- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 12|09|06
12|09|06
Trwydded radio masnachol FM yng Nghymru
Heddiw mae Ofcom yn hysbysebu trwydded radio masnachol FM lleol newydd ar gyfer De Cymru.
Mae Ofcom hefyd yn ystyried hysbysebu hyd at ddwy drwydded radio masnachol FM newydd ar gyfer y rhan fwyaf o Ogledd a Chanolbarth Cymru flwyddyn nesaf, os fydd cytundeb rhyngwladol ar y defnydd o amleddau priodol.
Mae Ofcom felly yn croesawu barnau ar a ddylai fod un neu ddwy drwydded newydd ar gyfer y rhan fwyaf o Ogledd a Chanolbarth Cymru. Mae Ofcom hefyd yn croesawu unrhyw fynegiant cychwynnol o ddiddordeb (ond ni fydd hyn yn ymrwymo neb) gan ddarpar ymgeisyddion.
Tu hwnt i hyn, does dim bwriad gan Ofcom i hysbysebu am drwyddedau radio masnachol FM eraill am y tro yn y DU.
Trwydded De Cymru
Amcangyfrifa Ofcom y gallai’r drwydded hon gyflawni cwmpasiad dros ardal â phoblogaeth oedolion (15+ oed) o ryw 950,000. Bydd yr union gwmpasiad yn cael ei bennu gan leoliad y safleoedd darlledu a nodweddion technegol eraill. Mae’r amledd arfaethedig ar gyfer y drwydded hon yn ddibynol ar gytundeb rhyngwladol ar ddefnydd sbectrwm radio.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 3.00 p.m. 12 Rhagfyr 2006. Bydd ffi o £10,000 na ellir ei ad-dalu yn daladwy am bob cais a gyflwynir.
Gellir cael y manylion llawn am y drwydded hon, gan gynnwys y canllawiau a’r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, yn yr Eitemau Perthnasol.
Bydd y drwydded yn cael ei rhoi am gyfnod o ddeuddeg mlynedd. Bydd yr holl geisiadau am y drwydded hon yn cael eu cyhoeddi ar wefan Ofcom cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi’r dyddiad cau.
Mae Ofcom yn croesawu barnau’r cyhoedd am anghenion radio lleol gwrandawyr yn yr ardal hon, a’r mathau o wasanaethau sydd eu hangen. Gellir anfon barnau am y materion hyn naill ai drwy e-bost at commercialradio@ofcom.org.uk neu drwy eu postio at Neil Stock, Head of Radio Planning & Licensing, Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, London SE1 9HA.
Diwedd.
Back to top