a bydd darparwyr cyfathrebiadau yn gallu gwneud cais am rifau 03. Disgwyliwn y gallai rhifau 03 fod ar gael i’w deialu ddechrau 2007.

1.53 Fel y nodwyd uchod, mae ystyriaethau cymhleth gan sawl haen o waith ac mae angen eu cwblhau o hyd. Y rhain yw’r prawf amddiffyn defnyddwyr; codi tâl am rifau; diwygio’r disgrifiadau gwasanaeth yn y Cynllun Gosod Rhifau, gan gynnwys union strwythur ystod rhifau 09; a chymhwyso darpariaethau prisiau cyffredin yn y Cynllun Gosod Rhifau i bob darparwr cychwynnol. Mae angen i Ofcom ymgynghori ymhellach i weithredu newidiadau ar gyfer y materion hyn, a disgwyliwn wneud hynny’n nes ymlaen yn 2006.

1.-Mae’r ddogfen ymgynghori Saesneg i'w gael yn http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/numberingreview/

2.-Gwasanaethau Trosi Rhif: Y Ffordd Ymlaen (http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/nts_forward/welsh_version.pdf)


Back to top Back to top

Related Items