- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > Bwrdd Cynnwys
14|07|06
Ofcom yn ail-apwyntio Sue Balsom i Fwrdd Cynnwys Ofcom
Heddiw cyhoeddodd Ofcom bod Sue Balsom wedi ei phenodi fel Aelod Cymru o’i Fwrdd Cynnwys – pwyllgor o prif Fwrdd Ofcom gyda chyfrifoldeb dros faterion cynnwys.
Hi yw Rheolwr Gyfarwyddwr a sylfaenydd Grŵp FBA Cyf – cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus, dylunio a chyhoeddi ac e-ddysgu gyda swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd. Mae hi’n Gadeirydd Prince’s Trust Cymru ac yn Is-Gadeirydd Cyngor Darlledu dros Gymru y BBC rhwng 1997 a 2003. Yn gyn newyddiadurwr, ymchwilydd teledu ac athrawes Ysgol uwchradd, hi hefyd oedd enillydd ‘Western Mail Welsh Woman of the Year yn 2004.
Mae ei hapwyntiad yn dilyn adolygiad Philip Graf o rôl y Bwrdd Cynnwys yn sgil ei apwyntiad yn Gadeirydd y Bwrdd Cynnwys ac Is-Gadeirydd Ofcom ym mis Ionawr eleni. Cafodd ei gynorthwyo gan Adam Singer a benodwyd yn Ddarpar Is-Gadeirydd y Bwrdd Cynnwys ym mis Ebrill.
Bwriad yr adolygiad oedd:
* adeiladu ar gyfraniad arwyddocaol y Bwrdd Cynnwys hyd yma wrth ffurfio polisïau Ofcom ar faterion cynnwys.
* ehangu ar ffocws y Bwrdd Cynnwys ar gynnwys ddigidol gyda’r newid i’r digidol ymhen dwy flynedd; lledu amrediad, profiad ac ymrwymiad y Bwrdd Cynnwys yn y maes yma.
Daeth cyfnod apwyntio aelodau anweithredol y Bwrdd Cynnwys i ben ddiwedd Mehefin 2006. Mae’r cyfnod apwyntio newydd am gyfnod o dair neu bedair blynedd, heb ddod i ben cyn 31 Gorffennaf 2010.
Dywedodd Philip Graf:” Bydd y Bwrdd Cynnwys yn chwarae rhan annatod wrth ffurfio ymagwedd Ofcom at ddarlledu digidol a thwf cynnwys dros rhwydweithiau digidol. Rwy’n hapus iawn gyda’r apwyntiadau yma.”
DIWEDD
Nodiadau Golygyddol
Aeldoau eraill y Bwrdd Cynnwys yw:
Richard Ayre
Dr Paul Moore
Anthony Lilley
Pam Giddy
Philip Graf
Adam Singer
Kath Worrall
Millie Banerjee
Back to top