Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Swyddfa’r Cyfryngau > Datganiadau i'r Wasg > ymchwil plant


03|10|07

Ymchwil Ofcom yn nodi natur newidiol rhaglennu plant

Mae’r Adolygiad yn gosod sialensiau a chreu trafodaeth ar ddyfodol teledu plant

Heddiw cyhoeddodd Ofcom yr adolygiad cynhwysfawr cyntaf yn y DU o’r farchnad teledu plant. Mae’r adolygiad yn asesu cyflwr cyfredol rhaglennu plant a’r rhagolygon ar gyfer cyflwyniad amrediad eang o gynnwys gwreiddiol ac o ansawdd uchel i blant yn y dyfodol.

Mae pwysau cynyddol ar y modelau cyllido ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol traddodiadol i ddarparu rhaglennu gwreiddiol i blant. Mae’r darnio hwn yn adlewyrchu'r tueddiad ehangach a fydd yn cael ei ystyried yn Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus.

Mae adolygiad Ofcom wedi dadansoddi’r farchnad blant ac am y tro cyntaf mae’n darparu sylfaen dystiolaeth arwyddocaol ar gyfer trafodaeth wybodus am gyflwyniad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn y dyfodol i blant. Mae dadansoddiad Ofcom yn codi materion i deledu plant sydd yn adlewyrchu'r rhai sydd yn wynebu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn gyffredinol yn y DU.

Canfyddiadau allweddol o’r adolygiad:

Canfyddiadau Eraill

Darpariaeth rhaglenni plant

Gwylio rhaglenni plant

Barn rhieni a phlant

Diwydiant teledu plant

Ymateb i’r adolygiad hwn

Mae’r canfyddiadau cyffredinol o’r adolygiad hwn yn dangos nad yw dibenion cyhoeddus ar gyfer rhaglennu plant yn cael eu diwallu mewn rhai meysydd. Er mwyn ystyried hyn ymhellach mae Ofcom yn croesawu barn ar y prif gwestiynau sydd yn codi o’i adolygiad, sydd ar gael ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 20 Rhagfyr 2007.

Ym mis Medi 2007 cyhoeddodd Ofcom y cylch gwaith ar gyfer ei ail adolygiad statudol o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gyfan gwbl. Daethpwyd â’r ail adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn ei flaen o ganlyniad i natur newidiol gyflym darlledu yn y DU, y mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn ei gadarnhau. Bwriadwn gyhoeddi ymatebion rhanddeiliaid i’r adroddiad hwn ochr yn ochr â chyhoeddiad cyfnod cyntaf yr adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, ynghyd ag ymagwedd arfaethedig tuag at deledu plant yng nghyd-destun ehangach Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus

Wrth nodi’r canfyddiadau hyn mae Ofcom hefyd yn cydnabod bod nifer o faterion a godwyd yn yr adolygiad hwn hefyd yn fater yn y pen draw i’r Llywodraeth ei ystyried a lle mae’n briodol, Ymddiriedolaeth y BBC. Bydd Ofcom yn gweithio gyda nhw i asesu’r dewisiadau.

Y camau nesaf

Mae’r amseru ar gyfer y cam nesaf yn nyfodol rhaglennu teledu plant a’r cysylltiadau gyda’r adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus fel â ganlyn:

20 Rhagfyr 2007: dyddiad cau ar gyfer ymatebion;

Gwanwyn 2008: cyhoeddi Cyfnod 1 Adolygiad DGC, yn cynnwys amlinelliad o gynigion ar gyfer ymagwedd arfaethedig tuag at raglennu plant yng nghyd-destun yr adolygiad DGC;

Hydref 2008: cyhoeddi Cyfnod 2 adolygiad DGC (dewisiadau polisi)

Yn gynnar yn 2009: datganiad adolygiad DGC terfynol

Dywedodd Prif Weithredwr Ofcom, Ed Richards: “Mae’r astudiaeth gynhwysfawr hon yn amlygu’r dirywiad mewn cynhyrchu teledu plant masnachol wedi’i gwneud gartref a’r chwyldro o ran defnydd pobl ifanc o’r cyfryngau. Mae’r farchnad wedi’i newid gan gynnydd mewn cystadleuaeth a darnio cynulleidfa. Mae’n ddealladwy bod rhieni yn bryderus a bellach rydym angen trafodaeth genedlaethol ar ba fesurau, os o gwbl, y gellir neu y dylid eu cymryd.”

Diwedd

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Yn ôl Adran 264 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 mae’n ofynnol i Ofcom adrodd ar y graddau y mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus teledu cyfredol – BBC, ITV, Channel 4, S4C, Five a Teletestun – gyda’i gilydd wedi cyflawni dibenion Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (DGC) gyda golwg ar gynnal a chryfhau ansawdd DGC i’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys asesiad o argaeledd o fewn y gwasanaethau hynny o swm ac amrediad addas o raglenni gwreiddiol ac o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc.
  2. Datblygwyd Dibenion a Nodweddion DGC yn ystod Adolygiad DGC 2004 Ofcom. Mae’r Dibenion DGC fel â ganlyn: Hysbysu ein dealltwriaeth o’r byd – hysbysu ein hunain ac eraill a chynyddu ein dealltwriaeth o’r byd trwy newyddion, gwybodaeth a dadansoddiad o ddigwyddiadau a syniadau cyfoes;
    Annog gwybodaeth a dysgu – annog ein diddordeb mewn a’n gwybodaeth am y celfyddydau, gwyddoniaeth, hanes a phynciau eraill trwy gynnwys sydd yn hygyrch ac sydd yn gallu annog dysgu anffurfiol;
    Adlewyrchu hunaniaeth ddiwylliannol y DU - adlewyrchu a chryfhau ein hunaniaeth ddiwylliannol trwy raglennu gwreiddiol ar lefel DU, cenedlaethol a rhanbarthol, ar adegau dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd i rannu profiadau;
    Cynrychioli amrywiaeth a gwahanol safbwyntiau – ein gwneud yn ymwybodol o wahanol ddiwylliannu a safbwyntiau gwahanol trwy raglenni sydd yn adlewyrchu bywydau pobl a chymunedau eraill, yn y DU a thu hwnt.
  3. Ofcom yw’r rheoleiddiwr a’r awdurdod cystadleuaeth annibynnol ar gyfer diwydiannau telegyfathrebiadau’r DU gyda chyfrifoldebau ar draws teledu, radio, telegyfathrebiadau a gwasanaethau cyfathrebiadau di-wifr.

    Back to top Back to top

Related Items