- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 19|01|07
19|01|07
Ofcom yn penodi chwe aelod newydd i’w Bwyllgor Ymgynghorol dros Gymru
Heddiw cyhoeddodd Ofcom benodiad chwe aelod newydd i’w Bwyllgor Ymgynghorol dros Gymru.
O dan Adran 20 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 sefydlwyd y Pwyllgor i ddarparu cyngor i Ofcom am fuddiannau a barn pobl sydd yn byw yng Nghymru ar bob mater cyfathrebiadau.
Yr aelodau newydd yw:
Julie Barton (tymor o dair blynedd) – ymgynghorydd cyfryngau sydd yn byw ger Pontypridd. Bu’n gweithio i BBC Wales am dros 20 mlynedd a threuliodd ei chwe blynedd olaf yno fel Golygydd, BBC Radio Wales. Mae’n hyfforddi myfyrwyr a staff cyfryngau ledled Cymru ar bob agwedd o radio. Mae’n cynrychioli Undeb Cenedlaethol Gohebwyr ar y Cyngor Hyfforddi Gohebiaeth Darlledu ac mae hefyd yn Ymddiriedolwraig Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Mae Julie hefyd yn dysgu Cymraeg.
Charlie Bass (tymor o bedair blynedd)- yn byw yn Sir y Fflint ac yn rhedeg ymgynghoriaeth e-fasnach a gwefan gan ddarparu cyngor proses busnes a thechnoleg i gyrff ar draws Cymru, y DU ac Ewrop. Cyn hynny bu’n gweithio fel peiriannydd cyfathrebiadau ac afioneg yn y Llynges Frenhinol cyn ymuno ag AT&T i sefydlu ei adran Microelectroneg yn y DU ac Adran Rhwydweithiau Preifat yn y Dwyrain Canol ac Affrica. Mae’n gyn Gadeirydd Grŵp Rhanddeiliaid Band Eang Cymru.
John Davies (tymor o bedair blynedd) – ymgynghorydd telegyfathrebiadau a chyfarwyddwr cwmni cyfathrebiadau. Mae gan John, sydd yn gyn Gyfarwyddwr BT Cymru a Phrif Swyddog Gweithrediadau BT Wholesale, MBA o Ysgol Fusnes Llundain. Mae’n byw yng Nghaerdydd ac mae’n Aelod o The Prince’s Trust Cymru.
Mark Elliott (tymor tair blynedd) - yn gweithio i Gyngor Sir Ceredigion fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Perfformiad Corfforaethol lle mae ei gyfrifoldebau yn cynnwys rheolaeth perfformiad, cysylltiadau cyhoeddus, e-Lywodraeth, diogelwch cymunedol, cynllunio cymunedol, achlysuron sifil a iechyd a diogelwch corfforaethol. Mae’n Ymddiriedolwr a Dirprwy Gadeirydd Sefydliad Siartredig Iechyd Amgylcheddol.
Glyn Mathias (tymor pedair blynedd) – yn byw yn Aberhonddu ac yn aelod dros Gymru ar y Comisiwn Etholiadol. Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad fel gohebydd darlledu i ITN a’r BBC ac mae’n gyn ymgynghorydd materion cyhoeddus. Mae Glyn yn gyn ymgynghorydd i Sefydliad Joseph Rowntree ac yn awdur cyhoeddedig. Ar hyn o bryd mae’n Ymddiriedolwr Awtistiaeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr Gweithredu Aberhonddu, grŵp adfywio economaidd.
Gary Partridge (tymor o bedair blynedd) – Cyfrifydd Siartredig a daeth yn Bartner Cyllid Corfforaethol gyda PFK(UK)LLP yn 2004. Cyn hynny bu’n gweithio i Gyllid Cymru fel Cyfarwyddwr Cyfalaf Menter ac i BT yn cyflawni cyfuniadau byd-eang a thrafodion caffaeliadau ar gyfer y Grŵp. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn PricewaterhouseCoopers (Llundain a Bwdapest). Ar hyn o bryd mae’n Is Lywydd Cymdeithas De Cymru o Sefydliad Cyfrifyddion Siartredig yng Nghymru a Lloegr a bydd yn gwasanaethu am un tymor fel Llywydd yn 2008/09.
Yn ychwanegol mae Nick Bennett wedi ei ail benodi ar y Pwyllgor am dymor pellach o dair blynedd. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Nick yn Brif Weithredwr Tai Cymunedol Cymru yn ogystal â Chyfarwyddwr anweithredol Cyfathrebiadau Bute. Fel cyn gyfarwyddwr ymgynghoriaeth datblygu economaidd Newidiem, rhwng 1996 a 1999 roedd yn Ymgynghorydd Polisi Rhanbarthol yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru ym Mrwsel cyn cael ei benodi yn Ymgynghorydd Arbennig y Cabinet i’r Dirprwy Brif Weinidog ym mhartneriaeth glymblaid gyntaf Llywodraeth y Cynulliad. Mae Nick yn siarad Cymraeg yn rhugl .
Bydd Ian Clarke yn parhau fel aelod o’r pwyllgor yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor, yr Athro Tony Davies, tan 2008.
Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Cymru, Ofcom : “Bydd y Pwyllgor Ymgynghorol yn chwarae rôl bwysig mewn cynghori Ofcom ar faterion cyfathrebiadau sydd yn effeithio ar Gymru.
“Mae’r byd cyfathrebiadau yn newid yn aruthrol yng Nghymru gyda’r newid i’r digidol yn cychwyn yn 2009 a rhwydweithiau y genhedlaeth nesaf yn cael eu treialu yn ne Cymru.
“Bydd y Pwyllgor yn parhau i ddarparu cyngor i Ofcom ar faterion allweddol i ddefnyddwyr a dinasyddio Cymru”
Diwedd.
NODIADAU I OLYGYDDION A CSEs
Bydd yr Aelodau newydd yn cychwyn ar eu gwaith ar 1 Mawrth 2007 am dymor o dair neu bedair blynedd.
Ofcom yw’r rheoleiddiwr annibynnol a’r awdurdod gystadleuaeth ar gyfer diwydiannau cyfathrebiadau’r DU, â chyfrifoldebau am deledu, radio, telegyfathrebiadau a gwasanaethau cyfathrebu di-wifr.
Am ragor o fanylion ewch i www.ofcom.org.uk.
Back to top