Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > radcymnew


13|02|07

Ofcom yn dyfarnu dwy drwydded radio cymunedol newydd yng Nghymru

Heddiw mae Ofcom yn dyfarnu dwy drwydded radio cymunedol newydd yng Nghymru.

Mae radio cymunedol yn haen newydd o radio sydd yn ategu’r cymysgedd o wasanaethau a ddarperir eisoes gan y BBC a’r sectorau radio masnachol. Mae gwasanaethau radio cymunedol yn darlledu mewn ardal ddaearyddol fechan ac fe’u darperir ar sail heb fod ar gyfer elw gan ganolbwyntio ar gyflwyno manteision cymdeithasol penodol i gyfoethogi cymuned ddaearyddol benodol neu gymuned o fuddiannau.

Mae Ofcom wedi dyfarnu trwyddedau radio cymunedol yn yr ardaloedd canlynol:

• Brynmawr, Blaenau Gwent
• Tircoed Forest Village, Abertawe

Dalwyr y trwyddedau radio cymunedol newydd yn yr ardaloedd hyn yw:

BRfm (Brynmawr, Blaenau Gwent)
Cyswllt: Robert Ball, Lakeside Studios, Uned 23 Gweithdai Blaenau Gwent, Pond Road, Brynmawr, Blaenau Gwent NP23 4BL
Ffôn: 01495 313003; ffôn symudol: 07812 000971

Bydd BRfm yn darparu gwasanaeth radio lleol a chynhwysol i breswylwyr Brynmawr ac ardaloedd cyfagos Blaenau Gwent.

Radio Tircoed (Tircoed Forest Village, Abertawe)
Cyswllt: Robert Walker, 14 Derwlas, Tircoed Forest Village, Penllergaer, Abertawe SA4 9SF
Ffôn: 01792 898628; ffôn symudol: 07962 107398
E-bost tircoed@btinternet.com; Gwefan: www.radiotircoed.com

Nod Radio Tircoed yw gwella profiad y gymuned trwy gynnig cyfleoedd darlledu i bob sector yn y gymuned leol..

Dyfernir trwyddedau am gyfnod o bum mlynedd.

Bydd datganiad yn nodi’r prif ffactorau dros bennu’r dyfarniad am y ddwy drwydded radio cymunedol lleol a enwir uchod ar gael cyn hir ar wefan Ofcom.

Diwedd.

Nodiadau i Olygyddion a CSEs
1. Gwahoddir ceisiadau am drwyddedau radio cymunedol ar sail rhanbarth wrth ranbarth. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Ofcom yn: http://www.ofcom.org.uk/radio/ifi/rbl/commun_radio/


Back to top Back to top

Related Items