Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > Ofcom yn cychwyn


11|09|07

Ofcom yn cychwyn adolygiad darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus

Heddiw cyhoeddodd Ofcom y cylch gorchwyl ar gyfer ei ail adolygiad o ddarlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus (DGC). Bydd yr adolygiad yn edrych i ba raddau y mae dibenion cyhoeddus DGC yn cael eu diwallu ac yn asesu’r dewisiadau ar gyfer cynnal a chryfhau ansawdd DGC yn y dyfodol. Mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn gynnar yn 2009.

Daeth Adolygiad DGC cyntaf Ofcom i’r casgliad bod galw parhaus am DGC ond y byddai’r modelau cyfredol o sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu gan sianeli wedi’u cyllido’n fasnachol ddim yn goroesi’r trosglwyddo i fyd hollol aml-sianel heb newid.

Dywedodd, wrth i werth trwyddedau darlledu analog ddirywio, felly hefyd y bydd gallu’r rheoleiddiwr i ofyn i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyflwyno rhai mathau neu swm o raglenni, leihau.

Wedi i’r Adolygiad cyntaf o DGC ddod i ben yn gynnar yn 2005, mae tirwedd y cyfryngau wedi esblygu yn gyflymach:

Cyhoeddodd Ofcom ym mis Mai y byddai’n dwyn ei ail Adolygiad DGC ymlaen yn seiliedig ar hyn ac ar dystiolaeth arall yn cynnwys:

Cwmpas yr adolygiad

Bydd yr ail adolygiad DGC yn ystyried y cyfnod trwy’r newid i’r digidol ac yn syth wedi hynny ac yn canolbwyntio ar y gwasanaethau teledu gwasanaeth cyhoeddus traddodiadol a ddarperir gan y BBC, ITV, Channel 4 a Five, S4C a Theletestun.

Ond mae gwasanaethau clywedol a gyflwynir dros y rhyngrwyd a rhwydweithiau symudol yn mynd yn gynyddol soffistigedig a phoblogaidd, yn cynnig cynnwys o ansawdd uchel a gyflwynir i ddefnyddwyr ar eu telerau eu hunain.

Mae’r gwahaniaethau rhwng cynnwys a ddarlledir ar deledu traddodiadol a’r rhai a gyflwynir ar blatfformau newydd yn mynd yn gynyddol aneglur. Felly mae potensial i’r gwasanaethau newydd hyn gynnig cynnwys gwasanaeth cyhoeddus.

Bydd cwmpas adolygiad Ofcom felly yn cynnwys gwasanaethau clywedol heb fod yn draddodiadol a gynigir gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus cyfredol ar blatfformau eraill. Bydd hefyd yn edrych ar y posibiliadau i ddarlledwyr eraill a chynhyrchwyr ar-lein gyflwyno cynnwys sydd yn diwallu dibenion cyhoeddus.

Bydd yr asesiad hefyd yn asesu pa ymyrraeth, os o gwbl, y bydd yn angenrheidiol yn y dyfodol i gynnal a chryfhau ansawdd cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar ba bynnag blatfform cyfathrebiadau electronig y’i cyflwynir arno.

Amserlen

Bydd tri cham i’r Adolygiad:

Dywedodd Ed Richards, Prif Weithredwr Ofcom, “Mae gan Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ran bwysig o hyd i’w chwarae a bydd yr ado9lygiad yn helpu i gynnal a chryfhau ei ansawdd mewn amodau marchnad newydd”.

“Fodd bynnag, mae’r modd y caiff DGC ei gyflwyno a’i ddefnyddio yn newid yn gyflym. Mae’r potensial i wasanaethau newydd gyflwyno cynnwys gwasanaeth cyhoeddus y tu hwnt i deledu traddodiadol eisoes yma, a dylid manteisio ar hynny.”

Gwahoddiad i gyfrannu at yr Adolygiad

Mae Ofcom yn awyddus bod yr Adolygiad DGC yn tynnu ar farn pob parti sydd â diddordeb. I’r diben hwnnw mae Ofcom yn croesawu sylwadau ar y cylch gorchwyl a chwmpas yr Adolygiad. Fe’i cyhoeddir heddiw ar www.ofcom.org.uk a’r dyddiad terfynol ar gyfer ymatebion yw 30 Medi 2007.

Mae Ofcom hefyd yn bwriadu cynnal seminarau yn ystod gam cyntaf yr adolygiad i gasglu barn bellach gan ran ddeiliaid.

Diwedd


Back to top Back to top

Related Items