- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > Amddiffyn ar-lein
21|06|06
Ymchwil Ofcom i amddiffyn defnyddwyr ar y rhyngrwyd
Heddiw cyhoeddodd Ofcom ymchwil sydd yn datgelu pwysigrwydd hunan reoliad effeithiol o ddiwydiant a grymusiad defnyddwyr wrth ddelio â materion amddiffyn defnyddwyr ar y rhyngrwyd. Mae’r adroddiad yn edrych ar yr amrediad eang o brosesau a ddefnyddir yn y DU ac mewn gwledydd eraill i fynd i’r afael â nifer o faterion amddiffyn defnyddwyr ar-lein, yn cynnwys deunyddiau anghyfreithiol neu niweidiol.
Mae’r rhyngrwyd wedi dod yn rhan hanfodol o’n bywydau proffesiynol a phersonol yn gyflym iawn. Bellach mae gan 59% o holl oedolion y DU fynediad i’r rhyngrwyd yn y cartref, ac mae 68% o’r rhain wedi eu cysylltu â gwasanaethau cyflymdra uchel, cyfoethog eu cynnwys trwy gyfrwng band eang. Mae’r rhyngrwyd yn cysylltu cynulleidfa fyd-eang gyda’i gilydd a chyda chynnyrch, nwyddau a gwasanaethau ledled y byd.
Ond, mae defnyddwyr yn disgwyl cael eu hamddiffyn rhag twyll a dulliau eraill o niwed, boed ar-lein ai peidio. Dylid atal deunydd amhriodol rhag cyrraedd plant a dylid cael gwared â chynnwys anghyfreithiol, ac mae pornograffi plant yn enghraifft amlwg o hyn.
Diben ymchwil Ofcom yw llywio’r drafodaeth gyfredol am y dull mwyaf priodol o amddiffyn defnyddwyr ar-lein. Mae sylwadau allweddol yn yr adroddiad yn cynnwys:
- yn gyffredinol mae amddiffyn defnyddwyr ar y rhyngrwyd wedi golygu graddfa llawer uwch o hunan reoliad ac o gyd-reoliad nag a fu ar gyfer cyfryngau eraill;
- mae amddiffyn defnyddwyr yn effeithiol yn galw am lefelau llawer mwy sylweddol o gydweithrediad rhyngwladol nag sydd yn bodoli ar hyn o bryd; ac
- mae’r rhyngrwyd yn rhoi llawer mwy o gyfrifoldeb nag o’r blaen ar ddefnyddwyr i weithredu i amddiffyn eu hunain.
Rheoliad cynnwys ar-lein
Cyhoeddir yr adroddiad wrth i’r Comisiwn Ewropeaidd ddatblygu cynigion i adolygu’r Gyfarwyddeb Teledu Heb Ffiniau, sydd yn llywodraethu rheoliad cynnwys clywedol ar draws Ewrop.
Mae’r Comisiwn yn bwriadu ymestyn cwmpas rheoliad cynnwys darlledu statudol sydd yn bodoli ar hyn o bryd i gynnwys cynnwys clywedol a ddosberthir ar bob platfform, yn cynnwys y rhyngrwyd. Mae Ofcom wedi datgan o’r blaen y gallai hyn fod yn wrth gynhyrchiol, gan fygwth mygu diwydiant newydd ac ymestyn rheoliad statudol yn ddianghenraid.
Uchafbwyntiau’r ymchwil
Mae swm sylweddol o ddeddfwriaeth gyffredinol amddiffyn defnyddwyr a phlant sydd yr un mor berthnasol ar-lein a chyflwynwyd deddfwriaeth newydd i ddelio gyda phynciau penodol a godwyd gan y rhyngrwyd.
Hefyd mae nifer o fecanweithiau hunan rheoleiddiol diwydiant wedi’u sefydlu:
- Mae TrustUK yn system sêl ansawdd yn nodi bod gwerthwyr wedi arwyddo côd ymddygiad mewn perthynas ag e-fasnach;
- Mae’n ofynnol yn ôl Cymdeithas Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISPA) i aelodau gydymffurfio â rheolau diogelu data ac ymuno â rhaglen sêl TrustUK;
- Mae Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd yn nodi ac yn gweithredu yn erbyn delweddau o bornograffi plant yn ogystal ag yn erbyn cynnwys sydd yn droseddol anllad ac yn hiliol; ac
- Mae’r Fforwm Trosedd Rhyngrwyd yn annog cydweithio rhwng Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU mewn perthynas â gweithgarwch maleisus ar y cyfrifiadur.
Ond, mae natur agored y rhyngrwyd yn cyflwyno sialensiau yn ogystal â manteision:
- mae nifer o ddefnyddwyr yn amheus o gynnal trafodion ar-lein; dim ond 28% o ddefnyddwyr rhyngrwyd sydd yn fodlon datgelu gwybodaeth cerdyn credyd;
- mae dwyn gwybodaeth bersonol trwy dwyllo’r defnyddiwr i anfon gwybodaeth sensitif i gorff neu unigolyn twyllodrus a thwyllo porwr gwe y defnyddiwr i fynd i mewn i wefan dwyllodrus yn dod yn gynyddol gyffredin; ac
- cyfyngedig o ran eu heffeithiolrwydd yw dulliau cenedlaethol unochrog i flocio neu i gael gwared â chynnwys anghyfreithiol neu niweidiol heb gydweithrediad rhyngwladol.
Back to top