Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Ymgynghoriadau > Cynllun Blynyddol Drafft 2007/8


Cynllun Blynyddol Drafft 2007/8

Consultation published: 12|12|2006
Consultation closes: 20|02|2007

Rhagair

1.1 Mae Ofcom wedi bod yn gweithredu am dair blynedd erbyn hyn, ac yn ystod yr amser hwnnw mae’r sector cyfathrebiadau wedi newid gryn dipyn. Mae cydgyfeiriant - sef y rheswm pam gafodd Ofcom ei greu - yn dod yn realiti.

1.2 I ddefnyddwyr, mae cydgyfeiriant yn arwain at fwy o ddewis. Mae gwasanaethau cyfathrebiadau ar gael ar lawer o lwyfannau gwahanol erbyn hyn. Mae radio yn enghraifft dda o hyn: gall gwrandawyr wrando ar raglenni ar lwyfannau traddodiadol, fel FM ac AM, ac ar lwyfannau newydd hefyd, fel radio digidol (DAB), teledu daearol digidol, a band eang, naill ai trwy wrando’n fyw neu ei lawrlwytho i wrando nes ymlaen. Fe all defnyddwyr ddewis bwndeli o wasanaethau ar yr un llwyfan hefyd, neu gael gwasanaethau ar amrywiaeth o lwyfannau. Er enghraifft, gall cysylltiad band eang gyflenwi gwasanaethau teledu, radio, mynediad i’r rhyngrwyd a galwadau llais, neu gellir eu cyflenwi ar wahân.

1.3 Wrth i gydgyfeiriant ddigwydd, mae defnyddwyr yn chwilio am fwy o reolaeth. Maent eisiau personoli’r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio, lawrlwytho rhaglenni yn ôl y galw, ffiltro cynnwys nad yw’n addas i blant, a defnyddio recordwyr fideo personol i greu eu hamserlenni gwylio eu hunain.

1.4 Mae defnyddwyr yn gwerthfawrogi mwy o symudedd a hyblygrwydd hefyd. Mae ffonau symudol a PDAs yn ganolog i fywydau llawer o bobl. Mae rhwydweithiau diwifr yn y cartref yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae gwasanaethau newydd, fel teledu symudol, yn cynnig rhagolygon am fwy o ryddid fyth.

1.5 Nodwedd arall ar y tirlun cyfathrebiadau newydd yw cyfranogiad cynyddol. Mae pobl yn cynhyrchu’u clipiau fideo eu hunain ac yn eu rhannu ar-lein. Maent yn ysgrifennu blogiau ac yn osgoi cyfryngau traddodiadol. Maent yn ffurfio cymunedau, ac yn rhyngweithio ac yn cysylltu ar-lein.

1.6 Bydd amharu yn nodwedd ar yr oes hon o gydgyfeiriant hefyd. Mae modelau busnes traddodiadol o dan fygythiad – rhaid i ddarlledwyr masnachol gystadlu am wylwyr a hysbysebu mewn byd lle mae dwsinau o sianelau, ac mae gwasanaethau ffôn llinell sefydlog yn cael eu herio gan wasanaethau symudol a’r protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP).

1.7 Mae’r amharu hwn yn herio’r ffyrdd traddodiadol o gyflawni canlyniadau cyhoeddus, sef darparu’r gwasanaethau hynny sy’n bwysig i bob un ohonom fel dinasyddion y DU. Er enghraifft, yn y dyfodol efallai na allwn ddibynnu gymaint ar BT i ddarparu mynediad cyffredinol i’r ffôn, a bydd rhaid i ni ailffurfio’r modd y cyflwynwn ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn oes ddigidol y rhyngrwyd.

1.8 Fe all y newidiadau sydd ar droed achosi pryder yn ogystal. Mae llawer o rieni’n poeni ynghylch sut i ddiogelu’u plant yn y byd ar-lein, ac mae llawer o bobl yn pryderu ynghylch y newid i deledu digidol. Fe all pobl eraill ofni cael eu heithrio oherwydd ble maent yn byw, lefel eu hincwm neu’u diffyg gwybodaeth dechnolegol.

1.9 Bydd cydgyfeiriant yn dod â buddion sylweddol i ddefnyddwyr a dinasyddion. Byddant yn gallu dewis o amrywiaeth helaethach o wasanaethau sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd a’r cyfle i gyfranogi yn y gymdeithas mewn ffyrdd gwahanol. Er mai marchnadoedd fydd yn darparu’r buddion hyn, mae gan Ofcom rôl i’w chwarae i ddylanwadu ar gyflymder cydgyfeiriant a pha mor eang y bydd y buddion hyn ar gael. Credwn y gwasanaethir buddiannau dinasyddion a defnyddwyr drwy reoleiddio ar gyfer cydgyfeiriant, sy’n golygu hyrwyddo’r cystadlu a’r arloesi sy’n gyrru marchnadoedd cydgyfeiriol yn eu blaenau.

1.10 Bydd rheoleiddio ar gyfer cydgyfeiriant yn golygu gweithredu’n gadarn i ddiogelu pobl a sicrhau bod y wybodaeth a’r sgiliau ganddynt i ddefnyddio gwasanaethau cyfathrebiadau’n effeithiol. Wrth i wasanaethau fynd yn fwy cymhleth ac wrth i farchnadoedd fynd yn fwy cystadleuol, bydd gan Ofcom rôl hanfodol i sicrhau bod pobl yn hyderus ac yn gallu elwa ar y cydgyfeiriant.

1.11 Yn nhair blynedd gyntaf Ofcom, fe wnaethon ni gwblhau adolygiadau strategol o delegyfathrebiadau, darlledu gwasanaeth cyhoeddus a’r sbectrwm radio. Er mwyn bodloni heriau cydgyfeiriant, mae’n bwysig i ni edrych ymlaen yn awr a darparu synnwyr clir o’r modd y byddwn yn ymateb i’r newidiadau sy’n digwydd yn y sector cyfathrebiadau. Mae ein Cynllun Blynyddol Drafft 2007/8 felly’n nodi fframwaith polisi strategol tair blynedd, sy’n disgrifio ein prif feysydd ffocws ar gyfer y tair blynedd nesaf. Hefyd, mae’r Cynllun Blynyddol Drafft yn disgrifio ein blaenoriaethau polisi arfaethedig ar gyfer 2007/8, sy’n gymysgedd o waith newydd a gwaith cyfredol.

1.12 Mae’r amrywiaeth o wasanaethau yr ydym yn eu cyflwyno i randdeiliaid yn llawn mor bwysig. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys ymateb i alwadau ac e-byst gan y cyhoedd, trwyddedu mynediad i’r sbectrwm radio, cadw’r sbectrwm yn rhydd o ymyrraeth, a dyrannu rhifau ffôn i ddarparwyr gwasanaethau. Mae ein Cynllun Blynyddol Drafft yn disgrifio’r gwasanaethau hyn yn fanylach ac yn esbonio beth fyddwn ni’n ei wneud i’w gwella.

1.13 Rydym yn awyddus i rannu ein syniadau, a’u rhoi ar brawf, ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich sylwadau a’ch barn. Rydym yn gwahodd eich ymatebion ysgrifenedig erbyn 20 Chwefror 2007, sef dyddiad cau’r ymgynghoriad. Hefyd, bydd cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ar hyd a lled y DU lle gallwch fynegi eich barn. Mae manylion ar ein gwefan:

http://www.ofcom.org.uk/cymraeg/ymgynghoriadau/cynllunblynyddol2007/?view=Welsh

David Currie, Cadeirydd

Ed Richards, Prif Weithredwr



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools