Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Ymgynghoriadau > Adolygiad Difidend Digidol


Adolygiad Difidend Digidol - Mae’r ddogfen hon yn ymgynghori ar y dull arfaethedig o ddyfarnu’r sbectrwm difidend digidol (470-862MHz)

Consultation published: 19|12|2006
Consultation closes: 20|03|2007

Rhagair

Mae’r adolygiad hwn yn un o’r penderfyniadau pwysicaf y mae Ofcom wedi gorfod ei wneud erioed - sut i ryddhau’r sbectrwm a ryddhawyd gan y newid i'r digidol ar gyfer defnydd newydd.

Mae’r sbectrwm radio yn adnawdd o bwysigrwydd hanfodol yn y byd modern. Mae’n fewnbwn hanfodol i bob math o wasanaeth di-wifr - o loerennau a radar i ddarlledu a chyfathrebiadau symudol

Yn y DU, mae defnydd sbectrwm radio yn golygu bron i un bunt ym mhob deg ar hugain yn yr economi, ac mae ei bwysigrwydd yn cynyddu’n gyflym. Mae defnyddwyr yn defnyddio mwy a mwy o gynnyrch di-wifr, ac mae arloeswyr yn cystadlu’n gyflymach ac yn gyflymach i’w cyflenwi. Ond mae’r sbectrwm radio yn adnawdd prin ac felly mae sut y caiff ei reoli yn fater hanfodol.

Mae’r difidend digidol yn un o’r achosion rhyddhau mwyaf o sbectrwm gwerthfawr sydd yn debygol o ddigwydd yn y DU am nifer o flynyddoedd. Mae’r sbectrwm yn neilltuol o ddefnyddiol oherwydd y mae ar amleddau is – yn caniatáu darpariaeth i ardaloedd mawr ar gost is a helpu signalau i dreiddio i adeiladau.

Prif ddyletswydd Ofcom yw hyrwyddo buddiannau dinasyddion a defnyddwyr. I wneud hyn, mae’n ofynnol i ni sicrhau’r defnydd mwyaf o’r sbectrwm. Mae’r dyletswyddau allweddol hyn (ymysg eraill) yn diffinio ein prif amcan ar gyfer yr Adolygiad Difidend Digidol - i wneud y mwyaf o werth difidend digidol i gymdeithas.

Sut felly y dylem fynd at i gyflawni’r nod hwn?

I ateb y cwestiwn hwn rydym wedi edrych mor fanwl ag y gallwn ar wahanol ddefnydd potensial y sbectrwm - a’r gwahanol ffyrdd y gallant ddwyn gwerth i ni fel dinasyddion yn ogystal ag fel defnyddwyr. Rydym wedi edrych ar ffynonellau potensial y gwerth i gymdeithas, mewn defnydd mor amrywiol â band eang symudol, teledu lleol a theledu diffiniad uchel. Mae hyn wedi cynnwys meddwl am y ffyrdd y gall gwasanaethau di-wifr gyfrannu at ein bywydau fel dinasyddion - yn amrywio o gydlyniad cymunedol i fynegiant diwylliannol.

Rydym hefyd wedi meddwl yn ddwys am y berthynas rhwng y dewisiadau i’w gwneud ar y difidend digidol ac am gwestiwn sydd hyd yn oed yn fwy dwys – sut y dylai rheoliad gael ei addasu ar gyfer yr oes ddigidol?

Nodir ein dadansoddiad yn y ddogfen hon. Mae dau bwynt yn amlwg o’r manylion.

Y cyntaf yw ei bod yn amlwg bod sawl gwahanol ddefnydd posibl - a chyfuniad o ddefnydd - o’r difidend digidol. Gallwn fod yn hyderus bod gwerth yr adnawdd yn gyffredinol yn fawr, ond mae ansicrwydd sylweddol ynglŷn â gwerth y defnydd unigol. Mae hyn yn adlewyrchu yn anad dim, yr ansicrwydd sydd yn gynhenid mewn marchnadoedd sydd yn symud yn gyflym - lle na ellir rhagweld yn ddibynadwy'r newidiadau mewn technoleg a dewisiadau defnyddwyr.

Mae goblygiad y pwynt hwn yn syml ond yn ddwys - ni allwn fel rheoleiddiwr wybod beth fydd y defnydd gorau o’r difidend digidol dros y cwpl o ddegawdau nesaf. Yr hyn y gallwn ei wneud yw creu fframwaith sydd fwy (neu lai) yn debygol o alluogi’r defnydd hwnnw.

Yr ail bwynt yw bod rhai defnydd a defnyddwyr potensial o’r sbectrwm allai ddwyn gwerth ychwanegol i gymdeithas, ond efallai na fyddant yn gallu ennill refeniw masnachol i gyd-fynd â hynny. Ond ym mhob achos, gallai’r gwerth hwn i gymdeithas gael ei gyflawni mewn amrywiol wahanol ffyrdd – rhai yn defnyddio’r difidend digidol, ond rhai yn defnyddio sbectrwm neu blatfformau eraill.

Mae teledu lleol a theledu diffiniad uchel yn ddwy enghraifft. Awgryma ein tystiolaeth y gallai teledu lleol ddwyn manteision ehangach i gymdeithas, cyn belled â’i fod yn boblogaidd ac nid yn rhy leol. Ond gall mwy a mwy o blatfformau bellach gyflwyno cynnwys digidol lleol, yn cynnwys band eang di-wifr a lloeren. Mae manteision gwahanol i’r dewisiadau hyn - ac mae angen i gyllidwyr a gweithredwyr potensial eu hystyried.

Mae’r un peth yn wir am deledu diffiniad uchel. Mae’n bosibl y daw hyn yn safon newydd ar gyfer darlledu - efallai y daw defnyddwyr i ddisgwyl mynediad cyffredinol i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus mewn Diffiniad Uchel, fel y gwnânt nawr mewn lliw. Ond nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd ar gyfer dod i’r casgliad hwnnw - awgryma’r rhan fwyaf o ymchwil bod Diffiniad Uchel yn cael ei weld fel prif gynnyrch defnyddwyr yn hytrach na ffynhonnell sylweddol o werth i gymdeithas yn gyfan gwbl. Gall agweddau newid wrth gwrs, ond ni wyddom sut a phryd, a hyd yn oed os gwna, mae sawl gwahanol ffordd o gyflwyno Diffiniad Uchel - un yn unig o’r rhain yw sbectrwm.

Mae goblygiadau’r ail bwynt hwn yn fwy cymhleth:

Gellid datgan beth y mae hyn yn ei olygu yn syml. Mae angen i holl ddefnyddwyr potensial sbectrwm gael anogaethau cryf i wneud y dewisiadau cywir am y sbectrwm a ddefnyddiant - dewisiadau sydd gyn belled â phosibl, yn dda i gymdeithas, nid yn unig yn dda i’r defnyddiwr unigol.

Bydd ein fframwaith ar gyfer y difidend digidol yn gywir os bydd ein hanogaethau yn gywir.

Felly, mae’r ddogfen hon yn cynnig y dylai ein hymagwedd tuag at ryddhau’r difidend digidol olygu ein bod yn gosod cyn lleied o gyfyngiadau â phosibl ar sut y gellir defnyddio’r sbectrwm - a rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i ddefnyddwyr i benderfynu sut y caiff y sbectrwm ei ddefnyddio.

Cynigiwn hefyd, y dylai’r sbectrwm, ym mhob achos bron, gael ei arwerthu a dylai defnyddwyr felly dalu pris y farchnad am ei ddefnyddio.

Mae hwn yn ymagwedd a arweinir gan y farchnad ac mae’n gyson gyda’r strategaeth ehangach tuag at sbectrwm y mae Ofcom wedi ei fabwysiadu ers 2003. Mae’r strategaeth honno yn cynnwys symud yn benderfynol oddi wrth orchymyn a rheolaeth - gyda’r rheoleiddiwr yn penderfynu pwy sy’n cael defnyddio sbectrwm, sut ac ar gyfer beth - i roi hyblygrwydd i ddefnyddwyr a chyfyngu rheoleiddiad i’r hyn sydd yn hanfodol.

Mae’r ddogfen hefyd yn cynnig mai’r ateb cywir i gyrff gyda nodau cymdeithasol mwy eang – fel Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus – yw peidio ag ymyrryd yn y modd y caiff sbectrwm ei reoli, na chwaith ‘dyrannu’ tir neu drydan iddynt.

Yr ateb cywir yn hytrach yw gwneud yn siŵr fod y cyrff hyn yn gweithredu mewn fframwaith ariannol a sefydliadol sydd yn sicrhau y gallant gaffael sbectrwm. Mewn arwerthiant neu yn y farchnad, os mai hyn yw eu defnydd gorau o’u hadnoddau i ddiwallu amcanion gwasanaeth cyhoeddus.

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys nifer o gynigion eraill sydd yn bwysig. I enwi ond ychydig, mae’n nodi ein barn ar:

Anogwn yr holl randdeiliaid i ystyried y cynigion yn ofalus, ac i ymateb i’n hymgynghoriad.

David Currie, Ed Richards

Mae'r ddogfen llawn isod



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools