- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 03/04/07
03|04|07
Ofcom yn cyhoeddi ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2007/8
Heddiw, cyhoeddodd Ofcom ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2007/8 sy’n nodi fframwaith polisi Ofcom am y tair blynedd nesaf ac sy’n rhestru blaenoriaethau penodol ar gyfer 2007/8.
Cafodd y fframwaith polisi tair blynedd a’r blaenoriaethau ar gyfer 2007/8 gefnogaeth eang gan randdeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori, a oedd yn cynnwys digwyddiadau cyhoeddus o amgylch y DG a fynychwyd gan dros 350 o bobl.
Fframwaith polisi ar gyfer y tair blynedd nesaf
Bydd gwaith polisi Ofcom ar gyfer 2007/8, 2008/9 a 2009/10 yn canolbwyntio ar saith maes:
- gyrru yn ei blaen ymagwedd sy’n seiliedig ar y farchnad tuag at sbectrwm;
- hyrwyddo cystadleuaeth ac arloesedd mewn marchnadoedd cydgyfeiriol;
- cyflawni canlyniadau cyhoeddus wrth i lwyfannau a gwasanaethau gydgyfeirio;
- gwella cydymffurfio’r diwydiant a grymuso dinasyddion a defnyddwyr;
- symud tuag at fframweithiau cyfreithiol ac economaidd mwy cyson;
- lleihau rheoleiddio a lleihau beichiau gweinyddol; a
- hyrwyddo i’r eithaf effaith Ofcom ar ddatblygiadau polisi rhyngwladol.
Blaenoriaethau ar gyfer 2007/8
O dan y saith maes allweddol ar gyfer y tair blynedd nesaf, mae gan Ofcom 15 o flaenoriaethau ar gyfer 2007/8:
Gyrru yn ei blaen ymagwedd sy’n seiliedig ar y farchnad tuag at sbectrwm
- Cyflymu rhyddfrydoli a masnachu sbectrwm, gan alluogi’r farchnad i benderfynu’r modd y dylai sbectrwm gael ei ddefnyddio, cynyddu cystadleuaeth ac arloesedd.
- Rhyddhau mwy o sbectrwm i alluogi gwasanaethau newydd i ddatblygu, gan alluogi llwyfannau newydd i ddatblygu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o wasanaethau cydgyfeiriedig.
- Cyd-drefnu polisi sbectrwm rhyngwladol trwy gynrychioli’r DG ar gyrff rhyngwladol allweddol.
Hyrwyddo cystadleuaeth ac arloesedd mewn marchnadoedd cydgyfeiriol
- Deall llwyfannau di-wifr, fel teledu symudol a band eang di-wifr, wrth i gydgyfeiriant fynd rhagddo.
- Asesu ffynonellau newydd pŵer y farchnad sy’n dod i’r amlwg trwy gydgyfeiriant.
- Hyrwyddo cystadleuaeth mewn marchnadoedd telegyfathrebiadau a darlledu cydgyfeiriol; yn ganolog i hyn fydd sicrhau bod BT Group plc yn cydymffurfio â’i Ymrwymiadau.
- Sicrhau cystadleuaeth a buddsoddi effeithlon mewn rhwydweithiau cenhedlaeth nesaf.
Cyflawni canlyniadau cyhoeddus wrth i lwyfannau a gwasanaethau gydgyfeirio
- Adolygu’r modd y mae Ofcom yn diogelu gwylwyr a gwrandawyr trwy reoleiddio cynnwys, gan gynnwys y rheolau sy’n diogelu rhag niwed a sarhad.
- Hyrwyddo mynediad a chynhwysiad, gan gynnwys ymchwil i ddeall yn well natur pryderon dinasyddion a defnyddwyr.
- Cynnal cynnwys amrywiol ac o safon uchel mewn darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Gwella cydymffurfio’r diwydiant a grymuso dinasyddion a defnyddwyr
- Hyrwyddo llythrennedd y cyfryngau a galluogi i ddefnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus.
- Targedu gorfodaeth mwy o’r rheolau sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu dinasyddion a defnyddwyr a’i gwneud yn fwy effeithiol.
- Sicrhau y gall defnyddwyr newid darparwyr yn gyflym ac yn hawdd
Symud tuag at fframweithiau cyfreithiol ac economaidd mwy cyson
- Byddwn yn archwilio ymhle mae’n ddymunol symud tuag at fwy o gysondeb rhwng fframweithiau cyfreithiol ac economaidd sy’n rheoli llwyfannau gwahanol; bydd Ofcom yn canolbwyntio ar y mater hwn yn 2008/9 a 2009/10.
Lleihau rheoleiddio a lleihau beichiau gweinyddol
- Archwilio’r posibilrwydd ar gyfer dileu rheoleiddio ac esmwytho’r beichiau gweinyddol ar ein rhanddeiliaid.
Hyrwyddo i’r eithaf effaith Ofcom ar ddatblygiadau polisi rhyngwladol.
- Cyfranogi yng nghyd-drafodaethau craidd yr UE, fel cefnogi’r Llywodraeth mewn cwblhau cyd-drafodaethau ar y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Clyweled a’r Cyfryngau; a chyfrannu at gyd-drafodaethau eraill yr UE, fel rhoi sylw i’r cynigion deddfwriaethol a fydd yn dilyn Cyfathrebiad Cynnwys Ar-lein y Comisiwn.
Gellir gweld Cynllun Blynyddol llawn 2007/8 yn: "Related Items"
Gellir gweld gwybodaeth fanwl am brosiectau Ofcom, a fydd yn cael eu diweddaru bob chwarter, yn: "Related Items"
Diwedd
Back to top