Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > radio cymunedol newydd


13|03|07

Ofcom yn dyfarnu trwydded radio cymunedol newydd yng Nghymru

Heddiw mae Ofcom yn dyfarnu trwydded radio cymunedol newydd yng Nghymru.

Mae radio cymunedol yn haen newydd o radio sydd yn ategu’r cymysgedd o wasanaethau a ddarperir eisoes gan y BBC a’r sectorau radio masnachol. Mae gwasanaethau radio cymunedol yn darlledu mewn ardal ddaearyddol fechan ac fe’u darperir ar sail heb fod ar gyfer elw gan ganolbwyntio ar gyflwyno manteision cymdeithasol penodol i gyfoethogi cymuned ddaearyddol benodol neu gymuned o fuddiannau.

Mae Ofcom wedi dyfarnu trwyddedau radio cymunedol yn ardal

Y Bari, Bro Morgannwg

Dalwyr y drwydded radio cymunedol newydd yw:

Bro Radio (Y Bari)

Cyswllt: Rick Ward, The Coach House, 189 Barry Road, Barry CF62 9BG

Ffôn 0845 329 0211. E-bost: enquiries@broradio.co.uk gwefan: www.broradio.co.ukwww.broradio.co.uk

Bydd Bro Radio yn darlledu cymysgedd o leferydd lleol a cherddoriaeth i dargedu cymuned Y Bari gyda'r pwyslais ar gynnwys wedi ei greu gan ac ar gyfer y rhai hynny o fewn y dalgylch.

Dyfernir trwyddedau am gyfnod o bum mlynedd.

Bydd datganiad yn nodi’r prif ffactorau dros bennu’r dyfarniad am y ddwy drwydded radio cymunedol lleol a enwir uchod ar gael cyn hir ar wefan Ofcom.

Diwedd.


Back to top Back to top

Related Items