- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > Rheoleiddio Gwasanaethau PRhT
Rheoleiddio Gwasanaethau PRhT
Crynodeb Gweithredol
Cyflwyniad
1.1 Mae gwasanaethau Protocol Rhyngrwyd Troslais (PRhT) yn parhau i gael effaith gynyddol ar sector cyfathrebiadau’r DU. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae amrediad o wasanaethau newydd wedi eu lansio ac mae’r nifer sydd yn manteisio arnynt wedi cynyddu’n sylweddol. Dros amser mae gan wasanaethau PRhT y potensial i gynnig manteision newydd sylweddol i ddefnyddwyr, yn cynnwys rhagor o gystadleuaeth a dewis, prisiau is a gwasanaethau newydd fel ail linellau a gwasanaethau crwydrol.
Nodau a chynigion rheoleiddiol
1.2 Er mwyn sicrhau fod rheoliad priodol yn cyd-fynd â’r datblygiadau hyn cyhoeddodd Ofcom ddogfen ymgynghorol o’r enw Gwasanaethau Llais Newydd: Ymgynghoriad a chanllaw dros dro ar 6 Medi 2004 (‘ymgynghoriad 2004’)(-1-). Nododd y ddogfen honno beth oedd cynigion Ofcom ar gyfer fframwaith rheoleiddiol gwasanaethau PRhT i helpu i sicrhau y gellid cwrdd â buddiannau defnyddwyr yn y modd gorau. Roedd y cynigion yn adlewyrchu cyfyngiadau cyfarwyddebau y Gymuned Ewropeaidd a hefyd babandod cymharol y farchnad.
1.3 Ar 22 Chwefror 2006, cyhoeddodd Ofcom ddogfen ymgynghori arall(-2-) o’r enw Rheoli Gwasanaethau PRhT: Datganiad ac ymgynghori pellach (‘ymgynghoriad 2006’). Nododd y ddogfen ymgynghori hon gynigion diwygiedig Ofcom, gan gymryd i ystyriaeth yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol a hefyd y datblygiadau a fu mewn gwasanaethau PRhT ers 2004. Roedd y cynigion wedi’u llunio i fod yn gyson ag amcanion rheoleiddiol Ofcom mewn perthynas â PRhT ac i hyrwyddo buddiannau dinasyddion a defnyddwyr ymhellach. Nodwyd yn arbennig tri amcan o’r fath oedd yn ganolog i gyflawni hyn:
- galluogi arloesi mewn dull sydd yn dechnolegol niwtral
- sicrhau bod defnyddwyr yn hyddysg iawn; a
- sicrhau yr argaeledd mwyaf o fynediad i wasanaethau brys.
1.4 Wrth ddelio â’r amcanion hyn, lluniodd Ofcom y ddau brif gynnig rheoleiddiol yn ei ymgynghoriad yn 2006:
- Addasu Amod Cyffredinol(-3-) 14 (“AC14”) oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Ddarparwyr Gwasanaethau Cyfathrebiadau Electronig Cyhoeddus (i’r graddau y mae’n cynnwys cyfleu siarad, cerddoriaeth neu seiniau) gydymffurfio â chôd ymarfer (h.y. y Côd ar ddarpariaeth gwybodaeth defnyddwyr gan Ddarparwyr Gwasanaeth i Gwsmeriaid Domestig a Busnesau Bach ar gyfer darpariaeth Gwasanaethau (‘y Côd’); a
- addasu’r diffiniad o ‘Wasanaeth Ffôn ar gael yn Gyhoeddus’ (‘PATS’) i ddibenion Amod Cyffredinol 18 (‘AC 8’) fel mai dim ond gwasanaethau sydd ar gael i’r cyhoedd ar gyfer dechrau a derbyn galwadau cenedlaethol a rhyngwladol a mynediad i wasanaethau brys trwy rif ffôn arferol sydd â’r hawl i symudedd o dan AC 18, a’r unig eithriad yw gwasanaethau cyfathrebiadau electronig cyhoeddus yn unig ar gyfer derbyn galwadau.
1.5 Nododd ymgynghoriad 2006 hefyd nifer o fesurau ychwanegol sydd yn berthnasol i gymhwysiad yr Amodau Cyffredinol o Hawl(-4-) (“AuC”) i ddarparwyr gwasanaethau PRhT, yn cynnwys:
- Terfyn ar bolisi ymatal dros dro Ofcom fel y nodwyd yn ymgynghoriad 2004. Roedd y polisi hwn yn golygu y byddai Ofcom yn ymwrthod rhag gorfodi rhwymedigaethau yn yr AuC oedd yn berthnasol i PATS, er mwyn lleihau unrhyw anghymhelliad potensial i ddarparwyr PRhT rhag cynnig mynediad i wasanaethau brys i’w cwsmeriaid ;
- Diddymu’r Canllawiau Gofyniad Hanfodol(-5-) (ac yn lle hynny defnyddio’r prawf ‘rhesymol ymarferol’ a nodir yn Amod Cyffredinol 3 (‘AC 3’) ar sail achos wrth achos); a
- Cyhoeddi canllaw drafft ar y defnydd o rwymedigaethau PATS mewn AuC i ddarparwyr gwasanaethau PRhT i sicrhau eu bod yn cwrdd â’u rhwymedigaethau.
Ymatebion i’r ymgynghoriad a’n casgliadau
1.6 Derbyniwyd dros 50 o ymatebion manwl a defnyddiol i ymgynghoriad 2006. Ar y cyfan cafwyd cefnogaeth eang i’n cynigion, er bod rhai enghreifftiau o anghydweld nodedig gydag elfennau neilltuol.
1.7 Ar ôl ystyried ymatebion rhan ddeiliaid i ymgynghoriad 2006 a datblygiadau pellach yn y farchnad, mae Ofcom wedi dod i’r casgliad ei bod yn briodol gwneud addasiadau i AC 14 ac AC 18. Nodir yr hysbysiad statudol ynglŷn ag addasu AC 14 yn Atodiad 1 o’r ddogfen hon a’r dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â’r Côd yw 29 Mai 2007, h.y. dau fis o ddyddiad y cyhoeddiad, h.y 29 Mawrth 2007. Nodir yr hysbysiad statudol ynglŷn ag addasu AC 18 yn Atodiad 4 o’r ddogfen hon a daw i rym ar ddyddiad y cyhoeddiad h.y. 29 Mawrth 2007. Ond dylid nodi, yng ngoleuni rhai ymatebion i’r ymgynghoriad mewn perthynas ag AC 14, mae Ofcom wedi gwneud rhai mân addasiadau i’w gynnig gwreiddiol. Mae’r addasiadau hyn yn cynnwys:
- Ei gwneud yn amlwg y gall label i hysbysu defnyddwyr am y gallu i alw gwasanaethau brys fod naill ai ar ffurf label materol neu ar sgrin cyfrifiadur i sicrhau bod y gofyniad yn rhesymol ac yn gymesur
- Ymestyn y Côd fel bod angen cydnabyddiaeth pwynt llofnod nad oes modd cael gafael ar wasanaethau brys pe bai toriad mewn pŵer er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn ymwybodol o hynny;
- Datblygu ymagwedd fanylach tuag at gorfodi’r Côd; ac
- Ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio gyda’r Côd o un mis i ddau fis o ddyddiad y cyhoeddiad, h.y. 29 Mawrth 2007
1.8 Mae’r datganiad hwn yn esbonio rhesymau Ofcom dros ddod i’r penderfyniadau hyn a sut y mae’n disgwyl i ddarparwyr PRhT gydymffurfio â’r rhwymedigaethau sydd yn berthynol iddynt. Mae’r ddogfen hefyd yn amlinellu meddwl cyfredol Ofcom ar nifer o faterion eraill sydd yn berthnasol i ddarparwyr PRhT, fel y DSL noeth, niwtraliaeth rhwyd, ymagwedd at reoliad gwasanaethau crwydrol a’r Adolygiad Fframwaith Ewropeaidd. Er nad yw Ofcom yn cynnig unrhyw reoliad ychwanegol o’r fath ar hyn o bryd, credwn ei bod yn bwysig ac yn ddefnyddiol bod rhanddeiliaid yn ymwybodol o’r farn sy’n datblygu yn Ofcom yn y meysydd hyn. .
1.9 Mae Ofcom yn parhau i ystyried gwasanaethau PRhT fel elfen bwysig yn y farchnad cyfathrebiadau yn gyffredinol. Wrth i’r farchnad ddatblygu ymhellach, bwriadwn barhau i adolygu ac addasu rheoliadau i sicrhau bod dinasyddion a defnyddwyr yn parhau i elwa o fanteision llawn datblygiadau PRhT.
Ymgynghori pellach ar orfodi mynediad i wasanaethau brys
1.10 Mewn ymateb i’n hymgynghoriad yn 2006, mynegodd nifer o randdeiliaid farn gref nad oedd rheoliad arfaethedig Ofcom yn ddigonol i sicrhau lefel digonol uchel o fynediad i wasanaethau brys. Roeddent yn arbennig yn ystyried y byddai diffyg mynediad i wasanaethau brys ar wasanaethau PRhT yn arwain at oedi wrth i ddinasyddion a defnyddwyr gysylltu yn llwyddiannus gyda’r gwasanaethau brys ac y byddai hyn yn esgor ar anfantais difrifol i ddefnyddwyr.
1.11 Rydym wedi cwblhau ymchwil cychwynnol sydd yn awgrymu fod potensial ar gyfer anfantais. Felly byddwn yn ymgynghori ynglŷn ag a ddylai rhai gwasanaethau PRhT orfod cynnig mynediad i wasanaethau brys, ac os felly, sut. Wrth asesu’r angen am unrhyw ofyniad newydd, byddwn yn parhau i ystyried yn ofalus effaith rheoliad o’r fath ar fynediad i’r farchnad, arloesi a chystadleuaeth. Cynhelir yr ymgynghoriad hwn yn yr haf eleni.
Troednodiadau
1.- http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/new_voice/anew_voice/nvs.pdf
2.- http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/voipregulation/voipregulation.pdf
3.- http://www.ofcom.org.uk/telecoms/ioi/g_a_regime/gce/cvogc.pdf
4.- Mae fersiwn gyfun o’r AuC fel a gar 19 Rhagfyr 2006 (yn cynnwys nodiadau) ar gael yn http://www.ofcom.org.uk/telecoms/ioi/g_a_regime/gce/cvogc.pdf
5.- Gweler y ddogfen o’r enw Canllawiau ar y gofynion hanfodol ar gyfer diogelwch ac integriti rhwydwaith, a gyhoeddwyd gan Oftel ar 9 Hydref 2002; http://www.ofcom.org.uk/static/archive/oftel/publications/ind_guidelines/guid1002.pdf, y cyfeirir ati trwy weddill y ddogfen hon fel ‘Canllawiau Gofynion Hanfodol’.
Back to top