- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg >
Ofcom yn cyhoeddi Datganiad terfynol ar hysbysebu cynnyrch bwyd a diod ar y teledu i blant
22 Chwefror 2007
Heddiw cwblhaodd Ofcom ei adolygiad o’r rheolau yn berthynol i hysbysebu cynnyrch bwyd a diod ar y teledu i blant a chyhoeddodd ei Ddatganiad terfynol ar gyflwyniad y cyfyngiadau yn y maes hwn.
Partneriaid cyd-reoleiddiol Ofcom, y Pwyllgor Darlledu ar Ymarfer Hysbysebu (BCAP) a’r Awdurdod Safonau Hysbysebu sydd bellach yn gyfrifol am weithredu’r rheolau amserlennu a chynnwys newydd a sicrhau cydymffurfiad yn unol â hynny. Bydd y rheolau newydd yn rhan o Gôd Safonau Hysbysebu Teledu BCAP.
Mae Datganiad terfynol Ofcom yn dilyn casgliad ei ymgynghoriad ychwanegol (a gyhoeddwyd ar 17 Tachwedd 2006). Roedd hwn yn cynnig ymestyn cyfyngiadau ar hysbysebu cynnyrch bwyd a diod sydd yn uchel mewn braster, halen a siwgr (HFSS) ar y teledu i gynnwys rhaglenni a sianeli wedi’u hanelu at blant dan 16 oed.
Mae Ofcom wedi ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn ofalus. Yn dilyn dadansoddiad manwl o’r dystiolaeth, yn cynnwys asesiad effaith llawn, mae Ofcom wedi dod i’r casgliad ei bod yn briodol ac yn angenrheidiol mabwysiadu cyfyngiadau wedi’u bwriadu i leihau yn sylweddol hysbysebu HFSS i blant dan 16 oed.
Cyfyngiadau amserlennu
Yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghori, daw’r cyfyngiadau amserlennu nawr i rym gam wrth gam ar gyfer pob sianel, fel â ganlyn
• O 1 Ebrill 2007, ni chaniateir hysbysebu HFSS yn ystod nac o gwmpas rhaglenni a wneir ar gyfer plant (yn cynnwys plant cyn oedran ysgol) nac yn ystod neu o gwmpas rhaglenni sydd yn debygol o fod o apêl neilltuol i blant 4-9 oed; ac
• O 1 Ionawr 2008, ni chaniateir hysbysebu HFSS yn ystod nac o gwmpas rhaglenni a wneir ar gyfer plant (yn cynnwys plant cyn oedran ysgol) nac yn ystod neu o gwmpas rhaglenni sydd yn debygol o fod o apĂȘl neilltuol i blant 4 – 15 oed.
Fel y nodwyd yn Natganiad Tachwedd caniateir cyfnod o gyflwyno cam wrth gam i sianeli plant a chydymffurfiad llawn yn ofynnol erbyn diwedd Rhagfyr 2008.
Rheolau Cynnwys
• Daw rheolau cynnwys i rym ar unwaith ar gyfer ymgyrchoedd hysbysebu newydd
• Gellir darlledu ymgyrchoedd hysbysebu cyfredol neu’r rhai yn y camau terfynol o weithrediad creadigol tan ddiwedd Mehefin 2007. Ond o 1 Gorffennaf 2007 rhaid i ymgyrchoedd hysbysebu gydymffurfio gyda’r rheolau newydd.
Back to top