- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 06|09|07
06|09|07
OFCOM YN DYFARNU TRWYDDED AMLBLECS RADIO DIGIDOL LLEOL NEWYDD I OGLEDD DDWYRAIN CYMRU A GORLLEWIN SWYDD GAER
Heddiw mae Ofcom yn cyhoeddi dyfarnu’r drwydded amlblecs radio Darlledu Sain Ddigidol (DAB) newydd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru a Gorllewin Swydd Gaer.
Mae hon yn un o nifer o drwyddedau amlblecs radio lleol newydd a gynlluniwyd i ddatblygu darllediad DAB ar gyfer gwasanaethau yn y rhannau hynny o’r wlad heb wasanaeth eisoes. Bydd y broses drwyddedu hon yn arwain at ehangu sylweddol mewn gwasanaethau radio digidol ledled y DU.
Erbyn y dyddiad cau o 9 Mai 2007 roedd Ofcom wedi derbyn dau gais am y drwydded Gogledd Ddwyrain Cymru a Gorllewin Swydd Gaer. Ar ôl rhoi ystyriaeth gofalus i’r ceisiadau a gyflwynwyd mae Pwyllgor Trwyddedu Radio Ofcom wedi penderfynu dyfarnu’r drwydded i:
MuxCo Northeast Wales a West Cheshire Ltd
96a Curtain Road, Llundain EC2A 3AA
Cyswllt: Gregory Watson, Ffôn: 07917 413700, E-bost: gregory@muxco.com
Mae cyfranddalwyr MuxCo Northeast Wales a West Cheshire fel â ganlyn:
| Dee 106.3 Ltd | 25% |
| UTV Radio (GB) Ltd | 25% |
| Town & Country Broadcasting Ltd | 25% |
| MuxCo Ltd | 25% |
Mae MuxCo Northeast Wales and West Cheshire Limited yn cynnig darparu saith gwasanaeth rhaglen sain ddigidol leol yn ychwanegol at BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, fel â ganlyn:
| Disgrifiad o’r Fformat | Gwasanaeth | Darparydd |
|---|---|---|
| Cyfoes | Marcher Sound | GCap Media plc |
| Aur | Gold | GCap Media plc |
| Cyfoes | Dee 106.3 | Dee 106.3 Ltd. |
| Cerddoriaeth newydd, Siart a dawns | 107.6 Juice FM | UTV Radio (GB) Ltd. |
| Hawdd | Easy Radio | Easy Radio Ltd. |
| Gwasanaeth llawn | Wales Live | Town & Country Broadcasting Ltd. |
| Pob a roc amrywiol | Jack FM | Absolute Radio International Ltd. |
Mae Ofcom yn amcangyfrif y gallai’r drwydded hon gyflawni darllediad dros ardal gyda phoblogaeth oedolion (15+ oed) o 647,000.
Cyhoeddir y drwydded am gyfnod o ddeuddeg mlynedd. Mae MuxCo wedi ymrwymo i lansio’i gwasanaeth erbyn Awst 2008.
Bydd Ofcom yn cyhoeddi datganiad yn nodi ffactorau penderfynu allweddol ar gyfer dyfarnu’r drwydded hon cyn hir.
Diwedd
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Mae amlblecsau DABS yn cario nifer o sianeli radio stereo ac/neu mono yn ogystal â gwasanaethau aml gyfryngau fel testun a data.
2. Mae trwydded heddiw yn rhan o broses drwyddedu ehangach a fydd yn arwain at ehangu sylweddol mewn gwasanaethau radio DAB yn lleol ac yn genedlaethol dros y tair blynedd nesaf. Mae rhagor o fanylion yn Natganiad Ofcom ‘Dyfodol trwyddedu radio digidol DAB’ yn http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/dab/statement
Back to top