- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > Y Farchnad Gyfathrebu
Y DU yn elwa o gyfathrebiadau unrhyw bryd, unrhyw le ac ar gost is
23 Awst 2007
Heddiw mae Ofcom yn cyhoeddi ei Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu 2007 sydd yn datgelu tueddiadau newydd yn sector cyfathrebiadau electronig gwerth £50bn y DU.
Mae defnyddwyr y DU bellach yn treulio 50 awr yr wythnos ar y ffôn, yn defnyddio’r rhyngrwyd, yn gwylio’r teledu neu yn gwrando ar y radio. Roedd y defnydd dyddiol o’r rhyngrwyd ar gyfartaledd yn 2006 (36 munud) wedi cynyddu 158% ar yr amser yn 2002 ac roedd yr amser a dreuliwyd ar y ffôn symudol (bron i bedwar munud y dydd) wedi cynyddu 58%. Roedd yr amser a dreuliwyd yn gwylio teledu wedi gostwng 4% ar 3 awr a 36 munud, roedd gwrando ar y radio wedi gostwng 2% ar 2 awr a 50 munud ac roedd yr amser a dreuliwyd ar ffôn llinell sefydlog wedi gostwng 8% ar 7 munud.
Tra bod defnyddwyr yn cael mwy allan o’u gwasanaethau cyfathrebiadau, mae’r swm y maent yn ei wario arnynt yn parhau i ostwng. Yn 2006 y gwariant ar gyfartaledd fesul cartref ar gyfathrebiadau oedd £92.65 y mis, gostyngiad o £94.03 yn 2005.
Mae adroddiad 330 tudalen Ofcom yn dangos sut y mae defnyddwyr yn defnyddio gwasanaethau cyfathrebiadau digidol newydd i gymryd rheolaeth o sut, pryd a ble y maent yn cael gafael ar, ac yn defnyddio gwasanaethau cyfathrebiadau. Yn arbennig:
- Mae’r amrediad o wasanaethau a dyfeisiadau sydd ar gael nawr i blant (8-15 oed) yn y DU yn newid yr hyn y maent yn ei wneud gyda’u hamser yn gyflym. Mae gan dros 75% o blant 11 oed bellach eu teledu, consol gêm a ffôn symudol eu hunain. Mae tua 15% o blant 13-15 oed a 7% o blant 10 oed eu ‘webcam’ eu hunain.
- Mae llai o blant yn chwarae gemau consol a chyfrifiadur (roedd 61% yn gwneud hynny’n rheolaidd yn 2005, yn syrthio i 53% yn 2007), gwylio fideos a DVDs (roedd 59% yn gwneud hynny’n rheolaidd y 2005 a 38% yn 2007) a gwrando ar radio (roedd 40% yn gwrando’n rheolaidd yn 2005 a 20% yn 2007). Yn lle hynny maent yn defnyddio’u ffonau symudol yn amlach (roedd 50% yn gwneud hynny’n rheolaidd yn 2005 o’i gymharu â 53% yn 2007) defnyddio’r rhyngrwyd (roedd 47% yn gwneud hynny’n rheolaidd yn 2005, 52% yn 2007) a defnyddio chwaraewyr MP3 (roedd 20% yn gwneud hynny’n rheolaidd yn 2005, 28% yn 2007).
- Mae pobl hŷn hefyd yn defnyddio rhagor o gyfryngau. Y rhai dros 55 oed oedd yr unig grŵp oedran i gynyddu ei gyfartaledd o wrando ar radio rhwng 2002 a 2007 (cynnydd o 5.5%). Ac nid cynnydd yn eu defnydd o gyfryngau traddodiadol yn unig sydd yn digwydd ymysg pobl hŷn. Mae tua 16% o bobl dros 65 oed yn defnyddio’r we. Mae’r ‘syrffwyr arian’ hyn yn treulio 42 awr ar gyfartaledd ar-lein bob mis, mwy nag unrhyw grŵp oedran arall. Mewn gwirionedd, yn hytrach na bod yn dechnoleg pobl ifanc yn unig, mae chwarter defnyddwyr rhyngrwyd y DU dros 50 oed ac mae’r rhai dros 50 oed yn gyfrifol am 30% o’r amser a dreulir ar-lein.
- Ymysg y grŵp oedran 25-34, mae menywod yn treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd na dynion. Yn y grŵp oedran hwn, mae 2.18m o fenywod ifanc yn gyfrifol am 55% o’r cyfanswm amser a dreulir ar y rhyngrwyd.
Y Genedl Rwydweithiol
Mae’r broses o gydgyfeiriant – dwyn technolegau, platfformau a dyfeisiadau yn nes at ei gilydd – yn cysylltu’r genedl fel nag erioed o’r blaen. Gall defnyddwyr nawr gael teledu byw dros eu ffôn symudol, radio ar eu teledu a gwneud galwadau llais dros y rhyngrwyd.
- Mae amrediad hyd yn oed yn fwy o wasanaethau cyfathrebiadau ‘bwndel’ sydd yn darparu llinell tir, band eang, teledu digidol a ffôn symudol mewn un pecyn. Ac o ganlyniad, cynyddodd y nifer o ddefnyddwyr oedd yn cymryd gwasanaethau mewn bwndeli i 40% o’r boblogaeth erbyn Ebrill 2007, cynnydd o un rhan o dair dros 12 mis.
- Mae defnyddwyr yn gynyddol yn defnyddio gwasanaethau ffôn dros y rhyngrwyd, sy’n cael eu cynnig gan ddarparwyr yr hyn a elwir yn VoIP. Ar ddiwedd 2006 dywedodd 20% o’r rhai a ymatebodd i arolwg Ofcom eu bod yn ffonio ar-lein, cynnydd o 14% ar ddiwedd 2005.
- Ac yn y DU rydym yn mynd yn fwy a mwy dibynnol ar ffonau symudol. Dengys yr adroddiad bod mwy na dwbl y cysylltiadau symudol (69.7m) na chysylltiadau llinell tir (33.6,) erbyn diwedd 2006. Mae mwy o gartrefi yn y DU nawr yn dibynnu ar ffôn symudol yn unig (9%) na’r rhai sydd yn dibynnu ar linell tir yn unig (7%) ac am y tro cyntaf, roedd cyfanswm munudau galwadau symudol (82bn) yn gyfrifol am dros un rhan o dair o’r holl funudau galw (234bn).
- Heddiw mae defnyddwyr yn defnyddio eu ffonau symudol ar gyfer llawer mwy na gwneud galwadau ffôn yn unig. Mae tua 41% o ddefnyddwyr ffonau symudol yn defnyddio eu ffôn yn rheolaidd fel camera digidol, mae 13% yn eu defnyddio ar gyfer mynd ar y rhyngrwyd, mae 10% yn gwrando ar ddarllediadau radio FM ac mae 21% yn eu defnyddio fel consol gemau bach. Ac yn 2006 anfonodd defnyddwyr ffonau symudol yn y DU 20% yn fwy o negeseuon testun nag yn ystod y flwyddyn flaenorol gyda chyfartaledd o 12 neges testun fesul ffôn symudol yr wythnos.
- Mae rhwydweithiau di-wifr yn caniatáu i ragor o bobl ddefnyddio’r rhyngrwyd pan fyddant yn symudol. Mae tua 11.2% (7.8m) o ffonau symudol bellach yn cysylltu i rwydwaith 3G (cynnydd o 70% ar 2005 ar 4.6m). Dengys yr adroddiad hefyd bod y nifer o fannau poeth WiFi yn y DU sydd yn galluogi mynediad rhyngrwyd di-wifr ar gyflymdra band eang hefyd yn cynyddu. Erbyn Ebrill 2007 roedd 11,447 o ‘fannau poeth’ o’i gymharu â 10,339 blwyddyn ynghynt.
- Mae teledu digidol - mewn 80.5% o gartrefi’r DU erbyn Ebrill 2007 - yn newid beth, pryd a sut yr ydym yn gwylio. Un o’r gwasanaethau newydd sy’n cael ei ddefnyddio gan wylwyr yn y 11.5 miliwn o gartrefi teledu tanysgrifio yw teledu diffiniad uchel (HD). Mae’r adroddiad yn darganfod, yn y 450,000 o gartrefi sydd â theledu diffiniad uchel, bod 33% o amser gwylio yn cael ei dreulio yn gwylio mewn HD a dywedodd 43% o’r rhai a holwyd eu bod yn gwylio mwy o deledu - yn enwedig prif gynnwys fel ffilmiau a chwaraeon - o ganlyniad i fod yn berchen ar deledu diffiniad uchel.
- Ac erbyn Ebrill 2007 dywedodd 15 o’r rhai a ymatebodd bod ganddynt recordydd fideo digidol (DVR), bron dwbl y nifer ar ddiwedd 2006. Mae DVRs yn caniatáu i wylwyr recordio cyfres deledu gyfan ac yn eu galluogi i stopio ac ail chwarae rhaglenni byw.
- Mae gan wrandawyr radio ddewis llawer ehangach o orsafoedd a dulliau o wrando oherwydd twf radio digidol. Yn 2006 aeth cyfanswm nifer y setiau radio digidol DAB dros y 5 miliwn ac mae gan 17.2% o gartrefi yn y DU bellach radio digidol DAB. Roedd setiau DAB yn gyfrifol am 18.6% o holl werthiant setiau radio yn 2006 (1.8m o setiau) o’i gymharu â 12.9% yn 2005 (1.5m o setiau).
- Nid DAB yw’r unig ddull sydd gan ddefnyddwyr o wrando ar radio digidol. Mae’r adroddiad yn darganfod bod 33% o ddefnyddwyr wedi gwrando ar y radio trwy deledu digidol (mae 15% yn gwneud hynny yn wythnosol o leiaf), mae 21-22% yn gwrando ar-lein (12% yn wythnosol o leiaf) a 10-12% yn gwrando trwy eu ffôn symudol (6% yn wythnosol o leiaf).
Diwydiant sydd yn newid
Mae cynnydd mewn cydgyfeiriant gwasanaethau a thechnolegau hefyd yn newid siâp y sector cyfathrebiadau ac yn enwedig refeniw diwydiant.
Teledu
- Syrthiodd refeniw hysbysebu teledu yn 2006 o 2.2% ar y flwyddyn flaenorol i £3.5bn, y gostyngiad cyntaf ers 2002. Mae’r dirywiad mewn refeniw hysbysebu yn cyd-fynd â chynnydd mewn argaeledd a defnydd cynnwys ar arddull teledu ar-lein a thwf recordwyr fideo digidol (DVRs) sydd yn caniatau i ddefnyddwyr wibio trwy hysbysebion a rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar refeniw hysbysebu. Darganfu’r adroddiad bod hyd at 78% o berchnogion DVRs yn eu defnyddio yn rheolaidd i wibio trwy hysbysebion.
- Fodd bynnag mae gostyngiad mewn refeniw hysbysebu yn gynyddol yn cael ei ategu gan ffynonellau eraill o incwm. Yn 2006 cynyddodd refeniw tanysgrifiadau i £4bn (tua £350 fesul tanysgrifiad), cynnydd o £3.3bn yn 2005. Yn yr un modd, cynyddodd refeniw o wasanaethau rhyngweithiol fel sianeli teledu cwis a phleidleisio cyfranogol mewn rhaglenni o 18.3% yn ystod 2006 i £123m, er y gellir effeithio ar y ffynhonnell newydd hwn o incwm yn y dyfodol wrth i ddarlledwyr adolygu eu hymagwedd tuag at deledu rhyngweithiol.
- Tra bod refeniw hysbysebu teledu yn gyffredinol yn gostwng, mae refeniw ar gyfer sianeli digidol yn unig a ddarperir yn ddi-dâl fel ITV2, More4 a Five Life, yn codi ac am y tro cyntaf aeth dros y £1bn yn 2006, cynnydd o 21% o 2005. Roedd refeniw ar gyfer y tair sianel ddaearol fasnachol - ITV1, Channel 4 a five - yn sefyll ar £2.4bn yn 2006, 9.6% yn is nag yn 2005. Mae gwariant hysbysebu ar-lein yn parhau i gynyddu, cynnydd o 47% yn ystod 2006 gan fynd ychydig dros y £2bn. Mae gwariant rhyngrwyd nawr yn gyfwerth â bron i hanner (44%) y cyfan sy’n cael ei wario ar holl hysbysebu teledu, i 83% o hysbysebu sy’n cael ei wario ar ITV1,Channel 4 a five ac i un chwarter (24.2%) o holl hysbysebu yn y wasg.
- Wrth i refeniw hysbysebu teledu dirywio, mae gwariant hysbysebu ar-lein yn parhau i gynyddu, cynnydd o 47% yn ystod 2006 gan fynd ychydig dros y £2bn. Mae gwariant rhyngrwyd nawr yn gyfwerth â bron i hanner (44%) y cyfan sy’n cael ei wario ar holl hysbysebu teledu, i 83% o hysbysebu sy’n cael ei wario ar ITV1,Channel 4 a five ac i un chwarter (24.2%) o holl hysbysebu yn y wasg.
Telegyfathrebiadau a band eang
- Erbyn Ebrill 2007 roedd gan 53% o gartrefi’r DU gysylltiad band eang. Mae cyflymdra band eang – uchafswm cyflymdra gwasanaeth a hysbysebir – wedi dyblu dros y 12 mis diwethaf. Roedd cyfartaledd cyflymdra band eang yn 3.6Mbit/s ar ddiwedd 2006 o’i gymharu â 1.6Mbit/s yn y flwyddyn flaenorol. Erbyn Mehefin 2007 roedd hyn wedi codi i 4.6Mbit/s.
- Mae’r cynnydd mewn cyflymdra yn rhannol oherwydd buddsoddiad parhaus a thwf mewn dadfwndelu dolen leol sydd yn galluogi gweithredwyr i osod eu hoffer eu hunain mewn cyfnewidfeydd BT a chynnig gwasanaethau band eang yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Bu teirgwaith y cynnydd yn y canran o eiddo sydd wedi cysylltu i gyfnewidfa ffôn wedi’i dadfwndelu, o 3% ym mis Mawrth 2006 i 9% ym mis Mawrth 2007. Mae cyfartaledd cyflymdra hefyd yn cael eu hybu gan fuddsoddiad parhaus mewn rhwydweithiau mewnol ar rwydweithiau BT a chebl.
- Mae cystadleuaeth mewn darparu gwasanaethau ffôn hefyd yn cynyddu. Tra bod BT yn amrywio ei lif refeniw mewn meysydd eraill, syrthiodd ei gyfran o swm galwadau llais sefydlog o dan 50% am y tro cyntaf y 2006 (48%) a syrthiodd cyfran y cwmni o bob cysylltiad telegyfathrebiadau (yn cynnwys symudol) dan un mewn pedwar (23%, gostyngiad o 26% blwyddyn yn ôl).
- Mae cynnydd mewn cystadleuaeth yn gostwng prisiau i ddefnyddwyr. Mae dadansoddiad Ofcom o gost basged nodweddiadol o wasanaethau telegyfathrebiadau preswyl (yn cynnwys llinell sefydlog, dau ffôn symudol a chysylltiad band eang fesul cartref, y cyfan ar lefelau defnydd 2006) yn dangos y byddai defnyddwyr wedi talu £6.51 (9%) yn fwy am yr un bwndel o wasanaethau yn 2005 nag yn 2006. Yn y pum mlynedd hyd at 2006 roedd arbediad cost ar yr un bwndel yn £34.97 mewn termau real.
Radio
- Tra bod cyfanswm nifer y gorsafoedd radio yn y DU wedi cynyddu trwy ehangiad DAB (Ym Mehefin 2007 roedd 389 o orsafoedd radio yn y DU, 169 ohonynt ar gael ar DAB) dengys yr adroddiad bod cyfanswm yr oriau gwrando ar radio wedi dirywio i gyfartaledd o 19.8 awr yr wythnos fesul gwrandäwr yn 2006. Syrthiodd hyn ymhellach i 19.4 awr yn chwarter cyntaf 2007. Mae’r dirywiad hwn wedi cael ei deimlo fwyaf yn y sector radio lleol masnachol. Rhwng Ebrill 2005 ac Ebrill 2006 syrthiodd cyfartaledd gwrando ar radio o 4.1%.
- Wrth i wrando gostwng, felly hefyd y mae refeniw hysbysebu radio masnachol. Rhwng 2001 a 2006 mae cyfran radio o gyfanswm refeniw hysbysebu yn y DU wedi syrthio o 14.3% ac yn 2006 roedd yn £480m. Syrthiodd cyfanswm refeniw gorsafoedd radio masnachol lleol o 9.5% o £169m yn 2005 i £153m yn 2006.
- Yn groes i hyn mae’r adroddiad yn darganfod bod pobl yn gynyddol yn tiwnio i mewn i radio BBC. Yn ystod tri mis cyntaf 2007, roedd pedwar allan o’r pum gorsaf yr oedd gwrando mwyaf arnynt yn orsafoedd y BBC. Y pump uchaf oedd: BBC Radio 2, Radio 1, Radio 4, Classic FM a Five Live.
- Mae’r adroddiad hefyd yn amcangyfrif bod gwariant y BBC ar radio, £637m yn 2006, ar ei lefel uchaf mewn pum mlynedd. Mae hyn yn cymharu â £512m i’r sector radio masnachol, sydd ar ei lefel isaf ers 2002.
Dywedodd Peter Phillips, Partner Strategaeth a Datblygiadau’r Farchnad Ofcom: “Mae’r arolwg cynhwysfawr hwn yn dangos sut y mae ein sector cyfathrebiadau yn parhau i ddatblygu yn gyflym gyda defnyddwyr o bob oed yn defnyddio amrediad o ddyfeisiadau i ddarganfod y gwasanaethau y maent eu heisiau ar brisiau is.” Ychwanegodd: “Mae arloesi a chystadleuaeth mewn diwydiant yn parhau i gyflwyno manteision sylweddol i economi a defnyddwyr y DU.”
Mae’r adroddiad Saesneg llawn ar gael ar-lein yn: www.ofcom.org.uk/research/cm/cmr07/
Back to top