Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 08|05|07


08|05|07

Ofcom yn dyfarnu trwydded radio masnachol FM newydd ar gyfer De Cymru

Ofcom yn dyfarnu trwydded radio masnachol FM newydd ar gyfer De Cymru

Heddiw mae Ofcom yn cyhoeddi dyfarniad trwydded radio masnachol lleol FM newydd ar gyfer De Cymru.

Erbyn y dyddiad cau 12 o Rhagfyr derbyniodd Ofcom wyth o geisiadau ar gyfer trwydded De Cymru. Ar ôl rhoi ystyriaeth gofalus i bob cais a gyflwynwyd, mae Pwyllgor Trwyddedu Radio Ofcom wedi penderfynu dyfarnu’r drwydded i:

XFM South Wales Ltd, Cyswllt Nick Davidson, 30 Leicester Square, London, WC2H 7LA
nick.davidson@xfm.co.uk
Rhif ffôn 0161 662 4764

Mae XFM South Wales yn is-gwmni sy'n llwyr eiddo i GCap Media plc. Bydd XFM South Wales "yn darparu fformat roc amgen gan chwarae yn gyffredinol, cerddoriaeth gitâr gyfoes a chlasurol wedi’i chreu gan artistiaid sy’n herio’r estheteg bop prif lif."

Mae’r drwydded ar gyfer gwasanaeth i De Cymru sydd â phoblogaeth o oedolion (oed 15+) o tua 950,000. Ond, bydd yr union ddarpariaeth yn cael ei benderfynu yn ôl lleoliad y safleoedd darlledu a nodweddion technegol eraill.

Mae Ofcom yn disgwyl i XFM ddechrau darlledu ar y cyfle cynharaf posibl, a dim hwyrach na dwy flynedd o’r dyddiad dyfarnu hwn.

Bydd Ofcom yn cyhoeddi datganiad yn nodi’r ffactorau penderfynu allweddol ar gyfer dyfarniad y drwydded hon cyn hir.

Mae’r drwydded yn para am gyfnod o ddeuddeg mlynedd.


Back to top Back to top

Related Items