Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 23|05|07


24|05|07

Cymru yn manteisio ar fand eang

Cynyddodd ymdreiddiad band eang yng Nghymru o 68% yn 2006 yn ôl ymchwil Ofcom a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ei adroddiad Y Farchnad Cyfathrebu: Cymru mae Ofcom yn edrych ar argaeledd, y nifer sydd yn manteisio ar ac yn defnyddio gwasanaethau rhyngrwyd, telegyfathrebiadau a darlledu. Mae’n cymharu’r canfyddiadau ar draws Cymru gyda rhai yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r naw Rhanbarth yn Lloegr.

Hwn yw’r ail dro i Ofcom gynnal ymchwil o’r fath yng Nghymru. Dangosodd adroddiad y llynedd wahaniaethau sylweddol, yn enwedig yn y lefelau o fanteisio ar fand eang a theledu digidol, rhwng y gwledydd a hefyd rhwng y rhai’n byw mewn ardaloedd gwledig a threfol. Dengys adroddiad eleni bod y bylchau hynny yn cau. Yn 2005 roedd bwlch o 12% rhwng y nifer o oedolion gyda band eang gartref yng Ngogledd Iwerddon (yr isaf ar 24%), Cymru (25%) yr Alban (31%) a Lloegr (yr uchaf gyda 36%). Dengys adroddiad eleni bod y bwlch hwn wedi lleihau i 3%. â 42% yn manteisio ar fand eang yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban a’r ffigur wedi cyrraedd 45% yn Lloegr.

Yn 2005 roedd y bwlch rhwng y gwledydd o ran teledu digidol hyd yn oed yn fwy ar 19% (Cymru yr uchaf ar 72%, Lloegr ar 66% a Gogledd Iwerddon isaf ar 53%). Erbyn 2006 roedd y bwlch hwn wedi lleihau i 13%. (Cymru yn dal yr uchaf ar 82%, Lloegr ar 75% , yr Alban ar 76% a Gogledd Iwerddon ar 69%).

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL AR DRAWS CYMRU

RHYNGRWYD A THELEGYFATHREBIADAU

DARLLEDU

GWYLIO GORGYFFWRDD

Edrychodd yr adroddiad hefyd ar bwnc gwylio gorgyffwrdd lle mae cartrefi yng Nghymru yn derbyn signalau teledu daearol o drosglwyddyddion yn Lloegr. Dengys yr ymchwil bod nifer y cartrefi yng Nghymru oedd yn derbyn signalau teledu yn unig o Loegr wedi syrthio tua 25% rhwng 1998 a 2006 (yn ôl ymchwil y BBC) i 8% o gartrefi yn ardaloedd y gororau – ychydig dros 39,000 o gartrefi. Mae’r cwymp yn bennaf oherwydd twf teledu digidol yng Nghymru.

Roedd y rhesymau a roddwyd dros wylio darllediadau teledu o Loegr yn hytrach nag o Gymru yn cynnwys: canfyddiad o well derbyniad ac ansawdd llun (72%); amharodrwydd i golli Channel 4 a Five (66%) ac ymwybyddiaeth isel bod dewis signal ar gael. Roedd rhai gwylwyr hefyd yn credu, yn anghywir, mai dim ond rhaglenni Cymraeg eu hiaith oedd yn cael eu darlledu o Gymru.

Gofynnodd yr ymchwil gwestiynau hefyd i’r ymatebwyr yn ymwneud â dinasyddiaeth a chynhwysiad democrataidd. Dywedodd wyth allan o bob deg cartref oedd yn derbyn sianeli o Gymru yn unig eu bod yn derbyn gwybodaeth dda am e hardal leol o’i gymharu â dim ond 64% o wylwyr Lloegr yn unig. Gallai tua 32% o wylwyr Cymru yn unig enwi eu Haelod Cynulliad o’i gymharu â 23% o wylwyr Lloegr yn unig. Dywedodd 45% o wylwyr Lloegr yn unig y byddent yn ystyried newid i sianeli’n darlledu o Gymru, a dywedodd y mwyafrif ohonynt y byddent yn hoffi derbyn newyddion, tywydd a gwybodaeth leol.

Dywedodd Prif Weithredwr Ofcom Ed Richards: “Mae’r bwlch daearyddol rhwng y rhai sydd â digidol ac sydd heb ddigidol yn y DG yn raddol wedi bod yn lleihau ond mae angen i ni wneud rhagor i sicrhau bod pawb yn gallu elwa o’r manteision economaidd a chymdeithasol y mae cyfathrebiadau modern yn eu cynnig”.

Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Cymru, Ofcom: “Yr amser yma y llynedd roedd Cymru ar ei hôl hi o ran y nifer oedd yn manteisio ar fand eang. Heddiw rydym wedi cyrraedd yr un lefel â gweddill y DG ac yn arwain y ffordd o ran teledu digidol a mannau poeth di-wifr.”

Heddiw mae Ofcom yn cyhoeddi adroddiad DG gyfan hefyd ac adroddiadau atodol eraill ar gyfer yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r Rhanbarthau yn Lloegr. Mae testun llawn yr adroddiadau ar gael yn:

http:/www.ofcom.org.uk/cymraeg/swyddfar_cyfryngau/cyhoeddiadau/farchgyfcym/


Back to top Back to top