- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg >
Camau nesaf wrth ehangu radio digidol
18 Gorffennaf 2006
Nododd Ofcom heddiw fanylion y broses drwyddedu a fydd yn arwain at ehangu sylweddol mewn gwasanaethau radio DAB (Darlledu Sain Ddigidol) lleol a chenedlaethol dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r datganiad yn cloi cyfnod o ymgynghori cyhoeddus a chynllunio dyraniadau amledd a ddechreuodd ym mis Rhagfyr 2005 pan gyhoeddodd Ofcom ei fwriad i ddyrannu sbectrwm radio ar gyfer ail amlblecs radio DAB cenedlaethol a nifer o amlblecsau radio DAB lleol.
Mae penderfyniadau allweddol a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys:
Trwydded amlblecs radio DAB cenedlaethol
- Mae disgwyl i Ofcom hysbysebu’r ail drwydded amlblecs radio cenedlaethol erbyn diwedd 2006
- Bydd y drwydded yn galluogi trosglwyddiadau DAB ledled y rhan fwyaf o’r DU. Fodd bynnag, bydd cytundebau rhyngwladol ar ddefnydd amledd – a fwriadwyd i leihau ymyrraeth rhwng darllediadau o wledydd cyfagos – yn golygu bod rhai ardaloedd arfordirol yn ne a de-ddwyrain Lloegr yn ogystal â Gogledd Iwerddon a rhannau o orllewin Cymru yn methu cael y gwasanaethau hyn, o leiaf ar y cychwyn.
Trwyddedau amlblecs radio DAB lleol
- Bwriad y gwasanaethau DAB lleol newydd yw llenwi’r bylchau yn y cwmpas radio digidol lleol presennol. Bydd y 12 trwydded amlblecs radio lleol cyntaf yn cael eu hysbysebu o ddiwedd 2006 ymlaen.
- Ar hyn o bryd, nid oes amleddau sbâr sy’n addas ar gyfer gwasanaethau radio lleol DAB ychwanegol yng Ngogledd Cymru, Swydd Suffolk a Gogledd Iwerddon. Bydd Ofcom yn parhau i archwilio amleddau eraill posibl yn yr ardaloedd hyn er mwyn ymestyn y dewis o wrando digidol ar gyfer y cymunedau hyn.
- Ar ôl dyfarnu’r trwyddedau cychwynnol, gallai Ofcom geisio hwyluso ychwanegu amlblecsau lleol a rhanbarthol pellach mewn ardaloedd sydd eisoes yn cael eu gwasanaethu gan radio digidol lleol.
Bydd pob amlblecs yn cael ei drwyddedu o dan Ddeddf Darlledu 1996.
Mae’r datganiad terfynol ar ‘Dyfodol Trwyddedu Radio Digidol DAB’ ar gael ar wefan Ofcom - cysylltiad gyferbyn.
Diwedd.
Back to top