Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Cyhoeddiadau > 


Ymgysylltiad MBCh y DU Gyda Gwasanaethau Cyfathrebiadau

Mae hwn yn un o gyfres o Adroddiadau Arbennig ar y Farchnad Cyfathrebiadau, yn canolbwyntio’n benodol ar agweddau a chymhelliant cwmnïau bach a chanolig (MBCh) tuag at y gwasanaethau cyfathrebiadau.

Mae MBCh yn rhan hanfodol o economi’r DU, ac maent yn cynnwys 99% o fusnesau yn y DU a dros hanner cyflogaeth a throsiant y DU. Mae Agenda Lisbon yr UE wedi gosod y targed o wneud yr UE yr economi fwyaf deinamig a chystadleuol o ran sylfaen gwybodaeth erbyn 2010 ac mae’r modd y mae busnesau yn cael gafael ar, ac yn ymgysylltu â thechnoleg cyfathrebiadau yn rhan hanfodol o gyflawni’r nod hon.

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried i ba raddau y mae meini prawf traddodiadol proffil cwmni (fel maint cwmni, sector diwydiant, oedran y busnes, daearyddiaeth a chynlluniau ar gyfer twf) yn esbonio’r gwahaniaethau yn sut y mae MBCh yn ymgysylltu â gwasanaethau cyfathrebiadau. Mae hefyd yn cyflwyno model dyraniad , yn seiliedig ar y rôl y mae gwasanaethau cyfathrebiadau yn ei chwarae o fewn SME. Credwn na ellir deall y farchnad SME yn llawn heb ystyried y ddau ddimensiwn hwn.

Defnyddir canfyddiadau’r adroddiad i ddarparu sylfaen tystiolaeth ar gyfer yr amrywiol gyrff sydd yn ymwneud â gwaith rheoleiddiol a pholisi yn berthynol i MBCh. Bydd dadansoddiad pellach o’r dyraniadau rôl yn cefnogi ymdrechion Ofcom i hyrwyddo llythrennedd cyfryngau yn y DU, gan ddiffinio grwpiau o MBCh sydd yn arddangos bylchau yn eu hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o, a’u hyder a’u gallu gyda gwasanaethau cyfathrebiadau.

Mae’r adroddiad yn ategu ymchwil arall a gyhoeddwyd gan Ofcom yn 20056, yn cynnwys y Farchnad Gyfathrebiadau blynyddol (a gyhoeddwyd ym mis Awst 2006), ei chwaer gyhoeddiad, y Farchnad Gyfathrebiadau: Cenhedloedd a Rhanbarthau

(a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2006) ac Ymgysylltiad y Cyhoedd gyda Gwasanaethau Cyfathrebiadau Digidol (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2006).

Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn darparu adnawdd gwerthfawr i Ofcom a rhan ddeiliaid eraill, gan lywio ymdrechion i hyrwyddo ymgysylltiad â’r gwasanaethau cyfathrebiadau ymysg busnesa bach a chanolig yn y DU.

David Currie
Cadeirydd Gweithredol



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools