- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 30/03/07
30|03|07
Gostyngiad yng nghost sylfaenol rheoleiddio ar gyfer 2007/8
Heddiw cyhoeddodd Ofcom ei Dablau Tariff ar gyfer 2007/08 sydd yn nodi gorolwg o’r ffioedd sydd yn ddyledus gan ddiwydiant am y flwyddyn ariannol nesaf.
Cyllidir Ofcom gan daliadau gan drwyddedai darlledu a darparwyr cyfathrebiadau, yn ogystal â chan daliadau ar gyfer rheoli sbectrwm radio’r DG.
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol bydd Ofcom yn gweithredu ar gyllideb sydd yn is mewn termau real na chyllideb y flwyddyn flaenorol.
Cyllideb Gweithredu
Ar sail tebyg am debyg, £126.7m fydd cyllideb Ofcom ar gyfer 2007/08, sydd 5 y cant yn is mewn termau real na’i gyllideb ar gyfer 2006/07 a 9.8y cant yn is na’i gyllideb ar gyfer 2005/06.
O ganlyniad i drafodaethau diweddar gyda Thrysorlys EM bu newid bychan yn nhrefniadau cyllido Ofcom. Yn y gorffennol roedd ymchwil technoleg yn cael ei gyllido’n uniongyrchol gan Drysorlys EM o dan y Cynllun Effeithlonrwydd Sbectrwm. I’r dyfodol caiff yr ymchwil hwn, y disgwylir iddo gostio £3.5m yn 2007/08 ei gynnwys yng nghyllideb Ofcom. Ond oherwydd y bydd yr ymchwil yn ymwneud yn bennaf â rheolaeth sbectrwm radio, caiff ei gyllido gan yr Adran Masnach a Diwydiant. Mae hyn yn rhoi cyfanswm cyllideb ar y sail newydd o £130.2m.
Benthyciad yr Adran Masnach a Diwydiant
I dalu am gost sefydlu’r corff derbyniodd Ofcom fenthyciad o £52.3m gan yr Adran Masnach a Diwydiant. Cafodd y costau sefydlu eu gwario yn ystod y cyfnod Mawrth 2003 i Ionawr 2004. Erbyn diwedd 2007/08 bydd Ofcom wedi ad-dalu’r benthyciad, ynghyd â’r llog a gronnwyd. Felly o 2008/09 ymlaen ni fydd y benthyciad yn cael ei ddigolledu trwy ffioedd rheoleiddiol, gan leihau ymhellach y baich ariannol ar randdeiliaid.
Mae costau gweithredu Ofcom yn cael eu dyrannu i bob sector yn ôl y graddau o waith a gynigir i’r sector hwnnw yn 2007/08. Pennir taliadau’r rhanddeiliaid yn unol â’r Datganiad o Egwyddorion Codi Tâl. Ni ddatgelir manylion am ffioedd cwmnïau unigol.
Nodir rhaglen waith Ofcom ar gyfer 2007/08 yn ei Gynllun Blynyddol. Cyhoeddwyd y drafft ar gyfer ymgynghori ar 12 Rhagfyr 2006 a chyhoeddir fersiwn derfynol y Cynllun Blynyddol ar 3 Ebrill.
Gellir gweld y Tablau Tariff ar gyfer 2007/08 yn:
http://www.ofcom.org.uk/about/accoun/tarifftable0708/
Gellir gweld y Datganiad o Egwyddorion Codi Tâl yn: http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/socp/statement/charging_principles.pdf
Back to top