- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 20|07|06
20|07|06
Ofcom yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2005/6
Diweddariad ar benodi Prif Weithredwr newydd.
Heddiw cyhoeddodd Ofcom ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon am y cyfnod 1 Ebrill 2005 i 31 Mawrth 2006. Yn 2005/6 cwblhaodd Ofcom ei adolygiadau strategol o delegyfathrebiadau a radio, ar ôl gorffen ei adolygiadau o ddarlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus a sbectrwm radio flwyddyn ynghynt. Yn ystod y cyfnod dan sylw, newidiodd ffocws Ofcom i gyflawni’r sialensiau amlygwyd yn yr adolygiadau hynny.
Mewn telegyfathrebiadau, cytunodd Ofcom Ymgymeriadau rhwymol cyfreithiol â BT Group ccc, er mwyn annog mwy a gwell cystadlu cynaliadwy a fydd yn arwain at brisiau is, gwerth am arian a mwy o ddyfeisgarwch. Cymerodd Ofcom gamau hefyd i warchod defnyddwyr rhag ystod o ymarferion gwael a cham-arferiadau, gan gynnwys cam-werthu, delio’n aneffeithiol â chwynion a galwadau ffôn niwsans.
Mewn sbectrwm, dechreuodd Ofcom ar raglen i ryddhau hyd at 400 MHz o sbectrwm i’r farchnad, bwriwyd ati gyda’r gwaith o hybu’r newid i’r digidol mewn teledu ac fe ddechreuwyd ar y gwaith o asesu’r defnydd gorau o’r sbectrwm fydd yn cael ei ryddhau wedi’r newid i’r digidol. Parhaodd Ofcom gyda’i rhaglen eang o ddadreoleiddio ym maes trwyddedu sbectrwm, gan leihau’r baich rheoleiddiol ar dros 120,000 o unigolion a busnesau.
Mewn darlledu cyhoeddodd Ofcom Côd Ddarlledu newydd - un fframwaith syml o reolau ac egwyddorion l i ddarlledwyr; ac fe addawodd ehangu gwasanaethau DAB, yn lleol ac yn genedlaethol.
Yn rhyngwladol, chwaraeodd Ofcom rôl bwysig yn y Grŵp Reoleiddio Ewropeaidd (ERG) gyda phenodiad Kip Meek, uwchbartner Ofcom fel Cadeirydd ym mis Ionawr 2006. Yn ystod y cyfnod dan sylw, bu Ofcom yn ymwneud a thri mater rhyngwladol pwysig: Adolygiad o’r Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cyfathrebiadau Electronig yr UE; polisïau Ewrop ar reoli sbectrwm; a Chyfarwyddeb arfaethedig yr UE ar Wasanaethau Cyfryngau Clyweled.
Dadreoleiddio
Mae’r ymrwymiad tuag at leihau’r baich o reoleiddio i randdeiliaid yn ffurfio sail i holl waith Ofcom. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn amlygu 16 o feysydd allweddol ble mae Ofcom wedi cymryd camau neilltuol i gael gwared a, lleihau neu symleiddio rheoleiddio. Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi ei Gynllun Symleiddio, sy’n egluro’n ymagwedd tuag at reoleiddio a sut y byddwn yn lleihau rheoleiddio i’r dyfodol.
Lleihau costau a gwella effeithiolrwydd.
Yn 2005/6 cwtogodd Ofcom ei gyllideb weithredol i £133m - 8 y cant yn is na’i gyllideb ar gyfer 2004/5 mewn termau real. Mae ei gyllideb weithredol ar gyfer 2006/7 5 y cant yn is na’r flwyddyn gynt a 12.6 yn is na’i gyllideb weithredol ar gyfer 2004/5.
Ychydig wedi’r cyfnod dan sylw, fe gyhoeddodd y Swyddfa Archwiliadau Cenedlaethol ei adroddiad ar sefydlu Ofcom a’r graddau y bu hyn yn gyfrifol am gyflawni’r buddion disgwyliedig. Mae’r adroddiad yn honni mai’r “dystiolaeth gynnar yw bod Ofcom wedi bod yn llwyddiannus.”
Prif Weithredwr – newid a recriwtio
Heddiw hefyd cyhoeddodd Bwrdd Ofcom fod y broses o recriwtio Prif Weithredwr newydd i Ofcom yn mynd rhagddi, gyda’r broses o greu rhestr-fer yn dechrau yn hwyrach yn y mis. Mae’r Bwrdd yn bwriadu cwblhau’r broses apwyntio yn ystod mis Hydref.
Ddiwedd fis Gorffennaf, bydd cyfrifoldebau ffurfiol Swyddog Atebol y Corff yn trosglwyddo o’r Prif Weithredwr, Stephen Carter i Gadeirydd Ofcom, David Currie. Wedi hyn, David Currie fydd yn gweithredu fel Cadeirydd Gweithredol, gan gadeirio’r prif Fwrdd, Y Pwyllgor Gweithredol a’r Pwyllgor Gwaith – hyd nes y penodir Prif Weithredwr newydd.
Bwriad gwreiddiol Stephen Carter oedd aros yn ei swydd tan yr hydref. Ond, gyda’r broses apwyntio yn mynd rhagddi yn effeithiol, gan gynnwys y trosglwyddiad esmwyth o atebolrwydd swyddogol a chyfrifoldebau rheoli gweithredol, mae’r Bwrdd wedi cytuno y bydd Stephen Carter yn gadael Ofcom ddiwedd y mis, ac, heblaw am roi cyngor answyddogol ar faterion gweithredol fel yr ofynnir gan y Cadeirydd Gweithredol, ni fydd yn chwarae unrhyw rôl bellach yn y Corff.
Dywedodd Cadeirydd Ofcom, David Currie: “Yn 2005/6 aethom ati i weithredu ar ein hymrwymiad i gynyddu dewis a gwerth i’r defnyddiwr r ac i leihau’r baich reoleiddio ar ddiwydiant. Mae’r Bwrdd yn credu bod Ofcom wedi llwyddo i gadw at yr addewidion hynny.
Ychwanegodd: “Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch i Stephen am ei arweiniad eithriadol ac i ddiolch iddo am bopeth y mae ef wedi ei gyflawni yn Ofcom.
Dywedodd Stephen Carter, Prif Weithredwr Ofcom: “Fel mae’r Adroddiad Blynyddol yn dangos rwy’n gobeithio, mae Ofcom mewn cyflwr da ac mewn dwylo saff.”
Ychwanegodd: “Yn bersonol rwy’n falch iawn o’r datblygiadau dramatig a thrawiadol yn y farchnad band-llydan, sydd wedi’u sbarduno a’u cefnogi gan bolisïau Ofcom dros y tair blynedd diwethaf.”
Cafodd yr Adroddiad a’r Cyfrifon ei archwilio gan y Swyddfa Archwiliadau Cenedlaethol a’u gosod o flaen y Senedd heddiw. Ceir copi o’r Adroddiad Blynyddol 2005/6 ar wefan Ofcom:
http://www.ofcom.org.uk/about/accoun/reports_plans/annrep0506/
Diwedd.
Back to top