Access key 0 - Accessibility, Access key 2 - Jump to content, Access key 7 - Jump to navigation
Skip To Content | Skip To Navigation
 

Home > Cymraeg > Ymgynghoriadau > Dyfodol rhaglennu teledu plant


Dyfodol rhaglennu teledu plant

Consultation published: 03|10|2007
Consultation closes: 20|12|2007

Rhagair

Mae teledu plant wedi bod wrth galon system ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus y DU am dros hanner can mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r DU wedi creu enw da am gynhyrchu rhai o’r rhaglennu plant o’r ansawdd uchaf a’r mwyaf arbennig yn y byd.

Dechreuwyd adolygiad Ofcom o raglennu plant mewn ymateb i nifer o newidiadau mawr o ran defnyddwyr a marchnad. Gydag amrediad cynyddol o gyfryngau ar gael i nifer o blant a nifer cynyddol o sianeli arbennig i blant, mae plant yn newid y ffordd y maent yn defnyddio’r cyfryngau. O ganlyniad i hynny mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol traddodiadol yn wynebu pwysau sylweddol ar eu gallu i gyllido rhaglennu gwreiddiol i blant.

Mae’r newidiadau hyn yn digwydd yng nghyd-destun fframwaith newydd ar gyfer rheoleiddio rhaglennu plant, a nodir yn Neddf Cyfathrebiadau 2003. Ers y Ddeddf, mae ITV1, oedd yn hanesyddol wedi chwarae rhan mewn cyflwyno llais gwahanol cryf i’r BBC, wedi lleihau ei ymrwymiad i raglennu plant yn sylweddol. Mae’r datblygiad hwn, yn ogystal â newidiadau defnyddwyr a marchnad eraill, wedi arwain nifer i holi sut y gall rhaglennu plant gwasanaeth cyhoeddus barhau i gael ei gyflwyno yn y dyfodol. Hyd yn hyn mae’r diffyg tystiolaeth gwrthrychol sydd ar gael i sefydlu natur y broblem wedi ei gwneud yn anodd i ddatblygu’r drafodaeth hon.

Mae’n ofynnol i Ofcom yn ôl Deddf Cyfathrebiadau 2003 adrodd ar gyflawniad cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus bob pum mlynedd o leiaf ac i wneud argymhellion gyda golwg ar gynnal a chryfhau ansawdd darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol. Wrth baratoi ar gyfer ein hail adolygiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus rydym wedi canolbwyntio ar agweddau rhaglennu plant o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan ganolbwyntio ar ragolygon yn y dyfodol o gyflwyno amrediad eang o gynnwys o ansawdd uchel a gwreiddiol ar gyfer plant.

Ein nod fu creu sylfaen llawer cadarnach ar gyfer trafodaeth trwy sefydlu corff cynhwysfawr o dystiolaeth, am y tro cyntaf, am gyflwyniad cyfredol a’r rhagolygon yn y dyfodol ar gyfer darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus i blant yn y DU, gan ganolbwyntio ar blant dan 16 oed.

Mae’r papur trafod hwn yn rhoi crynodeb o’n canfyddiadau allweddol a gellir ei ddarllen fel dogfen ar ei ben ei hun. Ond, ochr yn ochr â’r papur hwn rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiad ymchwil llawn a nifer o atodiadau ymchwil ar-lein sydd yn esbonio ein canfyddiadau yn fanylach.

Wrth nodi ein dadansoddiad rydym yn cydnabod y bydd nifer o’r materion a godir yn syrthio o fewn cylch gwaith ein hadolygiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach ac yn y pen draw mater i’r Llywodraeth i’w ystyried bydd hynny. O dderbyn sicrwydd rôl y BBC mewn darparu rhaglennu plant, mae rhai materion hefyd yn debygol o syrthio o fewn cylch gwaith Ymddiriedolaeth y BBC.

Rydym yn gobeithio, gyda’r ymchwil hwn a’r drafodaeth fydd yn dilyn, ein bod wedi gosod y sylfaen ar gyfer cynnal a chryfhau darpariaeth amrediad eang o raglennu o ansawdd uchel a gwreiddiol ar gyfer plant y DU yn y dyfodol.

Ed Richards
Prif Swyddog Gweithredol

Crynodeb Gweithredol

Yn yr adroddiad hwn rydym wedi asesu cyflwr cyfredol marchnad teledu plant a’r rhagolygon ar gyfer cyflwyniad amrediad eang o gynnwys o ansawdd uchel a gwreiddiol i blant yn y dyfodol. Mae’r gwaith yn codi materion mewn pum prif faes.

I ddechrau, tra bod mwyafrif mawr o rieni yn ystyried rhaglennu gwasanaeth cyhoeddus i blant fel rhywbeth pwysig iawn, mae llai na’u hanner yn meddwl ei fod yn cael ei gyflwyno’n foddhaol, yn enwedig o ran adlewyrchu’r amrediad o ddiwylliannau a barn ledled y DU. Mae’r bwlch rhwng disgwyliadau a chyflwyniad y nodwedd hon yn fwy ar gyfer rhaglennu plant nag ar gyfer rhaglennu oedolion. Mae rhieni yn gymharol fodlon gyda’r ddarpariaeth ar gyfer plant cyn oedran ysgol a phlant iau, ond maent eisiau rhagor o raglennu drama a rhaglennu ffeithiol ar gyfer plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau cynnar.

Yn ail, mae dyfodol darpariaeth cynnwys gwreiddiol newydd o’r DU ar gyfer plant, yn enwedig rhaglennu drama a ffeithiol, yn edrych yn ansicr yn y dyfodol ac eithrio oddi wrth y BBC. Mae buddsoddiad mewn rhaglennu gwreiddiol rhediad cyntaf gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol - ITV1, GMTV, Channel 4 a Five - wedi haneru mewn termau real ers 1998. Tra bod sianeli plant masnachol (fel Disney Channel, Nickelodeon a Cartoon Network) yn comisiynu rhywfaint o raglennu DU, mae hyn yn cynrychioli 10% yn unig o gyfanswm buddsoddiad mewn rhaglenni newydd. Mae’r dirywiad hwn mewn buddsoddiad yn adlewyrchu’r economeg gynyddol anatyniadol rhai mathau o raglennu plant i’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol, yn berthynol i allbwn arall.

Yn drydydd, tra bod oriau a gwariant y BBC ar raglennu plant wedi cynyddu mewn gwirionedd dros y cyfnod, nid yw ei ymrwymiadau hir dymor i raglennu plant wedi’i warantu o bell ffordd; nid yw trwyddedau gwasanaeth y BBC yn adlewyrchu cyflwyniad cyfredol y BBC o raglennu plant a gallai’r BBC, mewn theori o leiaf, ostwng ei allbwn a gwario yn sylweddol is na’r lefelau cyfredol.

Yn bedwerydd, mae rhieni yn gwerthfawrogi rhaglennu’r BBC yn fawr iawn, ond mae’r tueddiadau hyn yn anorfod yn arwain at gwestiynu a yw’r ffaith mai’r BBC yw comisiynydd mwyaf rhaglennu plant y DU o bell ffordd o fudd hir dymor i’r gynulleidfa. Mae ein hymchwil yn dangos bod rhieni yn gwerthfawrogi rhaglennu o amrediad o wahanol leisiau.

Yn bumed, mae defnydd plant o’r cyfryngau yn parhau i newid yn gyflym gyda phlant hŷn ac yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau cynnar, yn gwylio llai o deledu ac yn defnyddio’r rhyngrwyd a ffonau symudol yn fwy nag erioed o’r blaen. Ar yr un pryd, mae rhieni pobl ifanc yn eu harddegau cynnar yn neilltuol o anfodlon gyda chyflwyniad cyfredol rhaglennu gwasanaeth cyhoeddus; a hoffai pobl ifanc yn eu harddegau cynnar eu hunain i fwy o’r math hwn o gynnwys cael ei anelu’n benodol atyn nhw. Ac eto, nid oes tystiolaeth bod darpariaeth masnachol o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus i blant yn ddewis dichonadwy, nawr nac yn y dyfodol agos.

O dderbyn natur newidiol gyflym darlledu yn y DU - a ddangosir ymhellach gan y dystiolaeth yn yr ymchwil hwn - mae Ofcom wedi dwyn ei ail adolygiad statudol o’r holl ddarlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus yn ei flaen ac wedi cyhoeddi ei gylch gorchwyl ar 11 Medi 2007. Bydd yr adolygiad hwnnw yn ystyried pa ymatebion polisi sydd yn briodol i fynd i’r afael â’r materion a godir am deledu plant, oherwydd mae nifer o’r sialensiau ar draws darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn debygol o fod yn debyg i’r rhai a amlygir yma.

Rydym yn awyddus i glywed barn rhanddeiliaid ar nifer o gwestiynau a godwyd gan yr ymchwil hwn, i lywio ein meddyliau am y ffordd orau o fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr adroddiad hwn a hefyd i helpu i ffurfio ein syniadau am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gyffredinol, yn enwedig:

Mae nifer o bartïon sydd â diddordeb eisoes wedi awgrymu amrediad o ymagweddau posibl tuag at deledu plant. Oherwydd natur gyfyngedig rôl Ofcom fel y nodir yn y Ddeddf Gyfathrebiadau 2003 gyfredol, byddai’r holl ymagweddau hyn, ac eithrio’r status quo, angen ymyrraeth gan y Llywodraeth yn hytrach na chan Ofcom. Nodir y dewisiadau hyn yn fanylach yn Adran 6, Barn Rhanddeiliaid ac mae’n cynnwys:

Mewn trafodaethau mae nifer hefyd wedi codi’r ymagweddau polisi rhyngwladol fel ymagweddau gwahanol i reoliad y gellid eu cymryd yn y DU. Mae Adran 7, Y Persbectif Rhyngwladol yn nodi canlyniadau ein harolwg o’r marchnadoedd rhyngwladol.

Rydym yn gofyn am farn rhanddeiliaid ar briodoldeb yr ymagweddau a awgrymwyd. Hefyd hoffem dderbyn barn, os ydynt yn briodol, a ddylid teilwra unrhyw un o’r ymagweddau polisi i wahanol grwpiau oedran (er enghraifft, cyn oedran ysgol, plant iau, plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau cynnar) neu i wahanol fathau o raglennu plant (fel drama, ffeithiol, adloniant ac animeiddio)?

Er nad yw’n ymgynghoriad ffurfiol, byddem yn croesawu unrhyw farn ar y cwestiynau hyn erbyn 20 Rhagfyr 2007.

Yng Nghyfnod 1 o’r adolygiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus, byddwn yn asesu ymatebion rhanddeiliaid i’r cwestiynau hyn ac yn nodi cynigion yn amlinellu ein hymagwedd arfaethedig tuag at raglennu plant yng nghyd-destun yr adolygiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gyffredinol. Disgwyliwn gyhoeddi Cyfnod 1 o’r adolygiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y gwanwyn 2008.



Back to top Back to top

Related Items

 

 

 Accessibility tools