- Advice for Consumers
- How to complain
- Ofcom licensing
- Find a document
- Research and Market Data
- Consultations
- Competition and Consumer Bulletin
- Media and Analysts
- Contacting Ofcom
- About Ofcom
Home > Cymraeg > Ymgynghoriadau > Cyhoeddwr Gwasanaeth Cyhoeddus
Ymagwedd newydd i gynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn yr oes cyfryngau digidol
Rhagair
Consultation published: 24|01|2007
Consultation closes: 23|03|2007
Bwriad y ddogfen drafodaeth hon yw addysgu a hybu trafodaeth ynghylch ymyrraeth gwasanaeth cyhoeddus yng nghyfryngau digidol a'r cysyniad o Gyhoeddwr Gwasanaeth Cyhoeddus (PSP). Dyw e ddim yn ddogfen polisi ymgynghorol swyddogol, er byddwn yn croesawu eich sylwadau a'ch ymatebion ar y materion a gyflwynwyd yn y ddogfen yma.
Mae dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) yn nheledu'r DU yn ganolog i gylch gorchwyl Ofcom. Cwblhawyd adolygiad statudol cyntaf Ofcom o PSB yn 2005 gan nodi argymhellion ar gyfer cynnal a chryfhau ansawdd PSB yn erbyn cefndir o newidiadau cyflym mewn darlledu. Mae'r farchnad deledu wedi parhau i esblygu yn gyflym ers yr adolygiad ac o ganlyniad i hynny, cyhoeddwyd PSB Digidol ym mis Gorffennaf 2006.
Roedd PSB Digidol yn amlygu nifer o ddatblygiadau'r farchnad sydd yn effeithio ar ddyfodol darlledu gwasanaeth digidol:
- Mae'r nifer cynyddol sydd yn defnyddio teledu digidol yn lleihau cyfran gwylio'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus traddodiadol, ac felly hefyd gwerth y sbectrwm analog
- Mae gwylwyr – yn enwedig y gwylwyr iau – yn gynyddol yn gwylio cynnwys ar y rhyngrwyd a phlatfformau symudol ac maent yn dechrau symud oddi wrth deledu traddodiadol
- Bydd newidiadau mewn polisi sbectrwm yn effeithio ar y ffordd y bydd angen cyllido nodau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol.
Yn ein barn ni, mae'r newidiadau hyn yn golygu bod angen ail feddwl am gyflwyniad PSB mewn byd teledu cyfan gwbl ddigidol. Tra bydd dibenion cyhoeddus craidd yn parhau, bydd angen newid cyflwyniad a fframwaith sefydliadol efallai. O ganlyniad i hyn, y sialens yw diffinio'r model priodol ar gyfer PSB yn y dyfodol ddim ar gyfer y byd fel y mae heddiw - neu fel ag y bu yn y gorffennol. Mae'r her yn gymaint o gyfle i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ag ydyw o fygythiad iddo.
Yn y PSB Digidol a chynllunio dilynol amlygwyd nifer o feysydd ar gyfer gwaith Ofcom sydd yn berthynol i PSB yn 2006/07:
Yn gyntaf, cynnal y lefelau uchel o gychwyniadau DU ansawdd uchel presennol a'r pwysau ar rai genres craidd.
- Dyfodol newyddion: newyddion yw'r genre rhaglen mwyaf poblogaidd ymysg gwylwyr, ond gall y modd o gael gafael ar newyddion a gwylio newyddion teledu newid yn y dyfodol, yn enwedig ar ôl y newid i'r digidol. Rydym wedi bod yn asesu rhagolygon ar gyfer newyddion teledu yn yr amgylchedd newidiol hwn. Nod y prosiect hwn yw asesu pa wasanaethau newyddion y gellir eu darparu yn y dyfodol, sut y mae'r farchnad ar gyfer newyddion yn debygol o ddatblygu a'r goblygiadau ar gyfer lluosogrwydd ac ansawdd darpariaeth newyddion
- Gwaith ar deledu plant a rhaglennu i'r Cenhedloedd a'r Rhanbarthau; fel y nodwyd yn ddiweddar yng Nghynllun Blynyddol drafft Ofcom ar gyfer 2007/08 byddwn yn gwneud gwaith pellach ar ddyfodol rhaglennu teledu plant ac ar raglennu nad yw'n newyddion ar gyfer Cenhedloedd a Rhanbarthau'r DU.
Yn ail, sicrhau plwraliaeth ac amrywiaeth yn y farchnad cyfryngau digidol ehangach.
- Dyfodol Channel 4: mae Channel 4 wedi chwarae rhan bwysig mewn PSB dros y chwarter canrif diwethaf, ond mae cwestiynau wedi codi am gynaliadwyaeth ei fodel ar gyfer cyllido cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol. Mae Ofcom wedi comisiynu L.E.K. Consulting i gynnal adolygiad ariannol llawn o Channel 4 – i ystyried perfformiad ariannol a gweithrediadol Channel 4 nawr ac yn y dyfodol; ei gyflawniad parhaus o'i gylch gorchwyl gwasanaeth cyhoeddus; ac a fydd angen ymyrraeth i gefnogi ei gyflwyniad PSB yn y dyfodol.
- Ffurfiau cyfryngau newydd o ddarpariaeth gwasanaeth cyhoeddus: yn yr oes ddigidol, gallai corff newydd ddarparu pethau newydd a lluosogrwydd ychwanegol – disgrifiwyd y corff hwn fel y Cyhoeddwr Gwasanaeth Cyhoeddus - y PSP. Ers cyhoeddi PSB Digidol, rydym wedi cyflawni gwaith pellach i ddatblygu gweledigaeth fanylach ar gyfer PSP – o ran polisi, bod yn greadigol ac yn ymarferol. Mae'r ddogfen hon yn cyhoeddi ein gwaith yn y maes yma.
Rydym eisiau sicrhau system gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer y dyfodol sydd yn parhau i gyflwyno'r elfennau gorau o'r cyn model; un sydd yn delio â diddordebau gwylwyr trwy ddarparu symiau sylweddol o ansawdd uchel, cynnwys gwreiddiol o'r DU wedi'i nodweddu gan nifer o gyflenwyr cystadleuol i ddarparu'r cynnwys hwnnw.
Ni fydd yr un ymagwedd sengl yn sicrhau bod ansawdd cyflwyniad PSB yn cael ei gynnal a'i gryfhau ym mhob maes pwysig fel y newyddion, rhaglennu plant a rhaglennu wedi'i dargedu at y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau. Ym mhob achos mae angen rhoi ystyriaeth i ddyfodol darparwyr PSB cyfredol a rhai newydd, yn ogystal â chyfraniad y farchnad. O ganlyniad i hynny, rydym yn cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar bob un o'r pynciau hyn yn ystod y flwyddyn nesaf, er mwyn hysbysu ein hadolygiad statudol PSB nesaf a fydd yn dechrau yn 2008.
Mae'r ddogfen hon yn mynd i'r afael â sut y bydd angen i ddibenion a nodweddion gwasanaeth cyhoeddus esblygu efallai o dderbyn datblygiad cyflym parhaus y cyfryngau digidol. Mae hefyd yn disgrifio'r rôl y gallai PSP ei chwarae yn y system newydd. Nid ein bod yn awgrymu y byddai cyflwyno PSP yn mynd i'r afael â'r holl sialensiau i ddyfodol SB - gall yr ymatebion i'r materion a amlygwyd uchod fod yn angenrheidiol, ac rydym yn ystyried hynny yn ein gwaith PSB arall.
Nid mater o ddarpariaeth a dosbarthu yn unig yw'r materion yn ymwneud â PSP – maent hefyd yn greadigol o ran eu natur. Er mwyn delio â hyn, gofynnwyd i Anthony Lilley o Magic Lantern ac Andrew Chitty o Illumina Digital arwain fforwm o ymarferwyr cyfryngau digidol i ystyried potensial cynnwys a gwasanaethau PSP. Mae prif ganlyniadau gwaith y fforwm yn y papur hwn a gellir cael rhagor o fanylion yn www.openmedianetwork.org.uk.
Mae hanes maith o adnewyddu ac ail ddyfeisio wrth gyflwyno gwasanaeth cyhoeddus wrth i dechnolegau newid – sylfaenwyd amgueddfeydd pwysig i hysbysu ac addysgu dinasyddion yn yr 19eg ganrif; cyrhaeddodd radio a theledu gwasanaeth cyhoeddus y DU yn gyfan yn yr 20fed ganrif a bellach mae angen ymagwedd newydd ar gyfer byd cyfryngau digidol yr 21ain ganrif. Credwn y gallai PSP newydd wneud cyfraniad sylweddola pharhaol i'r ymagwedd newydd hon. Ond rhan o'r ateb cyfan yn unig yw PSP, ac mae angen ystyried ei rôl ochr yn ochr ag agweddau tuag at y prif feysydd o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus a darparwyr PSB cyfredol. Edrychwn ymlaen at yr ymatebion i'r ddogfen hon ac at y drafodaeth barhaus ar esblygiad PSB.
Back to top