- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 07/11/2005
07|11|05
Ofcom yn dyfarnu trwydded radio masnachol FM ar gyfer Abertawe
Cyhoeddodd Ofcom heddiw ddyfarniad ar drwydded radio masnachol FM lleol ar gyfer Abertawe.
Erbyn y dyddiad cau, 4 Awst, 2005, derbyniodd Ofcom dri chais ar gyfer trwydded Abertawe. Wedi dwys ystyried y ceisiadau, penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu Radio ddyfarnu’r drwydded i:
Swansea Bay Radio Cyf., 8 Pentwyn Drive, Baglan, Port Talbot, SA12 8EF
Cyswllt: Andy Griffiths Ffôn. 07711 077296
E-bost: andy@swanseabayradio.com
Perchnogion Swansea Bay Radio Cyf. yw Town and Country Broadcasting (65%), Haven FM (Pembrokeshire) Cyf., (20%) a thri o unigolion lleol (15%). Bydd yn darparu sgwrs leol a cherddoriaeth ar gyfer ardal Abertawe, gyda newyddion 24-awr, gwybodaeth a sylwebaeth yn bennaf ar gyfer y grŵp oedran 35+, ac yn chwarae cyfuniad o gerddoriaeth euraidd a chanol y ffordd.
Mae’r drwydded i wasanaethu dinas Abertawe a’r ardal o’i chwmpas, sydd â phoblogaeth oedolion (oed 15+) o oddeutu 300,000. Fodd bynnag bydd y cwmpasiad yn cael ei bennu gan leoliad y trosglwyddydd a nodweddion technolegol eraill.
Mae Ofcom yn disgwyl i Swansea Bay Radio i ddechrau darlledu cyn gynted ag y bo modd ond heb fod yn hwyrach na dwy flynedd ar ôl dyfarnu’r drwydded.
Bydd Ofcom yn cyhoeddi datganiad yn gosod y prif resymau dros ei ddyfarniad maes o law.
Cyhoeddir y drwydded am gyfnod o ddeuddeg mlynedd.
Diwedd.
Back to top