- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > 8|02|07
08|02|07
Ofcom yn dyfarnu trwydded radio masnachol FM newydd ar gyfer Swydd Henffordd a Sir Fynwy
Heddiw mae Ofcom yn cyhoeddi dyfarniad trwydded radio masnachol lleol FM newydd ar gyfer Swydd Henffordd a Sir Fynwy.
Erbyn y dyddiad cau o’r 14 o Dachwedd 2006, derbyniodd Ofcom dau o geisiadau ar gyfer trwydded Swydd Henffordd a Sir Fynwy. Ar ôl rhoi ystyriaeth gofalus i bob cais a gyflwynwyd, mae Pwyllgor Trwyddedu Radio Ofcom wedi penderfynu dyfarnu’r drwydded i:
Herefordshire and Monmouthshire Classic Hits Ltd, 5 Belgravia Gardens, Swydd Henffordd HR1 1RB.
Cyswllt: Andrew Jancey; ffôn 01432 351932
Ebost: andrew@laserbroadcasting.com
Perchnogion Herefordshire and Monmouthshire Classic Hits yw Laser Broadcasting Ltd, Hereford Local Radio Ltd a Monmouth Local Radio Ltd. Bydd yn darparu gwasanaeth llais unigryw gan ganolbwyntio yn bennaf ar gerddoriaeth.
Mae’r drwydded ar gyfer gwasanaeth i Swydd Henffordd a Sir Fynwy sydd â phoblogaeth o oedolion (oed 15+) o tua 200,000. Ond, bydd yr union ddarpariaeth yn cael ei benderfynu yn ôl lleoliad y safle darlledu a nodweddion technegol eraill.
Mae Ofcom yn disgwyl i Herefordshire and Monmouthshire Classic Hits ddechrau darlledu ar y cyfle cynharaf posibl a dim hwyrach na dwy flynedd o’r dyddiad dyfarnu hwn.
Bydd Ofcom yn cyhoeddi datganiad yn nodi’r ffactorau penderfynu allweddol ar gyfer dyfarniad y drwydded hon cyn hir.
Mae’r drwydded yn para am gyfnod o ddeuddeng mlynedd.
Diwedd.
Back to top