- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau >
Ymgysylltiad defnyddwyr gyda thechnoleg
Rhagair
Mae’r arolwg hwn yn un o gyfres o adroddiadau arbennig Marchnad Gyfathrebiadau Ofcom. Mae’n edrych ar y gwahanol ffyrdd y mae defnyddwyr yn gwerthfawrogi ac yn ymwneud â gwasanaethau cyfathrebiadau digidol yn y DU.
Cynhaliodd Ofcom yr ymchwil i adeiladu ar y data a ddarparwn yn rheolaidd yn ein hadroddiadau Marchnad Gyfathrebiadau craidd yn berthynol i argaeledd, y nifer sydd yn manteisio ar, ac yn defnyddio’r gwasanaethau cyfathrebiadau digidol. Mae’r ymchwil yn yr adroddiad hwn yn edrych ar y ‘sut’ a’r ‘pam’ sydd yn waelodol i’r data hwn – canolbwyntio ar agweddau a chymhelliant defnyddwyr tuag at y gwasanaethau cyfathrebiadau digidol ac yn arbennig, y gwerth y mae pobl yn ei roi ar y gwasanaethau hyn. I gyflawni’r amcan hwn, mae’r adroddiad yn cyflwyno model dyraniad defnyddwyr gan ddefnyddio agweddau yn hytrach na dangosyddion cymdeithasol demograffig fel sail ar gyfer esbonio gwahaniaethau mewn ymrwymiad.
Mae’r arolwg yn ystyried tri phlatfform cyfathrebiadau sylfaenol: darlledu digidol (yn cynnwys teledu a radio digidol), y rhyngrwyd (yn cynnwys band eang) a thelegyfathrebiadau (yn cynnwys ffonau symudol ail a thrydedd genhedlaeth a dyfeisiadau cludadwy eraill). Casglwyd y canfyddiadau o ymchwil meintiol a gynhaliwyd yn ail hanner 2005 ac ymchwil ansoddol a gynhaliwyd yn chwarter cyntaf 2006.
Mae’r adroddiad yn cyd-fynd ag ymchwil arall a gyhoeddwyd gan Ofcom yn 2006 yn cynnwys yr Archwiliad Llythrennedd Cyfryngau (cyhoeddwyd y prif adroddiad ym mis Mawrth 2006), y Farchnad Gyfathrebiadau blynyddol (i’w gyhoeddi ym mis Awst eleni) a’i chwaer gyhoeddiad, Y Farchnad Gyfathrebiadau: Cenhedloedd a Rhanbarthau (a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2006).
Defnyddir y canfyddiadau i ddarparu dimensiwn agweddol i waith cyfredol Ofcom o ran deall ymddygiad defnyddwyr o fewn y farchnad gyfathrebiadau yn y DU. Er enghraifft, defnyddir y model dyraniad i helpu gyda datblygu ein dealltwriaeth o gyffelybiaethau a gwahaniaethau ar draws cenhedloedd a rhanbarthau’r DU. Bydd dadansoddiad pellach o’r ymchwil hefyd yn cefnogi ymdrechion Ofcom i hyrwyddo llythrennedd cyfryngau a helpu i ddarparu darlun ehangach o’r grwpiau sydd wedi’u heithrio yn wirfoddol a heb fod yn wirfoddol o fewn poblogaeth y Du.
David Currie
Cadeirydd
Back to top